Uncategorized @cy – Monlife

Dathlu Wythnos Cerdded i’r Ysgol gydag Ysgol Gynradd Gilwern

Mae plant, athrawon, cynghorwyr a chynrychiolwyr Living Streets wedi dod at ei gilydd i ddathlu Wythnos Cerdded i’r Ysgol yng Ngilwern, trwy gerdded ar hyd llwybr cerdded sydd wedi cael ei uwchraddio.

Daeth ‘Strider’ i ymuno â nhw, sef masgot Cerdded i’r Ysgol elusen gerdded Living Streets, sy’n gweithio gydag Ysgol Gilwern i gefnogi plant i gerdded i’r ysgol a’u hannog i wneud hynny.

Defnyddiwyd Cronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru i uwchraddio llwybr poblogaidd yn Ngilwern i helpu i wella mynediad i drigolion lleol i fynd i’r ysgol gynradd leol, ac yn ôl, o gartrefi i’r dwyrain o Gilwern.

Mae’r llwybr, sy’n rhedeg yn baralel â Heol Tŷ Mawr, yn cynnig llwybr cerdded gwell i ffwrdd oddi wrth y ffordd. Roedd y llwybr gwreiddiol wedi’i hindreulio, ac oherwydd hynny roedd y llwybr yn arw ac nid oedd modd ei ddefnyddio.

Mae’r cynllun hwn wedi uwchraddio’r llwybr, felly mae ganddo arwyneb nawr ac mae’n fwy hygyrch trwy gydol y flwyddyn, yn enwedig i’r rheiny sy’n defnyddio cadeiriau olwyn, sgwteri symudedd a chadeiriau gwthio. Er mwyn lliniaru unrhyw effaith ar y tir, planhigion, coed a bywyd gwyllt o’i amgylch, mae’r llwybr yn llwybr ‘dim palu’ sy’n golygu bod y llwybr wedi cael ei osod ar ben y tir sydd yno yn hytrach na phalu i lawr i’r ddaear. Roedd y gwaith yn cynnwys:

· Lledaenu’r llwybr

· Gosod arwyneb hydraidd gyda pheiriant

· Ychwanegu padiau cyffwrdd wrth fannau croesi ar y naill ben a’r llall i’r llwybr

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Faterion Gwledig, Tai a Thwristiaeth: “Mae gwaith uwchraddio fel hyn yn hanfodol er mwyn galluogi cymaint ohonom â phosibl i deithio’n llesol ar gyfer ein siwrneiau bob-dydd.

“Gyda’r gobaith fod tywydd cynhesach ar y ffordd, alla’ i ddim aros i weld sut mae’r llwybr yn cael ei ddefnyddio gan drigolion ac ymwelwyr.

“Roedd Cyngor Cymuned Llanelli yn glir fod y llwybr hwn yn flaenoriaeth, ac rwy’n falch ein bod ni wedi gallu ei gwblhau.”


Cannoedd o fyfyrwyr yn cymryd rhan yn nigwyddiad diogelwch dŵr Sir Fynwy

Mae ysgolion o bob rhan o Sir Fynwy wedi cymryd rhan mewn pâr o ddigwyddiadau diogelwch dŵr.

Daeth tua 500 o fyfyrwyr i’r digwyddiadau, a drefnwyd gyda chymorth yr RNLI, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Heddlu Gwent a Nofio Cymru.

Daeth yr holl ddisgyblion i ffwrdd o’r digwyddiad wedi cymryd rhan mewn pedwar gweithdy mewn pwll nofio a oedd yn canolbwyntio ar y Cod Diogelwch Dŵr.

I ddilyn cafwyd pedwar gweithdy ar dir sych, yn amlinellu peryglon dŵr a chyfraniad y gwasanaethau brys a phartneriaid eraill wrth gadw pobl yn ddiogel yn yr amgylcheddau hyn.

Mae’r Cod Diogelwch Dŵr yn seiliedig ar ymchwil a gomisiynwyd gan yr RNLI yn 2018 yn rhan o’i raglen Addysg Ieuenctid. Ers hynny, mae wedi cael ei fabwysiadu’n eang gan Fforwm Dŵr Cenedlaethol y DU, y mae sefydliadau gan gynnwys Nofio Cymru, Swim England, RLSS, RoSPA a’r Gwasanaethau Tân ac Achub yn rhan ohono.

Mae’r Cod Diogelwch Dŵr yn cynnig gwybodaeth hawdd ei chofio sydd wedi’i chynllunio i addysgu unigolion ar draws y DU ac Iwerddon. Mae’n annog pobl i wneud penderfyniadau hanfodol bwysig yn gynnar ac yn eu helpu i ddeall pa gamau priodol i’w cymryd mewn argyfwng.

Cyfarwyddiadau’r cod yw, os ydych o gwmpas dŵr:

– Stopiwch a meddyliwch – nofiwch mewn lle diogel bob amser.

– Arhoswch gyda’ch gilydd – nofiwch gyda ffrindiau neu aelodau o’r teulu bob amser, neu yn rhywle lle mae yna achubwyr bywyd.

Mewn argyfwng, dylech:

– Ffonio 999 – os ydych chi’n gweld rhywun mewn trafferthion, rhaid i chi ddweud wrth rywun neu fynd i’r ffôn agosaf a deialu 999. Yna gofynnwch am y Gwasanaeth Tân ar safleoedd dŵr mewndirol a Gwylwyr y Glannau ar y traeth. Taflwch rywbeth sy’n arnofio i’r person ddal arno iddo, ond peidiwch â mynd i mewn i’r dŵr i helpu. Am ragor o wybodaeth am y Cod Diogelwch Dŵr, ewch i Beth yw’r Cod Diogelwch Dŵr? – Nofio Cymru

Meddai llefarydd ar ran Cyngor Sir Fynwy: “Mae dysgu sut i fod yn ddiogel o amgylch dŵr yn sgil hanfodol, yn enwedig â ninnau ar drothwy’r rhan gynhesach o’r flwyddyn.

“Rwy’n falch o weld bod cymaint o fyfyrwyr wedi cymryd yr amser i ymgyfarwyddo â’r Cod Diogelwch Dŵr.

“Os ydych chi’n mynd allan i un o afonydd hardd Sir Fynwy neu i’r arfordir, cofiwch wneud hynny’n ddiogel.”

Meddai Hannah Guise, Rheolwr Dysgu Nofio gyda Nofio Cymru: “Mae’r gwyliau hyn yn dangos pŵer cydweithio wrth addysgu ac atgyfnerthu negeseuon diogelwch dŵr a allai achub bywydau ymhlith myfyrwyr. Mae cyfuno theori â gweithgareddau ymarferol yn y dŵr yn cyfoethogi’r profiad dysgu yn sylweddol. Rydym yn falch iawn o gefnogi MonLife i gyflwyno’r gwyliau hyn a byddem yn annog awdurdodau lleol eraill i ddilyn yr esiampl ardderchog hon.”


Parciau chwarae yng Nghas-gwent yn ailagor ar ôl gwaith ailddatblygu

Mae Cyngor Sir Fynwy yn falch o gyhoeddi bod y gwaith i uwchraddio dau barc chwarae yng Nghas-gwent wedi’i gwblhau.

Ailddatblygwyd y parciau chwarae yn Rhodfa’r Gorllewin a Piggy’s Hill i gefnogi amrywiaeth o oedrannau.

Er mwyn sicrhau bod y dyluniadau newydd yn adlewyrchu anghenion teuluoedd lleol, ymgysylltwyd â rhieni a phlant trwy arolygon ar-lein – trwy Sgwrsio Am Sir Fynwy – ac ymgynghoriad uniongyrchol yn ystod rhaglen Bwyd a Hwyl yr haf.

Roedd yr ymateb yn galonogol, a chafwyd mewnbwn gan amrywiaeth eang o grwpiau oedran.

Yn ganlyniad i’r ymdrech hon ar y cyd, rydym yn gyffrous i gynnwys nodweddion fel y neidiwr rhwydi yn Rhodfa’r Gorllewin, a fu’n bosibl diolch i gyllid ychwanegol gan Gyngor Tref Cas-gwent.

Yn y parc chwarae yn Piggy’s Hill, cafwyd cyllid ychwanegol gan Gyngor Tref Cas-gwent i osod dringwr sleidiau cyfunol ar gyfer amrywiaeth o alluoedd.

Mae’r gwelliannau hyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i wrando ar y gymuned a darparu mannau cynhwysol, difyr i blant o bob gallu.

Ariannwyd y prosiect trwy gyllid cyfalaf Cyfleoedd Chwarae Cymru Gyfan Llywodraeth Cymru gyda chyllid ychwanegol gan Gyngor Tref Cas-gwent.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu, y Cynghorydd Angela Sandles: “Mae’n wych gweld y parciau chwarae yng Nghas-gwent yn cael bywyd newydd.

“Alla’ i ddim aros i glywed faint mae’r plant yn eu mwynhau. “Gobeithio y bydd y parciau chwarae yn helpu plant yng Nghas-gwent a thu hwnt i chwarae a chadw’n actif am flynyddoedd i ddod.” Am ragor o wybodaeth am brosiect chwarae parc Rhodfa’r Gorllewin, ewch i Rhodfa’r Gorllewin– Monlife Am ragor o wybodaeth am brosiect parc chwarae Piggy’s Hill, ewch i Parc Bulwark – Monlife


Gallwch ymgeisio nawr am le ar Fforwm Partneriaeth Ddiwylliannol Sir Fynwy

Yn dilyn lansio’r Strategaeth Ddiwylliannol ar gyfer Sir Fynwy, mae modd ymgeisio nawr i ymuno â Fforwm Partneriaeth Ddiwylliannol Sir Fynwy.

Ar draws Sir Fynwy, mae diwylliant yn rhan o brofiad bywyd. Mae gweithwyr proffesiynol a gwirfoddolwyr yn cyfoethogi bywydau trigolion o bob oedran, o’n hieuengaf i’n hynaf, gan helpu i feithrin ymdeimlad cryf o berthyn a balchder.

Bydd Fforwm Partneriaeth Ddiwylliannol Sir Fynwy yn dod â’r rheiny sy’n poeni’n fawr am ddiwylliant yn Sir Fynwy ac sydd eisiau helpu i lunio ei ddyfodol, at ei gilydd. Bydd aelodau’n chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu’r cynllun gweithredu ar gyfer gweithgarwch diwylliannol, rhannu mewnwelediad, hyrwyddo gweithgarwch lleol a helpu i sicrhau bod diwylliant yn parhau i ffynnu ar draws y sir.

Rydym yn chwilio am amrywiaeth eang o leisiau sy’n adlewyrchu tirwedd ddiwylliannol gyfoethog Sir Fynwy. O dreftadaeth, y celfyddydau a chreadigrwydd i weithgarwch dan arweiniad y gymuned, addysg, digwyddiadau a gwirfoddoli.

Efallai eich bod chi’n artist, yn drefnydd, yn wirfoddolwr, yn ymarferydd, yn addysgwr neu’n angerddol am ddiwylliant. Beth bynnag yw’ch sefyllfa, byddem wrth ein bodd i glywed gennych.

Trwy ymuno â’r Fforwm, cewch gyfle i:

  • Helpu i lunio blaenoriaethau ar gyfer diwylliant yn Sir Fynwy
  • Dylanwadu ar benderfyniadau a gweithgarwch yn y dyfodol
  • Dod i gyswllt ag eraill sy’n gweithio ar draws y sector diwylliannol
  • Dathlu’r creadigrwydd sydd ar waith yn barod yn ein cymunedau a’i hyrwyddo

Os ydych chi’n frwdfrydig ynghylch gyrru diwylliant yn ei flaen, ac eisiau helpu i greu profiadau ystyrlon, cofiadwy i bobl ar draws Sir Fynwy, dyma’ch cyfle chi i gyfrannu.

Gallwch ymgeisio nawr a’r dyddiad cau yw 1 Mai 2026. I ymgeisio, ewch i: www.sgwrsioamsirfynwy.co.uk/fforwm-partneriaeth-ddiwylliannol

Meddai Craig O’Connor, Prif Swyddog Lle a Llesiant Cymunedol / Tracey Thomas, Pennaeth Diwylliant, Dysgu Cymunedol a Digwyddiadau: “Mae diwylliant wrth galon yr hyn sy’n gwneud Sir Fynwy yn lle mor arbennig i fyw, gweithio ac ymweld ag ef.

“Mae’r Fforwm newydd hwn yn golygu gwrando, dysgu a chydweithio. Rydyn ni eisiau clywed gan bobl sydd â phrofiad bywyd, syniadau ffres ac angerdd dros eu cymunedau, fel bod diwylliant yn Sir Fynwy yn parhau i fod yn gynhwysol, yn uchelgeisiol ac â’i wreiddiau mewn lle.”


Sir Fynwy yn dathlu creadigrwydd mewn Dathliad Diwylliannol a Digwyddiad Rhwydweithio

Ddydd Mercher, 25 Mawrth 2026, daeth pobl greadigol, partneriaid a sefydliadau cymunedol at ei gilydd ar gyfer Dathliad Diwylliannol a Digwyddiad Rhwydweithio Sir Fynwy yn Borough Theatre, y Fenni.

Llwyddodd y digwyddiad i arddangos y gweithgareddau diwylliannol amrywiol yn Sir Fynwy a hwyluso trafodaethau am bwysigrwydd creadigrwydd wrth gryfhau cymunedau a chefnogi’r economi leol.

Croesawyd y dorf gan arddangosfa fywiog gyda cherddwyr stiltiau a pherfformiad dawns wedi’i ysbrydoli gan Ddeallusrwydd Artiffisial gan bobl ifanc o DanceBlast, i osod tôn egnïol ar gyfer y digwyddiad.

Un o’r uchafbwyntiau oedd lansio’r Strategaeth Ddiwylliannol ar gyfer Sir Fynwy 2025-2035, sy’n amlinellu cynllun yn llawn gweledigaeth ar gyfer y degawd nesaf. Mae’r strategaeth hon yn pwysleisio nad yw diwylliant yn ymdrech ynysig, ond ei fod, yn hytrach, yn sbardun allweddol ar gyfer llesiant, twf economaidd, cydnerthedd cymunedol, a chyd-hunaniaeth.

Roedd y digwyddiad hefyd yn gyflwyniad i’r Rhaglen Blwyddyn Darllen Genedlaethol, gyda’r awdur arobryn Bethany Handley, a fu’n darllen ddetholiad o’i llyfr sydd ar fin cael ei gyhoeddi, sef My Body is a Meadow.

Roedd y cyflwyniadau yn ystod y dydd yn tynnu sylw at brosiectau creadigol amrywiol, gan gynnwys arddangosfeydd celf a chynyrchiadau theatr, gyda ffocws cryf ar ymgysylltu â ieuenctid trwy fentrau fel Dyfodol Creadigol ac Improv Stars Academy.

Roedd trafodaeth banel Holi ac Ateb, dan arweiniad Anita Holford, yn mynd i’r afael â chyfleoedd am nawdd i bobl greadigol yn Sir Fynwy, gyda mewnwelediadau gan gynrychiolwyr o Gyngor Celfyddydau Cymru, Busnes Cymdeithasol Cymru, a Chyngor Tref y Fenni.

Meddai Tracey Thomas, Pennaeth Diwylliant, Dysgu Cymunedol a Digwyddiadau: “Mae lansio ein Strategaeth Ddiwylliannol yn foment falch i Sir Fynwy. Mae’n adlewyrchu’r creadigrwydd anhygoel sy’n bodoli ar draws ein cymunedau a’n cyd-uchelgais i sicrhau bod diwylliant yn chwarae rhan ganolog wrth lunio dyfodol y sir; cryfhau cymunedau, cefnogi’r economi leol ac ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol.”

“Roedd yn arbennig o galonogol gweld cymaint o bobl ifanc yn cymryd rhan a chlywed yn uniongyrchol gan bobl greadigol am y cyfleoedd a’r heriau maen nhw’n eu hwynebu. Mae digwyddiadau fel hyn yn ein helpu i feithrin cysylltiadau cryfach, rhannu gwybodaeth a sicrhau bod cymorth yn hygyrch ar draws y sector.”

I gael rhagor o wybodaeth am y Strategaeth Ddiwylliannol ar gyfer Sir Fynwy, ewch i: www.monmouthshire.gov.uk/policies-and-plans/


Rhaglen adfer natur fawr i’w darparu ledled Gwent ar ôl dyfarnu gan y Loteri Genedlaethol

Bydd rhaglen fawr o adfer natur yn cael ei chyflawni ar draws Gwent ar ôl i Bartneriaeth Grid Gwyrdd Gwent sicrhau £999,974 gan Rhaglen Rhwydweithiau Natur, sydd yn gael i’w ddarparu gan y Cronfa Treftadaeth ar rhan Llywodraeth Cymru.

Mae Partneriaeth Grid Gwyrdd Gwent (GGGP) yn fenter gydweithredol rhwng pum awdurdod lleol Gwent, gan weithio ochr yn ochr ag Adnoddau Naturiol Cymru ac amryw o bartneriaid a rhanddeiliaid. Ers ei lansio yn 2020, mae’r bartneriaeth wedi bod yn gyrru ymlaen ymdrechion i wella amgylchedd naturiol y rhanbarth.

Mae Cyngor Sir Fynwy yn arwain y rhaglen tair blynedd, ar y cyd ag awdurdodau lleol Blaenau Gwent, Caerffili, Casnewydd a Thorfaen, ynghyd ag Adnoddau Naturiol Cymru ac ystod o sefydliadau partner.

Bydd y cyllid yn cefnogi adfer cynefinoedd wedi’u targedu ar draws amgylcheddau dŵr croyw a gwlypdiroedd, gan gryfhau rhwydweithiau ecolegol a gwella bioamrywiaeth ledled y rhanbarth. Bydd y rhaglen hefyd yn darparu atebion rheoli llifogydd naturiol a draenio cynaliadwy, gan gefnogi tirweddau a chymunedau mwy gwydn.

Yn ogystal â gwella’r amgylchedd, bydd y prosiect yn canolbwyntio ar bobl a chymunedau. Bydd yn hyrwyddo addysg, gwirfoddoli a datblygu sgiliau gwyrdd, gan helpu cymunedau ac ysgolion i ymgysylltu â natur wrth adeiladu capasiti hirdymor ar gyfer adfer natur ledled Gwent.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd, y Cynghorydd Catrin Maby: “Mae’r cyllid hwn yn gam sylweddol ymlaen ar gyfer adfer natur ar draws Gwent. Trwy weithio mewn partneriaeth ledled awdurdodau lleol ac ag Adnoddau Naturiol Cymru, gallwn gyflawni camau ymarferol ar lawr gwlad sy’n adfer cynefinoedd, yn cefnogi bioamrywiaeth ac yn helpu cymunedau i ailgysylltu â’r amgylchedd naturiol.”

Dysgwch fwy am Bartneriaeth Grid Gwyrdd Gwent yma:
www.monlife.co.uk/outdoor/green-infrastructure/gwent-green-grid-partnership/ 


BioTapestri 70-metr yn rhoi anadl einioes i fyd naturiol Gwent

Cynhaliodd Partneriaeth Grid Gwyrdd Gwent ddathliad ar gyfer gwaith celf cyfrwng cymysg trawiadol newydd sy’n dathlu bioamrywiaeth anhygoel ein rhanbarth.

Mae’r BioTapestri yn greadigaeth uchelgeisiol 70 metr o hyd, a grëwyd gan grwpiau cymunedol o bob un o’r pum awdurdod lleol yng Ngwent. Nid tapestri traddodiadol mohono o gwbl. Mae’n gampwaith cyfrwng cymysg gwych sy’n llawn lliw, gwead a bywyd, ac mae’n dal y cynefinoedd a’r rhywogaethau sy’n gwneud Gwent yn wirioneddol unigryw.

Ar draws 20 o baneli trawiadol, pedwar o bob awdurdod lleol, mae’r BioTapestri yn ein tywys ar daith trwy dirweddau coetir, dyfrol, glaswelltir a threfol. Mae pob panel yn rhoi llwyfan i rywogaethau eiconig gan gynnwys eogiaid, y gylfinbraff, draenogod, pili-pala brith y gors, a chimychiaid crafanc gwyn, yn ogystal â nifer o rai eraill.

Gyda’i gilydd, mae’r paneli hyn yn plethu stori bwerus am amrywiaeth ecosystemau Gwent a’u pwysigrwydd – a’r cymunedau sy’n poeni’n angerddol am eu gwarchod.

I ddathlu’r BioTapestri a’r bobl y tu ôl iddo, cynhaliodd Grid Gwyrdd Gwent ddigwyddiad arbennig yng Nglan yr Afon ddydd Gwener 6 Mawrth. Daeth y digwyddiad ag artistiaid, gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol ynghyd a oedd wedi rhoi o’u hamser a’u creadigrwydd i roi anadl einioes i’r gwaith celf.

Y cyflwynydd teledu bywyd gwyllt Dr Rhys Jones oedd y siaradwr gwadd yn y digwyddiad a thynnwyd lluniau o’r holl gyfranogwyr gyda’u panel.

Helen Kent, Sian Burns, Louise Soale, Jordie Sallis, Beth Lewis, Evan Elisas, Cath Cains and Lousie Tolcher-Goldwyn

Meddai’r Cynghorydd Catrin Maby, Aelod o Gabinet Cyngor Sir Fynwy dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Mae’r gwaith celf gwych hwn yn dyst i waith caled, sgiliau, gwaith tîm a brwdfrydedd y rheiny a fu’n ei greu.

“Mae’n gynrychiolaeth drawiadol o’n byd naturiol, ac yn helpu i dynnu sylw at bwysigrwydd ei amddiffyn cystal ag y gallwn.”

Mae’r prosiect wedi cael ei ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru drwy’r Rhaglen Rhwydweithiau Natur, a’i gefnogi gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.


Arddangosfa newydd yn dal harddwch Afon Gwy

Mae arddangosfa newydd sy’n olrhain rhythmau a nawsau newidiol Afon Gwy, o’i tharddiad ym Mhumlumon i’r man lle mae’n cwrdd â’r Hafren yng Nghas-gwent, newydd agor yn Amgueddfa Cas-gwent.

Mae Llif – Afon Gwy o’i Tharddle i’r Môr yn arddangosfa bwysig newydd gan yr artist o Gymru, Lucy Burden.

Roedd cyfle preifat i weld yr arddangosfa ar 19 Chwefror, ac fe fu gwesteion yn mwynhau noson o sgyrsiau bywiog a meddylgar wedi’u sbarduno gan dirweddau atgofus Burden.

Mae gwaith Burden yn cysylltu ag Oriel Taith Gwy yr Amgueddfa, ac yn gwahodd ymwelwyr i ystyried sut mae canrifoedd o artistiaid wedi ymateb i olygfeydd dramatig Gwy. Mae ffilm fer gan Steve Bennett, a grëwyd yn ystod digwyddiadau dathlu 50 mlynedd Llwybr Dyffryn Gwy dan arweiniad Ruth Waycott, yn cyd-fynd â’r arddangosfa.

Roedd Cynghorydd Sir Fynwy, Peter Strong yn y digwyddiad. Meddai: “Mae ymwelwyr wedi bod yn teithio i’r dyffryn hwn ers canrifoedd, gan chwilio am dro hardd yn yr afon neu glogwyn dramatig sydyn. Mae paentiadau Lucy yn cario’r llinach honno ymlaen – nid i ailadrodd, ond fel darlleniad modern.”

Datblygwyd yr arddangosfa gyda chefnogaeth gan Dyffryn Gwy Tirwedd Cenedlaethol, Partneriaeth Llwybr Dyffryn Gwy, ac Amgueddfeydd Sir Fynwy. Ar ôl Cas-gwent, bydd Llif / Flow yn teithio i The Pavilion, Castle Grounds, Henffordd gyda gwaith ychwanegol i ehangu’r gyfres.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Faterion Gwledig, Tai a Thwristiaeth, y Cynghorydd Sara Burch: “Mae Dyffryn Gwy wedi bod yn denu twristiaid ac artistiaid i’n rhanbarth ers blynyddoedd.

“Buaswn i’n annog pawb sy’n gallu ymweld â’r arddangosfa hon i weld harddwch Gwy wedi’i chrisialu mewn ffordd odidog.

“Mae’r arddangosfa yn rheswm gwych arall i ymweld ag Amgueddfa Cas-gwent, y dref yn ei chyfanrwydd a Sir Fynwy ei hun.

“Trwy ein Strategaeth Ddiwylliannol rydyn ni’n awyddus i gynnig mwy o gyfleoedd i artistiaid arddangos, gan ddod â gwaith newydd, cyffrous i Sir Fynwy.”

Bydd Llif / Flow i’w gweld yn Amgueddfa Cas-gwent hyd nes 9 Mehefin.


Maes pob tywydd yng Nghanolfan hamdden Cil-y-coed i gael ei adnewyddu

Mae Cyngor Sir Fynwy yn falch iawn o gyhoeddi uwchraddiad sylweddol i’r cae pob tywydd yng Nghanolfan Hamdden Cil-y-coed, gan nodi cam cyffrous ymlaen i chwaraeon cymunedol yn yr ardal.

Bydd y prosiect yn gweld yr wyneb synthetig 2G presennol yn cael ei ddisodli gan gae 3G o’r radd flaenaf, a fydd yn darparu profiad chwarae mwy diogel, gwydn ac o ansawdd uchel i ysgolion, clybiau a thrigolion lleol.

Mae’r buddsoddiad hwn yn rhan o ymrwymiad parhaus y cyngor i wella cyfleusterau chwaraeon a chwarae, gan greu mannau bywiog a hygyrch sy’n ysbrydoli cyfranogiad a mwynhad i bob oedran.

Mae’r datblygiad yn bosibl diolch i gefnogaeth partneriaid cyllido allweddol: Sefydliad Pêl-droed Cymru, Chwaraeon Cymru, a chyfraniadau gan y sector addysg.

Er mwyn sicrhau’r buddsoddiad hwn, mae’r prosiect yn dangos angen clir i’r gymunedol ac ysgolion, mynediad cymunedol y tu allan i oriau ysgol, a chydymffurfiad â safonau technegol 3G a gymeradwywyd gan FA Cymru/FIFA.

Mae cyfanswm o £456,000 wedi’i sicrhau ar gyfer y gwaith adnewyddu, gan gynnwys:

· £206,000 o Raglen Cyfleusterau FitForFuture Sefydliad Pêl-droed Cymru, sy’n cefnogi twf pêl-droed ar lawr gwlad ledled Cymru.

· £150,000 o Grant Cyfalaf Chwaraeon Cymru, sy’n helpu i ddarparu cyfleusterau chwaraeon cynaliadwy, modern a hygyrch.

Disgwylir i’r gwaith adeiladu ddechrau’r mis hwn, gyda tharged o gwblhau erbyn Ebrill 2026. Bydd diweddariadau’n cael eu rhannu trwy gydol y prosiect trwy dudalen pwrpasol – www.monlife.co.uk/caldicot-leisure-centre-development/ – a thrwy sianeli cyfryngau cymdeithasol Sir Fynwy a MonLife.

Dywedodd y Cyng. Angela Sandles, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu: “Bydd y cyfleusterau hyn wedi’u huwchraddio’n hwb enfawr i’r dref a thu hwnt.

“Bydd y cae newydd ar gael i ddisgyblion ysgol yn ystod oriau ysgol, clybiau a thimau pêl-droed lleol, grwpiau chwaraeon cymunedol, ac aelodau o’r cyhoedd.

“Bydd hefyd yn galluogi mwy o gyfranogiad i fenywod a merched mewn amrywiaeth o chwaraeon a bydd yn ased gwych i Gil-y-coed a’r ardal ehangach.”

Dywedodd Cyfarwyddwr Sefydliad Pêl-droed Cymru, Aled Lewis: “Mae Sefydliad Pêl-droed Cymru wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn cyfleusterau sy’n ysbrydoli cymunedau. Bydd y prosiect hwn yng Nghanolfan Hamdden Cil-y-coed yn hanfodol ar gyfer twf pêl-droed yn yr ardal leol.

“Diolch yn fawr i’n partneriaid, Llywodraeth y DU a Chwaraeon Cymru am gefnogi’r gwaith o ddatblygu’r cyfleuster newydd hwn – trwy gydweithio, rydym yn gwneud camau enfawr wrth wella cyfleusterau pêl-droed yng Nghymru ar y cae ac oddi arno.”


Pennod newydd i adeilad hanesyddol yn Nhrefynwy

Bydd Cyngor Sir Fynwy yn dechrau ar y gwaith ar wella Neuadd Sirol yn Nhrefynwy.

Er mwyn cyflawni’r weledigaeth uchelgeisiol hon, bydd Neuadd Sirol yn cau i’r cyhoedd dros dro o 20 Rhagfyr 2025, er mwyn caniatáu i’r gwaith hanfodol ddechrau. Disgwylir i’r adeilad aros ar gau i’r cyhoedd tan yn gynnar yn 2027.

Gyda chefnogaeth buddsoddiad o £2.8 miliwn, gan gynnwys £1.5 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, bydd y prosiect hwn yn gweld Neuadd Sirol yn cael ei hadfywio fel amgueddfa gymunedol ysbrydoledig a chanolfan ddysgu ddeinamig.

Beth sy’n Newid?

  • Bydd Neuadd Sirol ar ei newydd yn cynnig arddangosfeydd arloesol yn dweud stori Trefynwy, mannau dysgu hyblyg, storfeydd i wrthrychau gweladwy a chyfleusterau gwella ar gyfer ein casgliadau sy’n arwyddocaol yn rhyngwladol.
  • Bydd gwelliannau i’r system wresogi ac effeithlonrwydd ynni’n gwella cynaliadwyedd amgylcheddol, gan leihau ôl-troed carbon yr adeilad rhestredig Gradd I yma.
  • Bydd mannau manwerthu wedi eu hailddylunio a chroeso newydd i ymwelwyr yn gwella’r profiad i bawb, gan gefnogi adfywiad Trefynwy a’r Cynllun Rheolaeth Cyrchfannau.
  • Bydd y prosiect yn dileu rhwystrau corfforol, ariannol a chymdeithasol at fynediad, gan sicrhau fod Neuadd Sirol yn lle croesawgar i bawb.

Mae ymgynghoriad helaeth ag ystod eang o gymunedau, gan gynnwys grwpiau lleiafrifoedd ethnig ac unigolion sy’n byw gyda dementia, wedi llunio’r prosiect.

Mae mentrau fel prosiectau Casgliadau Dynamig a Chymru Wrth-hiliol eisoes wedi arwain at arddangosfeydd wedi’u curadu ar y cyd a phrofiadau amgueddfeydd mwy cynhwysol. Bydd Panel Dinasyddion yn parhau i lywio arddangosfeydd a digwyddiadau yn y dyfodol, gan sicrhau cynrychiolaeth gymunedol barhaus.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Faterion Gwledig, Tai a Thwristiaeth, y Cyng. Sara Burch: “Mae Neuadd Sirol wedi gwasanaethu Mynwy mewn sawl ffordd dros ei hanes, yn fwyaf diweddar fel lle i bobl yr effeithiwyd arnynt gan lifogydd ddod i gael cefnogaeth. Rydym yn edrych ymlaen at ei dyfodol fel amgueddfa gymunedol gyffrous, gan adrodd straeon niferus Trefynwy a dangos ein casgliadau pwysig yn rhyngwladol.”

Tra bod Neuadd Sirol ar gau, byddwn yn hysbysu’r gymuned ac yn ymgysylltu trwy ddiweddariadau rheolaidd a mewnwelediadau y tu ôl i’r llenni i’r trawsnewidiad.

Rydym yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr yn ôl yn 2027 i Neuadd Sirol sy’n fwy bywiog, cynhwysol a chynaliadwy nag erioed o’r blaen.

Am ragor o wybodaeth a diweddariadau, ewch i www.monlife.co.uk/cy/heritage/the-shire-hall/