Abergavenny Museum & Castle - Monlife
MOS Web Banner-02
MOS Web Banner-01
Events Calendar Creative-02
MyTicket-Event - 2023-11-20T113825.469
Heritage-Slider-01
Bike Rental (Caldicot Castle)
previous arrow
next arrow

Castell ac Amgueddfa’r Fenni

Mae Amgueddfa’r Fenni yn gartref i gasgliad bendigedig o arteffactau, arddangosfeydd parhaol ac arddangosiadau dros dro, yn manylu hanes y dref a’r ardal fwy eang.

Mae’r amgueddfa, a sefydlwyd ar yr 2il o Orffennaf 1959, wedi’i leoli mewn adeilad Rhaglywiaeth, a adeiladwyd ar ben mwnt Normanaidd o fewn tir Castell Y Fenni. 

Heddiw, mae’r cyfuniad o amgueddfa fendigedig a chastell darluniadwy’n cynrychioli atyniad gwych i’r rheini sy’n dymuno dysgu mwy am yr ardal, archwilio tir y castell, neu ddod o hyd i fan gwych am bicnic.

Mae arddangosfeydd y castell yn adrodd stori’r dref fasnach hanesyddol hon o gynhanes hyd heddiw. Mae’r arddangosfeydd ar nifer o lefelau gwahanol, a gydag ychydig o gymorth mae’r mwyafrif o fannau yn hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn. Cliciwch ar y dolenni isod am fwy o wybodaeth:

Credir yn gyffredinol fod y mwnt yng Nghastell y Fenni wedi’i adeiladu gan yr Arglwydd Normanaidd Hamelin de Ballon yn 1087 OC. Byddai’r tŵr gwreiddiol, a adeiladwyd ar ben y mwnt, wedi bod yn adeiladwaith pren, ac o dan y mwnt roedd y beili, sef cwrt sy’n cynnwys yr adeiladau allanol a’r stablau.

Mae’n debyg mai adeilad pren oedd y Neuadd Fawr gyntaf yn y castell. O fewn y Neuadd hon, ar ddydd Nadolig 1175, llofruddiodd Arglwydd Normanaidd y Fenni, William de Braose, ei wrthwynebydd Gymreig hirsefydlog, Seisyll ap Dyfnwal.

Ym 1182, ymosodwyd ar y castell gan berthnasau’r Cymry a gafodd eu llofruddio. Cipiwyd y rhan fwyaf o ddynion William, ond nid oedd ef gartref.

Dinistriwyd y castell ym 1233 gan Richard Marshal, Iarll Penfro a’r Tywysogion Cymreig, ac wedi hynny, ailadeiladwyd y gorthwr â charreg nid pren.

Y waliau a welwch heddiw yw gweddillion Neuadd garreg a adeiladwyd rhwng 1233 a 1295.

Roedd cyfadeilad y tŵr yn cynnwys dau dŵr, un amlochrog a’r llall yn grwn. Mae tystiolaeth yn awgrymu i’r tyrau hyn gael eu hadeiladu ym 1295-1314 ar yr un pryd â muriau’r dref, gan ddefnyddio grantiau murdreth – math o dreth a godwyd gan yr Arglwydd lleol.

Porthdy rhagfur nodweddiadol yw’r porthdy. Pan adeiladwyd wal y castell am y tro cyntaf, tua diwedd y 13eg i ddechrau’r 14eg ganrif, roedd y porth yn agoriad syml yn y llenfur.

Mae nodweddion drws anarferol yn awgrymu i’r porthdy gael ei ychwanegu yn gynnar yn y 15fed Ganrif. Bryd hynny roedd rhyfel annibyniaeth olaf Cymru yn cael ei hymladd gan Owain Glyndŵr.

Dinistriwyd y gorthwr ynghyd â’r rhan fwyaf o adeiladau eraill y castell, yn y Rhyfel Cartref, rhwng 1645 a 1646. Ym 1819, adeiladwyd yr adeilad presennol – sef yr Amgueddfa bellach – ar ben y mwnt ar gyfer Ardalydd y Fenni.

Hanes Amgueddfa’r Fenni

Sefydlwyd yr Amgueddfa ar yr 2il o Orffennaf 1959. Mae’r syniad am amgueddfa yn dyddio’n ôl mor gynnar â 1903, pan gafodd ei drafod gan Bwyllgor Llyfrgell Am Ddim y Fenni. Yn y cyfarfod hwn, rhoddwyd caniatâd i’r llyfrgell ddechrau casglu gwrthrychau.

Parhaodd y casgliadau hyn yn y llyfrgell tan y 1940au pan ddywedwyd iddynt gael eu gwaredu. Unwaith eto, yn sgil dymchwel yr adeiladau hanesyddol yn Tudor Street a Castle Street yn ystod y 1950au, daeth pobl yn ymwybodol o’r angen am amgueddfa. Fe wnaeth Alfred Jackson annerch y Clwb Rotari ar 22ain Hydref 1957 a ffurfiwyd pwyllgor.

Mae staff Castell ac Amgueddfa’r Fenni yn hapus i gynorthwyo gydag unrhyw un o’ch ymholiadau a gellir cysylltu â nhw drwy’r post, dros y ffôn neu dros e-bost.

Amgueddfa a Chastell y Fenni

Stryd y Castell Y Fenni

Sir Fynwy

NP7 5EE

Rhif ffôn: 01873 854 282

E-bost: abergavennymuseum@monmouthshire.gov.uk

Cost: Mynediad am ddim i bawb (codir tâl mewn rhai digwyddiadau arbennig).

Oriau Agor

Dydd Llun – AR GAU
Dydd Mawrth – 11:00am – 4:00pm
Dydd Mercher – AR GAU
Dydd Iau – 11:00am – 4:00pm
Dydd Gwener – 11:00am – 4:00pm
Ddydd Sadwrn – 11:00am – 4:00pm
Dydd Sul – 11:00am – 4:00pm

Gwybodaeth am drafnidiaeth
Yn anffodus, ni all coetsys gael mynediad i’r safle. Mae mannau parcio amgen ar gael ym maes parcio Stryd y Castell neu’r orsaf fysus.

Gwybodaeth Hygyrchedd
Fel gyda llawer o adeiladau hanesyddol, mae’n anodd cael mynediad i rai mannau ynddynt. Argymhellir bod o leiaf un person abl ar gael i gynorthwyo. Mae tir y castell yn anwastad, ond mae ramp yn arwain at yr amgueddfa, ond mae’n eithaf serth. Unwaith y byddwch wrth y drws ffrynt mae’n bosibl mynd i Oriel y Gorthwr lle mae ein harddangosfeydd yn cael eu cynnal. Gall staff yr amgueddfa helpu i agor drysau. Mae rhannau eraill o’r amgueddfa’n hygyrch i wahanol raddau drwy ddrysau allanol. Bydd angen i geidwad amgueddfa helpu felly os gwelwch yn dda, byddwch yn amyneddgar os yw’r amgueddfa’n brysur. Mae croeso mawr i gŵn tywys. Rydym yn gweithio tuag at ddarparu dulliau amgen o weld y casgliadau ar gyfer yr ymwelwyr hynny nad ydynt yn gallu eu cyrraedd yn gorfforol. Cysylltwch â ni os hoffech drafod ymhellach unrhyw anghenion mynediad.

Mae Amgueddfa’r Fenni yn cynnal arddangosfeydd rheolaidd ar y cyd â’r pum oriel arddangos barhaol:

Oriel y Gorthwr

Yn ‘Oriel y Gorthwr’ mae arddangosfeydd sy’n ymwneud â hanes yr ardal. Yn eu plith mae teclynnau cynhanesyddol, arfwisg Rufeinig, ratl baban o’r ail ganrif ar bymtheg, arteffactau yn ymwneud â phersonoliaethau Fictoraidd y Tad Ignatius ac Arglwyddes Llanofer a’r bergi enwog Whiskey.

Lloches Cyrch Awyr

Yn islawr yr Amgueddfa, mae gennym ail-gread o loches cyrch awyr yr Ail Ryfel Byd.

Siop y Sadler

Yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd y Fenni yn gartref i wyth o siopau sadler. Yn yr Amgueddfa, mae gennym arddangosfa o sut y byddai un nodweddiadol wedi edrych.

Y Gegin Gymreig

Mae’r Gegin Gymreig yn dyddio o 1960. Roedd yn un o’r arddangosiadau cynharaf ac mae’n dal mor boblogaidd ag erioed.

Mae yn null cegin ffermdy Fictoraidd ac yn ymgorffori lle tân, a achubwyd o ddymchweliadau Stryd y Tuduriaid. Diweddarwyd yr arddangosfa yn 2014 gan ddisgyblion o ysgol gynradd leol a helpodd i ailgynllunio’r gofod a dyfeisio amrywiaeth o weithgareddau ymarferol i chi roi cynnig arnynt.

Siop Groser Basil Jones

Ein harddangosfa fwyaf poblogaidd yw ‘Siop Basil Jones’. Yn 1994, caffaelodd yr Amgueddfa nifer fawr o stoc o groser lleol adnabyddus – Basil Jones.

Roedd hyn yn cynnwys pecynnu a oedd yn dyddio o mor gynnar â’r 1930au. Bu’n rhaid i’n cadwraethwyr dynnu rhai o’r stoc wreiddiol megis bisgedi, er mwyn sicrhau na wnaethon ni greu ‘problem plâu’! Yna cafodd y siop ei hail-greu o fewn yr Amgueddfa. Yn aml gall ein hymwelwyr gofio’r siop wreiddiol ac mae gennym ‘lyfr atgofion’ lle gallant gofnodi eu hatgofion.

Mae Amgueddfa a Chastell y Fenni yn lleoliad delfrydol ar gyfer ymweliad addysgol.  Rydym yn croesawu ysgolion sy’n dymuno dod â disgyblion ar gyfer ymweliad cyffredinol i edrych ar arddangosfeydd y castell a/neu’r amgueddfa. Mae mynediad am ddim. Gofynnwn i chi roi gwybod i ni pan fyddwch yn bwriadu ymweld, fel y gallwn roi gwybod i chi am unrhyw ddigwyddiadau a allai effeithio ar eich ymweliad.

Rydym yn ymwybodol o’r pwysau ar gyllidebau ysgolion ac am y rheswm hwn, rydym wedi llunio gweithdai ‘Darganfod y Castell’, gweithdy hunan-dywys i ysgolion, sy’n canolbwyntio ar hanes y Castell trwy ddysgu yn yr awyr agored.

Rydym hefyd yn cynnal rhaglen lwyddiannus o weithdai ffurfiol i ysgolion sydd wedi’u harchebu o flaen llaw, a fynychir yn dda gan ysgolion o’r ardal gyfagos a thu hwnt. Mae’r holl sesiynau wedi’u cynllunio gyda’r cwricwlwm mewn golwg er mwyn caniatáu i’r plant gael rhagor o wybodaeth am faes pwnc penodol, a phrofi amgylchedd unigryw Amgueddfa a Chastell y Fenni ar yr un pryd.  Codir tâl am y gweithdai hyn.

Mae llawer o bethau i’w gweld a’u gwneud yn y Fenni a’r cyffiniau, gan gynnwys:

Eglwys Priordy’r Santes Fair

Mae’r Eglwys yn un o’r Eglwysi Plwyf mwyaf a gorau yng Nghymru. Yn hanesyddol, cyfeirir ati fel “Abaty Westminster Cymru” ac mae’n gartref i gasgliad o henebion ac arteffactau canoloesol hynod arwyddocaol.

Theatr y Fwrdeistref

Mae Theatr y Fwrdeistref yn lleoliad â 338 sedd sy’n gartrefol, croesawgar ond eto’n fodern wedi’i lleoli yng nghanol tref ffiniol hardd y Fenni, y porth traddodiadol i Gymru.

Marchnad y Fenni

Mae’r Fenni’n enwog fel tref farchnad, gyda’r Farchnad Adwerthu Ddydd Mawrth yn adnabyddus iawn. Mae’r farchnad hefyd yn cynnig Marchnadoedd Chwain, Ffeiriau Crefft, Marchnadoedd Ffermwyr a Ffeiriau Hen Bethau a Chasglwyr rheolaidd. Gerddi Linda Vista, Parc Bailey, a Dolydd y Castell hefyd yn dri man agored bendigedig o fewn y dref.

Abaty Llanddewi Nant Hodni

Ymhlith y Mynyddoedd Duon ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr mae Dyffryn Llanddewi Nant Hodni sydd bron â bod yn anghysbell. Mae’r Priordy yn dyddio o’r ddeuddegfed ganrif ac roedd Cymuned Awstinaidd yn byw yno.

Capel y Ffin

Yn agos i Landdewi Nant Hodni mae’r fynachlog a adeiladwyd gan y parch Joseph Leycester Lyne, a adnabyddir fel y Tad Ignatius, a geisiodd gychwyn bywyd mynachaidd yn Eglwys Loegr. Yn ddiweddarach roedd yn gartref i Eric Gill, cerflunydd a theipograffydd enwog.

Am ragor o wybodaeth i dwristiaid, ewch i www.visitmonmouthshire.com



Amserau Agor

Dydd Llun – AR GAU

Dydd Mawrth – 11.00 am – 4:00 pm

Dydd Mercher – AR GAU

Dydd Iau – 11.00 am – 4:00 pm

Dydd Gwener – 11.00 am – 4:00 pm

Dydd Sadwrn – 11.00 am – 4:00 pm

Dydd Sul – 11.00 am – 4:00 pm


Cyfleusterau

MYNEDIAD RHAD AC AM DDIM
Parcio Cyfagos: Maes Parcio Stryd y Castell, y Fenni, NP7 5EE.
WiFi
Lluniaeth


Cysylltwch â Ni

Stryd y Castell,

Y Fenni,

NP7 6EE

Ff: 01873 854282

E:cliciwch yma


This post is also available in: English