Arddangosfa Amgueddfa’r Fenni 2024 – y Pysgodyn Mawr - Monlife

Arddangosfa Amgueddfa’r Fenni 2024 – y Pysgodyn Mawr

Mae Amgueddfa’r Fenni wedi datgelu arddangosfa newydd i ddathlu’r eog mwyaf sydd erioed wedi ei ddal yng Nghymru.

Ym 1782, bachwyd pysgodyn o’r Afon Wysg a dorrodd record, ychydig filltiroedd i lawr yr afon o Neuadd y Sir, Brynbuga. Roedd yr eog yn pwyso 68 ½ pwys, maint buwch fach, ac roedd tua 1.5 metr o hyd! Yn anhygoel, cafodd ei ddal gan ddau ddyn  yn eu cwryglau eu hunain gyda rhwyd yn y canol.

I goffau’r achlysur, dechreuodd artist weithio ar baentiad ychydig oriau ar ôl dal y pysgodyn rhyfeddol. Am y tro cyntaf, mae’r paentiad bellach yn cael ei arddangos ochr yn ochr â darn arall o waith celf mwy yn Amgueddfa’r Fenni.

Ar ddydd Iau, 25ain Ebrill, croesawodd Amgueddfa’r Fenni y rhai sydd wedi bod yn rhan o’r arddangosfa ac sydd wedi cyfrannu at y prosiect.

Cadeirydd Cyngor Sir Fynwy Cyng. Meirion Howells, Arweinydd y Cyngor Cyng. Mary Ann Brocklesby, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd Cyng. Catrin Maby, Aelod Cabinet C dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu, Cyng. Angela Sandles

Mae’r arddangosfa newydd yn ffordd wych o ddarganfod mwy am hanes y pysgodyn hwn a hanes yr Afon Wysg. Dysgwch fwy am pam nad ydym yn gweld cymaint o bysgod mawr yn yr afon nawr a sut y gallwn weithio gyda’n gilydd i helpu’r afonydd i ffynnu.

Fel rhan o’r arddangosfa, byddwch yn clywed gan lawer o bobl angerddol am yr afonydd, yn clywed eu barn am yr hyn sy’n gwneud afonydd yn unigryw a’u gweledigaeth ar gyfer y dyfodol. Bydd ymwelwyr hefyd yn cael cyfle i rannu eu barn ar gwestiynau pwysig ynghylch dyfodol ein hafonydd.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu, y Cynghorydd Angela Sandles: “Mae cael y paentiad, y Pysgodyn Mawr, i’w weld yn Amgueddfa’r Fenni yn wych. Mae’n caniatáu i ni ddathlu’r rhan hon o hanes ein hafonydd ac agor ein meddyliau am ddyfodol ein hafonydd. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn afonydd lleol neu ddiddordeb ehangach mewn hanes lleol, dewch i’n harddangosfa wych yn Amgueddfa’r Fenni.”

Mae amrywiaeth o arddangosion hynod ddiddorol yn cael eu harddangos yn yr amgueddfa, ac mae rhywbeth i bob oed. Os ydych chi’n meddwl gwneud hon yn daith deuluol, byddwch chi’n gallu chwarae’r gemau nadroedd ac ysgolion eogiaid, meistroli jig-so pysgodlyd a chymryd rhan mewn cwis. Mae yna hefyd her i chi neidio mor uchel â’n Pysgodyn Mawr!

Bydd y prosiect Pysgodyn Mawr hefyd yn gweld swyddogion amgueddfa yn cynnal gweithdai ysgol ar hanes y Pysgodyn Mawr, yn gweithio gyda Dŵr Cymru i gynnal gweithdai ar ofalu am ein hafonydd ac ansawdd dŵr a’n  gweithio gyda swyddogion Cefn Gwlad MonLife i gynnal digwyddiadau.

Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i adeiladu ar y gwaith o warchod yr afonydd sy’n llifo drwy’r Sir. Wrth i brosiect y Pysgodyn Mawr (Big Fish) amlygu digwyddiad hanesyddol, bydd y Cyngor yn parhau â’i ymrwymiad i ddiogelu afonydd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, gan amlygu’r newidiadau sydd eu hangen i leihau effaith newid hinsawdd ar yr afonydd.

Mae Amgueddfa’r Fenni ar agor ar ddydd Mawrth, dydd Iau, dydd Gwener, dydd Sadwrn a dydd Sul rhwng 11am a 4pm.

Mae rhagor o wybodaeth am yr amgueddfa yma: https://www.monlife.co.uk/cy/heritage/abergavenny-museum-castle/

This post is also available in: English