Chepstow Museum - Monlife
MOS Web Banner-02
MOS Web Banner-01
Events Calendar Creative-02
MyTicket-Event - 2023-11-20T113825.469
Heritage-Slider-01
Bike Rental (Caldicot Castle)
previous arrow
next arrow

Amgueddfa Cas-gwent

Mae Amgueddfa Cas-gwent yn datgelu gorffennol cyfoethog ac amrywiol y dref hynafol hon, a fu unwaith yn ganolfan bwysig fel porthladd a marchnad. Mae’r fasnach gwin, adeiladu llongau a physgota  eog ymhlith nifer o ddiwydiannau Sir Fynwy sydd yn rhan o’r arddangosfa mewn  awyrgylch atmosfferig. Mae lluniau, rhaglenni a phosteri yn dangos diddordebau’r bobl leol tra bod paentiadau a phrintiau o’r ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn amlygu apêl barhaus Cas-gwent a Dyffryn Gwy i arlunwyr a thwristiaid fel ei gilydd. Mae’r Amgueddfa gyferbyn â Chastell Cas-gwent mewn tŷ moethus o’r ddeunawfed ganrif a adeiladwyd gan deulu  cyfoethog o fasnachwyr o Gas-gwent.   

  • Arddangosfeydd arbennig cyson
  • Gweithdai a gweithgareddau
  • Cwisiau a thaflenni gwaith i blant   
  • Mynediad i blant am ddim (os yn ymweld yng nghwmni oedolyn) 
  • Cyfleusterau arbennig ar gyfer ymweliadau addysgol a  grwpiau (mae grwpiau addysgol am ddim os yn trefnu ymlaen llaw)    
  • Siop yn yr Amgueddfa 
  • Mynediad i’r llawr gwaelod a thoiledau i unigolion mewn cadeiriau olwyn  
  • Meysydd Parcio cyfagos
  • Mae’r safle gyferbyn â Chastell Cas-gwent a Chanolfan Groeso Cas-gwent

Oriau Agor

Dydd Llun – Ar Gau

Dydd Mawrth – 11.00 am – 4:00 pm

Dydd Mercher – Ar Gau

Dydd Iau – 11.00am – 4.00pm

Dydd Gwener – 11:00 am – 4:00 pm

Dydd Sadwrn – 11.00am – 4.00pm

Dydd Sul – 11:00 am – 4:00pm

Cyfleusterau

Am Ddim
WiFI

Cysylltwch

Heol y Bont,

Cas-Gwent,

NP16 5EZ

Ffôn: 01291 625981

E-bost:Click here


This post is also available in: English