Helena Williams - Monlife

Asesiad Digonolrwydd Chwarae yn cael ei gwblhau yn Sir Fynwy

Mae Asesiad Digonolrwydd Chwarae 2025 Cyngor Sir Fynwy wrthi’n cael ei gwblhau a disgwylir ei gyflwyno ym mis Mehefin.

Rhan o amcan yr asesiad yw dangos fod chwarae yn gyfrifoldeb i’r awdurdod cyfan, ac y dylai gael ei gynnwys ym mhob agenda.

Cynhaliodd y cyngor gynhadledd i’w gyflwyno i randdeiliaid – yn cynnwys cynghorwyr sir a lleol a phobl amlwg, drwy gyfuniad o gyflwyniadau a rhyngweithio – gan ddangos yr holl waith a gafodd ei gwblhau ar draws yr awdurdod lleol o amrywiaeth o adrannau yn ymwneud â chwarae.

Roedd hyn yn dathlu’r gwaith a gwblhawyd a’r manteision a gafodd y gymuned, plant a phobl ifanc. Roedd y gynhadledd hefyd yn gyfle i’r rhai oedd yn bresennol i gynnwys eu sylwadau yn yr asesiad terfynol.

Yn ogystal â bod yn ddyletswydd statudol, mae chwarae yn bwysig ar gyfer iechyd, datblygu a llesiant plant a phobl ifanc ac mae’n hawl iddynt fel a nodir yn erthygl 31 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn – gan warantu’r hawl plant i orffwys, hamdden, chwarae a chyfranogiad mewn bywyd diwylliannol ac artistig.


Dyddiad cau Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflwyno’r Asesiad yw 30 Mehefin 2025. Caiff adroddiad ei ystyried yng nghyfarfod y Cabinet ar 25 Mehefin.

Dywedodd Angela Sandles, Aelod Cabinet Cydraddoldeb ac Ymgysylltu Cyngor Sir Fynwy: “Mae darpariaeth chwarae yn rhan mor hanfodol o’r gwaith ar draws Cyngor Sir Fynwy ac mae’n rhan gyfannol o ddatblygiad plant a phobl ifanc ar draws y rhanbarth.

“Rwy’n falch o’r holl waith sy’n mynd rhagddo ar draws y sir i sicrhau y rhoddir blaenoriaeth i chwarae.

“Roedd yn hyfryd clywed cyflwyniadau gan blant ysgol yn y gynhadledd. “Edrychaf ymlaen at weld yr Asesiad Digonolrwydd Chwarae terfynol cyn ei gyflwyno yn nes ymlaen eleni.”


Sir Fynwy yn dathlu llwyddiant diwylliannol mewn digwyddiad blynyddol

Dathlodd Cyngor Sir Fynwy ddiwylliant y sir am yr ail flwyddyn yn olynol gyda digwyddiad yn Neuadd y Sir, Brynbuga.

Ddydd Gwener, 11 Ebrill, roedd Neuadd y Sir unwaith eto yn llawn meddwl creadigol wrth i sîn diwylliannol Sir Fynwy ddathlu ei llwyddiant yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a thu hwnt.

Roedd thema eleni yn canolbwyntio ar ffilm, theatr, cerddoriaeth, ysgrifennu sgriptiau, a chlywed gan y rhai a gyflawnodd lwyddiant creadigol yn 2024. Roedd y digwyddiad yn cynnwys cyflwyniadau, Panel Holi ac Ateb, gweithdai, marchnad a pherfformiadau.

Yn dilyn sylwadau agoriadol gan Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby, cafodd y gwesteion gyflwyniadau gan Samantha Dazhure, bardd o Zambezaidd o Gil-y-coed a agorodd gyda cherdd a gomisiynwyd am Sir Fynwy, a Hilary Farr o Gyngor Celfyddydau Cymru yn trafod cyfleoedd ariannu a gweithgareddau CCC yn Sir Fynwy.

Nododd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby: “Mae’r celfyddydau wedi’u gwreiddio yn DNA Sir Fynwy. Ar draws y sir, mae gennym artistiaid sy’n gwneud Sir Fynwy yn esiampl i Gymru gyfan.”

“Mae ein digwyddiad Dathliad Diwylliannol yn caniatáu i ni ddod â phobl at ei gilydd i ddathlu eu llwyddiant a hefyd i ddweud diolch am yr holl waith maen nhw’n ei wneud bob dydd ledled y sir.”

“Rydym yn parhau i weithio tuag at greu Strategaeth Ddiwylliannol, amcan allweddol i’r cyngor, ac edrychwn ymlaen at rannu rhagor o wybodaeth a chael barn trigolion ar hyn cyn bo hir.”

Rhoddodd cyflwyniadau cyflym gipolwg ar agweddau diwylliannol amrywiol Sir Fynwy. Cyflwynwyd y rhain gan Emma Bevan-Henderson a Lynn Webb o Gynghrair Greadigol y Fenni, Stephanie Roberts o Ysgol Gynradd Brynbuga, Stuart Bawler o Hummadruz – Theatr Uwchfioled Cymru, Bonnie Helen Hawkins (llyfr darluniadol ‘Under Milk Wood’) a’r gyfansoddwraig Fiona Frank.

Roedd y digwyddiad hefyd yn caniatáu i westeion gymryd rhan mewn gweithdai. Roedd y rhain yn cynnwys camau ymarferol ceisiadau am gyllid gan Hilary Farr, sefydlu practis portreadau gan Oriane Pierrepont, Samantha Rumbidzai Dazhure yn trafod ei llyfr ‘Weeping Tomato’, a Liz Mance yn cyflwyno ei sioe Cyrion Caeredin ‘Cup of Tea with George Elliot.’

Caeodd y digwyddiad gyda Phanel Holi ac Ateb dan gadeiryddiaeth Emma Bevan-Henderson. Trafododd y panel godi proffil creadigrwydd yn Sir Fynwy yn 2025/6. Roedd y panelwyr yn cynnwys Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby, yr Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Tai a Thwristiaeth, y Cynghorydd Sara Burch, Tracey Thomas, Pennaeth Diwylliant a Dysgu Cymunedol Cyngor Sir Fynwy, a Rachael Rogers, Rheolwr Strategol Diwylliant, Treftadaeth a’r Celfyddydau Cyngor Sir Fynwy.

Wrth gloi’r digwyddiad, nododd y Cynghorydd Sara Burch: “Mae’r digwyddiad hwn yn tynnu sylw at ychydig o’r gwaith gwych sy’n cael ei wneud ledled Sir Fynwy i gefnogi ein diwydiannau diwylliannol a’n cymunedau creadigol bywiog. Rydw i wedi mwynhau gwrando a gwylio’r holl siaradwyr a chyflwynwyr heddiw. Fel cyngor, mae gennym ddyletswydd i helpu i lunio tirwedd ddiwylliannol ein sir odidog, gan gefnogi gwaith newydd yn ogystal â gwarchod treftadaeth a thraddodiad. Mae ein hybiau, llyfrgelloedd, amgueddfeydd, theatr, ysgolion a chanol trefi yn bwysig wrth ddarparu mannau ar gyfer creadigrwydd o bob math. Diolch i bawb a fynychodd ac a gyfrannodd at ein dathliad.”

Drwy gydol y digwyddiad, cafodd gwesteion berfformiad gan Kim Kaos hefyd, gyda’i greadigaeth – Duwies y Gwy, a chôr Cymunedol Sir Fynwy yn perfformio yn ystod yr egwyl.

Roedd y Marchnad Gwneuthurwyr yn yr ardal hyfforddi yn arddangos cymysgedd o bobl greadigol yn rhannu ac yn gwerthu eu cynnyrch.


Gwaith torri coed wedi’i atal yng Nghomin y Felin, Magwyr

Mae’r gwaith o dorri coed yn fecanyddol ar Gomin y Felin ym Magwyr fel rhan o’r Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG) wedi’i atal oherwydd bod y Gwanwyn yn mynd rhagddo a nifer o nythod adar wedi eu canfod yn yr ardal.

Mae ecolegwyr wedi bod yn gweithio’n agos gyda chontractwyr drwy gydol y gwaith coed i darfu cyn lleied â phosibl ar fywyd gwyllt lleol. Ar ôl darganfod y nythod, penderfynwyd atal y gwaith a chwblhau unrhyw waith torri sydd ar ôl yn yr Hydref.

Bydd gwaith i adfer y coetir na fydd yn tarfu ar adar sy’n nythu yn parhau, gan gynnwys gwrychoedd marw, cael gwared â malurion, a malu bonion ar hyd ymylon y llwybr lle mae’r gwaith cwympo eisoes wedi’i gwblhau.

Nid oes disgwyl i’r newid hwn effeithio ar rannau eraill o’r prosiect ehangach. Bydd Cyngor Sir Fynwy yn gallu cychwyn prosiectau gwirfoddoli, gan gynnig cyfleoedd i’r gymuned helpu i adfywio Comin y Felin.

Mae blaenoriaeth yn cael ei rhoi i adfer y llwybrau er mwyn sicrhau y gellir gwneud gwaith ar draws yr holl ardaloedd lle mae’r gwaith o dorri’r coed wedi ei gwblhau. Bydd rhan olaf y llwybr yn cael ei orffen yn yr Hydref/Gaeaf.

Gwerthfawrogwn amynedd trigolion a’u cydweithrediad â’r contractwyr drwy gydol y gwaith coed a deallwn y bu tarfu ar fynediad ar y safle.

Rydym hefyd yn cydnabod y newidiadau i’r coed o ganlyniad i’r gwaith, sy’n amlygu maint y coed ynn yr effeithiwyd arnynt gan glefyd (Chalara) coed ynn ar Gomin y Felin. Bydd coed brodorol yn cael eu hailblannu yn yr Hydref/Gaeaf.

Yn y cyfamser, bydd y coedydd yn dechrau aildyfu’n naturiol o lasbrennau a hadau sydd eisoes yn bresennol.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Maby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Er ein bod yn siomedig y bydd rhywfaint o’r gwaith yn cael ei ohirio tan yr hydref, rydym yn cymryd ein dyletswyddau i ddiogelu adar sy’n nythu o ddifrif ac rydym yn hyderus y bydd y prosiect adfer coetir wedi’i gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth 2026.” I gael rhagor o wybodaeth, neu i gofrestru diddordeb mewn gwirfoddoli, ewch i: prosiect Adfer Comin y Felin – Monlife


Digwyddiad dathlu llwyddiant Llwybrau i Gymunedau

Ar ddydd Gwener, 28ain Mawrth, cynhaliodd yr Hyb Cymunedol ym Magwyr a Gwndy ddigwyddiad dathlu i nodi llwyddiant y prosiect Llwybrau i Gymunedau.

Amlygodd y digwyddiad hwn yr hyn sydd wedi ei wneud yn bosibl gan Grant Gwella Mynediad Llywodraeth Cymru dros y tair blynedd diwethaf.

Mae’r prosiect Llwybrau i Gymunedau wedi bod yn allweddol wrth ddatblygu partneriaethau gyda sefydliadau amrywiol, gan gynnwys Cerddwyr Cymru, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent, Lefelau Byw, ac eraill. Mae’r cydweithrediadau hyn wedi cyfrannu’n sylweddol at lwyddiant y prosiect, gan ehangu o 5 i 17 o grwpiau gwirfoddol gweithredol, gyda phum grŵp arall yn dangos diddordeb.

Mae Sir Fynwy wedi bod yn arloeswr yn y DU, gan mai dyma’r awdurdod cyntaf i ymgymryd â Chytundeb Lefel Gwasanaeth gyda’r Cerddwyr, model sydd bellach yn cael ei ailadrodd mewn mannau eraill. Er na fydd y Prosiect Llwybrau i Gymunedau yn parhau i’r flwyddyn ariannol nesaf, bydd Swyddog Cysylltiadau Cymunedol MonLife yn parhau i gefnogi’r grwpiau gwirfoddol.

Mae’r Cerddwyr wedi cynnal 82 o ddigwyddiadau ymgysylltu, ac mae gwirfoddolwyr wedi cyfrannu dros 4500 o oriau yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae eu hymdrechion wedi arwain at osod 117 o byst cyfeirbwyntiau, 225 o gyfeirbwyntiau (arwyddion i nodi llwybrau cyhoeddus), 68 o gatiau, 94+ arwyddbyst, 109 o risiau, a datrys 281 o faterion diogelwch. Yn ogystal, mae gwirfoddolwyr wedi clirio 420 o ddodrefn sydd wedi gordyfu a 14,077 metr o lystyfiant.

Talodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Faterion Gwledig, Tai a Thwristiaeth, y Cynghorydd Sara Burch, deyrnged i’r gwirfoddolwyr, “Heb ymroddiad y gwirfoddolwyr ar draws y sir, ni fydd y Cyngor yn gallu sicrhau bod ein hawliau tramwy yn glir ac yn ddiogel i bawb eu defnyddio. Ar ran y Cyngor, diolch i chi am eich holl waith ac ymroddiad.”

Nod y prosiect Llwybrau i Gymunedau, a gynhaliwyd rhwng Gorffennaf 2024 a Mawrth 2025, oedd creu system reoli fwy cynaliadwy ar gyfer y rhwydwaith Llwybrau a Hawliau Tramwy ar ochr orllewinol Sir Fynwy. Roedd y prosiect yn canolbwyntio ar wella gwydnwch cymunedol a grymuso gwirfoddolwyr lleol i gyflawni nodau cyfiawnder cymdeithasol a llesiant.

Ychwanegodd y Cynghorydd Burch, “Fel Cyngor, rydym yn ymroddedig i weithio gyda phartneriaid i wella mynediad i bawb. Mae gallu cytuno ar gytundeb gwasanaeth gyda The Rambles wedi bod yn allweddol i hyn, gan eu bod wedi gallu darparu eu harbenigedd wrth recriwtio a hyfforddi’r gwirfoddolwyr.”

I gael gwybod mwy am dîm Mynediad Cefn Gwlad MonLife, ewch i: www.monlife.co.uk/cy/outdoor/countryside-access/

Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Faterion Gwledig, Tai a Thwristiaeth, y Cynghorydd Sara Burch yn torri’r gacen


Lansio gwasanaeth blwch cof newydd mewn hybiau cymunedol

Bydd blychau cof newydd ar gael yn Hybiau Cymunedol Sir Fynwy o fis Ebrill 2025.

Diolch i gyllid gan Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Cymru, mae MonLife Heritage Learning wedi datblygu 15 o flychau atgofion newydd i’w defnyddio yn y gymuned.

Mae pob blwch ar gael i’w fenthyg am ddim, yn debyg i fenthyca llyfr llyfrgell.

Mae pob blwch cof yn cynnwys cyfoeth o wrthrychau a ddewiswyd yn ofalus sy’n ddelfrydol ar gyfer hel atgofion am ddigwyddiadau’r gorffennol gydag oedolion hŷn neu bobl sy’n byw gyda dementia. Mae gan bob blwch thema wahanol fel y gall defnyddwyr sgwrsio am brofiadau ac atgofion amrywiol.

Lansiwyd y gwasanaeth yn ddiweddar yn Hyb Cymunedol Cil-y-coed. Roedd y digwyddiad yn arddangos gwybodaeth a chefnogaeth i bobl sy’n byw gyda dementia, gan gynnwys Darllen yn Well ar gyfer Dementia.

Mae Darllen yn Well ar gyfer Dementia yn argymell adnoddau darllen a digidol defnyddiol i bobl sy’n byw âdementia, eu teuluoedd a’u gofalwyr. Roedd cyfle hefyd i ganu gyda Chlwb Canu Cas-gwent a chymryd rhan mewn gweithgaredd crefft gan Ddysgu Cymunedol Sir Fynwy.

Dywedodd y Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu: “Diolch i gyllid gan Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Cymru, mae ein swyddogion Dysgu Treftadaeth MonLife wedi llwyddo i greu blychau atgofion a fydd yn dod â hanes yn fyw.

“Rwyf wedi mwynhau archwilio’r blychau hyn fy hun, ac rwy’n annog pobl i’w benthyca i greu eiliadau o hel atgofion.”

Hoffai Cyngor Sir Fynwy ddiolch i Gyngor Llyfrau Cymru am ariannu’r lansiad.

I ddod o hyd i’ch hyb cymunedol lleol, ewch i https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/hybiau-cymunedol-sir-fynwy/


Gwaith i ddechrau ar Gynllun Teithio Llesol Cil-y-coed, Ffordd Woodstock

Bydd Cyngor Sir Fynwy yn dechrau gwaith ar Gynllun Teithio Llesol Cil-y-coed ar 17 Mawrth 2025

Wedi’i ariannu drwy Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, nod y cynllun yw gwella cysylltiadau teithio llesol i Ysgol Cil-y-coed a chyrchfannau lleol eraill.

Mae strategaeth y Cyngor ar gyfer teithio llesol yn annog trigolion i ddefnyddio cerdded, beicio a mathau eraill o gludiant llesol ar gyfer teithiau byr, bob dydd. Drwy greu amgylcheddau cymunedol sy’n gwneud teithio llesol yn ddiogel, yn gyfleus ac yn ddeniadol, mae’r cynllun yn cynnig dewis cost-effeithiol ac iach yn lle gyrru, tra’n gwella effeithlonrwydd y system ffyrdd i’r rhai sydd angen gyrru.

Mae cynllun Ffordd Woodstock wedi’i ddatblygu mewn ymateb i anghenion lleol a nodwyd gan y Cyngor a sefydliadau eraill, sy’n cynnwys yr angen am lwybrau a mannau croesi mwy diogel i gerddwyr a defnyddwyr cadeiriau olwyn a bydd yn gweld uwchraddio llwybrau a chroesfannau ar hyd y ffordd i wella diogelwch, ansawdd llwybrau, a lleihau tagfeydd.

Casglodd ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd yn 2024 fewnbwn ar gynlluniau datblygu’r ardal. Roedd hyn yn cynnwys sesiynau ymgysylltu wyneb yn wyneb, ffurflen ymgynghori ar-lein, ac arolwg i ddisgyblion yn Ysgol Cil-y-coed i roi adborth.

Mae’r datblygiadau ar hyd Ffordd Woodstock yn cynnwys cynllun ffordd wedi’i ailgynllunio i ymgorffori llwybr teithio llesol a rennir, ail-leoli safleoedd bysiau Meddygfa Gray Hill yn nes at y llwybr cerddwyr i ganol y dref (i ffwrdd o gyffordd Lôn y Felin), a gosod ac uwchraddio cyfleusterau croesi, palmentydd cyffyrddol ac arwyddion.

I gael manylion llawn y gwaith arfaethedig, ewch i www.monlife.co.uk/cy/woodstockway/

Mae’r Cyngor yn gweithio gyda Wales & West Utilities a Chymdeithas Tai Sir Fynwy (MHA) i darfu cyn lleied â phosibl ar bob cynllun yng nghyffiniau Ffordd Woodstock. O’r 17 Fawrth, bydd y prosiect yn golygu cydweithio rhwng y Cyngor a Wales & West Utilities, sy’n uwchraddio mwy na 2,000 metr o bibellau nwy. Bydd pob sefydliad yn gweithio gyda’i gilydd i darfu cyn lleied â phosibl ar drigolion sy’n defnyddio’r ffordd yn ddyddiol.

Mae rhagor o wybodaeth am y gwaith nwy ar gael ar wefan Wales & West Utilities: www.wwutilities.co.uk/in-your-area/in-your-area-map/?postcode=caldicot

Dywedodd y Cynghorydd Sara Burch, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Faterion Gwledig, Tai a Thwristiaeth: “Mae’n wych gweld y gwaith ar Ffordd Woodstock yn dechrau. Fel Cyngor, rydym yn edrych i sicrhau’r llwybrau gorau posibl i’n trigolion ac ymwelwyr eu defnyddio wrth deithio o fewn ein trefi.

Diolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad y llynedd – gallwn ddylunio a datblygu llwybr teithio llesol a fydd yn gwneud teithiau pobl yn fwy diogel ac effeithlon yng Nghil-y-coed.

Rwyf hefyd yn falch o’n partneriaeth â Wales & West Utilities. Bydd y bartneriaeth waith hon yn lleihau’r effaith ar bobl o ddydd i ddydd wrth i ni ddechrau gweithredu’r cynllun.”


MonLife yn cyhoeddi rhaglen llawn hwyl i deuluoedd a phobl ifanc

Mae MonLife wedi cyhoeddi amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau cyffrous i deuluoedd a phobl ifanc yn ystod hanner tymor mis Chwefror.

Mae sesiynau aros a chwarae am ddim yn cynnig cyfle i blant a theuluoedd fwynhau amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys chwarae, celf a chrefft, ac adeiladu cuddfannau. Yn ogystal, mae’r rhaglen Chwarae Egnïol ar gyfer plant 5-11 oed yn cynnwys sesiynau am ddim o dan arweiniad gweithwyr chwarae profiadol. Mae sesiynau yng Nghil-y-coed a Chas-gwent wedi’u harchebu’n llawn, ac felly rydym yn argymell eich bod yn sicrhau eich lle mewn lleoliadau eraill cyn gynted â phosibl i osgoi cael eich siomi.

Ymunwch â ni yng Nghanolfan Hamdden Cil-y-coed ar gyfer ein dosbarthiadau meistr diogelwch dŵr. Wedi’u trefnu gan Nofio Cymru, mae’r dosbarthiadau hyn yn rhoi sgiliau hunan-achub hanfodol i blant a gwybodaeth hanfodol am ddiogelwch dŵr.

Wedi’u cynllunio ar gyfer plant 7-11 oed a 12 – 14 oed, mae’r sesiynau hyn yn canolbwyntio ar ddysgu ymarferol tra’n magu hyder yn y dŵr ac o’i gwmpas heb fod angen unrhyw brofiad nofio blaenorol. Gyda dwy sesiwn ar gael, rydym yn annog pawb i gofrestru nawr.

Bydd canolfannau ieuenctid ar draws Sir Fynwy ar agor ar ddiwrnodau penodol yn ystod hanner tymor, gan ddarparu lle diogel i bobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau, cwrdd â ffrindiau newydd, a derbyn cefnogaeth gan weithwyr ieuenctid cymwys.

Rydym yn gyffrous i groesawu pawb yn ôl i Amgueddfeydd y Fenni a Chas-gwent dydd Sadwrn yma. Peidiwch â cholli’r arddangosfa ‘Pysgod Mawr’ newydd yng Nghas-gwent ac ymunwch â ni ar gyfer crefftau thema Dydd Gŵyl Dewi yn ein hamgueddfeydd sydd i’w cynnal drwy gydol yr hanner tymor.

Paratowch ar gyfer hanner tymor mis Chwefror llawn hwyl gyda Hybiau Cymunedol a Llyfrgelloedd MonLife! Mae amrywiaeth o weithgareddau cyffrous o straeon a chrefftau i Weithdai Lego wedi’u trefnu i chi eu mwynhau.

Peidiwch â cholli’r digwyddiadau gwych yn Theatr Borough yn y Fenni yr hanner tymor hwn. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae perfformiadau gan Blazin’ Fiddles, Llyr Williams gyda Rhapsodies & Waltzes, Budapest Cafe Orchestra, a chynhyrchiad arbennig o “The Picture of Dorian Gray.”

I gael rhagor o wybodaeth am yr holl weithgareddau ac i archebu lle, ewch i https://www.monlife.co.uk/events/


Dathliad o wirfoddoli yn Sir Fynwy – y gorffennol, y presennol a’r dyfodol!

Ar ddydd Gwener, 7fed Chwefror 2025, cynhaliodd Cyngor Sir Fynwy ddigwyddiad i ddathlu gwirfoddoli yn Sir Fynwy o’r gorffennol,  y presennol a’r dyfodol.

Roedd y digwyddiad yn gydweithrediad rhwng Cyngor Sir Fynwy, Cymdeithas Tai Sir Fynwy a Bridges.

Croesawyd y digwyddiad i Neuadd y Sir gan Arweinydd y Cyngor y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby, a dathlodd y digwyddiad gyfraniadau sylweddol gwirfoddolwyr yn Sir Fynwy, gan roi cyfle i gydweithio â sefydliadau partner a grwpiau cymunedol a mynegi diolchgarwch i’r gwirfoddolwyr am eu cefnogaeth amhrisiadwy.

Roedd y digwyddiad yn cynnwys siaradwyr gwadd: Jenny Powell o The Gathering yn y Fenni, Morgan Collins, gwirfoddolwr ifanc o MonLife, Bryn Probert o Hyb Cymorth i Gyn-filwyr Sir Fynwy, ac Alison Palmer, Dirprwy Gyfarwyddwr Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent. Cafodd y mynychwyr hefyd gyfleoedd i gwrdd â grwpiau a sefydliadau lleol, a chafwyd perfformiad gan Gôr Cymunedol Sir Fynwy.

Mae gwirfoddolwyr ar draws y sir yn chwarae rhan hanfodol yn y gymuned. O fewn gwasanaethau MonLife, rhwng Ebrill a Medi 2024, cymerodd 370 o wirfoddolwyr ran mewn 43 o gyfleoedd gwirfoddoli, gan gyfrannu 6,372 o oriau gyda gwerth economaidd o £86,2191. Roedd 19 o wirfoddolwyr Datblygu Chwaraeon a Hamdden wedi symud ymlaen i gael eu cyflogi  yn haf 2024.

Yn ystod y digwyddiad, cafodd y mynychwyr gyfle i gwrdd ac ymgysylltu â gwirfoddolwyr a sefydliadau eraill, gan gynnwys Uned Ymateb Cyntaf Draenogod, Cwtch Angels, Growing Spaces, Mind Sir Fynwy, Sgowtiaid Sir Fynwy, Coffi a Chyfrifiaduron Rhaglan, Sport In Mind, a Usk Track.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby: “Mae gwirfoddolwyr o bob agwedd ar fywyd yn chwarae rhan bwysig yn ein cymunedau. Mae eu hymroddiad yn ein galluogi ni yn y Cyngor i ddarparu gwasanaethau ac amddiffyn y rhai mwyaf bregus yn ein cymuned. Ar ran y Cyngor a’n cymunedau, diolch am bob awr, munud ac eiliad rydych chi’n gwirfoddoli.”

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu, y Cynghorydd Angela Sandles: “Gwirfoddolwyr yw curiad calon ein cymunedau. O’n gwirfoddolwyr 16 oed i’r hynaf sy’n 94, mae pob unigolyn yn dod â brwdfrydedd, egni, ac amrywiaeth o sgiliau i’w gweithgareddau. Nid oes ond angen i chi edrych ar werth economaidd gwirfoddolwyr i weld eu cyfraniad enfawr. Diolch i bob un ohonoch.”

I ddarganfod mwy am gyfleoedd gwirfoddoli, ewch i wefan Gwirfoddoli Cymru: www.gwirfoddolicymru.net

Dysgwch fwy am Wirfoddoli gyda MonLife yma www.monlife.co.uk/connect/volunteering/


Gala Nofio Ysgolion Uwchradd MonLife yn gwneud sblash

Daeth mwy na 50 o bobl ifanc o ysgolion uwchradd ar draws Sir Fynwy ynghyd yn ddiweddar i gymryd rhan yng Ngala Nofio Ysgolion Uwchradd MonLife, a gynhaliwyd am y tro cyntaf gan dîm Datblygu Chwaraeon MonLife yng Nghanolfan Hamdden Cas-gwent.

Nofwyr ac athrawon o’r ysgolion wnaeth cymryd rhan gyda Swyddogion Datblygu Chwaraeon, Cadeirydd Cyngor Sir Fynwy, Cyng. Su McConnel ac Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu Cyng. Angela Sandles

Roedd y digwyddiad yn arddangos sgiliau’r nofwyr ac yn rhoi cyfle gwerthfawr i ysgolion gasglu data asesu ar gyfer safoni TGAU Addysg Gorfforol.

Mae’r gala hon yn adeiladu ar y sylfaen lwyddiannus a osodwyd gan ein darpariaeth Nofio mewn Ysgolion Cynradd, gan sicrhau bod gwaddol o gyfleoedd nofio yn parhau i addysg uwchradd.

Rydym wedi ymrwymo i ehangu cyfranogiad mewn nofio y tu hwnt i oriau safonol y cwricwlwm, gan gynnig cyfle i fyfyrwyr ymwneud â’r gamp mewn amgylchedd cystadleuol.

Mae’r Gala Nofio yn nodi dechrau digwyddiad blynyddol, ac mae MonLife yn gyffrous i barhau i drefnu digwyddiadau chwaraeon amrywiol trwy gydol y flwyddyn academaidd.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu, Cyng Angela Sandles, “Roedd mynychu’r gala nofio yn brofiad gwych. Fel Cyngor, rydym wedi ymrwymo i ddarparu llwyfan i bobl ifanc gymryd rhan mewn amgylchedd cystadleuol a chyfeillgar. Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran.”

“Rwy’n edrych ymlaen at weld datblygiadau pellach mewn digwyddiadau chwaraeon ysgol.”

I ddarganfod mwy am Dîm Datblygu Chwaraeon MonLife, ewch i: www.monlife.co.uk/cy/connect/sports-development/


Dathlu’r Nadolig yn Hyb Cil-y-coed

Cynhaliodd Cyngor Sir Fynwy ddigwyddiad dathlu yng Nghil-y-coed i roi sylw i’r holl waith da a wneir yn llyfrgelloedd yr ardal.

Hyb Cymunedol Cil-y-coed oedd lleoliad Dathliad Nadolig eleni.

Ddydd Iau 12 Rhagfyr, cynhaliodd y cyngor ddigwyddiad ar gyfer y gymuned ac aelodau’r llyfrgell, a gefnogwyd gan Gyfeillion y Llyfrgell.

Rhoddodd y dathliad blynyddol sylw i wasanaethau llyfrgell y sir – a chadarnhau’r ffaith fod llawer mwy na dim ond llyfrau yn eich llyfrgell leol. Mae Hybiau Sir Fynwy yn wasanaeth gyda ffocws ar y gymuned.

Cafwyd adloniant cerddorol gan Glybiau Canu Cas-gwent a Brynbuga, gyda detholiad o ganeuon Nadoligaidd – modern a thraddodiadol. Rhoddodd aelodau staff hefyd darlleniadau perthnasol i’r ŵyl.

Dywedodd y Cyng Angela Sandles, Aelod Cabinet Cydraddoldeb ac Ymgysylltu: “Ein llyfrgelloedd yw conglfaen ein cymunedau yn Sir Fynwy. Maent yn rhoi cymaint mwy na llyfrau i ni, mae hyn yn cynnwys gliniaduron i’w benthyg, lle i gwrdd, lle i astudio a dysgu, lle i gael cyngor a hefyd wrth gwrs i gynnal digwyddiadau cymdeithasol gwych tebyg i hwn.

“Mae’n bwysig ein bod yn parhau i werthfawrogi a defnyddio popeth y mae ein Hybiau a llyfrgelloedd a’r staff ynddynt yn ei gynnig i holl breswylwyr Sir Fynwy.”