Tudalen 6 – Monlife


Diwrnod Chwarae Cenedlaethol wedi cael ei fwynhau gan blant a theuluoedd yn nigwyddiad MonLife

Mwynhaodd teuluoedd o bob rhan o Sir Fynwy ddiwrnod o hwyl a gemau gyda MonLife yng Nghanolfan Hamdden Cil-y-coed yr wythnos diwethaf fel rhan o’r Diwrnod Chwarae Cenedlaethol.

Denodd y digwyddiad, a gynhaliwyd ddydd Mercher, 7fed Awst, tua 400 o oedolion a phlant.

Mae Diwrnod Chwarae Cenedlaethol yn dathlu hawl plant i chwarae wrth bwysleisio rôl hanfodol chwarae yn eu bywydau.

Roedd y digwyddiad yn agored i bawb ac roedd ganddo amserlen llawn gweithgareddau, gan gynnwys wal ddringo, celf a chrefft, adeiladu ffau, golff gwallgof a llawer mwy.

Dywedodd y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy: “Roedd yn wych gweld cymaint o deuluoedd yn mwynhau’r Diwrnod Chwarae Cenedlaethol yng Nghanolfan Hamdden Cil-y-coed yr wythnos hon.

“Mae chwarae yn rhan mor bwysig o ddatblygiad plant.  Mae digwyddiadau fel hyn yn ffordd berffaith o adael i blant archwilio amrywiaeth o weithgareddau yn rhydd a chael hwyl.”

Cafodd y digwyddiad Diwrnod Chwarae Cenedlaethol yn Sir Fynwy ei gynnal gan Chwarae MonLife, gyda gweithgareddau’n cael eu cynnal gan wahanol ardaloedd o MonLife yn ogystal â chydweithwyr o Gymdeithas Tai Sir Fynwy, clwb plant Clybiau Plant Cymru a thîm Partneriaethau Cymunedol a lles Cyngor Sir Fynwy.

I gael gwybod mwy am ein cynnig Chwarae yn MonLife, ewch i https://www.monlife.co.uk/cy/connect/play/


Cynllun Teithio Llesol Cil-y-coed, Woodstock Way

Fel rhan o ddatblygu’r rhwydwaith Teithio Llesol ehangach ar gyfer ardal Cil-y-coed a Glannau Hafren, mae Cyngor Sir Fynwy (CSF) yn cynnig newid y cynllun a rheolaeth traffig ar gyfer Ffordd Woodstock yng nghanol Cil-y-coed i wella cysylltiadau teithio llesol i ac o Ysgol Cil-y-coed, Canolfan Hamdden Cil-y-coed a chyrchfannau lleol eraill. Yn amodol ar gyllid, bydd camau diweddarach yn gwella cysylltiadau teithio llesol pellach ar draws ardal Glannau Hafren yn ne Sir Fynwy.

Gwaith adeiladu

Cam 1 y rhaglen hon yw darparu mannau croesi mwy diogel a rheoli traffig ar Ffordd Woodstock yn effeithlon. Mae Cyngor Sir Fynwy wedi penodi’r contractwyr Centregreat i osod cam 1 cynllun teithio llesol Ffordd Woodstock. Bydd y gwaith adeiladu yn dechrau ar 17 Mawrth 2025. Ariennir y cynllun hwn drwy Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.

Mae’r ardal a gwmpesir gan y cynllun fel yr ymgynghorwyd arni bellach wedi’i lleihau i gwmpasu’r rhan o Ffordd Woodstock o gyffordd Lôn y Felin i’r groesfan ger Aldi. Mae’r newid hwn oherwydd amgylchiadau annisgwyl sydd wedi effeithio ar y cynllun a’r rhaglen waith. Bu’n rhaid cyfyngu cwmpas y rhaglen waith adeiladu bresennol i sicrhau bod ailfodelu cyffordd ac adeiladwaith croesfannau mwy diogel yn cael eu cyflawni.

Rydym yn gweithio ar yr un pryd ar gynlluniau cysylltu ar draws Glannau Hafren, ac yn bwriadu dilyn y cynllun hwn gyda gwelliannau teithio llesol i Lôn y Felin, sy’n arwain o Ffordd Woodstock i fynedfa Ysgol Cil-y-coed, y ganolfan hamdden a maes parcio ‘Park & Stride’, Ysgol Gynradd Durand a chartrefi yn de-ddwyrain Cil-y-coed.

Datblygir y cynigion hyn mewn ymateb i faterion ac anghenion lleol a nodwyd gan y Cyngor Sir a sefydliadau lleol eraill. Mae angen llwybrau a mannau croesi mwy diogel ar gyfer cerdded a beicio, gyda rheolaeth well ar gyflymder y traffig, tagfeydd a pharcio peryglus, yn enwedig yn ystod amseroedd gollwng a chasglu plant, gyda’r nod o wella diogelwch ac ansawdd yr amgylchedd ar gyfer pobl leol a’r rhai sy’n teithio o amgylch Ffordd Woodstock.

Ein nod yw ei gwneud hi’n haws gwneud teithiau byr, lleol trwy ddulliau cynaliadwy a gweithgar. Gall cerdded, olwyno a beicio i gyrchfannau (a elwir hefyd yn Teithio Llesol) gael effaith gadarnhaol ar iechyd corfforol a meddyliol, y gallu i ddysgu a chanolbwyntio, ac agor mynediad fforddiadwy i siopau a gwasanaethau lleol, cyflogaeth, addysg a chyrchfannau diwylliannol, a chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus. Gweler mwy yma Caldicot – Monlife

Ymgynghoriad

Amlygodd ymgynghoriad hanesyddol â rhanddeiliaid lleol risgiau a rhwystrau i deithio llesol yn ardal Ysgol Cil-y-coed ac ardal Woodstock Way, gan arwain at ddyluniad cynllun teithio llesol Woodstock Way. Cynhaliwyd ymgynghoriad ar ddyluniad manwl cam 1 rhwng 27ain Awst a’r 25ain Medi 2024. Addaswyd rhai manylion am y dyluniad mewn ymateb i ymatebion i’r ymgynghoriad.

Ymgynghoriad Teithio Llesol Ffordd Woodstock, Awst – Medi 2024 

Edrychodd cyfanswm o 72 o bobl yn fanwl ar y cynigion ac ymateb i’n ymgynghoriad, naill ai yn y digwyddiad wyneb yn wyneb ar 25 Medi 2024 neu drwy’r arolwg ar-lein, oedd ar-lein rhwng 27 Awst a 27 Medi 2024. 

Yn ogystal â’r arolwg ar-lein, oedd ar gael i’r cyhoedd yn gyffredinol, cafodd fersiwn o’r arolwg gyda mân ddiwygiadau ei ddosbarthu i fyfyrwyr Ysgol Cil-y-coed a chafwyd 183 ymateb i’r arolwg ysgol. 

O’r arolwg ysgol: Cafwyd ymateb cadarnhaol iawn i’r holl opsiynau a gynigiwyd, gyda mwy o fyfyrwyr yn meddwl y byddai’r newidiadau a gynigir yn cael effaith gadarnhaol yn hytrach nag effaith negyddol. Yn arbennig, cafodd ail-ddylunio Ffordd Woodstock a’r mannau croesi a gynigir ar gyffordd Lôn y Felin fwyafrif o ymatebion yn dweud y byddai’r newidiadau hyn yn cael effaith gadarnhaol. 

O’r arolwg cyhoeddus: Drwyddi draw, roedd 63% o ymatebwyr yn ‘cytuno’ neu yn ‘cytuno yn gryf’ fod wyneb y droedffordd o amgylch Ffordd Woodstock yn is na’r safon. Roedd 53% o’r ymatebwyr yn ‘cytuno’ neu’n ‘cytuno yn gryf’ fod mannau croesi yn yr ardal yn is na’r safon. Dywedodd ychydig dros 30% o ymatebwyr nad oeddent yn teimlo’n ddiogel yn cerdded drwy’r ardal ar hyn o bryd oherwydd y seilwaith gwael neu gyflymder a nifer y cerbydau modur a dywedodd 32% o ymatebwyr y byddai’r gwelliannau yn gwneud iddynt deimlo’n fwy diogel a chysurus yn defnyddio Ffordd Woodstock. 

Dywedodd bron 14% o ymatebwyr y byddai’r gwelliannau yn gwneud iddynt newid eu dull trafnidiaeth presennol. 

Roedd y sylwadau cadarnhaol am y cynllun yn cynnwys y byddai rhoi croesiad yng nghyffordd Ffordd Woodstock a Lôn y Felin yn welliant, yn arbennig ar gyfer plant ysgol sy’n ceisio croesi’r ffordd yn y lleoliad hwn. Cyfeiriodd nifer o ymatebwyr at broblemau yn gysylltiedig gyda’r sefyllfa bresennol amser mynd i’r ysgol a gadael yr ysgol. 

Credai rhai ymatebwyr y byddai ail-ddylunio Ffordd Woodstock yn cael canlyniadau negyddol yn hytrach na chadarnhaol. Roedd pryder gan rai am yr angen am y cynllun a’i gyllid, y potensial ar gyfer gwrthdaro rhwng defnyddwyr llwybr, yr effaith ar barcio preswylwyr a phosibilrwydd tagfeydd traffig neu golli lled ffordd. Byddwn yn trafod y pryderon hyn drwy’r dyluniad manwl, gan ddefnyddio arfer gorau a dadansoddi effaith y safle lleol. Mae manylion pellach yn yr adran adborth isod. 

Themâu adborth 

Cafwyd cyfanswm o 57 o sylwadau ansoddol o’r ymgynghoriad cyhoeddus ehangach a chafwyd 30 arall o sylwadau ansoddol gan fyfyrwyr ysgol. Mae’r tabl isod yn crynhoi’r sylwadau ansoddol dan benawdau thematig ac yn rhoi ymateb i bryderon a ddynodwyd. 

Thema adborth o’r arolwg ymgynghoriad cyhoeddusMaint yr ymateb Ein hymateb 
Nid oes angen y cynllun 12Nod y cynllun yw gwella llwybrau teithio llesol sy’n gwasanaethu Ysgol Cil-y-coed a Chanolfan Hamdden Cil-y-coed i roi rhwydwaith cydlynol o lwybrau fydd yn integreiddio ac ategu cynlluniau teithio eraill a chynlluniau adfywio yng Nghil-y-coed. 
Mae angen y cynllun i wella diogelwch Ffordd Woodstock ac ateb anghenion teithio pobl yr ardal mewn modd cynaliadwy. Caiff ei gynllunio i fynd i’r afael â phroblemau lluosog mewn dull sy’n effeithiol o ran cost, yn fwy holistig ac yn tarfu llai na’u trin yn unigol. Mae achos busnes Cyngor Sir Fynwy ar gyfer y cynllun hwn wedi sicrhau cyllid ac wedi dangos ei fod yn ateb nodau Cronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.  
Ni fydd y cynllun yn annog teithio llesol 2Mae’r cynllun yn mynd i’r afael â phroblemau ar Ffordd Woodstock a gafodd eu dynodi drwy’r achos busnes, tebyg i bryderon diogelwch am fannau croesi, lled annigonol y droedffordd a safon wael y wyneb. Mae’r materion hyn yn debygol o atal cerddwyr, olwynwyr neu seiclwyr posibl a fyddai’n defnyddio teithio llesol pe byddai’r problemau hyn yn cael eu datrys. (Dywedodd 47% o ymatebwyr y byddai’r cynllun yn eu hannog i gerdded, olwyno neu seiclo). 
Dylid gwario’r arian ar bethau eraill  6Cafwyd yr arian ar gyfer datblygu ac adeiladu’r cynllun hwn o Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru. Mae hwn yn arian Llywodraeth Cymru a gafodd ei neilltuo i ariannu datblygu a gweithredu cynlluniau teithio llesol. Ni fedrir defnyddio’r gronfa ar gyfer unrhyw ddibenion eraill.
Rwy’n bryderus y bydd y gwaith adeiladu yn tarfu 2Bydd Cyngor Sir Fynwy yn dyfarnu gwaith adeiladu’r cynllun i gontractwr yn seiliedig ar elfennau safon a phris. Bydd yr elfennau ansawdd yn cynnwys gwybodaeth fanwl am y dull adeiladu ac amseru. Bydd y sgôr a roddir am y dull adeiladu yn rhoi ystyriaeth i’r amseru a ddefnyddir gan y contractwr a’r mesurau lliniaru a ddisgrifir ganddynt. 
Caiff yr effeithiau ar breswylwyr lleol a mynediad i eiddo preifat ei leihau gymaint ag sy’n bosibl. 
Bydd y cynllun yn cynyddu tagfeydd traffig a’i gwneud yn fwy anodd i yrru drwy Gil-y-coed 7Cafodd effaith gosod signalau ar y gyffordd ar draffig eu profi yn defnyddio model signalau traffig a symudiadau presennol cerddwyr, beiciau a cherbydau drwy’r gyffordd ar adegau brig. Dengys canlyniadau’r model y byddai gosod signalau ar y gyffordd yn rhwydd o fewn capasiti gan ragweld uchafswm hyd ciwiau o 4 cerbyd  ac uchafswm oedi o lai na 1 munud fesul cerbyd. Mae’r effeithiau ar draffig o osod signalau ar y gyffordd hefyd yn debyg o ostwng dros gyfnod fel canlyniad i’r gwelliannau teithio llesol annog pobl i symud o gerbydau i gerdded, seiclo ac olwyno ar gyfer teithiau beunyddiol byr. 
Dengys arsylwadau ac arolygon ar y safle y caiff y symudiadau croesfan eu gwasgaru ar hyd pob braich o’r gyffordd yn ogystal ag yn lletraws ar draws Ffordd Woodstock, gan gadarnhau’r angen am gyfnod traffig coch-i-gyd i ddarparu ar gyfer yr holl symudiadau croesi cerddwyr a beiciau. Bydd y signalau traffig hefyd yn atal cerbydau rhag stopio wrth geg y gyffordd i ganiatáu i fyfyrwyr ysgol adael. Mae hyn yn digwydd ar hyn o bryd gan achosi mwy o dagfeydd a dryswch a chynyddu’r potensial ar gyfer damweiniau. 
Rwy’n bryderus am yr effaith ar barcio ar gyfer preswylwyr  3Bydd parcio yn dal i fod ar gael i breswylwyr barcio ar Ffordd Woodstock a Lôn y Felin. Mae’r unig newidiadau yn digwydd yn agos iawn at gyffordd Lôn y Felin lle caiff llinellau melyn dwbl eu hymestyn ar hyd Ffordd Woodstock i hwyluso gweithredu’r gyffordd gyda signalau, gan wella gwelededd ar gyfer gyrwyr sy’n gadael o Lôn y Felin. Cedwir mynediad i dramwyfeydd preswyl ar Ffordd Woodstock a Lôn y Felin.   
Rwy’n bryderus am lwybrau rhannu defnydd 3Mae’r gwelliannau a gynigir yn lledu’r troedffyrdd i isafswm o dair metr i roi llwybrau i’w rhannu ar gyfer cerddwyr a seiclwyr. Nid oes digon o led i ddarparu cyfleusterau ar wahân i gerddwyr a seiclwyr heb effeithio ar y gofod ffordd sydd ar gael ar gyfer llif dwy ffordd ar gyfer cerbydau a pharcio preswylwyr. Cafodd llwybrau rhannu defnydd eu defnyddio yn llwyddiannus iawn mewn mannau eraill yn y sir. 
Cynlluniwyd y llwybr rhannu defnydd a gynigir i fod yn dair metr o led, yn unol â chanllawiau Teithio Llesol. Mater i’r heddlu yw defnydd anghyfreithlon o lwybrau teithio llesol gan feiciau modur ac e-sgwteri a dylid hysbysu’r heddlu amdanynt drwy ffonio 111. 
Bydd y cynigion yn cynyddu diogelwch yn y gyffordd  5Nodwyd y sylwadau – diolch
Mae angen mannau croesi ychwanegol ar Ffordd Woodstock a chânt eu croesawu 16Nodwyd y sylwadau – diolch 
Ystyried adeiladu llwybr arall ar gyfer plant ysgol i ddod allan ar Ffordd Woodstock 3Mae hyn yn rhan o gam gwelliannau yn y dyfodol fel rhan o brosiect ehangach Cyswllt Addysg a Hamdden Cil-y-coed. 
Pam nad ydych chi wedi ystyried symud y safle bws ar Lôn y Felin? 1Cafodd ailddylunio neu symud y gilfan bws ar Lôn y Felin ill dau eu hystyried fel rhan o’ rhestr hir o opsiynau yn ystod WelTAG Cam 1 a’r opsiynau ar y rhestr fer yn ystod WelTAG Cam 2. Fodd bynnag, dangosodd dyluniad cysyniad yr opsiynau hyn y byddai symud y gilfan bws yn ei gwneud yn angenrheidiol i roi darpariaeth ar gyfer bysus ysgol mewn man arall a phenderfynwyd fod yr holl opsiynau a ddynodwyd yn cynnig llai o fuddion o ran nifer lleoedd, agosatrwydd a hygyrchedd at yr ysgol a chostau adeiladu uwch. 
Dylai’r arian fynd tuag at dalu am lwybr i Fagwyr/Rogiet/Gwndy. 4Mae Cyngor Sir Fynwy yn datblygu rhwydwaith teithio llesol ar gyfer y boblogaeth gynyddol yn ardal Glannau Hafren, gydag ystod o gynlluniau a mân weithiau yn cael eu cyflwyno fel mae cyllid a phrosesau yn caniatáu. Gelwir hyn yn Gynllun Teithio Llesol Glannau Hafren. Mae cynllun Cam 1 Cyswllt Addysg a Hamdden Cil-y-coed yn rhan allweddol o Gynllun Teithio Llesol Glannau Hafren. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma:: 
https://www.monlife.co.uk/cy/outdoor/active-travel/trosolwg-cynllun-strategol-cil-y-coed/ 
Mae hyn yn wahanol i gynigion blaenorol y bu ymgynghori arnynt 1Nid yw’r cynigion ar gyfer Ffordd Woodstock wedi newid yn sylweddol ers datblygu’r opsiwn hwn. Cyflwynwyd opsiynau tebyg ar gyfer cyffordd Ffordd Woodstock a Lôn y Felin a lledu troedffyrdd ar hyd Ffordd Woodstock yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Hydref 2022. Fodd bynnag, roedd yr ymgynghoriad blaenorol yn gofyn am farn preswylwyr ar opsiynau a ystyriwyd ar gyfer prosiect ehangach Cyswllt Addysg a Hamdden Cil-y-coed.
Cyfanswm sylwadau unigryw 87

Trosolwg – cynnig Cam 1

Bydd cam 1 o Gynllun Addysg Teithio Llesol Cil-y-coed yn uwchraddio llwybrau teithio llesol a chroesfannau ar hyd Ffordd Woodstock i fynd i’r afael â materion diogelwch, ansawdd llwybrau a thagfeydd. Bydd y gwelliannau i lwybrau yn y cam hwn yn cysylltu â chynllun Teithio Llesol ehangach Glannau Hafren sydd i’w gwneud yn ddiweddarach. Mae’r adran hon wedi’i symud ymlaen ar frys oherwydd ei bod yn llwybr mawr i wasanaethau lleol pwysig, gan gynnwys Ysgol Cil-y-coed, Meddygfa Gray Hill, y Llyfrgell a’r Ganolfan Hamdden. Mae’r ardal a gwmpesir gan y cynllun fel yr ymgynghorwyd arni bellach wedi’i lleihau i gwmpasu’r rhan o Ffordd Woodstock o gyffordd Lôn y Felin i’r groesfan ger Aldi.

  • Lledu ac ail-wynebu llwybr troed ochr ddeheuol Ffordd Woodstock   o gyffordd Lôn y Felin i’r groesfan y tu allan i Aldi i wneud llwybr teithio llesol 3 metr o led o led a rennir.
  • Gosod goleuadau traffig gyda chyfleusterau croesi Twcan clyfar ar gyffordd Lôn y Felin ar Ffordd Woodstock   (ger Meddygfa Gray Hill/Ysgol Cil-y-coed) i wella diogelwch llif traffig (cerbydau a theithio llesol). Mae hyn yn cynnwys tair croesfan ochrol a chroesfan groeslinol o Cwrt Norman i gornel Ysgol Gray Hill/Cil-y-coed, er mwyn rheoli prif lif y traffig teithio llesol yn effeithlon ar adegau prysur.
  • Culhau ac ail-wynebu troedffordd ochr ddeheuol Ffordd Woodstock o Heol Durand i Lôn y Felin i – o leiaf – lled o 1.5 metr. Bydd hyn yn caniatáu lledu’r palmant gyferbyn.
  • Trosi croesfan Pâl bresennol (arwyddol, i gerddwyr yn unig) y tu allan i Aldi yn groesfan Twcan (signal, cerdded a beicio).
  • Ail-leoli safleoedd bysiau Meddygfa Gray Hill (ochr ogleddol a de) i’r dwyrain ar hyd Ffordd Woodstock, tuag at y llwybr i gerddwyr i ganol y dref, ac i ffwrdd o gyffordd Lôn y Felin.
  • Uwchraddio llochesi bws i gynnwys byrddau gwybodaeth a tho gwyrdd (sedum).
  • Cael gwared ar safle bws Aldi (ochr ddeheuol) gan y byddai safle bws Gray Hill yn cael ei symud yn nes.
  • Arwyddion i nodi gorchymyn traffig i atal Cerbydau Nwyddau Trwm rhag troi oddi ar Ffordd Woodstock  tua’r de i Lôn y Felin (bysiau wedi’u heithrio).
  • Integreiddio palmentydd botymog, cyrbiau isel ac arwyddion drwy’r cyfan i wella gwelededd y llwybr, a mynediad i bobl anabl.
  • Diweddaru maricau ffordd.

Llun: Ffordd Woodstock a’r ardal leol

Ymgynghoriad

Amlygodd ymgynghoriad hanesyddol â rhanddeiliaid lleol risgiau a rhwystrau i deithio llesol yn ardal Ysgol Cil-y-coed ac ardal Woodstock Way, gan arwain at ddyluniad cynllun teithio llesol Woodstock Way. Cynhaliwyd ymgynghoriad ar ddyluniad manwl cam 1 rhwng 27ain Awst a’r 25ain Medi 2024. Addaswyd rhai manylion am y dyluniad mewn ymateb i ymatebion i’r ymgynghoriad.

Lluniau o’r cynllun

I gynyddu/lleihau maint y diagram, cliciwch ar y botymau plws/’+’ a minws/’-‘ yn y bar ar frig ffenestr y diagram. I symud ar draws ac i fyny/i lawr, llusgwch y llithryddion ar draws ochr waelod ac ochr dde’r ffenestr diagram. I agor y diagram fel tudalen lawn, cliciwch ar y ddolen o dan ffenestr y diagram.  Bydd hyn yn agor y diagram mewn ffenestr newydd, gyda’r un rheolyddion cynyddu/lleihau a symud ag a ddisgrifir uchod. Gallwch hefyd lawrlwytho’r ddelwedd trwy glicio ar ‘Download’

 Darlun y cynllun – y dyluniad presennol:

Darlun y cynllun – y dyluniad arfaethedig:

Darlun y cynllun – Manylion dyluniad  arfaethedig cyffordd Woodstock Way/Mill Lane:    

Cwestiynau ac Atebion, Cynllun Addysg Teithio Llesol Cil-y-coed, Ffordd Woodstock

Beth yw Teithio Llesol? 

Mae Teithio Llesol yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio cerdded, olwyno neu feicio i gyrchfan (a elwir hefyd yn “deithiau pwrpasol”). Nid yw’n cynnwys cerdded a beicio a wneir ar gyfer hamdden yn unig,  er y gallai wella gweithgareddau hamdden yn sylweddol trwy helpu i gysylltu rhwydweithiau. Gellir defnyddio teithio llesol i gyrraedd yr ysgol, gwaith, gwasanaethau a siopau, neu fel un o sawl dull teithio ar daith hirach – er enghraifft, cerdded i’r orsaf i ddal bws neu drên. Mae strategaeth teithio llesol Cyngor Sir Fynwy yn canolbwyntio ar deithiau o dair milltir neu lai, sy’n golygu gwella seilwaith cerdded a beicio o fewn cymunedau, i wneud teithio llesol y dewis naturiol cyntaf ar gyfer teithiau lleol.

Ariennir y cynllun hwn drwy Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, gyda chyllid yn cael ei ddyfarnu drwy broses geisiadau gystadleuol. Mae’r cyllid a geir yn benodol i’r cynllun ac ni ellir ei wario ar unrhyw beth arall.

Pam fod angen y cynllun hwn?

Mae angen y cynllun hwn i wella diogelwch Ffordd Woodstock   a diwallu anghenion teithio pobl yr ardal yn gynaliadwy. Fe’i cynlluniwyd i fynd i’r afael â materion lluosog, mewn ffordd sy’n gost-effeithlon, yn fwy cyfannol ac yn llai aflonyddgar na mynd i’r afael â nhw’n unigol. Mae achos busnes Cyngor Sir Fynwy (CSF) ar gyfer y cynllun hwn wedi sicrhau cyllid ac yn ceisio sicrhau’r canlyniadau mwyaf buddiol, trwy ei ffocws strategol ar gysylltiadau teithio llesol i addysg a gwasanaethau, sydd yn yr ardal hon yn cynnwys Ysgol Cil-y-coed, Canolfan Hamdden, meddygfa, canol y dref a’r Llyfrgell/Hwb.

Mae Ffordd Woodstock yn ffordd brysur lle mae digwyddiadau peryglus ar y ffyrdd yn ymwneud â myfyrwyr Ysgol Cil-y-coed wedi cael eu hadrodd, a gwelwyd lefelau traffig uchel yn ystod cyfnodau brig gan achosi tagfeydd a phryderon diogelwch. Mae dyluniad yr ardal yn effeithio ar sut mae pobl yn teithio, a diogelwch ac atyniad y profiad hwnnw.

Ein gweledigaeth ar gyfer yr ardal yw un lle mae gan bobl fynediad teg a chyfleus at yr opsiynau teithio a thrafnidiaeth sydd fwyaf addas ar gyfer pob taith, a thrwy hynny wella cysylltedd a lleihau’r anghydraddoldebau a grëir gan orddibyniaeth ar yrru. Mae ychydig dros un o bob pump oedolyn yn Sir Fynwy yn ordew, ac nid yw mwy na thraean yn gwneud digon o weithgarwch corfforol (ffynhonnell: Sefydliad Prydeinig y Galon 2023). Cydnabyddir yn gyffredinol bod angen gwella llwybrau cerdded a beicio fel bod teithio llesol (cerdded, olwyno a seiclo ar gyfer teithiau pwrpasol) yn opsiwn deniadol a dichonadwy, oherwydd mae hynny’n dylanwadu ar sut ydym yn ‘dewis ein dull teithio’ a’n arwain at sgil-effaith economaidd drwy ganlyniadau i’n hiechyd a’n lles, yr amgylchedd ac ansawdd yr ardal leol.

Er mwyn deall ymhellach y materion teithio a thrafnidiaeth lleol o amgylch Ffordd Woodstock,  gwnaethom ymgysylltu â’r prif ffynonellau traffig lleol (o unrhyw fodd, h.y. gyrwyr a defnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol). Yn 2020-2022, comisiynodd Amey Consulting gan CSF i astudio’r ardal o amgylch Ysgol a Chanolfan Hamdden Cil-y-coed. Mae sgyrsiau wedi eu cynnal gyda meddygfa Gray Hill. Ymgynghorwyd â defnyddwyr y ganolfan hamdden yn 2020. Ymgynghorwyd â myfyrwyr Ysgol Cil-y-coed yn 2021 ar faterion a wynebwyd wrth gymudo i’r ysgol. Soniwyd yn rheolaidd am beryglon, yn ymwneud â phalmentydd cul, traffig cerbydau nwyddau trwm, parcio anghymdeithasol a thagfeydd yn ystod amseroedd casglu a gollwng o’r ysgol. Soniodd myfyrwyr am isadeiledd cyfyng ac anwastad i gerddwyr a phalmentydd anhygyrch, gyda diffyg cyrbiau isel i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn hyd yn oed yn eu gorfodi i ddefnyddio’r ffordd. Nodwyd hefyd bod llwybrau beicio yn annigonol ac yn anghyson. Mae’r lefel uchel o draffig yn ei gwneud hi’n anodd beicio ar y ffyrdd heb gyfleusterau ar wahân. Roedd croesi ffyrdd yn anhawster arall a wynebwyd gan ddisgyblion Cil-y-coed, boed yn cerdded, olwyno neu’n beicio, oherwydd lefel a chyflymder y traffig. Amlygodd yr ymatebion yr angen am groesfan ar Ffordd Woodstock   ar gornel Lôn y Felin, gan fod y groesfan ffurfiol agosaf yn rhy bell o’r ysgolion ac nad yw’n gwasanaethu traffig teithio llesol o dde a gorllewin Cil-y-coed trwy Ffordd Woodstock a Chwrt Norman. Roedd ffactorau eraill a ddylanwadodd ar y defnydd o deithio llesol i gyrraedd yr ysgol yn cynnwys pwysau amser, pellter, amodau tywydd ac agwedd gymdeithasol cymudo gyda chyfoedion.

O astudiaeth o’r ardal ehangach, mae’r materion penodol hyn ar Ffordd Woodstock:

  • Pryderon diogelwch mawr yn gysylltiedig â myfyrwyr yn croesi ar y gyffordd i bob cyfeiriad. Gwelededd gwael i yrwyr ar gyffordd Lôn y Felin oherwydd gor-barcio ar Ffordd Woodstock
  • Lled llwybr troed annigonol yn y safle bws gyferbyn â Meddygfa Gray Hill, gan olygu bod disgyblion yn rhwystro’r llwybr troed ac yn gorlifo ar y ffordd gerbydau.
  • Cyfyngiad lled y llwybr troed ac ansawdd arwyneb gwael
  • Diffyg arwyddion angenrheidiol ar Ffordd Woodstock

Gwelwyd croesfannau/parcio anrhagweladwy hefyd. Yna paratôdd yr ymgynghorwyr y cynllun arfaethedig fel Achos Busnes Llawn, yn seiliedig ar ystod o dystiolaeth gan gynnwys cyfweliadau, arsylwi, arolygon traffig (gan gynnwys cyfrif y sawl sy’n cerdded a beicio) ac astudiaethau o trefniadau draenio, topograffeg, perchnogaeth tir ac ati, i fodloni amcanion y Cyngor a’r Gronfa Teithio Llesol.

Llun: Lluniau o weithdai rhanddeiliaid Amey ac ymweliad safle

Mae’r cynllun hwn wedi’i ddylunio o amgylch yr ymgynghoriad hwn, a ddangosodd fod angen gwelliannau i’r seilwaith diogelwch a theithio llesol. Y tu hwnt i fesurau diogelwch a rheoli traffig, mae angen llwybrau teithio llesol o ansawdd uchel i gefnogi pawb, gan gynnwys myfyrwyr, i fyw bywydau egnïol, iach a chysylltiedig.

Pam fod Ffordd Woodstock wedi cael ei flaenoriaethu dros gynlluniau eraill?

Gellir bwrw ymlaen â nifer cyfyngedig o gynlluniau bob blwyddyn. Sicrhawyd cyllid ar gyfer y cynllun hwn eleni, gan fod y gwaith  ymchwil a dylunio wedi cyrraedd y cam angenrheidiol ar gyfer ymgynghori a gweithredu. Nodwyd Ffordd Woodstock fel llwybr cerdded/olwyn a beicio yn ymgynghoriad ATNM (Map Rhwydwaith Teithio Llesol Llywodraeth Cymru) yn 2020-2021. Mae’n llwybr Effaith Sylweddol Iawn ar offeryn effaith llwybr Trafnidiaeth Cymru, yn seiliedig ar ei leoliad canolog a’i agosrwydd at ysgolion a gwasanaethau eraill, ac mae hyn yn tanlinellu’r angen i fynd i’r afael â materion diogelwch ar y llwybr fel mater o frys.

Rydym yn adeiladu rhwydwaith o lwybrau ledled y Sir. Mae Ffordd Woodstock a’i chyffordd â Lôn y Felin wedi’i flaenoriaethu fel cynllun teithio llesol oherwydd ei fod yn brif lwybr i Ysgol Cil-y-coed, gyda risgiau’n gysylltiedig ag amseroedd dechrau a gorffen ysgolion, ond mae hefyd yn llwybr canol tref i gyrchfannau eraill sy’n denu traffig, boed hynny ar droed, olwyno, beicio, sgwter symudedd, bws neu gerbyd preifat. Mae cyrchfannau yng nghyffiniau’r ffordd ganolog hon yn cynnwys Meddygfa Gray Hill, canol y dref, safleoedd bysiau, y ganolfan hamdden, Llyfrgell/Hwb a TogetherWorks, archfarchnadoedd, meysydd parcio a gwasanaethau lleol eraill, ac mae traffig trwodd a theithiau hamdden i’w hystyried hefyd.

Mae cynllun Ffordd Woodstock wedi’i neilltuo ac wedi’i gyfyngu gan arian o Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2024-25. Llwyddodd CSF i sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y cynllun hwn drwy flaenoriaethu llwybrau canolog, potensial uchel ger ysgolion, canolfannau trafnidiaeth a gwasanaethau eraill. Mae’r llwybr hwn wedi’i flaenoriaethu oherwydd y materion diogelwch, ac oherwydd ei fod yn bodloni’r meini prawf i wneud y mwyaf o effaith buddsoddiad mewn teithio llesol.

Pryd fydd y llwybr yn cael ei adeiladu? 

Mae Cyngor Sir Fynwy yn bwriadu bwrw ymlaen â’r prosiect hwn yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a rhanddeiliaid, diwygio’r dyluniadau wedi hynny a phroses dendro lwyddiannus.

Sut bydd y cynllun yn cael ei ariannu?

Mae’r cynllun i’w ariannu drwy Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru. Mae’r ffrwd ariannu hon wedi’i chlustnodi i wella’r seilwaith teithio llesol o fewn aneddiadau mwy. Mae gwelliannau i’r seilwaith teithio llesol yn cefnogi meysydd polisi eraill, megis iechyd a lles, ansawdd aer, diogelwch ar y ffyrdd, y Ddyletswydd Economaidd Gymdeithasol a chreu lleoedd/adfywio. Mae’r cyllid yn cael ei weinyddu gan Trafnidiaeth Cymru ar sail gystadleuol, lle mae Cyngor Sir Fynwy wedi gwneud cais am y cyllid i wella ardal Cil-y-coed ac ardal ehangach Glannau Hafren, gan greu mynediad diogel a theg at drafnidiaeth gynaliadwy ar gyfer teithiau bob dydd yng Nglannau Hafren.

Amcanion grant y Gronfa Teithio Llesol, a ddefnyddir i asesu ceisiadau am arian

  • Annog newid dull teithio o gar i deithio llesol ar wahân neu ar y cyd â thrafnidiaeth gyhoeddus
  • Gwella mynediad teithio llesol i gyflogaeth, addysg, gwasanaethau allweddol a chyrchfannau allweddol eraill sy’n cynhyrchu traffig
  • Cynyddu lefelau teithio llesol
  • Cysylltu cymunedau

A sicrhawyd grantiau ar gyfer y cynigion?

Mae cyllid wedi’i sicrhau mewn egwyddor i gwblhau’r gwaith arfaethedig yn ystod y flwyddyn ariannol hon yn dilyn cyfnod o ymgynghori ac unrhyw newidiadau dylunio dilynol. Mae’r cyllid hwn wedi’i gyfyngu gan amser ac wedi’i neilltuo.

Beth am weddill yr ardal – a yw hyn yn golygu bod cynlluniau eraill yng Nglannau Hafren yn cael eu dad-flaenoriaethu?

Na, dyma’r cynllun sydd yn cydymffurfio fwyaf gyda’r arweiniad ar arfarnu Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru (WelTAG).

Mae Cyngor Sir Fynwy yn datblygu rhwydwaith teithio llesol ar gyfer y boblogaeth gynyddol ar draws ardal Glannau Hafren, gydag amrywiaeth o gynlluniau a mân waith yn cael eu dwyn ymlaen fel y bydd cyllid a phrosesau’n caniatáu. Gelwir hyn yn Gynllun Teithio Llesol Glannau Hafren. Amlygodd yr arolwg o fyfyrwyr Ysgol Cil-y-coed yn 2022 hefyd yr angen am lwybrau teithio llesol diogel ac ymarferol yn cysylltu â Chil-y-coed ar gyfer y gwasanaethau sy’n cael eu rhannu ar draws Glannau Hafren fel yr ysgol uwchradd, y llyfrgell a’r ganolfan hamdden. Mae CSF yn gweithio drwy Fap Rhwydwaith Teithio Llesol Llywodraeth Cymru a Chronfa Teithio Llesol i ddiogelu opsiynau teithio a thrafnidiaeth ar gyfer trigolion Cil-y-coed, Crug, Caerwent, Porthsgiwed, Gwndy, Rogiet a Magwyr, a chefnogi teithio cynaliadwy i mewn ac allan o’r ardal.

Mae map teithio llesol Glannau Hafren (isod) yn arwydd o’r meysydd ffocws cyffredinol wrth i ni ddatblygu llwybrau i gyrchfannau canolog yng Nglannau Hafren. Dangosir cynllun Ffordd Woodstock   ar y map fel 6. Cynllun Addysg Cam 1 (llinell goch). Dangosir llwybrau ar y map at ddibenion enghreifftiol ac nid ydynt yn diffinio’r cynllun rhwydwaith terfynol. Mae rhannau eraill o rwydwaith teithio llesol cyffredinol Glannau Hafren mewn camau datblygu cynharach, a byddwn yn diweddaru’r map pan fydd aliniadau llwybr wedi’u sefydlu. Bydd cysylltiadau drwy ganol tref Cil-y-coed yn destun astudiaeth ar wahân.

Pam Ffordd Woodstock ac nid Heol Casnewydd?

Roedd Heol Casnewydd yn destun cyfnod prawf o gau yn ystod hydref 2022, a dangosodd ymgynghoriad ar y cynllun yn dilyn y treial hwn yr awydd cryf i’r ffordd aros ar agor i draffig trwodd  dwy ffordd. Nid yw’r lle sydd ar gael ar y ffordd gerbydau yn caniatáu gwelliannau sylweddol i’r seilwaith cerdded a beicio ar ei hyd. Cyflwynwyd cynnig ariannu i ail-ddylunio’r ffordd yn wyneb canlyniadau’r ymgynghoriad a gwelliannau i gerddwyr lle bo modd. Yn anffodus ni chefnogwyd hyn gan y corff cyllido.

Yn ystod y cynnydd ar Heol Casnewydd, roedd cynllun ar wahân ar y gweill yn edrych ar welliannau o amgylch Ffordd Woodstock a Lôn y Felin, gan gynnwys gwella cyfleusterau croesi i gerddwyr yng nghyffiniau’r ysgol. Cafodd y cynllun hwn sylw’r cyllidwyr a dyma’r hyn a gyflwynir yma nawr.

A fydd traffig yn cael ei ddargyfeirio i Heol Casnewydd?

 Bydd Ffordd Woodstock yn parhau i fod ar agor i draffig dwy ffordd a bydd lled y ffyrdd yn aros o fewn safonau. Ni ragwelir unrhyw effaith ar draffig cerbydau modur gyda’r terfyn cyflymder presennol o 20mya.

Sut bydd hyn yn effeithio ar barcio?

Bydd ffordd leol yn culhau o amgylch cyffordd Ffordd Woodstock/Lôn y Felin wrth y groesfan newydd â signalau. Mae dadansoddiad tracio cerbydau wedi sefydlu dichonoldeb y lled ffyrdd arfaethedig. Er mwyn gwneud y mwyaf o lefydd parcio o fewn yr ailgynllunio, ac fel mesur diogelwch, bydd Gorchymyn Rheoleiddio Traffig (TRO) newydd yn atal lorïau mawr iawn rhag mynd i mewn i Lôn y Felin.

Bydd y cyfyngiad safonol ar barcio anffurfiol yng nghyffiniau cyffyrdd, yn unol â Rheolau’r Ffordd Fawr, yn cael ei gynnal i ganiatáu llinellau gweld diogel o amgylch y croesfannau. Bydd mynediad i dramwyfeydd preswyl ar Ffordd Woodstock yn cael ei gynnal.

Mae yna lawer o leoedd parcio i ymwelwyr ar Ffordd Woodstock, gyda maes parcio di-dâl CSF ar Ffordd Woodstock  a meysydd parcio Asda ac Aldi. Yn ogystal â chefnogi gwell defnydd o gapasiti ym maes parcio Cyngor Sir Fynwy drwy wella’r llinellau gweld mynedfa ar Ffordd Woodstock, nod y cynllun yw annog newid moddol (trosi rhai teithiau car byr i gerdded neu feicio) a thrwy hynny leihau’r pwysau ar barcio i’r rhai sydd angen i yrru.

Beth yw ‘llwybr cyd-ddefnyddio’?

Mae llwybr cyd-ddefnyddio yn llwybr i’w ddefnyddio gan unrhyw fodd o deithio llesol, boed yn gerdded, olwyno neu feicio, heb unrhyw nodweddion neu farciau gwahanu ffisegol. Mae’r llwybr cyd-ddefnyddio arfaethedig wedi’i ddylunio fel un tri metr o led, yn unol â chanllawiau’r Ddeddf Teithio Llesol. Mae defnydd anghyfreithlon o lwybrau teithio llesol gan feicwyr modur ac e-sgwter yn fater i’r heddlu a dylid rhoi gwybod am hyn drwy ffonio 111.

Llun: Llwybr cyd-ddefnyddio

Mae’r cynllun hwn yn cynnwys lledu rhannau o lwybrau troed Ffordd Woodstock i gynnwys llwybr cyd-ddefnyddio a fydd ar agor i’w ddefnyddio ar gyfer cerdded, olwyno (cadair olwyn, sgwter symudedd, sgwter cicio, ac ati) a beicio. Yn benodol, llwybr troed ochr ogleddol Ffordd Woodstock   o ben y B4245 i Ffordd Woodstock   i ychydig y tu hwnt i gyffordd Lôn y Felin, ac ochr ddeheuol llwybr troed Ffordd Woodstock   o gyffordd Lôn y Felin i’r groesfan y tu allan i Aldi. Bydd arwyddion yn cael eu gosod i ddangos dynodiad defnydd a rennir. Mae’r llwybr wedi’i gynllunio o amgylch arolygon o lifoedd teithio llesol lleol a modelu traffig.

Mae llwybrau defnydd a rennir yn caniatáu i bobl sy’n cerdded, olwyno a seiclo i ddefnyddio’r un llwybr, gyda digon o led iddo fod yn gyfforddus i gerdded gyda bygi, defnyddio sgwter symudedd, neu fynd gyda phlentyn ar feic. Sylw a ddaw o gynlluniau teithio llesol eraill yw bod llwybrau a rennir yn ffafriol i ddefnydd ystyriol ac arafach: – lle mae beicwyr eisiau teithio’n gyflym, maent yn dewis defnyddio’r ffordd yn lle hynny.

Sut mae’r cynllun hwn yn cysylltu â’r orsaf reilffordd?

Mae’r cynllun yn un rhan o gyfres o brosiectau a fydd yn cysylltu holl gymunedau Glannau Hafren. Bwriedir cysylltu prosiectau â’r gorsafoedd rheilffordd, a byddwn yn datblygu’r rhain fel y bydd adnoddau a blaenoriaethu yn caniatáu.

Sut mae’r cynllun hwn yn cysylltu â Lôn y Felin?

Mae cynllun Ffordd Woodstock   yn rhan o Lwybr Asgwrn Cefn yr Hafren. Gan adeiladu ar gynllun Ffordd Woodstock, mae dyluniadau’n cael eu datblygu (yn amodol ar gyllid a chaniatâd) i barhau â’r llwybrau teithio llesol defnydd a rennir o Ffordd Woodstock   i lawr Lôn y Felin i’r fynedfa i faes parcio’r Ganolfan Hamdden, gan gynyddu’r capasiti ar gyfer teithio llesol a chreu llwybr ‘Park and Stride’ mwy uniongyrchol i Ysgol Gyfun Cil-y-coed o faes parcio’r Ganolfan Hamdden. Bydd hyn yn mynd i’r afael â diogelwch a hygyrchedd llwybrau i Ysgol Cil-y-coed ac Ysgol Durand, tra’n gwella ansawdd lle a mannau gwyrdd ar hyd Lôn y Felin.

Oni fydd goleuadau traffig a chroesfannau newydd yn achosi tagfeydd traffig?

Profwyd effeithiau gosod signalau ar y gyffordd gan ddefnyddio modelu traffig LinSig o symudiadau cerddwyr, beicwyr a cherbydau a arsylwyd drwy’r gyffordd ar adegau prysur. Mae canlyniadau’r model yn dangos bod cyffordd â signalau ychydig yn uwch na’r capasiti yn ystod oriau brig y prynhawn (105%), ond mae hyn yn arwain at uchafswm hyd ciw o lai na 3 cherbyd yn y cyfnod brig a dylid ei liniaru dros amser drwy annog newid moddol. drwy well darpariaeth teithio llesol. Dylid cymharu’r modelu ciw â’r sefyllfa bresennol, sef diffyg croesfannau diogel, neu’r dewis arall a awgrymir, sef croesfan sebra a sawl croesfan anffurfiol a fydd yn achosi tagfeydd yn wahanol (gweler isod). Mae’n bosibl y bydd yna gynnydd tymor byr mewn tagfeydd ar ôl i’r cynllun gael ei adeiladu: mae hyn yn nodweddiadol o gyffyrdd wedi’u hailfodelu, gan ei bod yn cymryd ychydig wythnosau i bobl ddod i arfer â newidiadau i lwybr y maent yn gyfarwydd ag ef.

Mantais darparu croesfannau â signalau ar draws pob braich o’r gyffordd yw ei fod yn darparu ar gyfer yr holl symudiadau croesfannau i gerddwyr a beicwyr yn y modd mwyaf effeithlon posibl. Mae arsylwadau ac arolygon ar y safle yn dangos bod y symudiadau croesi wedi’u gwasgaru ar draws pob braich o’r gyffordd yn ogystal ag yn groeslinol ar draws Ffordd Woodstock. Bydd hefyd yn atal cerbydau rhag stopio yng ngheg y gyffordd i ollwng disgyblion allan (mae hyn yn digwydd ar hyn o bryd gan achosi tagfeydd a dryswch pellach a chynyddu’r posibilrwydd o wrthdaro).

Bydd datblygiadau mewn croesfannau a reolir gan signalau yn helpu i reoli llif traffig yn effeithlon: Yn gyntaf, bydd y signalau traffig newydd yn canfod presenoldeb cerbydau sy’n dod ar y brif reilffordd a’r ffordd ymyl, yn ogystal â cherddwyr a beicwyr yn aros wrth ymyl y palmant neu groesi’r gyffordd. Bydd y synwyryddion cerbydau yn blaenoriaethu amser golau gwyrdd i ofynion y brif ffordd ar Ffordd Woodstock a dim ond pan fydd galw gan draffig sy’n dod o Lôn y Felin, neu pan fo’r botwm gwthio yn cael ei wasgu ar gyfer y groesfan i gerddwyr/beicwyr, yn atal traffig y ffordd fawr. Yn ail, bydd synwyryddion ar y cyfleusterau croesi yn canfod presenoldeb cerddwyr a beicwyr ac yn ymestyn amser y cyfnod croesi i weddu. Mae hyn yn golygu bod traffig ond yn cael ei gadw gyhyd ag sydd angen ac mae’n darparu ar gyfer y rhai y gallai fod angen mwy o amser arnynt i groesi (fel yr henoed/ symudedd wedi ei effeithio). Yn olaf, bydd synwyryddion ar ymyl y ffordd yn gwirio presenoldeb pobl sy’n aros i groesi felly, os bydd rhywun yn pwyso’r botwm gwthio ond yn cerdded i ffwrdd, bydd y cyfnod croesi yn cael ei ganslo gan ganiatáu i draffig y brif linell barhau.

Oni fyddai croesfan syml, heb weddill y cynllun, yn gyflymach ac yn rhatach?

Pe bai un groesfan sebra yn cael ei gosod ar Ffordd Woodstock, yn lle’r cynllun teithio llesol arfaethedig, byddai hyn yn darparu ar gyfer un symudiad croesfan i gerddwyr yn unig, ond gallai achosi i draffig gael ei atal yn amlach oherwydd diffyg darpariaeth ar gyfer symudiadau croesi eraill a phroffil cyrraedd a gadael cyfnod brig yr ysgol. Mae’r prif groesfannau llinell ddymunol i gerddwyr (a sefydlwyd yn yr arolygon traffig paratoadol) yn canolbwyntio o amgylch cyffordd Lôn y Felin: byddai’n rhaid gosod croesfan sebra annibynnol yn y lleoliad hwn naill ai’n rhy bell o’r gyffordd i ddatrys y mater diogelwch, neu mi fyddai’n methu archwiliad diogelwch a’n methu cael ei adeiladu, heb y mesurau arfaethedig o’i amgylch.

Mae’r cynllun arfaethedig yn mynd i’r afael â materion cyfredol a phroblemau yn y dyfodol/cynyddol gyda ffynhonnell arian sicr. Mae perygl traffig ffyrdd wedi’i amlygu, ond ni fyddai gosod croesfan ar ei phen ei hun yn mynd i’r afael yn effeithiol â’r etifeddiaeth systemig o ran strwythur ac ymddygiad sy’n sail i’r mater diogelwch presennol. Yn enwedig ar amseroedd dechrau a gorffen ysgolion, mae angen amlwg am well hygyrchedd i lwybrau, rheoli llif traffig (teithio cerbydol a llesol), llwybrau ehangach a chroesfannau mwy diogel sy’n gwasanaethu sawl llwybr. Yn ogystal, mae potensial i fynd i’r afael â materion cynhwysfawr i wneud teithio llesol yn ddigon deniadol i gefnogi hyd yn oed mwy o bobl i adael y car gartref ar gyfer teithiau lleol. Mae’r cynllun hwn yn cynnwys seilwaith diogel ar gyfer olwynion a beicio, sy’n hanfodol i wneud teithio llesol yn hygyrch, yn ddiogel ac yn ymarferol. Mae’r cynllun hwn wedi’i gynllunio i fod yn gost-effeithiol ac yn uchelgeisiol wrth fynd i’r afael â materion lluosog, o gwestiynau brys am ddiogelwch ar y ffyrdd i broblemau mwy cyffredinol gydag iechyd y cyhoedd a chynaliadwyedd, mewn ffordd sy’n llai aflonyddgar na mynd i’r afael â nhw’n unigol.

Pam fod yn rhaid adeiladu’r cynllun i safonau Teithio Llesol?

Ariennir y cynllun hwn drwy Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru. Mae’r cyllid hwn wedi’i glustnodi ar gyfer teithio llesol ac, fel y cyfryw, rhaid i’r cynllun fodloni manylebau’r Canllawiau Ddeddf Teithio Llesol a thystiolaeth ei fod yn canolbwyntio ar sicrhau canlyniadau Strategaeth Trafnidiaeth Cymru gan gynnwys newid dulliau teithio, drwy’r broses arweiniad ar arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG).

Pam fod angen llwybrau teithio llesol yng Nghil-y-coed?

Gall cerdded a beicio fod yn ffordd ddefnyddiol, cost isel ac effeithlon o fynd o gwmpas y dref. Lle gall myfyrwyr gerdded i’r ysgol, maent yn gallu canolbwyntio’n well, cynnal iechyd da a meithrin cysylltiadau cymdeithasol. Mae CSF yn gweithio i’w cefnogi nhw, a phawb arall hefyd, i fod yn fwy egnïol oherwydd ei fod o fudd i iechyd a lles pawb, yn ogystal â’r amgylchedd a’r gymuned. Rydym wedi gweld cyfran gynyddol o deithiau byr, lleol yn cael eu gwneud mewn car. Mae hyn yn creu cylch dieflig o dagfeydd a theimlad o risg sy’n atal pobl rhag teithio llesol. Mae angen ail-ddylunio rhai llwybrau blaenoriaeth o amgylch ysgolion, megis cyffordd Ffordd Woodstock a Lôn y Felin, ar fyrder er mwyn hybu diogelwch, atyniad ac ymarferoldeb teithio llesol ar gyfer teithiau byr, lleol.

Beth am ddefnyddio llwybr y Brenin Siôr V?

Mae llwybr y Brenin Siôr V wedi’i gynnig fel llwybr amgen sy’n cysylltu Church Road â Gorsaf Cil-y-coed. Nid yw wedi’i flaenoriaethu ar gyfer cynigion datblygu na chyllid dros Ffordd Woodstock oherwydd ei leoliad, ac oherwydd ei fod yn gul ac yn ynysig mewn mannau, er ei fod yn parhau i fod ar y Map Rhwydwaith Teithio Llesol i fynd i’r afael ag ef yn y dyfodol. Mae Ffordd Woodstock, ar y llaw arall, gerllaw’r Ysgol Gyfun a bu digwyddiadau penodol o wrthdaro rhwng traffig ffyrdd a theithio llesol sydd wedi gwneud y ffordd hon yn ganolbwynt i’r gwelliannau dylunio diogelwch ac ansawdd. Mae Ffordd Woodstock yn llwybr llydan, gyda chapasiti posibl ar gyfer llawer iawn o draffig teithio llesol.

Pam fod yr safleoedd bysiau yn cael eu symud, ac un safle bws yn cael ei symud?

Bydd safleoedd bws Meddygfa Gray Hill (ochr ogleddol a de) yn cael eu hail-leoli tua’r dwyrain, tuag at yr archfarchnadoedd, yr Hyb a’r Llyfrgell a llwybr i gerddwyr i’r stryd fawr, ac i ffwrdd o gyffordd Lôn y Felin. Mae hwn wedi’i gynllunio i wella diogelwch a gwelededd ar y gyffordd a dosbarthu’r safleoedd bysiau ar Ffordd Woodstock yn well i ddod â safle bws Gray Hill yn nes at ganol y dref. Mae astudiaethau o lif traffig yn yr ardal wedi dangos bod safleoedd bysiau ar hyn o bryd yn rhy agos at y gyffordd sy’n creu risg ac yn gwneud profiad annymunol i’r rhai sy’n aros pan fo’r gyffordd yn orlawn. Bydd safle bws Aldi (ochr ddeheuol) yn cael ei symud gan y byddai safle bws Gray Hill 60 metr i ffwrdd, ac mae’r safleoedd bysiau canlynol yn hygyrch yng Nghroes Cil-y-coed. Bydd safleoedd bysiau Cwrt Woodstock yn aros yn yr un lle. Bydd llwybr y bws cyhoeddus yn aros yr un fath. Bydd y llochesi bws yn cael eu huwchraddio i gynnwys byrddau gwybodaeth a tho gwyrdd (sedum) ar gyfer mynediad a manteision amgylcheddol.

Pam nad yw’r cynllun yn ymestyn o amgylch cornel Asda?

Darparwyd cyllid i fynd i’r afael â phroblemau o amgylch yr ysgol. Aseswyd y dylai’r cam hwn o’r dyluniad ddod i ben wrth groesfan Aldi, lle bydd y prif lif o draffig teithio llesol yn mynd tuag at ganol y dref, yn hytrach na pharhau ar hyd Ffordd Woodstock. Mae darpariaeth llwybr troed o amgylch Asda eisoes yn ‘rollable’ ac o led addas, ac felly ni fyddai’n denu cyllid ar hyn o bryd.

Beth am fynediad i’r anabl?

Mae hygyrchedd y llwybr yn ganolog i’r dyluniad a’i gyllid, ac yn arbennig o bwysig i’w agosrwydd at Ganolfan Nurcombe Ysgol Cil-y-coed ar gyfer myfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), a’r feddygfa. Mae’r problemau presennol gyda phalmentydd lleol, gan gynnwys diffyg cyrbau isel, yn effeithio’n arbennig ar fynediad, diogelwch a chysur pobl ag anableddau, fel yr amlygwyd yn ein hymgynghoriad yn 2022.

Bydd llwybrau’n cael eu dylunio a’u hadeiladu yn unol â chanllawiau’r Ddeddf Teithio Llesol, gan sicrhau bod hygyrchedd yn cael ei ystyried drwyddi draw, o ran y seilwaith materol, yr arwyddion a’r wyneb, ac fel rhan o rwydwaith cysylltiedig. Mae hyn yn golygu bod dyluniad y cyfleusterau croesi ar gyffordd Lôn y Felin yn creu llwybr mwy cyfleus ac uniongyrchol, fel nad yw pobl yn cael eu gorfodi i wyro oddi ar eu llwybr mewn ffordd sy’n arbennig o anodd i’w defnyddio gan bobl â chyfyngiadau symudedd ac sy’n defnyddio cadeiriau olwyn.

Rydym am sicrhau bod llwybrau teithio llesol Ffordd Woodstock yn hygyrch ac yn ddeniadol i bawb, gan gynnwys y rhai ag anableddau a symudedd cyfyngedig, a/neu deithio gyda phlant a/neu fagiau. Mae llwybrau ehangach ac arwydd cliriach o lwybrau wedi’u cynllunio i leihau’r posibilrwydd o wrthdaro rhwng gwahanol ffrydiau traffig a gwella cysur a chymdeithasgarwch teithio llesol. Bydd croesfannau stryd mwy diogel, ffurfiol gyda chamau clyfar a arweinir gan synhwyrydd yn gwella ymhellach swyddogaeth hygyrch a greddfol y llwybrau teithio llesol.

Sut mae pobl i fod i gyrraedd canol y dref?

Ni fydd y cynllun hwn yn effeithio ar y llwybrau cerdded/olwyno presennol rhwng Ffordd Woodstock a chanol y dref. Bydd gwelliannau i gysylltiadau i ganol y dref yn cael eu gwneud yn ddiweddarach yn natblygiad rhwydwaith teithio llesol Glannau Hafren. Ar hyn o bryd, mae mynediad ‘rollable’ o Ffordd Woodstock   i ganol y dref ar hyd y ddau lwybr trwy Adeiladau Wesley (Bargain Booze/Davies & Son ac Aldi/Dominos) ac o’r Llyfrgell/Hwb i’r Groes, na fydd yn cael ei effeithio’n negyddol gan y cynllun hwn.

A fydd y cynllun yn mynd â masnach i ffwrdd o ganol Cil-y-coed?

Mae seilwaith teithio llesol o ansawdd da yn cefnogi siopau lleol a strydoedd mawr drwy ei gwneud yn haws i drigolion Cil-y-coed a Glannau Hafren fynd i ganol y dref. Rydym yn gweithio i wneud cerdded, olwyno a beicio i siopau lleol yn fwy deniadol a chyfleus yn lle gyrru allan o’r dref neu i’r archfarchnad. Mae mynediad at deithio llesol yn cefnogi adfywiad cymunedau llawn cymeriad, gwydn a chynaliadwy, er iechyd a lles trigolion presennol, poblogaeth leol sy’n tyfu ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Bydd y cynllun hwn yn gwella cysylltiadau â llwybrau cerdded/olwyno presennol rhwng Ffordd Woodstock a chanol y dref, gyda chamau diweddarach y cynllun yn cysylltu Lôn y Felin a gorsaf Cil-y-coed, er mwyn galluogi mwy o bobl leol i siopa’n lleol, gan elwa ar yr arbedion ariannol a’r cyfleoedd cymdeithasol a ddaw o gael mynediad gwell at deithio llesol.

Lle mae beicwyr eisiau cymudo heibio canol y dref, bydd y cynllun hwn yn gwella eu diogelwch ar Ffordd Woodstock, boed yn defnyddio’r ffordd neu’r llwybr teithio llesol. Mae canol tref Cil-y-coed i gerddwyr yn unig. Mae lle i sgwteri symudedd, a darperir mannau parcio beiciau ar y naill ben a’r llall i’r ardal i gerddwyr, gan roi mantais gystadleuol i deithio llesol dros barcio ceir yn yr ardal y gellir ei gwella drwy wella llwybrau sy’n cysylltu â chanol y dref, fel Ffordd Woodstock.

Sut mae’r ymgynghoriad wedi cael ei hyrwyddo?

Mae’r ymgynghoriad wedi cael ei hyrwyddo trwy ddosbarthu posteri lleol, yn ogystal ag ar wefan Cyngor Sir Fynwy, papurau newydd lleol, a’r cyfryngau cymdeithasol. Rydym wedi darparu gwybodaeth am yr estyniad arfaethedig i linellau melyn dwbl i’r preswylwyr a fydd yn cael eu heffeithio’n uniongyrchol gan y newid hwn. Nod y dull hwn yw sicrhau, yn ehangach na’r rhai y mae’r estyniad llinellau melyn dwbl yn effeithio arnynt yn uniongyrchol, ein bod yn rhoi triniaeth gyfartal i farn pobl sy’n byw yn yr ardal ac yn ei defnyddio, ynghylch eu hangen am ddefnydd diogel a chyfforddus o’r gofod.


Dweud eich dweud ar arddangosfa Amgueddfa’r Neuadd Sirol

Bellach gall trigolion ac ymwelwyr ddweud eu dweud ar ba arddangosfeydd y maent am eu gweld yn Amgueddfa’r Neuadd Sirol.

Mae Treftadaeth MonLife yn y broses o symud Amgueddfa Trefynwy i’r Neuadd Sirol ac yn chwilio am ba gasgliadau yr hoffai trigolion ac ymwelwyr eu gweld yn cael eu harddangos.

O’r 1af Awst 2024, bydd arolwg ar-lein ar gael i gasglu adborth ar themâu a gweithgareddau a fyddai’n denu ymwelwyr i’r amgueddfa. P’un ai ydych wedi ymweld o’r blaen neu heb ymweld erioed, rydym am greu amgueddfa sy’n llawn hanes a gweithgareddau i bawb.

Bydd y Neuadd Sirol yn amgueddfa fodern a deniadol yn seiliedig ar sgyrsiau cymunedol i sicrhau ei bod yn berthnasol ac yn gynrychioliadol i’n holl ymwelwyr. Bydd yn dod â straeon lleol yn fyw, yn ogystal â digwyddiadau a gweithgareddau y mae pawb eisiau eu gweld a chymryd rhan ynddynt.

I gymryd rhan yn yr arolwg, ewch i https://www.monlife.co.uk/cy/heritage/the-shire-hall/shire-hall-consultation/

Mae’r prosiect ailddatblygu wedi’i ariannu gan Gyngor Sir Fynwy a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Yn dilyn yr adborth, bydd ein tîm prosiect yn gweithio gyda phenseiri a thimau dylunio amgueddfeydd i ddatblygu cynlluniau i greu amgueddfa newydd yn y Neuadd Sirol.

Dywedodd y Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu Cyngor Sir Fynwy: “Rydym yn gweithio i greu gofod modern i ymwelwyr ddysgu mwy am hanes lleol helaeth Trefynwy a’r ardaloedd cyfagos. Mae’r amgueddfa hon i bawb, a’r arolwg yn gadael i chi ddweud wrthym beth yr ydych am ei weld.

Adeiladwyd y Neuadd Sirol ym 1724, ac mae’n adeilad rhestredig Gradd 1, a chyn hynny roedd yn lleoliad y Brawdlysoedd a’r Sesiynau Chwarter ar gyfer Sir Fynwy. Mae’n fwyaf enwog am brawf 1839/40 yr arweinydd Siartaidd John Frost ac eraill am uchel frad yn ystod Gwrthryfel Casnewydd. Beth am ymweld heddiw  i weld yr ystafelloedd llys a’r celloedd sydd wedi bod yn hollbwysig i hanes Trefynwy?

Mae Amgueddfa’r Neuadd Sirol yn Nhrefynwy ar agor rhwng 11.00am a 4:00pm ar ddydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau, dydd Gwener a dydd Sadwrn (gall oriau agor amrywio adeg gwyliau). Mae mynediad AM DDIM.


Gwasanaeth Ieuenctid MonLife yn croesawu pobl ifanc i Neuadd y Sir

Cynhaliodd Gwasanaeth Ieuenctid MonLife ei gynhadledd ieuenctid flynyddol yn Neuadd y Sir, Brynbuga, ar ddydd Mercher, 10fed Gorffennaf.

Daeth y gynhadledd â 40 o fyfyrwyr o ysgolion uwchradd ledled Sir Fynwy ynghyd, gan gynnwys Ysgol 3-19 y Brenin Harri VIII, Ysgol Gyfun Trefynwy ac Ysgol Gyfun Cas-gwent. Roedd y gweithgareddau a’r trafodaethau yn seiliedig ar ganlyniadau y bleidlais ‘Gwneud Eich Marc’ eleni.

Roedd pleidlais ‘Gwneud Eich Marc’ yn caniatáu i bobl ifanc ar draws Sir Fynwy roi adborth ar faterion y teimlent oedd wedi effeithio ar eu bywydau. Rhoddwyd deg pwnc i bobl ifanc a benderfynwyd gan adborth gan bobl ifanc ledled Sir Fynwy.

Eleni, cymerodd 2,112 o bobl ifanc 11-18 oed ran yn y bleidlais, gan roi cipolwg gwerthfawr ar eu prif flaenoriaethau. Dangosodd y canlyniadau mai’r tair blaenoriaeth uchaf yw costau byw (29%), iechyd meddwl (15%), a thrafnidiaeth (13%).

Yn ystod y gynhadledd, cafodd y cyfranogwyr y cyfle i drafod y blaenoriaethau hyn gyda gweithwyr proffesiynol o Mind Our Futures Gwent, gwasanaethau iechyd meddwl, tîm Teithio Llesol Cyngor Sir Fynwy, ac arweinydd Cyngor Sir Fynwy ar gyfer trechu tlodi. Drwy gydol y dydd, buont yn trafod ag arbenigwyr ym mhob maes ac yn rhannu adborth ar sut y gallai’r Gwasanaeth Ieuenctid a’r Cyngor gefnogi gwelliannau yn y meysydd hyn ar gyfer pobl ifanc yn Sir Fynwy.

Yn bresennol yn y gynhadledd, dywedodd Aelod Cabinet Addysg Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Martyn Groucutt: “Roedd gweld y bobl ifanc yn ymgysylltu â swyddogion o bob rhan o’r Cyngor a phartneriaid wedi rhoi dealltwriaeth wych i’n swyddogion ar y tri phrif bwnc o’r bleidlais ‘Gwneud Eich Marc’. Roedd cymryd parc yn fy ngalluogi i gael gwell dealltwriaeth o’r materion hyn. Diolch i’r cyfranogwyr am eu hymgysylltiad. Roedd yn ddiwrnod ffantastig.

Edrychaf ymlaen at weld y gwaith parhaus y bydd ein swyddogion Gwasanaeth Ieuenctid yn ei wneud gyda’r bobl ifanc sy’n mynychu’r gynhadledd ac ar draws y sir.”

I ddysgu mwy am waith Tîm Ieuenctid a Chymuned MonLife, ewch i: https://www.monlife.co.uk/cy/connect/youth-service/

Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu, Cyng. Angela Sandles, Aelod Cabinet Addysg, Cyng Martyn Groucutt, Cllr Martyn Groucutt and Cadeirdydd y Cyngor, Cyng Su McConnell yn y cynhadledd.

Tags: MonLifeMonmouthshire


Mae arddangosfa gymunedol ‘Be’ sy’n gwneud Trefynwy fel y dref yw hi’ yn teithio’n lleol

Mae arddangosfa ‘Beth Sy’n Gwneud Mynwy, Trefynwy’ bellach yng Nghanolfan Hamdden Trefynwy. Fel rhan o daith yr arddangosfeydd o amgylch Trefynwy, gall trigolion ac ymwelwyr nawr weld y casgliad yn y Ganolfan Hamdden dros wyliau haf yr ysgol.

Bydd yr arddangosfa yn teithio o amgylch lleoliadau cymunedol gwahanol yn Nhrefynwy tan fis Mawrth 2025.

Gellir gweld arddangosfa bartner hefyd yn Neuadd y Sir, Trefynwy tan 31 Mawrth, 2025.

Mae’r arddangosfa’n rhan o brosiect ‘Casgliadau Deinamig: Agor y Blwch’ Gwasanaethau Amgueddfa, a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Gwahoddwyd trigolion o gymunedau lleol gwahanol i ‘agor y blwch’ i gasgliad amgueddfa Neuadd y Sir. Roeddynt wedi dewis gwrthrychau yr oeddynt yn meddwl sy’n dweud stori Trefynwy iddyn nhw a rhoi eu straeon personol sy’n cael eu harddangos yn arddangosfa ‘Be’ sy’n gwneud Trefynwy fel y dref yw hi’. Mae’r arddangosfa’n cynnwys llawer o wrthrychau, ffotograffau a phaentiadau nad ydynt erioed wedi’u harddangos o’r blaen, gan ein cysylltu â’n hanes a’n diwylliant lleol cyfoethog.

Church Street embroidery, 2006 – will form part of the display

Ochr yn ochr â’r arddangosfeydd yn y Ganolfan Hamdden a Neuadd y Sir yr haf hwn, bydd swyddogion Amgueddfa MonLife hefyd yn cynnal gweithgareddau crefft teulu am ddim. Mae’r gweithgareddau ar gael i bob oed, ac felly gwnewch hwn yn haf o ddarganfod a galwch draw i gymryd rhan. Darganfyddwch fwy yma: https://www.monlife.co.uk/cy/events/

Dywedodd y Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu Cyngor Sir Fynwy: “Diolch i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, rhoddwyr i’r amgueddfeydd, a’n gwirfoddolwyr am wneud y prosiect a’r arddangosfa hon yn bosibl. Mae arddangos hanes helaeth ein trefi yn yn hanfodol bwysig. Mae gwaith ein tîm, ynghyd â gwirfoddolwyr, yn dyst gwirioneddol i’w hymrwymiad i gadw hanes lleol yn fyw.

Mae arddangosfa Neuadd y Sir ar agor bob dydd rhwng 11am a 4pm ac eithrio dydd Mercher a dydd Sul (mae ar agor ar ddydd Sul yn ystod gwyliau haf yr ysgol). Gellir gweld yr arddangosfa deithiol unrhyw bryd yn ystod oriau agored yn Llyfrgell Trefynwy a Hwb, ac ar ôl hynny yng Nghanolfan Hamdden Trefynwy. Mae mynediad am ddim.

Dysgwch fwy am arddangosfeydd yn Nhrefynwy yma: https://www.monlifecollections.co.uk/projectau/beth-syn-gwneud-trefynwy-fel-y-dref-yw-hi/?lang=cy

Os byddai gan unrhyw leoliadau ddiddordeb mewn cynnal yr arddangosfa deithiol, cysylltwch â carolinehaines@monmouthshire.gov.uk


Statws Baner Werdd i Barc Cefn Gwlad Rogiet

Mae Cyngor Sir Fynwy yn falch iawn o gyhoeddi bod ein hatyniadau a mannau agored yn parhau i ennill cydnabyddiaeth, gyda Gwobr y Faner Werdd.

Parc Cefn Gwlad Rogiet yw’r ychwanegiad diweddaraf at ein rhestr nodedig o enillwyr.

Cynhaliwyd cyflwyniad Gwobr y Faner Werdd ar ddydd Mawrth 16eg Gorffennaf, gydag Owen Derbyshire, Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus, yn cyflwyno’r wobr.

Roedd y Cynghorydd Pete Strong yn falch o dderbyn y wobr fel Is-Gadeirydd Cyngor Sir Fynwy.

Mae’r wobr hon yn cydnabod lleoliadau sy’n cynnig cyfleusterau rhagorol ac ymrwymiad parhaus i wasanaeth o safon uchel.

Mewn mannau eraill yn Sir Fynwy, roedd Gwobrau’r Faner Werdd ar gyfer

· Hen Orsaf Tyndyrn – sydd wedi derbyn gwobr ers 2009

· Castell a Pharc Gwledig Cil-y-coed, a anrhydeddwyd ers 2013

· Dolydd y Castell yn y Fenni, ers 2014

Yn ogystal, mae gerddi a mannau gwyrdd ar draws y Sir hefyd wedi cael eu cydnabod gyda Chamlas Sir Fynwy ac Aberhonddu yn ennill Gwobr y Faner Werdd am y bedwaredd flwyddyn yn olynol a ‘Busy Bees Garden’ yn Nhrefynwy hefyd yn mwynhau llwyddiant am y tro cyntaf yn ennill y Faner Werdd.  

Mewn mannau eraill yn Sir Fynwy, roedd Gwobrau Cymunedol y Faner Werdd ar gyfer:

· Parc Bailey, Y Fenni

· Dolydd Caerwent

· Gardd Gymunedol Cil-y-coed

· Coetir Crug

· Dôl Crug

· Rhandiroedd Crucornau

· Gardd Gymunedol Goetre

· Brynbuga Bwytadwy Rhyfeddol

· Perllan Gymunedol Laurie Jones

· Parc Mardy

· Pentref Cyfeillgar i Fywyd Gwyllt Rogiet

· Y Cornfield.

Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn gweinyddu rhaglen Gwobr y Faner Werdd yng Nghymru, gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Gwirfoddolodd arbenigwyr annibynnol mewn mannau gwyrdd eu harbenigedd i werthuso’r ymgeiswyr yn erbyn meini prawf trwyadl megis bioamrywiaeth, glendid, rheolaeth amgylcheddol, a chyfranogiad cymunedol.

Am restr lawn o enillwyr Gwobr y Faner Werdd eleni, ewch i www.cadwchgymrundaclus.cymru.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu, Angela Sandles: “Mae hyn yn dyst i ymroddiad a gwaith caled cymunedau ar draws Sir Fynwy wrth greu a chynnal mannau sydd nid yn unig yn gwella ein hamgylchedd ond sydd hefyd yn darparu asedau cymunedol amhrisiadwy i bawb eu mwynhau.

“Mae Cyngor Sir Fynwy yn llongyfarch holl dderbynwyr y gwobrau ac yn annog pawb i archwilio a gwerthfawrogi’r mannau gwyrdd rhagorol hyn sy’n cyfrannu at harddwch a bywiogrwydd ein sir. “Rydym yn gwahodd pawb i ddod i brofi’r harddwch naturiol a’r rhyfeddodau hanesyddol sydd gan ein parciau hynod i’w cynnig.”


Dathlu Gwirfoddolwyr MonLife yn ystod Wythnos Gwirfoddolwyr

Gwirfoddolwyr MonLife oedd y gwesteion anrhydeddus mewn digwyddiad dathlu diweddar a gynhaliwyd ar ddydd Mercher 5ed Mehefin yn yr Hen Orsaf Tyndyrn fel rhan o Wythnos Gwirfoddolwyr ar draws y DU. Cynhaliwyd y digwyddiad i ddiolch i wirfoddolwyr, a hynny yn ystod y dathliad sy’n amlygu’r effaith anhygoel y mae gwirfoddolwyr yn ei chael yn ein cymunedau, a rhoi cyfle i wirfoddolwyr o wahanol feysydd gwasanaeth gyfarfod a rhannu eu profiadau gwerthfawr.

Mae pobl o bob oed yn gwirfoddoli ledled MonLife am wahanol resymau, gan gynnwys ennill profiad, magu hyder, mwynhau eu hunain, neu helpu eraill a’u cymuned.

Mae llawer o wirfoddolwyr wedi mynd ymlaen i swyddi amser llawn o fewn gwasanaethau Cyngor Sir Fynwy.

Cefnogwyd y digwyddiad Dathlu Gwirfoddolwyr gan gyflenwyr lleol ac archfarchnadoedd gan gynnwys: Cinder Hill Farms, Isabel’s Bakehouse, Wigmore’s Bakery, Waitrose, M&S a Tesco.

Ar hyn o bryd mae tua 344 o wirfoddolwyr yn ymwneud â MonLife yn ystod y flwyddyn, gan wirfoddoli ar draws 36 o gyfleoedd ar draws pob maes gwasanaeth. Mae hyn yn cyfateb i gyfanswm o fwy na 13,104.35 o oriau gwirfoddol gyda gwerth ariannol o fwy na £177,000.

Pan fyddwch yn gwirfoddoli, gallwch gael mynediad at raglen hyfforddi lawn, sesiwn anwytho gyflawn, ‘cyfaill’ penodedig a’n gwefan Volunteer Kenetic ar-lein. Byddwch hefyd yn cael mynediad rheolaidd at gymorth 1-2-1 neu grŵp a chyfle i gwrdd â phobl newydd o’ch ardal ac ar draws y Sir.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli, gallwch ddarganfod mwy yma: https://www.monlife.co.uk/connect/volunteering/


Disgyblion Sir Fynwy yn tanio angerdd yng Nghynhadledd PlayMaker

Yr wythnos diwethaf, lletyodd Tîm Datblygu Chwaraeon MonLife ddisgyblion ysgolion cynradd o bob rhan o Sir Fynwy yn eu Cynhadledd PlayMaker flynyddol.

Y nod oedd dod ag arweinwyr ifanc Sir Fynwy ynghyd ar gyfer hyfforddiant ac i ddathlu eu teithiau arweinyddiaeth. Cymerodd tua 750 o blant o 26 allan o 30 o ysgolion cynradd Sir Fynwy ran mewn carwsél o weithgareddau a ddarparwyd gan Wasanaethau MonLife, Academi Arweinyddiaeth MonLife, a phartneriaid allanol, gan gynnwys grwpiau Parkrun o bentrefi Rhosied a Llandydiwg, Hybiau Cymunedol Sir Fynwy (a llyfrgelloedd), Bowls Cymru a Sir Casnewydd yn y Gymuned.

Roedd y digwyddiadau’n cynnwys datblygu cyfleoedd chwarae, hyrwyddo Teithio Llesol, llais disgyblion, gweithdai’r Corff Llywodraethu Cenedlaethol, Adeiladu Tîm, ymwybyddiaeth Lles a llawer mwy.

Cafodd y rhaglen wythnos o ddigwyddiadau gefnogaeth wych gan Ysgolion Cyfun Cil-y-coed, Cas-gwent a Threfynwy, a oedd yn darparu cyfleusterau ar gyfer y digwyddiadau yn ogystal â Chlwb Rygbi’r Fenni a Chlwb Bowlio’r Fenni ym Mharc y Beili.

Mae Tîm Datblygu Chwaraeon MonLife wedi bod yn cyflwyno’r wobr Gwneuthurwr Chwarae Arweinwyr Chwaraeon drwy gydol y flwyddyn academaidd hon, gan ymgysylltu â phob un o 30 ysgol gynradd Sir Fynwy. Ar ôl i’r disgyblion ennill y wobr, maent yn cynorthwyo i gael effaith gadarnhaol ar les yn eu hysgolion. Dyma gam cyntaf llwybr arweinyddiaeth Datblygu Chwaraeon, cyn trosglwyddo i gynllun Llysgenhadon Efydd Blwyddyn 6 a’r academïau Arweinyddiaeth Ysgolion Uwchradd.

Drwy gydol yr wythnos, cefnogodd 34 o wirfoddolwyr yr Academi Arweinyddiaeth y digwyddiadau, gan recordio 156 awr rhyngddynt. Am fwy o wybodaeth am y rhaglen PlayMaker, neu fentrau Datblygu Chwaraeon ehangach, ewch i – https://www.monlife.co.uk/cy/connect/sports-development/ neu e-bostiwch sport@monmouthshire.gov.uk


Cynllun Pont Teithio Llesol y Fenni gan gynnwys cysylltiadau Llan-ffwyst a Dolydd y Castell

Rydym yn canolbwyntio ar gysylltiadau teithio llesol rhwng Llan-ffwyst a’r Fenni, gyda’n llwybr wedi’i gynllunio o amgylch pont teithio llesol newydd sy’n croesi’r Afon Wysg rhwng Merthyr Road a Dolydd y Castell, a chysylltiadau cysylltiedig ar gyfer llwybrau cynaliadwy mwy diogel, mwy deniadol ac uniongyrchol i Lan-ffwyst a’r Fenni.  

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi sicrhau £10.4m o Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru i ddatblygu’r Cynllun Teithio Llesol o’r Fenni i Lan-ffwyst.  Bydd ein partner adeiladu ar gyfer y cynllun hwn, Balfour Beatty, a benodwyd o dan fframwaith SCAPE, yn lansio gwefan y cynllun cyn bo hir – byddwn yn rhannu’r ddolen yma pan fydd ar gael. 

Mae’r cynllun hwn yn flaenoriaeth ganolog ar gyfer datblygu rhwydwaith Teithio Llesol Cyngor Sir Fynwy, gan fynd i’r afael â phwynt terfyn teithio llesol pont Merthyr Road. Mae’r cyllid hwn yn cael ei gynnig mewn proses gynnig genedlaethol gystadleuol, ac wedi ei ddyrannu mae’n cael ei neilltuo ar gyfer y prosiect teithio llesol hwn ac ni ellir ei wario ar brosiectau, cynlluniau neu wasanaethau’r cyngor eraill.   

  • Cynnydd mewn teithiau teithio llesol yn y Fenni   
  • Gwell cysylltedd a hygyrchedd ar gyfer teithiau teithio llesol yn Llan-ffwyst a’r Fenni o fewn a rhwng Llan-ffwyst a’r Fenni 
  • Gwella lefelau gwirioneddol a chanfyddedig o ddiogelwch personol wrth gerdded a beicio  
  • Hyrwyddo teithio cynaliadwy fel un deniadol a diogel yn y Fenni a Llan-ffwyst.  
Fideo:  Fideo hedfan drwodd o weledigaeth cynllun Teithio Llesol y Fenni. Mae’r gwaith adeiladu presennol yn canolbwyntio ar gyflawni’r bont teithio llesol. 

Pont Teithio Llesol 

Darparu pont gerdded, olwyna a beicio newydd sy’n croesi ar afon Wysg rhwng Llan-ffwyst a’r Fenni, i lawr yr afon o Bont Afon Wysg (Merthyr Road). Bydd y bont yn dod yn brif groesfan afon ar gyfer teithio llesol rhwng Llan-ffwyst a’r Fenni, fel dewis arall i ddefnyddio’r droedffordd gul dros y bont ffordd bresennol ac yn annog newid moddol o ganlyniad i hynny.  

Mae Merthyr Road/Pont Wysg wedi cael ei nodi ers amser maith fel man terfyn ar gyfer teithio llesol, ac mae Cyngor Sir Fynwy wedi blaenoriaethu datblygu’r llwybr hwn.  Mae’r bont bresennol dros Afon Wysg yn darparu troedffordd gul iawn ar un ochr ac nid yw’n darparu ar gyfer beicwyr.  Mae’r bont ffordd yn strwythur rhestredig sy’n cario cyfaint trwm o draffig ffyrdd.  Ar hyn o bryd nid oes llawer o sgôp yn gorfforol, neu gyda’i statws rhestredig, i’w wneud yn fwy croesawgar neu ddiogel ar gyfer teithio llesol.  Y nod cyffredinol yw darparu croesfan afon amgen ar gyfer teithio llesol, a sicrhau cysylltiadau effeithiol o’r pontydd (newydd a phresennol) i ganol y dref, gan ganiatáu teithio iach rhwng cartrefi a chyrchfannau allweddol fel ysgolion, Nevill Hall a chanol y dref. 

Bydd y cynllun hwn yn adeiladu pont gerdded, olwyna a beicio newydd 3m o led ar draws Afon Wysg, sy’n cysylltu Llan-ffwyst â Dolydd y Castell, y Fenni. Bydd y bont wedi’i gwneud o adeiladwaith trawst dur gyda chladin pren i sicrhau ei bod yn cyd-fynd â’r ardal naturiol o’i amgylch. Bydd rampiau’n cael eu hadeiladu i gysylltu’r bont â’r llwybrau ar Ddolydd y Castell a’r droedffordd ar Merthyr Road, Llan-ffwyst.  

Bwriedir i’r gwaith o adeiladu’r bont ddechrau yn gynnar yn 2026, gyda gwaith graddol yn parhau i mewn i 2027.  Rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer y bont teithio llesol yn 2018 fel DM/2018/00408, gyda chaniatâd a roddwyd yn 2025 ar gyfer diwygio anfaterol i gynnwys adeiladu trawstiau dur – rhif cynllunio DM/2025/00507.  

Bydd Balfour Beatty, partneriaid adeiladu’r cynllun, yn lansio gwefan y cynllun cyn bo hir – byddwn yn rhannu’r ddolen yma pan fydd ar gael

Llun – Pont teithio llesol ar draws yr Wsg, ar bier i lawr yr afon o bont y ffordd

Dolydd y Castell 

Mae Dolydd y Castell a Chaeau Ysbyty yn ardaloedd hamdden pwysig i’r gymuned ac fe’u croesir gan Hawliau Tramwy Cyhoeddus (HTC) a llwybrau’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol 42 a 46. Gall gwelliannau i arwynebedd llwybrau ar Ddolydd y Castell gefnogi cerddwyr a beicwyr sy’n teithio rhwng Llan-ffwyst a’r Fenni, ar y cyd â’r bont teithio llesol newydd.   

Wrth i’r cynllun fynd rhagddo, bydd gwaith pellach yn nodi uwchraddiadau posibl i lwybrau o fewn y dolydd gyda’r cyllid presennol sydd ar gael.  Cafodd maint llawn y llwybrau sydd â photensial i’w huwchraddio ar Ddolydd y Castell ganiatâd cynllunio yn 2023, fel y cais cynllunio DM/2022/01831. 

  • Mae llwybr anhygyrch ac annymunol ar draws pont ffordd yn achosi gwahaniaeth rhwng Dolydd y Castell a Llan-ffwyst. 
  • Llwybrau glaswellt:  Mae’r llwybrau glaswellt presennol mewn cyflwr gwael ac nid ydynt yn cydymffurfio â chanllawiau teithio llesol ar gyfer arwynebau llwybrau.  Maent yn anghyfforddus ac yn anodd i ddefnyddwyr cadair olwyn / cadair symudedd eu defnyddio.   
  • Cyfyngiadau mewn mannau mynediad:  Mae giât hunan-gau, heb glicied, wedi cael ei threialu ar y dolydd am y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae’r giât yn agor i’r dolydd, sy’n golygu na all gwartheg wthio’r giât ar agor a mentro allan.  Mae’r gatiau moch arddull pren presennol yn gyfyngol i gadeiriau olwyn, sgwteri symudedd, cadeiriau gwthio, a beicwyr sy’n cael mynediad i’r dolydd.  

Edrychodd astudiaeth WelTAG (Canllawiau Arfarnu Trafnidiaeth Cymru) o’r ardal hon ar ffyrdd o wella’r ddarpariaeth ar gyfer teithio llesol ar Ddolydd y Castell. Yn dilyn yr astudiaeth hon, gofynnodd Cyngor Sir Fynwy am ganiatâd cynllunio i uwchraddio’r holl brif lwybrau ar Ddolydd y Castell, hyd nes y byddai cyllid ar gael ac i ganiatáu cynllunio hyblyg wrth i gynlluniau’r bont gael eu datblygu. Nid yw Cyngor Sir Fynwy yn bwriadu uwchraddio’r holl lwybrau o fewn y cytundeb cynllunio, ond mae’n gweithio i gynnwys rhai llwybrau o fewn y cynllun gwaith presennol. 

Delwedd:  Argraffiad yr artist o lwybrau Dolydd y Castell. D.S. Nid yw Cyngor Sir Fynwy yn bwriadu uwchraddio’r holl lwybrau o fewn y cytundeb cynllunio fel rhan o’r gwaith adeiladu pont.

Cysylltiadau Llan-ffwyst 

Mae’r cam hwn yn edrych ar welliannau i’r llwybr sy’n canolbwyntio ar ochr Llan-ffwyst i Afon Wysg a chysylltiadau â’r bont teithio llesol a Dolydd y Castell. Bydd elfennau o’r cynllun eang hwn yn cael eu cynnwys yn y gwaith adeiladu, gydag adrannau eraill yn cael eu cyflwyno fel a phan fydd cyllid yn caniatáu.   

  • Gwella mynediad at wasanaethau lleol, cyflogaeth a chyfleusterau diwylliannol drwy ddulliau Teithio Llesol drwy wella cysylltedd rhwng y Fenni a Llan-ffwyst.  
  • Hyrwyddo a hwyluso ffyrdd iachach o fyw drwy gynyddu nifer y cerddwyr a’r beicwyr sy’n defnyddio Merthyr Road a The Cutting at ddibenion cymudo.  
  • Gwneud cyfraniad cadarnhaol i ansawdd aer drwy hyrwyddo teithio llesol ledled Sir Fynwy a chefnogi lleihau Carbon Deuocsid o amgylch ardal y Fenni / Llan-ffwyst. 
  • Cyflwyno cysylltiadau teithio llesol diogel a hygyrch a chael gwared ar wrthdaro rhwng defnyddwyr o amgylch Cylchfan ‘Waitrose’.  
  • Darparu llwybr beicio cydlynol, uniongyrchol a diogelu i’r dyfodol sy’n cysylltu â’r seilwaith teithio llesol presennol a chynlluniedig.  
  • Mae’r rhwydwaith ffyrdd presennol yn yr ardal yn hynod o brysur, gan wneud yr amgylchedd yn annymunol i gerddwyr, beicwyr, a’r rhai sydd ag amhariad symudedd.  Nododd ddadansoddiad o ddata Cyfrifiad 2011 fod 15% o yrwyr yn yr ardal yn teithio llai na 2 cilomedr ac 8% rhwng 2 cilomedr a 5 cilomedr.  Gallai rhai o’r teithiau hyn gael eu darparu gan ddulliau Teithio Llesol pe byddai seilwaith Defnyddwyr Heb Fodur digonol yn cael ei ddarparu. 
  • Ar hyn o bryd nid oes cyfleusterau beicio oddi ar y ffordd: fel y cyfryw mae’n rhaid i feicwyr ddefnyddio’r gerbytffordd bresennol i deithio.  
  • Mae diffyg cyfleusterau croesi digonol yng nghylchfan ‘Waitrose’.  
  • Mewn rhannau o’r cynllun, mae troedffyrdd yn gul ac is-safonol, gan orfodi cerddwyr i fod yn agos at y gerbytffordd a’r traffig.  
  • Mae problemau diogelwch ffyrdd sylweddol, yn enwedig ar hyd Merthyr Road rhwng tafarn y Bridge Inn a chylchfan ‘Waitrose’.  
  • Mae The Cutting yn cael ei gydnabod fel man traffig isel ac, fel y cyfryw, mae ganddo’r potensial i wasanaethu fel cyswllt o Merthyr Road i Lan-ffwyst, ond mae’r llwybr cyswllt presennol y tu ôl i Orsaf Petrol Waitrose yn gul ac wedi gordyfu mewn mannau. 

Edrychodd astudiaeth Canllawiau Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG) o’r ardal hon ar ffyrdd o wella’r ddarpariaeth ar gyfer cysylltiadau teithio llesol rhwng Llan-ffwyst a’r Fenni a chynigiodd yr ymyriadau isod.  Bydd rhai ymyriadau sydd wedi’u cynnwys ar y rhestr hon yn cael eu cyflwyno wrth i gyllid datblygu ac adeiladu ddod ar gael, gydag eraill i gael eu hail-ymchwilio unwaith y bydd y bont wedi’i hadeiladu.  

  • Lledu’r droedffordd bresennol ar hyd ochr ddwyreiniol Merthyr Road rhwng tafarn y Bridge Inn a Chylchfan ‘Waitrose’, i ddarparu ar gyfer llwybr a rennir (i gerddwyr a beiciau) 3.5m o led.  Er mwyn darparu ar gyfer y cynnig hwn, bydd parcio ar y stryd yn y lleoliad hwn yn cael ei ddileu.  
  • Darparu cyfleusterau croesi newydd ar draws tair rhan o Merthyr Road.  
  • Lledu’r droedffordd bresennol ar hyd ochr ddwyreiniol Merthyr Road rhwng Cylchfan Waitrose a Ffordd Ymuno Blaenau’r Cymoedd / Cylchfan Merthyr Road i’r de i ddarparu ar gyfer llwybr a rennir (i gerddwyr a beiciau) 3.5m o led.   
  • Lledu’r droedffordd bresennol ar hyd ochr ddwyreiniol Merthyr Road rhwng Ffordd Ymuno Blaenau’r Cymoedd / Cylchfan Merthyr Road a Gypsy Lane, i ddarparu ar gyfer llwybr a rennir (i gerddwyr a beiciau) 3.5m o led.  
  • Darparu mannau croesi mwy uniongyrchol gwell ar draws Coopers Way a rhannau dwyreiniol a gorllewinol Ffordd Ymadael Blaenau’r Cymoedd / Cylchfan Merthyr Road. 
  • Lledu’r droedffordd bresennol ar hyd ymyl gefn y maes parcio sydd wedi’i leoli i’r gogledd o Gylchfan ‘Waitrose’, i ddarparu ar gyfer llwybr a rennir (cerddwyr a beiciau) 3.5m o led.   
  • Lledu’r droedffordd bresennol ar hyd cefn Gorsaf Petrol Waitrose rhwng ‘Cylchfan Waitrose’ a thanffordd The Cutting Ffordd Blaenau’r Cymoedd, i ddarparu ar gyfer llwybr a rennir (cerddwyr a beiciau) 3.5m o led.  
  • Hyrwyddo The Cutting fel ‘Ffordd Dawel’ (drwy arwyddion ychwanegol a marciau ffordd) (heb effeithio ar y trefniadau mynediad a pharcio presennol) rhwng tanffordd The Cutting Ffordd Blaenau’r Cymoedd a Merthyr Road i’r de. 
  • Gwella’r trefniant cyffordd flaenoriaeth bresennol The Cutting a Merthyr Road.  

Cynigion ar hyd Merthyr Road – Adran 1

Cynigion ar hyd Merthyr Road – Adran 2

Cynigion ar hyd The Cutting – Adran 1

Cynigion ar hyd The Cutting – Adran 2 

Am ragor o wybodaeth am waith Cyngor Sir y Fflint ar deithio llesol yn y Fenni, ewch i Abergavenny – Monlife


Rhaglen Dysgu Cymunedol Sir Fynwy yn derbyn adroddiad disglair

Derbyniodd rhaglen Dysgu Cymunedol Cyngor Sir Fynwy, sy’n rhan o Bartneriaeth Dysgu Oedolion Gwent Fwyaf, o dan arweiniad Coleg Gwent, ganmoliaeth ddisglair ar ôl arolygiad diweddar gan Estyn.

Mae rhaglen Dysgu Cymunedol y Cyngor yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i drigolion i ddysgu sgiliau newydd ac adeiladu ar y rhai presennol.

Yma yn Sir Fynwy, mae gennym bum canolfan Dysgu Cymunedol ar draws y sir, gyda chyrsiau amrywiol yn cael eu cynnig. Mae’r rhain yn cynnwys cyrsiau mewn Mathemateg, Saesneg, TG, Celf a Chrefft a Saesneg i ddysgwyr.

Ymwelodd Estyn, arolygiaeth addysg Cymru, â’r bartneriaeth yn ddiweddar. Amlygodd yr adroddiad terfynol yr effaith drawsnewidiol y mae gwaith y partneriaethau yn ei chael ar ddysgwyr a’r gymuned.

Amlygodd adroddiad Estyn effaith sylweddol ein rhaglen ar fywydau dysgwyr. Pan gafodd eu cyfweld gan arolygwyr, rhannodd llawer o ddysgwyr dystebau diffuant ynghylch sut mae’r rhaglen wedi bod yn achubiaeth, yn enwedig o dan amgylchiadau heriol. Mae hefyd wedi rhoi hwb i’w hyder wrth ddatblygu sgiliau digidol.

Agwedd hollbwysig o unrhyw Raglen Gymunedol yw’r tiwtoriaid. Roedd adroddiad Estyn wedi canmol ymroddiad y tiwtoriaid i greu amgylchedd dysgu cynhwysol. Mae tîm Dysgu Cymunedol Sir Fynwy yn ymroddedig i ddarparu’r gefnogaeth orau i bob dysgwr. Eu nod yw creu amgylchedd a fydd yn galluogi dysgwyr i wella eu hiechyd a’u lles tra ar yr un pryd yn darparu lle iddynt ddysgu ac uwchsgilio eu gwybodaeth.

Mae ein tîm ymroddedig hefyd wedi cael ei ganmol am ei waith cydweithredol mewn gwelliant parhaus. Canmolwyd y bartneriaeth am hunanarfarnu cadarn a’r gwaith cynllunio i wella ansawdd. Mae pob un o’r staff yn dadansoddi data asesu’r holl ddysgwyr yn ofalus, yn monitro cynnydd ac yn darparu cyfleoedd ar gyfer adborth trwy gydol taith y dysgwyr.

Dywedodd y Cynghorydd Martyn Groucutt, Aelod Cabinet dros Addysg Cyngor Sir Fynwy: “Mae adroddiad Estyn yn adlewyrchu’r gwaith caled a’r ymroddiad mae ein swyddogion rhaglen Dysgu Cymunedol yn ei wneud bob dydd. Rwyf am ddiolch iddynt i gyd am eu gwaith caled. Bob dydd, maent yn darparu cyfleoedd i ddysgwyr o Sir Fynwy i ddysgu sgiliau newydd neu uwchsgilio eu hunain mewn llawer o bynciau. Nid yw addysg yn dod i ben yn yr ystafell ddosbarth. Os ydych chi eisiau dysgu sgiliau newydd, edrychwch ar ein tudalennau Dysgu Cymunedol ar y wefan am y cyrsiau diweddaraf.”

Cynghorydd Martyn Groucutt, Aelod Cabinet dros Addysg

Wrth i ni ddathlu cyflawniadau rhaglen Dysgu Cymunedol y Cyngor fel rhan o Bartneriaeth Dysgu Oedolion Gwent Fwyaf, o dan arweiniad Coleg Gwent, rydym hefyd yn cydnabod gwaith caled ac ymroddiad y dysgwyr. Mae eu gwaith caled yn galluogi ein swyddogion i barhau i wella a darparu cyrsiau newydd drwy gydol y flwyddyn.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am ein rhaglen Dysgu Cymunedol a’r cyrsiau yr ydym yn eu cynnig, ewch i’n gwefan heddiw: https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/dysgu-yn-y-gymuned-sir-fynwy/