Mae Amgueddfeydd Treftadaeth MonLife yn hapus i
gyhoeddi lansiad eu gwefan casgliadau newydd sbon yn www.monlifecollections.co.uk/?lang=cy Mae’r wefan newydd yn
darparu mynediad am ddim i chwilio cannoedd o gofnodion, gan alluogi
defnyddwyr i ddarllen deunydd a gweld delweddau ar gyfer eitemau o fewn y
casgliadau o bob rhan o Sir Fynwy. Bydd tîm yr Amgueddfeydd yn ychwanegu mwy at
y wefan yn barhaus, felly maent yn argymell bod ymwelwyr â’r safle yn dod yn ôl
yn aml i weld beth sy’n newydd.
Darganfyddwch wrthrychau hanesyddol, gweithiau celf, ffotograffau
a dogfennau oll yng ngofal Treftadaeth MonLife.
Chwiliwch am bobl arbennig, archwiliwch leoedd nodedig,
teithiwch drwy amser a darganfyddwch gasgliadau gwahanol.
Mae cannoedd o gofnodion Sir Fynwy eisoes ar ein chwiliad
casgliadau.
Oherwydd
pandemig parhaus y Coronafeirws, mae Treftadaeth MonLife wedi bod yn ymchwilio
i ffyrdd newydd o arallgyfeirio rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2021. Gyda diolch
i grant Cronfa Adfer Ddiwylliannol Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru, mae
aelodau o dîm yr Amgueddfeydd wedi gallu canolbwyntio’u rôl er mwyn creu gwefan
ar gyfer y casgliadau. Maent wedi gweithio ochr yn ochr ag Ymgynghorwyr
Treftadaeth Ddigidol, Orangeleaf Systems Ltd i adeiladu gwefan bwrpasol.
Dywedodd Lydia Wooles, o’r tîm prosiect
Amgueddfeydd Ar-lein: “Fe wnaethon ni weithio’n galed o’r cychwyn cyntaf
gyda’r prosiect, fel tîm rydyn ni wedi dysgu llawer mewn cyfnod byr. Dewiswyd
cofnodion yn ofalus i roi blas i ddefnyddwyr o’r amrywiaeth eang o arteffactau
a dogfennau sydd gennym. Mae wedi bod yn
brofiad mor werth chweil gweithio ar y prosiect hwn.”
Mae’r holl gofnodion ar y wefan yn ymwneud â stori Sir
Fynwy ac yn cynnwys casgliad Nelson sydd o bwys cenedlaethol. O
ddarganfyddiadau archeolegol, casgliadau gwisgoedd helaeth, i ffotograffau a chardiau
post – mae rhywbeth at ddant pawb.
Mae Cyngor Sir Fynwy yn falch iawn o gyhoeddi uwchraddiad sylweddol i’r cae pob tywydd yng Nghanolfan Hamdden Cil-y-coed, gan nodi cam cyffrous ymlaen i chwaraeon cymunedol yn yr ardal.
Bydd y prosiect yn gweld yr wyneb synthetig 2G presennol yn cael ei ddisodli gan gae 3G o’r radd flaenaf, a fydd yn darparu profiad chwarae mwy diogel, gwydn ac o ansawdd uchel i ysgolion, clybiau a thrigolion lleol.
Mae’r buddsoddiad hwn yn rhan o ymrwymiad parhaus y cyngor i wella cyfleusterau chwaraeon a chwarae, gan greu mannau bywiog a hygyrch sy’n ysbrydoli cyfranogiad a mwynhad i bob oedran.
Mae’r datblygiad yn bosibl diolch i gefnogaeth partneriaid cyllido allweddol: Sefydliad Pêl-droed Cymru, Chwaraeon Cymru, a chyfraniadau gan y sector addysg.
Er mwyn sicrhau’r buddsoddiad hwn, mae’r prosiect yn dangos angen clir i’r gymunedol ac ysgolion, mynediad cymunedol y tu allan i oriau ysgol, a chydymffurfiad â safonau technegol 3G a gymeradwywyd gan FA Cymru/FIFA.
Mae cyfanswm o £456,000 wedi’i sicrhau ar gyfer y gwaith adnewyddu, gan gynnwys:
· £206,000 o Raglen Cyfleusterau FitForFuture Sefydliad Pêl-droed Cymru, sy’n cefnogi twf pêl-droed ar lawr gwlad ledled Cymru.
· £150,000 o Grant Cyfalaf Chwaraeon Cymru, sy’n helpu i ddarparu cyfleusterau chwaraeon cynaliadwy, modern a hygyrch.
Disgwylir i’r gwaith adeiladu ddechrau’r mis hwn, gyda tharged o gwblhau erbyn Ebrill 2026. Bydd diweddariadau’n cael eu rhannu trwy gydol y prosiect trwy dudalen pwrpasol – www.monlife.co.uk/caldicot-leisure-centre-development/ – a thrwy sianeli cyfryngau cymdeithasol Sir Fynwy a MonLife.
Dywedodd y Cyng. Angela Sandles, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu: “Bydd y cyfleusterau hyn wedi’u huwchraddio’n hwb enfawr i’r dref a thu hwnt.
“Bydd y cae newydd ar gael i ddisgyblion ysgol yn ystod oriau ysgol, clybiau a thimau pêl-droed lleol, grwpiau chwaraeon cymunedol, ac aelodau o’r cyhoedd.
“Bydd hefyd yn galluogi mwy o gyfranogiad i fenywod a merched mewn amrywiaeth o chwaraeon a bydd yn ased gwych i Gil-y-coed a’r ardal ehangach.”
Dywedodd Cyfarwyddwr Sefydliad Pêl-droed Cymru, Aled Lewis: “Mae Sefydliad Pêl-droed Cymru wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn cyfleusterau sy’n ysbrydoli cymunedau. Bydd y prosiect hwn yng Nghanolfan Hamdden Cil-y-coed yn hanfodol ar gyfer twf pêl-droed yn yr ardal leol.
“Diolch yn fawr i’n partneriaid, Llywodraeth y DU a Chwaraeon Cymru am gefnogi’r gwaith o ddatblygu’r cyfleuster newydd hwn – trwy gydweithio, rydym yn gwneud camau enfawr wrth wella cyfleusterau pêl-droed yng Nghymru ar y cae ac oddi arno.”
Mae Cyngor Sir Fynwy yn gweithio ar gynllun strategol i wella darpariaeth teithio llesol rhwng Trefynwy a Wyesham. Mae ffocws y cynllun ar ddarparu pont gerdded a seiclo newydd i fyny’r afon o Bont Gwy rhwng Trefynwy a Wyesham, gyda llwybrau ymlaen i ganol y ddwy gymuned. Bydd y bont newydd yn rhoi prif lwybr i ganol tref Trefynwy a’r ysgol uwchradd ar gyfer preswylwyr Wyesham ac ar draws campws Ysgol Trefynwy, wedi’i rannu rhwng dwy ochr yr afon.
Gwella cysylltedd a hygyrchedd ar gyfer tripiau teithio llesol yn a rhwng Trefynwy a Wyesham
Gwell lefelau gwirioneddol a thybiedig o ddiogelwch personol wrth gerdded a seiclo
Hyrwyddo teithio cynaliadwy fel bod yn ddeniadol a diogel yn Nhrefynwy a Wyesham.
Problemau a ddynodwyd ar gyfer teithio llesol rhwng Trefynwy a Wyesham
Mae Pont Gwy hanesyddol Trefynwy yn ddolen hanfodol rhwng Wyesham, Fforest y Ddena a Dyffryn Gwy, a Threfynwy a’r A40, dolen ffordd strategol rhwng De Cymru a Chanolbarth Lloegr. Mae’r ffyrdd sy’n bwydo traffig ar draws y bont yn cario cerbydau trwm a llawer o draffig, gan mai dyma’r prif groesiad afon am sawl milltir yn y ddau gyfeiriad. Mae hyn yn effeithio ar lwybrau y naill ochr a’r llall o’r bont, Pont Teithio Llesol Mynwy Gwy, Hen Heol Dixton a Wyesham Links.
Mae cymuned Wyesham yn dioddef o fynediad cyfyngedig ac anodd i’r ysgol uwchradd, siopau a gwasanaethau yn Nhrefynwy oherwydd bod y seilwaith presennol o amgylch yr A40 ac Afon Gwy wedi ei gwahanu yn ymarferol. Mae preswylwyr Trefynwy, Wyesham a Fforest y Ddena yn defnyddio’r bont yn ddyddiol i deithio i’r gwaith neu’r ysgol ar ddwy ochr yr afon. Mae’n rhaid i dripiau lleol gan gerbydau ddefnyddio system un-ffordd gylchol, mewn rhwydwaith sy’n agored i dagfeydd, ond nid yw’r bont hanesyddol yn rhoi llwybr diogel na dymunol ar gyfer tripiau byr heb gar, yn arbennig ar gyfer y rhai sy’n defnyddio cadeiriau olwyn a sgwteri symudedd neu’n cerdded gyda chadeiriau gwthio neu blant bach. Ni chaniateir seiclo ar y droedffordd, ond nid oes unrhyw ddarpariaeth i seiclwr symud rhwng y llwybr tanffordd a’r ffordd lle mae angen.
Mae Pont Gwy yn Nhrefynwy yn adeilad gyda rhestriad Gradd II, a ddiogelir am ei harwyddocâd hanesyddol a phensaernïol. Canfu asesiad o’r bont ffordd ei bod yn anaddas fel llwybr teithio llesol. Mae’r palmant yn gul ac mae cerbydau nwyddau trwm yn aml yn mynd ar y palmant oherwydd y ffordd gerbydau gul, ac ni ellir newid ei strwythur oherwydd ei statws treftadaeth.
Llun: Traffig cerbydau trwm ar Bont Gwy yn agos iawn at blant ysgol
Nod y cynllun llawn yw:
Adeiladu pont un rhychwant 3.8m o led ar gyfer cerdded a seiclo i fyny’r afon i’r Bont Gwy bresennol gyda goleuadau lefel isel
Darparu llwybrau cyswllt yn Wyesham a Hen Heol Dixton ar y naill ochr a’r llall i’r bont teithio llesol
Darparu dolen gerdded gydlynol, uniongyrchol, diogel, cysurus a deniadol rhwng Wyesham a Threfynwy
Cael effaith gadarnhaol ar ddiogelwch gwirioneddol a thybiedig cerddwyr, seiclwyr a defnyddwyr cadair olwyn ar hyd ac ar draws ardal yr astudiaeth
Budd net i ecoleg
Pont Teithio Llesol Mynwy Gwy
Cafodd pont ar wahân ar gyfer cerddwyr a seiclwyr dros yr Afon Gwy yn Nhrefynwy ei chynnig yn wreiddiol fel llwybr hamdden. Yn dilyn Deddf Teithio Llesol Llywodraeth Cymru a chydnabyddiaeth o swyddogaeth y croesiad hwn ar gyfer teithiau teithio llesol yn ogystal ag ar gyfer hamdden, cafodd y syniad ei ddatblygu dan weithgor ‘Grŵp y Bont’ Grŵp Teithio Llesol Cyngor Tref Trefynwy, gyda rhanddeiliaid yn cynnwys Cyngor Sir Fynwy, Ysgol Bechgyn Trefynwy, Ysgol Gyfun Trefynwy, ysgolion cynradd lleol, clybiau rhwyfo, seiclo a cherdded lleol a Sustrans.
Cynhaliwyd astudiaeth WELtag yn 2019 i ymchwilio’r problemau cyfredol a chanfod datrysiadau posibl. Awgrymodd yr adroddiad nifer o opsiynau yn cynnwys lledu’r palmant presennol, ychwanegu troedffordd gantilifrog i’r bont bresennol yn ogystal â phont gerdded a seiclo newydd. Dewiswyd yr opsiwn o adeiladu pont gerdded a seiclo ar wahân i fyny’r afon i’r Bont Gwy hanesyddol fel y dewis gorau i fynd ymlaen ag ef yn seiliedig ar roi sgôr i effaith gadarnhaol bosibl y cynnig ar deithio llesol a’r rhwydwaith trafnidiaeth lleol, effaith negyddol isel yn ystod y gwaith adeiladu ac ar y bont dreftadaeth gyfagos, gwerth am arian a’r gallu i gyflawni.
Datblygu cynllun pont
Llun: Argraff artist o Groesiad Teithio Llesol Mynwy Gwy
Rhwng 2020 a 2024, yn dilyn astudiaeth WelTAG, defnyddiodd Cyngor Sir Fynwy Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru i ddatblygu dyluniad y bont a llwybrau cyswllt y naill ochr a’r llall i’r afon, ynghyd â’r caniatâd cynllunio angenrheidiol, astudiaethau a chaniatâd ecolegol ac arolygon tir yn ogystal â datblygu cynlluniau Wyesham Links a Hen Heol Dixton sy’n ffurfio’r cysylltiadau ar ymlaen y naill ochr a’r llall i’r bont arfaethedig. Mae cyllid cyfyngedig a phroblemau tir wedi golygu y bu’r cynnydd yn arafach nag a ddymunid. Cafodd Pont Teithio Llesol Gwy ganiatâd cynllunio gydag amodau ddechrau 2014. Gellir gweld fideo o’r bont arfaethedig yma:
Defnyddiodd Cyngor Sir Fynwy gyllid craidd y Gronfa Teithio Llesol i gynnal cynnydd ar y cynllun yn 2024-25. Roedd hyn yn cynnwys arolygon ecoleg a monitro, negodi tir, gwiriadau categori II (archwiliad annibynnol o’r dyluniad), ymgyfraniad cynnar gan gontractwyr a dyluniad manwl o’r gwaith a gwaith i baratoi’r safle, tebyg i lwybrau mynediad a symud cyfleustodau. Cafodd y cynllun ei gynnwys yng Nghynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd fel un o gynlluniau Teithio Llesol strategol Sir Fynwy.
Wyesham Links
Amcanion cynllun Wyesham Links
Darparu rhwydwaith cerdded a seiclo uniongyrchol, cydlynol, cysurus a diogel yn addas ar gyfer pob defnyddiwr
Cynyddu lefelau mynediad cynaliadwy i addysg, cyflogaeth, iechyd a gwasanaethau allweddol eraill
Gwella diogelwch gwirioneddol a thybiedig defnyddwyr agored i niwed
Cynyddu nifer y bobl sy’n cerdded ac yn seiclo rhwng Wyesham a chanol tref Trefynwy
Gostwng dibyniaeth a defnydd ceir ar gyfer tripiau byr rhwng Wyesham a chanol tref Trefynwy drwy newid dulliau teithio
Gostwng effeithiau negyddol trafnidiaeth ar yr amgylchedd naturiol ac adeiledig
Problemau a ddynodwyd yn Wyesham
Lefel uchel o draffig, gyda chyfran sylweddol o gerbydau nwyddau trwm a thraffig cyflym, yn gysylltiedig â’r ffordd ddeuol a ffyrdd bwydo cyfagos a diffyg darpariaeth digonol ar gyfer defnyddio dulliau trafnidiaeth eraill ar gyfer tripiau lleol, byr
Diffyg cyfleusterau croesi i gerddwyr a mannau gwasgu ar y droedffordd bresennol
Cyffyrdd ochr llydan ac angen tynhau radiysau cyffyrdd i ostwng gwrthdaro gyda defnyddwyr ffordd agored i niwed
Angen cyrbau isel a phalmentydd botynnog ar rai cyffyrdd ochr
Diffyg arwyddion
Ymyriadau a gynigir – Wyesham Links
Arweiniodd cyfres o astudiaethau o ddefnydd llwybrau ac ymyriadau posibl yn ardal Wyesham ar ddatblygu cysyniad troedffordd i gerddwyr yn unig o gylchfan Mayhill hyd at gyffordd Wyesham Road a Wyesham Avenue, gyda darpariaeth seiclo i fod ar y ffordd yn defnyddio egwyddor Strydoedd Tawel, yna, o gyffordd Wyesham Avenue a Wyesham Road i Ysgol Gynradd Kymin View, cyfleuster rhannu defnydd yn defnyddio’r droedfordd lydan sy’n bosibl ar hyd yr adran hon.
Llun: Cynllun cysyniad dyluniad ar gyfer cynllun Wyesham Links
Cynllun Hen Heol Dixton
Amcanion cynllun Hen Heol Dixton
Bydd y llwybr teithio llesol arfaethedig yn rhedeg o Lyfrgell Trefynwy ar hyd yr A466 i lle mae’n ymuno â Hen Heol Dixton, i’r dwyrain ar hyd Hen Heol Dixton am tua 250m ac wedyn yn mynd drwy’r danffordd dan yr A40 i Glwb Rhwyfo Trefynwy lle bydd yn ymuno â llwybr presennol sy’n rhedeg i’r gogledd ddwyrain ar hyd yr afon.
Cynyddu nifer teithwyr llesol yn Nhrefynwy drwy wneud y llwybr ar hyd Hen Heol Dixton ac o lannau’r Afon Gwy yn fwy addas a deniadol i gerddwyr a seiclwyr
Gwelliannau ar gyffyrdd a mannau croesi allweddol
Sicrhau gwelliannau amgylcheddol i’r ardal drwy annog newid dulliau teithio o geir i ddulliau llesol, gan ostwng cerbydau segur, gwella llif traffig a seilwaith i wneud y llwybr yn fwy deniadol a gostwng traffig ceir
Problemau a ddynodwyd yn Hen Heol Dixton/o amgylch Ysgol Gyfun Trefynwy
Mae seilwaith ffyrdd hanesyddol a phrysur a throedffyrdd cul yn creu llwybr anneniadol ac anghydlynus ar gyfer teithio llesol. Cafodd gwelliannau eu gwneud i’r ardal gydag adeiladu ysgol a chanolfan hamdden newydd, ond mae darpariaeth troedffordd wael a lled cyfyngedig ger tafarn y Nags Head yn dal i greu problemau ar gyfer teithio llesol ar hyd y llwybr.
Llun: Llwybr Cynllun Hen Heol Dixton
Ymyriadau arfaethedig – Hen Heol Dixton
Mae’r cynllun yn cynnig gwelliannau graddfa fach i ddarpariaeth teithio llesol ar hyd Hen Heol Dixton o Lyfrgell a Hyb Trefynwy i danffordd yr Afon Gwy, er mwyn cynnal a chynyddu lefelau cerdded a seiclo i’r ysgol gyfun, y ganolfan hamdden, busnesau a chyfleusterau cymunedol eraill a gaiff eu gwasanaethu gan y llwybr.
I gael mwy o wybodaeth ar waith Cyngor Sir Fynwy yn Nhrefynwy, gweler Trefynwy – Monlife
Bydd Cyngor Sir Fynwy yn dechrau ar y gwaith ar wella Neuadd Sirol yn Nhrefynwy.
Er mwyn cyflawni’r weledigaeth uchelgeisiol hon, bydd Neuadd Sirol yn cau i’r cyhoedd dros dro o 20 Rhagfyr 2025, er mwyn caniatáu i’r gwaith hanfodol ddechrau. Disgwylir i’r adeilad aros ar gau i’r cyhoedd tan yn gynnar yn 2027.
Gyda chefnogaeth buddsoddiad o £2.8 miliwn, gan gynnwys £1.5 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, bydd y prosiect hwn yn gweld Neuadd Sirol yn cael ei hadfywio fel amgueddfa gymunedol ysbrydoledig a chanolfan ddysgu ddeinamig.
Beth sy’n Newid?
Bydd Neuadd Sirol ar ei newydd yn cynnig arddangosfeydd arloesol yn dweud stori Trefynwy, mannau dysgu hyblyg, storfeydd i wrthrychau gweladwy a chyfleusterau gwella ar gyfer ein casgliadau sy’n arwyddocaol yn rhyngwladol.
Bydd gwelliannau i’r system wresogi ac effeithlonrwydd ynni’n gwella cynaliadwyedd amgylcheddol, gan leihau ôl-troed carbon yr adeilad rhestredig Gradd I yma.
Bydd mannau manwerthu wedi eu hailddylunio a chroeso newydd i ymwelwyr yn gwella’r profiad i bawb, gan gefnogi adfywiad Trefynwy a’r Cynllun Rheolaeth Cyrchfannau.
Bydd y prosiect yn dileu rhwystrau corfforol, ariannol a chymdeithasol at fynediad, gan sicrhau fod Neuadd Sirol yn lle croesawgar i bawb.
Mae ymgynghoriad helaeth ag ystod eang o gymunedau, gan gynnwys grwpiau lleiafrifoedd ethnig ac unigolion sy’n byw gyda dementia, wedi llunio’r prosiect.
Mae mentrau fel prosiectau Casgliadau Dynamig a Chymru Wrth-hiliol eisoes wedi arwain at arddangosfeydd wedi’u curadu ar y cyd a phrofiadau amgueddfeydd mwy cynhwysol. Bydd Panel Dinasyddion yn parhau i lywio arddangosfeydd a digwyddiadau yn y dyfodol, gan sicrhau cynrychiolaeth gymunedol barhaus.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Faterion Gwledig, Tai a Thwristiaeth, y Cyng. Sara Burch: “Mae Neuadd Sirol wedi gwasanaethu Mynwy mewn sawl ffordd dros ei hanes, yn fwyaf diweddar fel lle i bobl yr effeithiwyd arnynt gan lifogydd ddod i gael cefnogaeth. Rydym yn edrych ymlaen at ei dyfodol fel amgueddfa gymunedol gyffrous, gan adrodd straeon niferus Trefynwy a dangos ein casgliadau pwysig yn rhyngwladol.”
Tra bod Neuadd Sirol ar gau, byddwn yn hysbysu’r gymuned ac yn ymgysylltu trwy ddiweddariadau rheolaidd a mewnwelediadau y tu ôl i’r llenni i’r trawsnewidiad.
Rydym yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr yn ôl yn 2027 i Neuadd Sirol sy’n fwy bywiog, cynhwysol a chynaliadwy nag erioed o’r blaen.
Mae Cyngor Sir Fynwy yn falch iawn o gyhoeddi bod MonLife, tîm Chwaraeon, Chwarae a Chymunedau’r cyngor, wedi cael ei gydnabod yng Ngwobrau Dathlu 10 Mlynedd Bwyd a Hwyl.
Cynhaliwyd y gwobrau gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, i nodi degawd o’r Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol Bwyd a Hwyl, gan ddathlu cyfraniadau eithriadol unigolion, sefydliadau a phartneriaethau wrth gefnogi plant a theuluoedd ledled Cymru yn ystod gwyliau’r ysgol dros yr haf.
Cyrhaeddodd MonLife, sydd wedi cydlynu’r rhaglen Bwyd a Hwyl yn Sir Fynwy am y pum mlynedd diwethaf, restr fer Gwobr Hyfforddwr Chwaraeon, sy’n cydnabod sefydliadau sy’n darparu gweithgarwch corfforol mewn ffyrdd arloesol, gan sicrhau bod anghenion pob plentyn wrth wraidd cynllunio.
Diolch i ymroddiad a chydweithrediad y tîm Chwaraeon, Chwarae a Chymuned, enwyd MonLife yn enillydd y Wobr Hyfforddwr Chwaraeon.
Mae’r rhaglen Bwyd a Hwyl yn Sir Fynwy wedi’i seilio ar fodel canolbwynt cadarn, sy’n rhoi cyfle i blant a phobl ifanc fynychu tair wythnos o weithgareddau gwyliau’r haf. Bob dydd, mae cyfranogwyr yn derbyn brecwast maethlon a chinio poeth, ochr yn ochr â rhaglen amrywiol o chwaraeon, chwarae a gweithgareddau cyfoethogi. Mae’r dull hwn yn sicrhau bod plant nid yn unig yn cadw’n weithgar ac yn brysur, ond hefyd yn elwa o brydau iach yn ystod y gwyliau.
Aeth cydnabyddiaeth bellach i Amanda Davies, Arweinydd Safle Ysgol Gynradd Thornwell yng Nghas-gwent, a enwyd yn ail ar gyfer y Wobr Cyfraniad Eithriadol. Mae Amanda, a ddechreuodd fel Cynorthwyydd Safle Gwyliau, wedi bod yn eiriolwr angerddol dros y rhaglen Bwyd a Hwyl ers ei sefydlu. Mae ei hymrwymiad a’i harbenigedd wedi cael effaith sylweddol ar y gymuned.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu, y Cynghorydd Angela Sandles: “Roeddwn wrth fy modd yn mynychu ac yn gweld tîm anhygoel MonLife yn cael ei gydnabod yng Ngwobrau Dathlu 10 Mlynedd Bwyd a Hwyl CLlLC yng Nghaerdydd, gan ennill Gwobr yr Hyfforddwr Chwaraeon am eu gwaith gwych yn annog plant a phobl ifanc i fod yn egnïol a mwynhau chwaraeon.”
“Rwyf hefyd mor falch o Amanda Davies, sy’n arwain rhaglen Bwyd a Hwyl Ysgol Thornwell yng Nghas-gwent ac a enwyd yn ail ar gyfer y Wobr Cyfraniad Eithriadol. Mae angerdd ac ymrwymiad Amanda i’r cynllun Bwyd a Hwyl yn disgleirio ym mhopeth y mae’n ei wneud, mae hi’n hyrwyddwr gwirioneddol o’r gwahaniaeth cadarnhaol y mae’n ei wneud i’n pobl ifanc a’u teuluoedd.”
Mae Cyngor Sir Fynwy newydd lansio ymgynghoriad newydd, a fydd yn mynd tan ddydd Sul, 14 Rhagfyr 2025, o gylch thema diwylliant a gweithgareddau diwylliannol yn y sir.
Mae ymgynghoriad Siarad am Ddiwylliant yn gofyn am eich meddyliau a’ch syniadau i helpu i lunio’r Strategaeth Ddiwylliannol arfaethedig ar gyfer Sir Fynwy rhwng 2025 a 2035.
Os ydych chi’n ymwneud â gweithgareddau diwylliannol neu os oes gennych ddiddordeb mewn gweithgareddau diwylliannol fel celf, perfformio, drama, cerddoriaeth, crefftau, neu hanes, neu os oes gennych farn am yr hyn y dylai byd diwylliannol Sir Fynwy ei gwmpasu, rydym yn eich annog i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.
Bydd y wybodaeth y bydd yr arolwg ymgynghori yn ei chasglu yn helpu i lunio Strategaeth Ddiwylliannol arfaethedig y cyngor gyda’r nod o sbarduno newid cadarnhaol ar draws y sir a gwneud diwylliant yn fwy cynhwysol, hygyrch a gweladwy i bawb yn Sir Fynwy.
Dywedodd y Cynghorydd Sara Burch, yr Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am ddiwylliant: “Mae diwylliant yn rhan annatod o’r sir a’i hunaniaeth. Mae’n rhoi profiadau creadigol ar y cyd lle gallwn fynegi, dysgu a myfyrio ar ein hanes, ein lle, materion cymdeithasol a’n bywydau personol. Gall y profiadau hyn wella ein lles, cryfhau cymunedau a helpu i ddatblygu sgiliau bywyd hanfodol ar gyfer cyflogaeth a gwell ansawdd bywyd.
“Mae diwylliant yn perthyn i bawb, ac felly hefyd y strategaeth a’r cynllun gweithredu hwn. P’un a ydych chi’n berfformiwr, yn grëwr, yn ymwelydd, yn aelod o’r gynulleidfa neu’n ennill eich bywoliaeth trwy’r diwydiannau diwylliannol rydym am glywed gennych. Beth sy’n dda? Beth allai fod yn well? Rhannwch eich barn a gweithiwch gyda ni ar gyfer dyfodol bywiog Sir Fynwy”
Gallwch ddysgu mwy am yr ymgynghoriad a sut i gymryd rhan drwy ymweld â llwyfan ymgysylltiad y cyngor, Sgwrsio Am Sir Fynwy erbyn 23.59 o’r gloch ddydd Sul 14 Rhagfyr.
Ffyrdd eraill o gymryd rhan: Gallwch hefyd gasglu (a dychwelyd) arolygon papur yn unrhyw un o Hybiau Cymunedol y cyngor, Amgueddfa Cas-gwent, Canolfan Groeso Cas-gwent, Amgueddfa’r Fenni a Borough Theatre.
Bydd Castell Cil-y-coed yn safle gŵyl gelf rhad ac am ddim fis nesaf. Bydd yn gweld rhai o artistiaid mwyaf talentog Sir Fynwy yn ymuno i ddathlu creadigrwydd gyda mynychwyr yr ŵyl ddydd Sadwrn 4 Hydref 2025.
Bydd y digwyddiad teuluol, a gynhelir rhwng 11am a 4pm, yn cynnwys llu o weithgareddau i bobl eu mwynhau, gan eu hannog i fod yn greadigol a chael hwyl.
Ar gyfer y rhai sydd eisiau rhoi cynnig arni, bydd sesiwn darlunio a pheintio awyr agored, murlun cymunedol byw i gyfrannu eto yn ogystal ag arddangosiadau gan artistiaid ac eraill a chyfleoedd eraill i roi cynnig ar gweithgareddau celf a chreadigol newydd. Bydd angen i’r rhai sy’n dymuno cymryd rhan yn y sesiwn awyr agored ddod â: phapur, bordyn i osod y papur arno, pensiliau, paent dyfrlliw, brwshys, dŵr mewn jar, stôl i eistedd arni ac îsl os oes ei hangen.
Caiff plant gyfle i greu celfweithiau mawr o bethau y maent yn dod o hyd iddynt, rhoi cynnig ar lythrennu graffiti a chymryd rhan mewn cystadleuaeth gelf ‘arwyr lleol’.
I gymryd rhan, gofynnir i bobl ifanc 5-11 oed feddwl am berson lleol, lle neu stori sy’n eu hysbrydoli, a darlunio, peintio, argraffu, torri neu lynu eu syniadau ar ddarn o gerdyn A4. Mae angen ysgrifennu enwau ac oedran yn glir ar y cefn a rhaid cyflwyno pob cais i’r castell erbyn 2pm ar y dydd. Cyhoeddir enw’r enillydd am 3pm. Bydd y sawl sy’n cymryd rhan yn cael cyfle i ennill bwndel creadigol cyffrous.
Yn ogystal â gweithdai a gweithgareddau, cynhelir amrywiaeth o berfformiadau gan gerddorion a grwpiau lleol, yn ogystal ag arddangosiadau gan artistiaid, yn nhir hardd y castell. Ar gyfer y rhai sy’n dymuno cael lluniaeth, bydd yr ystafell te ar agor i weini diodydd twym a theisennau drwy’r dydd.
Dywedodd y Cyng Sara Burch, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Faterion Gwledig, Tai a Thwristiaeth: “Mae gan Sir Fynwy gymuned greadigol sydd wedi sefydlu’n dda ac sy’n gwneud cyfraniad gwerthfawr. Mae eu gwaith yn ysbrydoli pobl o bob oed ac mae’n wir yn helpu i hyrwyddo’r sir. Mae’n amlwg iawn fod creadigrwydd yn ffynnu ar draws Sir Fynwy, ac yn sicr yng Nghil-y-coed, fel y bydd yr ŵyl gelf hon yn ddangos.
“Fedra i ddim aros i weld y castell yn llawn o artistiaid lleol a theuluoedd, i gyd yn dathlu’r diwylliant gwych a welwn bob dydd ar draws y sir.”
Os hoffech gymryd rhan fel artist neu berfformiwr neu os oes gennych syniad am sut i gefnogi’r gymuned greadigol leol, anfonwch e-bost at:
Dewch i ddweud eich dweud ar gynlluniau Cyngor Sir Fynwy i drawsnewid dau faes chwarae yng Nghas-gwent.
Mae’r Cyngor wedi derbyn cyfran gyfyngedig o’r £5 miliwn a ddyrannwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwella meysydd chwarae a chyfleusterau chwarae. Ar ôl adolygu data lleol a’r meini prawf ariannu, mae dau barc yng Nghas-gwent, Western Avenue a Pharc Bulwark, wedi’u clustnodi ar gyfer gwaith gwella.
Nid hwyl yn unig yw chwarae ond mae’n rhan hanfodol o ddatblygiad a thwf plentyn. Mae’n meithrin hyder, yn meithrin gwydnwch ac yn hybu hunan-barch, a hynny i gyd wrth feithrin perthnasoedd agosach o fewn teuluoedd a chymunedau.
Hoffem glywed eich barn nawr ar y gwaith uwchraddio arfaethedig. Bydd eich barn yn ein helpu i ddeall anghenion a dewisiadau’r cymunedau lleol.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu, y Cynghorydd Angela Sandles: “Bydd eich barn yn ein helpu i lunio datblygiad y ddau barc yng Nghas-gwent.
“Fel Cyngor, ein nod yw datblygu’r parciau i ddarparu’r cyfleoedd gorau i’r plant feithrin hyder a chael amser gwych ar yr un pryd.”
Dros yr haf, fel rhan o’r ymgynghoriad, byddwn yn siarad â’r plant a’r bobl ifanc sy’n cymryd rhan yng ngweithgareddau haf MonLife i gasglu eu barn ar y cynlluniau.
Mae Cyngor Sir Fynwy yn datblygu cynlluniau ar gyfer llwybr Teithio Llesol newydd sy’n mynd drwy ran o Barc Gwledig Castell Cil-y-coed.
Nod Llwybr Aml-ddefnyddiwr Cil-y-coed yw cysylltu llwybr Teithio Llesol Cysylltiadau Cil-y-coed/Llwybr Glas sydd newydd ei adeiladu â ffordd wasanaeth tarmac y Parc Gwledig, gan greu llwybr hygyrch a thawel i gerddwyr, beicwyr a phobl sy’n teithio o gwmpas o Borthsgiwed i ganol tref Cil-y-coed.
Mae’r llwybr wedi’i gynllunio i annog mwy o bobl i ddewis teithio llesol ar gyfer teithiau bob dydd, gan helpu i leihau traffig, gwella ansawdd aer a chefnogi ffyrdd o fyw iachach. Bydd hefyd yn gwella mynediad i’r Parc Gwledig, gan ei gwneud hi’n haws i drigolion ac ymwelwyr fwynhau treftadaeth naturiol a diwylliannol yr ardal.
Mae’r Cyngor nawr eisiau clywed gan drigolion i gasglu syniadau ar gyfer y llwybr.
Hoffai Cyngor Sir Fynwy glywed gennych os ydych chi’n byw yng Nghil-y-coed, Porthsgiwed, Sudbrook, Rogiet, Caerwent a’r ardaloedd cyfagos. Ein nod yw cyrraedd defnyddwyr presennol a defnyddwyr newydd posibl llwybrau teithio llesol yn yr ardal i ddarganfod beth hoffech chi ei weld ar hyd y llwybr.
Gallwch gyflwyno eich syniadau drwy gymryd rhan yn arolwg ar-lein y prosiect, a fydd yn cael ei gynnal drwy gydol mis Awst, ac sydd ar gael yn y cyfeiriad gwe canlynol: www.sgwrsioamsirfynwy.co.uk/
Bydd yr arolwg ar gael ar-lein am bedair wythnos rhwng 1af Awst a’r 31ain Awst.
Bydd y Cyngor hefyd yn cynnal dau ddiwrnod galw heibio cyhoeddus lle gallwch weld copïau caled o’r cynlluniau, siarad ag aelodau o dîm y prosiect a gadael sylwadau, a hynny ar y dyddiau canlynol:
11am i 4pm, dydd Sul 10fed Awst 2025, ym Mharc Gwledig Castell Cil-y-coed
9am i 5pm, dydd Llun 11eg Awst 2025, yng Nghanolfan Hamdden Cil-y-coed
Ar ôl i’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus ddod i ben, bydd yr holl ymatebion yn cael eu dadansoddi, a bydd adroddiad yn cael ei greu ac ar gael i’r cyhoedd ar y dudalen we a nodir uchod.
Dywedodd y Cynghorydd Sara Burch, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Faterion Gwledig, Tai a Thwristiaeth: “Mae hwn yn gam cyffrous arall i wella llwybrau ar gyfer cerdded a theithio ar draws Glan Hafren.
“Rwyf eisoes yn clywed pa mor bwysig yw’r Llwybr Gwyrdd newydd i rieni â phlant ar sgwteri ac mewn cadeiriau gwthio a defnyddwyr sgwteri symudedd, ymhlith eraill.
“Mae llawer o waith wedi’i wneud i ddylunio cam nesaf y llwybr, gan ei wneud yn hygyrch ac yn apelgar wrth barchu ecoleg ac archaeoleg unigryw Castell a Pharc Gwledig Cil-y-coed.
“Rydym sicrhau bod pob dim yn gywir, ac felly, rydym yn annog pob preswylydd i edrych ar y cynlluniau a dweud eich dweud. Os oes gennych syniadau, rydym am eu clywed.”
Mae Cyngor Sir Fynwy yn falch iawn o gyhoeddi bod ein hatyniadau a’n mannau agored yn parhau i gael cydnabyddiaeth, gyda Gwobr y Faner Werdd.
Mae’r wobr hon yn rhoi cydnabyddiaeth i leoliadau sy’n cynnig cyfleusterau rhagorol ac ymrwymiad parhaus i wasanaeth o ansawdd uchel.
Ar draws Sir Fynwy, cafwyd Gwobrau’r Faner Werdd ar gyfer:
· Parc Cefn Gwlad Rhosied – derbynnydd gwobr ers 2024
· Hen Orsaf Tyndyrn – derbynnydd gwobr ers 2009
· Castell a Pharc Gwledig Cil-y-coed, wedi’i anrhydeddu ers 2013
· Dolydd y Castell, Y Fenni, ers 2014
Cafodd 12 Safle Cymunedol eraill eu cydnabod â Gwobr Gymunedol y Faner Werdd, gan gynnwys:
· Parc Bailey
· Gardd Busy Bees
· Dolydd Caerwent
· Gardd Gymunedol Cil-y-coed
· Dôl Crug
· Rhandiroedd Crucornau
· Gardd Gymunedol Goetre
· Bwyd Bendigedig Brynbuga
· Perllan Gymunedol Laurie Jones
· Parc Mardy
· Pentref Cyfeillgar i Fywyd Gwyllt Rhosied
· Y Maes Ŷd
Cadwch Gymru’n Daclus sy’n gweinyddu rhaglen Gwobr y Faner Werdd yng Nghymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Gwirfoddolodd arbenigwyr annibynnol mewn mannau gwyrdd eu harbenigedd i werthuso’r ymgeiswyr yn erbyn meini prawf trwyadl megis bioamrywiaeth, glendid, rheolaeth amgylcheddol, a chyfranogiad cymunedol.
Am restr lawn enillwyr Gwobr y Faner Werdd eleni, ewch i https://keepwalestidy.cymru/cy.
Dywedodd y Cynghorydd Sirol Sara Burch, Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Tai a Thwristiaeth Cyngor Sir Fynwy: “Mae gennym gyfoeth o fannau gwyrdd ac atyniadau gwych ledled Sir Fynwy.
“O ddiwrnodau allan i’r teulu i’r rhai sy’n chwilio am rywbeth sy’n canolbwyntio mwy ar natur neu weithgaredd, mae rhywbeth at ddant pawb.
“Rwy’n falch bod gwaith caled gwirfoddolwyr wedi cael ei wobrwyo unwaith eto gyda Gwobrau’r Faner Werdd.”
Dywedodd y Cynghorydd Sirol Catrin Maby, Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Mae mor braf gweld bod llawer o’n lleoliadau yn sir hardd Sir Fynwy wedi derbyn gwobrau eleni.
“Mae’n wych gweld safleoedd o Hen Orsaf Tyndyrn i Ddolydd y Castell yn y Fenni wedi cael eu cydnabod gyda gwobrau’r Faner Werdd.”
Mae Cyngor Sir Fynwy wrth ei fodd yn cyhoeddi ei fod wedi derbyn grant sylweddol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i gefnogi’r Prosiect Neuadd Sirol a fydd yn drawsnewidiol.
Bydd y grant hwn yn galluogi’r Cyngor i wella’r Neuadd Sirol, sydd wedi’i lleoli yng nghanol hanesyddol Trefynwy, yn gyrchfan hygyrch a bywiog i’r gymuned leol ac ymwelwyr.
Nod prosiect y Neuadd Sirol yw creu lle y mae modd i bobl ddarganfod, dathlu a rhannu straeon amrywiol.
Bydd y prosiect yn cynnwys datblygu orielau newydd, gosod system wresogi fodern, a chreu mannau amlbwrpas i gefnogi cynhyrchu incwm. Bydd y gwelliannau hyn yn sicrhau cynaliadwyedd hirdymor yr adeilad rhestredig Gradd I ac yn cynyddu ei effeithlonrwydd amgylcheddol.
Bydd y prosiect hefyd yn canolbwyntio ar gyfranogiad cymunedol a gwirfoddoli, gydag ystod o weithgareddau a digwyddiadau wedi’u cynllunio i ymgysylltu â chynulleidfa ehangach.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Faterion Gwledig, Tai a Thwristiaeth, y Cynghorydd Sara Burch: “Bydd grant y Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, ynghyd a chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a chronfeydd lleol yn ein galluogi i drawsnewid Neuadd Sirol yn amgueddfa arbennig, gan arddangos casgliad Nelson, hanes Trefynwy a llawer o straeon pwysig arall mewn ffyrdd hygyrch a deniadol. Byddwn yn parhau i weithio gyda phobl Trefynwy a Chyngor Tref Trefynwy i wireddu’r weledigaeth hon.”
Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru: “Rydym yn gwybod y gall treftadaeth chwarae rhan enfawr wrth ddod â phobl ynghyd a chreu ymdeimlad o falchder yn nhrefi a dinasoedd pobl, ac yn ei dro hybu’r economi leol. Dyna pam rydym wrth ein bodd yn dyfarnu £1.5 miliwn i drawsnewid Neuadd Sirol hanesyddol Trefynwy yn amgueddfa gymunedol ysbrydoledig. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, bydd y cyllid hanfodol hwn yn cadw casgliadau o bwys rhyngwladol wrth greu canolfan ddiwylliannol hygyrch lle gall cenedlaethau’r dyfodol fwynhau’r dreftadaeth bwysig hon am flynyddoedd lawer i ddod.”
Bydd y gwelliannau i’r Neuadd Sirol yn ei gwneud yn lle y mae modd i bobl ddod i fwynhau treftadaeth, a bydd y cyfleusterau newydd yn darparu amodau gwell ar gyfer y casgliadau o bwys rhyngwladol a gedwir ynddi.
Mae’r Cyngor hefyd wedi derbyn cyllid grant gan Raglen Gyfalaf Trawsnewid Diwylliannol Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiect y Neuadd Sirol. Am ragor o wybodaeth am brosiect y Neuadd Sirol, ewch i: https://www.monlife.co.uk/cy/heritage/the-shire-hall/