Abergavenny - Monlife

Trosolwg cynllun strategol y Fenni

Disgrifiad o’r Cynllun

Mae’r cais hwn yn canolbwyntio ar y cysylltiadau Teithio Llesol sydd eu hangen rhwng ardaloedd Llan-ffwyst a phrif dref y Fenni. Mae’n seiliedig ar bont Teithio Llesol newydd a chysylltiadau eraill sy’n gysylltiedig a fydd yn creu nifer o fuddion o ran Teithio Llesol. Nod y cynllun yn y pen draw yw ceisio creu

  • Pont newydd i gerddwyr/beiciau ar draws Afon Wysg tua 50 metr i’r dwyrain o bont garreg bresennol y Fenni (heneb gofrestredig sydd hefyd yn rhestredig Gradd II*).
  • Cysylltiadau pellach ar ffurf llwybr Teithio Llesol oddi ar y ffordd drwy Ddolydd y Castell i ganol y dref ac ymlaen i’r orsaf drenau.
  • Gwell cysylltiadau â Llan-ffwyst o’r bont newydd.

Bydd y bont newydd yn dod yn brif groesfan dros yr afon i Ddefnyddwyr Difodur rhwng Llan-ffwyst a’r Fenni (NMU).  Bydd hyn yn lleihau’n sylweddol y risgiau sy’n gysylltiedig â’r droedffordd gul bresennol dros Bont bresennol y Fenni ac yn annog mwy o newid moddol o ganlyniad.  Mae hefyd yn bwysig sicrhau fod cysylltiadau effeithiol o’r bont (newydd a phresennol) i ganol y dref, i aneddiadau tai yn Llan-ffwyst a chyrchfannau allweddol eraill, hynny yw, llwybr di-dor.  Yn y gorffennol, mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu astudiaethau o Bont Llan-ffwyst.  Mae’r cais yn ceisio cyllid i gwblhau camau hanfodol yn natblygiad y rhwydwaith Teithio Llesol rhwng anheddiad Llan-ffwyst a chanol tref y Fenni.

Pont

Mae’r cynllun yn 4ydd ar y rhestr blaenoriaethau uchaf (nad ydynt yn flaenoriaethau Metro) yn y rhaglen LTP. Y cynllun yw’r prif flaenoriaeth o ran Map Rhwydwaith Teithio Llesol (ATNM) Cyngor Sir Fynwy (MCC) ar gyfer y Fenni yn seiliedig ar ein cyfnod ymgysylltu diweddar a’r data blaenorol.  Nod y cynllun yw creu pont newydd i gerddwyr/beicwyr ar draws Afon Wysg tua 50 metr i’r dwyrain o’r bont garreg bresennol sy’n Heneb Gofrestredig ac yn rhestredig Gradd II*. Mae’r bont newydd wedi’i chynllunio i gydweddu â’r amgylchedd o’i chwmpas gan Bensaer pont enwog a’r cynnig yw y bydd yn dod yn brif groesfan dros yr afon rhwng Llan-ffwyst a’r Fenni ar gyfer defnyddwyr difodur. Bydd hyn yn lleihau’n sylweddol y risgiau iechyd a diogelwch sy’n gysylltiedig â’r droedffordd gul sy’n bodoli ar hyn o bryd dros y Bont bresennol. Bydd tasgau’n cynnwys: mynd i’r afael ag amodau cynllunio cyn cychwyn, caffael contractwr/ contractwyr, prynu deunyddiau ar gyfer y bont, creu cysylltiadau gyda’r bont a chysylltiadau cyswllt ac ystyried mesurau Gwytnwch Llawr Eiddo (PFR).   

Dolydd

Mae’r cynllun yn ceisio darparu gwell cysylltiadau i gerddwyr a beicwyr sy’n cydymffurfio ag egwyddorion Teithio Llesol ar draws Dolydd y Castell a Chaeau Ysbytty gan gysylltu Llan-ffwyst (gyda phont droed a beicio Llan-ffwyst) â chanol tref y Fenni a gorsaf reilffordd y Fenni.  Tasgau’n cynnwys:

  • Dolydd y Castell — cael caniatâd cynllunio, mynd i’r afael ag unrhyw amodau cyn cychwyn, cyflawni FRAP ar gyfer pont Afon Genni, caffael contractwr.
  • Caeau Ysbytty (gan gynnwys yr A40/croesfan Heol yr Orsaf) — yn amodol ar drafodaethau llwyddiannus o ran y tir, cynnal arolygon pellach, cadarnhau’r cynllun, cyflwyno cais cynllunio, sicrhau caniatâd cynllunio, mynd i’r afael ag unrhyw amodau cyn cychwyn, caffael contractwr.

Dolenni

Mae’r cynllun yn ceisio darparu gwell cysylltiadau i gerddwyr a beicwyr sy’n cydymffurfio ag egwyddorion Teithio Llesol rhwng Llan-ffwyst a phont droed a beicio newydd Llan-ffwyst a galluogi cerddwyr a beicwyr wedyn i barhau â’u taith drwy Ddolydd y Castell a Chaeau Ysbytty i Ganol Tref y Fenni a Gorsaf Reilffordd y Fenni.  Tasgau’n cynnwys: cwblhau Astudiaeth Cam 3 WelTAG (gan gynnwys arolygon cysylltiedig, a dylunio), paratoi pecyn tendro, ymholi a chyflwyno cais cynllunio (os oes angen) ac unrhyw amodau cynllunio cyn cychwyn, caffael contractwr/contractwyr, a dechrau adeiladu.


This post is also available in: English