Trosolwg cynllun strategol Cil-y-coed
Cil-y-coed 1
Disgrifiad o’r Cynllun
Mae’r cynnig Caldicot Links yn gynllun sydd â dyluniad aml-elfen sy’n cyflawni’n raddol. Ei nod yw creu rhwydwaith integredig o lwybrau a fydd â chyfleusterau cyd-ddefnyddio pwrpasol. Mae hefyd yn gysylltiedig â seilwaith gwyrdd, gweithgareddau llesiant, rheoli cyrchfannau a chamau gweithredu o ran datblygu’r economi leol. Byddai’r cynnig hwn yn gwella’r llwybr a rennir trwy’r Castell a’r Parc Gwledig ac ymlaen i’r Caldicot Links MCC-S28 gan ddarparu cysylltiadau rhwng datblygiadau tai amrywiol, safleoedd CDLl a chanol y dref. Roedd yr holl elfennau a nodir isod yn ddarostyngedig i gynllun Llywodraeth Cymru a gymeradwywyd gan AT yn 2021-22 a 2022-23, rhoddwyd cyllid ar gyfer adeiladu yn 2022-23, ond bu i’r cynllun lithro ac felly yr oll a gyflawnwyd oedd clirio coed.
Mae’r cynnig hwn ar gyfer:
- Adeiladu Rheilffordd Cam 1 (Portskewett i Gastell Cil-y-coed) yn 2023/24
- Parhau i weithio ar ddyluniad manwl, arolygu ac ymgynghori ar gyfer Camau 2&3 Rheilffordd y Weinyddiaeth Amddiffyn nas defnyddir (Castell Cil-y-coed i Gric/Caerwent a chysylltiadau safle’r CDLl) yn 2023/24.
- Datblygu llinell reilffordd 2.81km o hyd yn llwybr Teithio Llesol sy’n gwasanaethu nifer o gymunedau.
- Parhau i ddatblygu’r cam llwybr Aml-Ddefnyddiwr er mwyn sicrhau caniatâd cynllunio a chwblhau dyluniad manwl er mwyn bod yn barod i dendro yn 23/24.
- Nod y cynllun hwn yw creu llwybr cerdded/beicio pwrpasol newydd, a llwybr marchogaeth mewn mannau, llwybr aml-ddefnyddiwr, sy’n hygyrch i drigolion cymunedau Portskewett, Cil-y-coed a Chaerwent a’u hymwelwyr, sy’n eu galluogi i gael mynediad at gyrchfannau allweddol o ran cyflogaeth a gwasanaethau.
- Bydd y gwaith o adeiladu’r prosiect yn digwydd yn raddol a bydd yn cychwyn yn 202/24 er mwyn cysylltu ag aneddiadau tai eraill yng Nghil-y-coed a datblygiadau newydd arfaethedig.
- Cysylltu â Heol yr Eglwys (MCC-S03) er mwyn creu dull integredig o deithio llesol yn yr ochr ddwyreiniol sy’n cysylltu preswylwyr â chyflogaeth, addysg a gwasanaethau lleol yn ogystal â’u cysylltu â nodau trafnidiaeth gyhoeddus.
Cil-y-coed 2
Disgrifiad o’r cynllun (yn ddarostyngedig i gyllid)
Cam 1 Adeiladu — Mehefin 2023 i Hydref 2023
- Mae’r cam adeiladu hwn yn creu’r seilwaith Teithio Llesol sydd ei angen er mwyn creu llwybr mwy diogel a mwy uniongyrchol i Ysgol Cil-y-coed ar gyfer y rhai sy’n teithio o ochr ddwyreiniol Woodstock Way. Mae’n helpu i leihau’r tagfeydd sy’n cael eu hachosi yn ystod amser dechrau a gorffen yr ysgol trwy gynnig llwybr arall ar gyfer y disgyblion i’r ysgol gan osgoi Lôn y Felin.
- Mae newidiadau i feysydd parcio’r ysgol a’r ganolfan hamdden yn creu amgylchedd mwy diogel ar gyfer cerdded, powlio a beicio yn yr ardal hon, yn ogystal ag annog “park and stride”
- Mae’r cam hwn hefyd yn gwneud gwelliannau i’r seilwaith Teithio Llesol yn Ysgol Gynradd Durand a’r cyffiniau yn ogystal â gwella’r llwybr yng nghefn yr ysgol, gan wneud defnyddio maes parcio’r ganolfan hamdden yn opsiwn mwy deniadol a “park and stride”. Darperir sgematig fesul cam er gwybodaeth.
Cam 1 Adeiladu yn Woodstock Way a Maes Parcio Woodstock Way
- Adeiladu llwybr a rennir ar ochr dde-ddwyreiniol Woodstock Way rhwng Cyffordd Mill Lane a’r gyffordd ger Aldi/Asda, (bydd y gwaith yn cynnwys cynnwys draeniad, palmentydd isel, palmant botymog a marciau sebra ar draws mynedfeydd);
- Adeiladu bwrdd uchel a chroesfannau twcan gyda goleuadau ar dair braich cyffordd Aldi/Asda;
- Newidiadau i faes parcio Woodstock Way er mwyn creu llwybr i gerddwyr drwy’r maes parcio i fynedfa newydd â gât i brif fynedfa’r ysgol. Mae hyn yn cynnwys darnodi llwybr a rennir drwy’r maes parcio gyda marciau sebra wrth fannau croesi, adleoli ffens ffin yr ysgol a darparu giât newydd, ac adeiladu llwybr newydd a rennir sy’n cysylltu cornel dde-ddwyreiniol y maes parcio â giât newydd yr ysgol;
Cam 1 Adeiladu yng Nghyffiniau Ysgol Gynradd Durand
- Lledu llwybr presennol er mwyn creu llwybr a rennir gyda goleuadau lefel isel arno yng nghefn Ysgol Gynradd Durand, (bydd y gwaith yn cynnwys adleoli ffens derfyn a giât yr ysgol a gwneud gwaith tirlunio a phlannu ar hyd llinell y ffens newydd). Mae’r llwybr yn dechrau ger Curlew Avenue ac yn rhedeg ar hyd y lôn y tu ôl i’r ysgol i’r ffin ag ardal goediog yr ysgol;
- Darnodi llwybr a rennir ar yr arwyneb presennol a rennir ym mhen gogledd ddwyreiniol Alianore Road, (gan gynnwys gosod marciau sebra ar draws mynedfa maes parcio’r ysgol).
- Adeiladu llwybr a rennir ar ochr dde-ddwyreiniol Alianore Road, (gan gynnwys adleoli ffens a giât ffin yr ysgol a gwneud gwaith tirlunio a phlannu ar hyd llinell ffens newydd). Mae’r llwybr yn rhedeg o’r allanfa o faes parcio Ysgol Gynradd Duran i’r groesfan i gerddwyr â goleuadau arni ar Ffordd Osgoi Cil-y-coed.
- Uwchraddio’r groesfan â goleuadau bresennol i gerddwyr a’i gwneud yn Groesfan Twcan ar Ffordd Osgoi Cil-y-coed ger y gyffordd â Ffordd Alianore;
- Adeiladu bwrdd uwch ar gyffordd Alianore Road â Stafford Road (gan gynnwys draeniad).
Cam 1 Adeiladu ym Meysydd Parcio Ysgol a Chanolfan Hamdden Cil-y-coed
- Adleoli ffens derfyn a giât yr ysgol yng nghornel ogleddol maes parcio’r ganolfan hamdden i ddarparu mynediad i bawb i’r droedffordd bresennol, ac adeiladu llwybr newydd a rennir i gysylltu’r droedffordd bresennol â mynedfa’r ganolfan hamdden.
- Newidiadau i gynllun y maes parcio yn Ysgol Cil-y-coed a’r ganolfan hamdden i gyfuno’r ddau faes parcio a chreu un. Bydd hyn yn creu system unffordd ar gyfer cerbydau, man gollwng bws ysgol ar gyfer y ganolfan hamdden, ac ardal i gerddwyr yn y parc sglefrio;
- Dyluniad manwl cam 2, gan gynnwys:
- Croesfan ger Ffordd Woodstoc/Lôn y Felin
- llwybr cyd-ddefnyddio ar hyd ochr ogleddol Woodstock Way o Woodstock Ct i Ganol y Dref.
- Gwelliannau i Lôn y Felin ar gyfer yr Ysgol Gyfun (cilfachau bysiau a llwybr cyd-ddefnyddio a rennir) a mynediad i’r Ganolfan Hamdden
- Norman Ct a Ffordd Casnewydd
- Ffordd yr Orsaf
- Datblygu Cam 3, gan gynnwys llwybrau i’r Gogledd a’r Dwyrain o’r Ganolfan Hamdden
This post is also available in: English