Play - Monlife

Chwarae

“Mae chwarae’n cwmpasu ymddygiad plant sy’n cael ei ddewis yn rhydd, wedi’i gyfarwyddo’n bersonol ac sydd â chymhelliant cynhenid.  Nid yw’n cael ei berfformio ar gyfer unrhyw nod na gwobr allanol ac mae’n rhan sylfaenol ac annatod o ddatblygiad iach – nid yn unig i blant unigol, ond hefyd i’r gymdeithas y maent yn byw ynddi”Polisi Chwarae Llywodraeth Cynulliad Cymru (2002)

Mae chwarae’n bwysig ym mywydau plant, am ei gwerth hamdden ac am y rhan y mae’n chwarae ym maes iechyd a lles corfforol ac emosiynol plant, ac yn eu datblygiad personol.

Mae gan blant hawl yn y gyfraith i chwarae ac i sicrhau bod hyn yn cael ei fodloni rhaid, i’r cyngor asesu digonolrwydd cyfleoedd chwarae yn ei ardal; a rhaid sicrhau cyfleoedd chwarae digonol i blant, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, gan roi sylw i’w asesiad. Nod cyffredinol hyn yw sicrhau bod mwy o blant yn chwarae’n amlach a’u bod yn cael amser, gofod a chaniatâd i wneud hynny.

Mae chwarae yn yr awyr agored yn cynnig llawer o fanteision i ddatblygiad a lles plant a phobl ifanc.  Mae’r awyr agored yn darparu’r amgylchedd perffaith iddyn nhw fentro ac yn caniatáu iddynt ddod yn ymwybodol o derfynau, ffiniau a heriau yn eu chwarae, sydd yn eu tro yn adeiladu gwytnwch, sgil rheoli risg ac yn magu hyder. Mae buddion eraill yn cynnwys:

  • Mwy o sgiliau echddygol a gwella cryfder y cyhyrau
  • Datblygu sgiliau cyfathrebu a cymdeithasol
  • Gwerthfawrogiad am yr amgylchedd.

Mae Sir Fynwy yn llawn tirwedd hardd a gemau cudd sy’n cynnig lle i chwarae a bod yn weithredol. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am deithiau cerdded a mannau awyr agored yn (www.visitmonmouthshire.com/things-to-do)

Mae gan Sir Fynwy hefyd amrywiaeth o fannau sefydlog cynhwysol megis parciau ym mhob rhan o’r awdurdod.  Gallwch ddod o hyd i’r rhain yn:

CLICIWCH YMA

Rhaid i bob Awdurdod Lleol asesu digonolrwydd cyfleoedd chwarae yn ei ardal; a rhaid sicrhau cyfleoedd chwarae digonol i blant, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol

Mae Asesiad Digonolrwydd Chwarae Sir Fynwy yn manylu ar ein canfyddiadau allweddol. Mae’r Cynllun Gweithredu Chwarae hefyd wedi’i gynnwys yn y ddogfen hon ac mae’n nodi’r cynllun yn y dyfodol ar gyfer chwarae yn Sir Fynwy.

Mae chwarae’n bwysig ym mywydau plant, am ei gwerth hamdden ac am y rhan y mae’n chwarae ym maes iechyd a lles corfforol ac emosiynol plant, ac yn eu datblygiad personol.

Yma fe welwch wybodaeth am fanteision chwarae a gwybodaeth am sut y gallwch gefnogi chwarae i’ch plant ac o fewn eich cymunedau.

Plentyndod Chwareus

Magu Plant.  Rhowch amser iddo

Play Streets

 

This post is also available in: English