Mae BywydMynwy ynghyd â Chyngor Sir Fynwy a Max Associates, cwmni ymgynghori hamdden, yn datblygu Strategaeth Hamdden a Gweithgarwch Corfforol sy’n adolygiad strategol o’r modd mae gweithgareddau corfforol, hamdden, lles a chwaraeon yn cael eu darparu ar draws Sir Fynwy.
Mae’n cael ei gydnabod yn eang y gall gweithgareddau corfforol, hamdden, lles, gwasanaethau a chyfleusterau chwaraeon a gyfeirir yn strategol gael effaith sylweddol a chadarnhaol ar helpu cymunedau:
– Cyswllt
– Adfer ac Ailddyfeisio wedi’r pandemig
– Darparu profiadau cadarnhaol i blant a phobl ifanc
– Gwella iechyd a lles
– Gwella amgylcheddau gweithredol
Bydd y strategaeth hon yn ceisio ein helpu i osod y cyfeiriad ar gyfer BywydMynwy Egnïol yn y dyfodol drwy wella mynediad i gyfleusterau a datblygu cyfleusterau ar gyfer chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn y dyfodol tra bydd hefyd yn sicrhau ein bod yn parhau i gyflawni ein nodau busnes o:
– Gyfoethogi bywydau pobl drwy gyfranogiad a gweithgaredd.
– Adeiladu cymunedau cadarn yn Sir Fynwy
Bydd y dull adolygu strategol yn dilyn y strwythur a nodir isod;
Cam 1 – Deilliannau – Datblygu canlyniadau lleol a rennir ar gyfer cymunedau Sir Fynwy;
Cam 2 – Mewnwelediad – Deall y gymuned yn Sir Fynwy;
Cam 3 Ymyriadau – Nodi sut y gellir cynnal y canlyniadau yn gynaliadwy;
Cam 4 – Ymrwymiad – Sicrhau buddsoddiad ac ymrwymiad i gyflawni canlyniadau.
Fel rhan o’r broses strategaeth hon, mae’n bwysig ein bod yn deall ac yn ystyried barn y gymuned. Rydym yn eich gwahodd i gymryd rhan mewn arolwg i’n helpu i ddeall y rhwystrau a allai eich atal rhag bod yn gorfforol actif a sut y gallwn helpu i oresgyn y rhain.
Defnyddio cyllid i ddarparu cyfleoedd i blant ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon a chorfforol amrywiol ar draws Sir Fynwy.
Gweithredu:
Ers mis Ionawr 2022, mae Datblygu Chwaraeon MonLife wedi cydlynu a chyflwyno darpariaeth cam sylfaen/Twdlod helaeth ar gyfer plant ifanc rhwng 0 a 5 oed ar draws Sir Fynwy gyfan. Mae’r ddarpariaeth hon wedi rhoi cyfle i blant ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon a chorfforol amrywiol, gyda llawer ohonynt yn cymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol am y tro cyntaf. Hwyluswyd y prosiect hwn drwy ymdrech gydweithredol o ystod eang o wasanaethau ym MonLife a Chyngor Sir Fynwy gan gynnwys ein Tîm Datblygu Chwaraeon, Canolfannau Hamdden, Dechrau’n Deg a’n timau Blynyddoedd Cynnar. Nod trosfwaol y prosiect hwn fu darparu cyfleoedd gweithgaredd corfforol i blant ifanc sydd, oherwydd pandemig Covid 19, wedi cael lleihad yn eu cyfleoedd yn ystod y cam pwysig hwn yn eu datblygiad. Isod ceir crynodeb o’r prosiect, gyda’r prif ffigurau a’r adborth sy’n dangos effaith y cynnig a ddarperir i blant ifanc ar draws Sir Fynwy.
Sesiynau Twdlod Gemau Sir Fynwy
Mae pedair Canolfan Hamdden MonLife wedi bod yn darparu cyfleoedd hygyrch am ddim ar gyfer plant 3-5 oed er mwyn iddynt fynychu bloc 8 wythnos o sesiynau Chwaraeon Aml-Sgiliau. Mae dros 40 o blant wedi cymryd rhan yn y sesiynau lle mae plant wedi cael sgiliau symud sylfaenol wedi’u dysgu iddynt drwy weithgareddau hwyliog a chynhwysol a gyflwynir gan staff MonLife. Mae’r plant sy’n mynychu’r sesiynau hyn wedi cael mannau drwy wasanaethau Dechrau’n Deg a’r Blynyddoedd Cynnar, yr ydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda nhw. Mae pob plentyn sydd wedi cofrestru ar gyfer y sesiwn wedi cael cerdyn aelodaeth MonLife, sydd yn ei dro wedi galluogi mynediad rhieni i’n rhaglen fyw Eglurder a fydd yn arddangos cyflawniadau’r plant. Bydd hyn hefyd yn darparu data ar gyfer dechrau’n deg o amgylch cymwyseddau corfforol y plant ac yn olrhain eu perfformiad.
Sesiynau Nofio Rhieni a Phlant pwrpasol
Mabwysiadwyd dull awdurdod cyfan i ddarparu sesiynau Nofio Rhieni a Phlant ar gyfer teuluoedd dynodedig yn Sir Fynwy. Darparwyd y sesiynau Nofio pwrpasol hyn ar gyfer plant mor ifanc â 6 mis oed fel cyfle i brofi’r dŵr am y tro cyntaf a chodi eu hyder gyda goruchwyliaeth rhieni a Hyfforddwyr Nofio. Mae’r sesiynau hyn ym mhob rhan o’r awdurdod wedi parhau i ddangos y bartneriaeth gyda Dechrau’n Deg ac wedi helpu i gefnogi plant sydd â rhwystr rhag mynd i mewn i’n llwybrau Dyfrol. Mae tri o bedwar Canolfan Hamdden MonLife wedi cydlynu’r gwaith o gyflwyno sesiwn Swigod a Sblas, gyda 65 o blant yn cael eu targedu drwy’r ddarpariaeth. Bydd Canolfan Hamdden y Fenni yn lansio eu darpariaeth dros yr wythnosau sydd i ddod.
Sesiynau Gweithgaredd Corfforol Dechrau’n Deg
Mae’r tîm Datblygu Chwaraeon wedi bod yn cyflwyno cyfres o sesiynau gweithgaredd corfforol sy’n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau sylfaenol a negeseuon llythrennedd corfforol ar gyfer lleoliadau Dechrau’n Deg a’r Blynyddoedd Cynnar ledled Sir Fynwy. Mae’r tîm wedi ymweld â 31 o leoliadau Meithrin dros gyfnod o 4 wythnos i ddarparu 4 sesiwn o weithgaredd corfforol, lle y mae sesiynau wedi’u dyfeisio i gwmpasu 4 thema: wythnos 1 saffari, wythnos 2 natur, wythnos 3 ar lan y môr ac wythnos 4 anifeiliaid fferm. Mae’r sesiynau sydd wedi’u cyflwyno yn cwmpasu elfennau o’r cwricwlwm newydd, lle bydd plant yn gallu archwilio gwneud penderfyniadau, symud corfforol, bwyta’n iach ac ymwybyddiaeth ofalgar. Trwy gyflwyno yn y lleoliadau cyn ysgol hyn mae dros 500 o blant wedi cael y cyfle i gymryd rhan yn y sesiynau.
Canlyniadau:
Gweler isod ychydig o’r tystebau yr ydym wedi eu derbyn fel canlyniad i’r prosiect hwn:
“Cefais fy synnu pa mor dda mae fy mhlentyn wedi llwyddo i afael yn y cysyniad o fwyta’n iach mor ifanc (oed). Rydyn ni nawr yn parhau â’r gwaith da gartref ac yn trafod opsiynau bwyd yn fwy nag oedden ni erioed o’r blaen” – Rhiant.
“Dwi’n teimlo fod hon yn fenter mor wych gan MonLife, bydd y sesiynau Llythrennedd Corfforol yn helpu plant a’u rhieni i wneud dewisiadau iachach a gosod y llwybr i ffordd iachach o fyw” – Rhiant.
“Mae’r sesiynau hyn wedi rhoi cyffro i’r plant, gan annog eu hyder i ddatblygu yn y sesiynau a thu allan iddi. Mae’r sesiynau hyn hefyd wedi rhoi amrywiaeth o syniadau newydd i’r staff ar gyfer gweithgareddau corfforol y gallwn eu rhoi ar waith yn y lleoliad. Roedd hefyd yn darparu’r plant i ddod allan o’u hamgylchedd dysgu arferol a newid eu trefn”. – Lleoliad Blynyddoedd Cynnar.
Mae Amgueddfeydd Treftadaeth MonLife yn hapus i
gyhoeddi lansiad eu gwefan casgliadau newydd sbon yn www.monlifecollections.co.uk/?lang=cy Mae’r wefan newydd yn
darparu mynediad am ddim i chwilio cannoedd o gofnodion, gan alluogi
defnyddwyr i ddarllen deunydd a gweld delweddau ar gyfer eitemau o fewn y
casgliadau o bob rhan o Sir Fynwy. Bydd tîm yr Amgueddfeydd yn ychwanegu mwy at
y wefan yn barhaus, felly maent yn argymell bod ymwelwyr â’r safle yn dod yn ôl
yn aml i weld beth sy’n newydd.
Darganfyddwch wrthrychau hanesyddol, gweithiau celf, ffotograffau
a dogfennau oll yng ngofal Treftadaeth MonLife.
Chwiliwch am bobl arbennig, archwiliwch leoedd nodedig,
teithiwch drwy amser a darganfyddwch gasgliadau gwahanol.
Mae cannoedd o gofnodion Sir Fynwy eisoes ar ein chwiliad
casgliadau.
Oherwydd
pandemig parhaus y Coronafeirws, mae Treftadaeth MonLife wedi bod yn ymchwilio
i ffyrdd newydd o arallgyfeirio rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2021. Gyda diolch
i grant Cronfa Adfer Ddiwylliannol Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru, mae
aelodau o dîm yr Amgueddfeydd wedi gallu canolbwyntio’u rôl er mwyn creu gwefan
ar gyfer y casgliadau. Maent wedi gweithio ochr yn ochr ag Ymgynghorwyr
Treftadaeth Ddigidol, Orangeleaf Systems Ltd i adeiladu gwefan bwrpasol.
Dywedodd Lydia Wooles, o’r tîm prosiect
Amgueddfeydd Ar-lein: “Fe wnaethon ni weithio’n galed o’r cychwyn cyntaf
gyda’r prosiect, fel tîm rydyn ni wedi dysgu llawer mewn cyfnod byr. Dewiswyd
cofnodion yn ofalus i roi blas i ddefnyddwyr o’r amrywiaeth eang o arteffactau
a dogfennau sydd gennym. Mae wedi bod yn
brofiad mor werth chweil gweithio ar y prosiect hwn.”
Mae’r holl gofnodion ar y wefan yn ymwneud â stori Sir
Fynwy ac yn cynnwys casgliad Nelson sydd o bwys cenedlaethol. O
ddarganfyddiadau archeolegol, casgliadau gwisgoedd helaeth, i ffotograffau a chardiau
post – mae rhywbeth at ddant pawb.
Flwyddyn yn ddiweddarach,
yn ystod y cyfnod anodd hwn, rydym yn fwy agos nag erioed!
Ac yn wir, am flwyddyn
gyntaf…
“Ar fy rhan i a’m
cydweithwyr ym MonLife, hoffwn ddiolch i chi am fod yn rhan o’n blwyddyn gyntaf
ers ein lansio yn 2020. Cawsom ein syfrdanu a rhyfeddu at eich brwdfrydedd a’ch
cefnogaeth barhaus ac ar ôl cael adborth mor gadarnhaol
ar draws ein gwasanaethau eang, edrychwn ymlaen at eich gweld i gyd eto pan fydd
Llywodraeth Cymru yn cadarnhau ei bod yn ddiogel gwneud hynny. Hoffwn ddiolch
yn ddiffuant hefyd i dîm MonLife sydd wedi gweithio’n ddiflino yn ystod y 12
mis diwethaf i gefnogi ein cwsmeriaid a’n cymunedau, a gwn y byddant yn parhau
i wneud hynny yn y dyfodol.” Ian Saunders, Prif Swyddog Gweithredu.
Yn 2021, byddwn yn parhau i
gadw ein cwsmeriaid wrth wraidd popeth a wnawn a byddwn yn parhau i wella ein
cynnig er budd eich iechyd a’ch lles.
Rydym yn parhau i archwilio cyfleoedd newydd i sicrhau y gallwch barhau
â’ch taith lles gartref.
Mae gennym gynnyrch newydd
gwych a fydd yn caniatáu i aelodau MonLife barhau i hyfforddi gyda’u hoff
hyfforddwyr a chyfranogwyr y maent yn eu hadnabod o’u cartrefi gyda’r aelodaeth
MonLife YN FYW AC AR ALW NEWYDD. Bydd yr aelodaeth hon yn rhoi profiad grŵp
Rhithwir Byw cyffrous a ffitrwydd personol i chi. Cliciwch YMA am fwy o wybodaeth.
I gael y wybodaeth
ddiweddaraf, dilynwch ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, fel ein Tudalen
Facebook, dilynwch ein Cyfrif
Twitter a thanysgrifiwch i’n Sianel
Youtube. Mae gennym hefyd Ap
MonLife – cliciwch YMA i’w lawrlwytho.
Arhoswch
Adref i achub bywydau a diogelu ein GIG.
Gobeithiwn
y cawsoch Nadolig diogel ac iach a dymunwn Flwyddyn Newydd Dda iawn i chi!
Yn dilyn cyhoeddiad a wnaed ddydd Mercher gan y Prif Weinidog, byddwn yn cau’r holl Ganolfannau Hamdden Bywyd Mynwy (MonLife) o ddydd Iau, 24ain Rhagfyr am 3 wythnos wrth i ni fynd i Haen 4 o’r Cyfnod Clo.
Ein staff, ynghyd â’r gymuned, yw ein blaenoriaeth a hoffem ddiolch i
chi am y gefnogaeth yr ydych wedi dangos i MonLife dros y misoedd diwethaf.
Rydym wedi derbyn yr adborth mwyaf anhygoel gan ein cwsmeriaid ac rydym yn
disgwyl ymlaen at eich croesawu nôl yn dilyn adolygiad Llywodraeth Cymru ym mis
Ionawr.
Os ydych wedi trefnu neu archebu rhywbeth, yna peidiwch â
phoeni gan y byddwn yn cysylltu gyda chi. Fodd bynnag, os oes ymholiad brys
gennych, yna cysylltwch gyda’r Ganolfan Hamdden MonLife briodol.
Ma eich iechyd a’ch lles yn bwysig iawn i ni ac rydym yn parhau i chwilio am gyfleoedd er mwyn sicrhau eich bod
yn medru parhau gyda’ch taith lles tra’n aros gartref. Mae’r cynnig ffantastig NEWYDD gennym a fydd
yn caniatáu i aelodau MonLife i barhau i hyfforddi gyda’u hoff hyfforddwyr ac
unigolion eraill y maent yn adnabod a fydd hefyd yn eu cartrefi, a hynny drwy
gyfrwng aelodaeth MonLife NEWYDD, sef YN FYW AC AR ALW. Bydd yr aelodaeth hon yn rhoi profiad
ffitrwydd Byw Rhithwir i chi, boed fel unigolyn neu mewn grŵp. Cliciwch YMA am fwy o wybodaeth.
Er mwyn derbyn y
newyddion diweddaraf, dilynwch ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, fel ein Tudalennau Facebook , dilynwch ein cyfrif Twitter a
thanysgrifiwch i’n Sianel Youtube.
Mae Ap MonLife ar
gael hefyd – cliciwch YMA i’w lawrlwytho.
Aelodaethau (Memberships)
Hoffem gynnig sicrwydd i chi nad oes rhaid i chi wneud dim byd a byddwn yn
trefnu unrhyw newidiadau i’ch taliad debyd uniongyrchol ym mis Ionawr er mwyn
adlewyrchu unrhyw ddiwrnodau sydd yn cael eu colli.
Gwersi Nofio (Swimming
Lessons)
Fel sydd yn digwydd gydag aelodaethau, bydd eich debyd uniongyrchol ar
gyfer gwersi nofio yn cael ei newid er mwyn adlewyrchu’r amser sydd yn cael ei
golli yn sgil cyfnod clo Haen 4.
Mae ein timau
aelodaeth yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych, ac felly, e-bostiwch monmemberships@monmouthsire.gov.uk neu ffoniwch 01633 644499 os gwelwch yn
dda.
Fel cwsmer gwerthfawr, hoffem ddiolch i chi am eich cefnogaeth barhaus a
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi.
Er mwyn derbyn y newyddion diweddaraf, dilynwch ni ar y cyfryngau
cymdeithasol, lawrlwythwch ein Ap MonLife neu ewch i www.MonLife.co.uk
Yn dilyn cyhoeddiad a wnaed ddydd Mercher gan y Prif Weinidog, byddwn yn
cau’r holl Ganolfannau Hamdden Bywyd Mynwy (MonLife) o ddydd Iau, 24ain Rhagfyr
am 3 wythnos wrth i ni fynd i Haen 4 o’r Cyfnod Clo.
Mae pob un o wasanaethau eraill MonLife hefyd ar gau, ac eithrio meysydd
parcio ar gyfer safleoedd gwledig ac atyniadau, safleoedd awyr agored a meysydd
chwarae. Dylech wirio’r tudalennau ar gyfer pob un lleoliad a’r gwasanaethau unigol
ar ein gwefan am fwy o wybodaeth.
Ein staff, ynghyd â’r gymuned, yw ein blaenoriaeth a hoffem ddiolch i
chi am y gefnogaeth yr ydych wedi dangos i MonLife dros y misoedd diwethaf.
Rydym wedi derbyn yr adborth mwyaf anhygoel gan ein cwsmeriaid ac rydym yn
disgwyl ymlaen at eich croesawu nôl yn dilyn adolygiad Llywodraeth Cymru ym mis
Ionawr.
Er mwyn derbyn y newyddion diweddaraf, dilynwch ein cyfrifon cyfryngau
cymdeithasol, fel ein Tudalennau Facebook , dilynwch ein cyfrif Twitter a
thanysgrifiwch i’n Sianel Youtube.
Mae Ap MonLife ar
gael hefyd – cliciwch YMA i’w lawrlwytho.
Os oes unrhyw
ymholiadau gennych am eich aelodaeth MonLife, yna e-bostiwch monmemberships@monmouthsire.gov.uk os gwelwch yn dda neu ffoniwch 01633
644499.
Fel cwsmer gwerthfawr, hoffem ddiolch i chi am eich cefnogaeth barhaus a
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi.
Walking is one of the easiest ways of getting some fresh air and exercise, and both these things are a great help in improving your wellbeing. We are blessed in Monmouthshire with lots of fantastic places to walk, so here are some tips to help you make the most of it.
1. The green, green grass of home – exploring from your house
All of our towns have parks and green spaces which can be a destination in their own right or form a welcome green corridor on the way to shops, school or other destinations. Why not play “I spy”, count the number of houses with green doors or see how many different species of birds you can spot along the way?
2. Country roads – visiting countryside sites
These are great places to visit and go for a walk, and there is bound to be one near where you live for example Caldicot Castle Country Park, the Old Station at Tintern or Castle Meadows in Abergavenny. Check https://www.visitmonmouthshire.com/things-to-do/Countryside-Visitor-Sites.aspx for details. Don’t forget the wildlife sites such as Magor Marsh and Newport Wetlands.
3.Through a big country – the wider countryside
If you are more adventurous or become more confident, why not visit the wider countryside? Monmouthshire has special walks along the rivers such as the Wye, Usk and Monnow, the reservoir at Llandegfedd and the Monmouthshire and Brecon canal. You can visit woodlands owned by Natural Resources Wales or the Woodland Trust. What about a walk up a hill like the Sugar Loaf, Blorenge and Skirrid?
4. Can’t stand losing you – following public rights of way
Get out your map and try following the public rights of way and open access across commons. If you can’t read a map look out for courses on map reading and navigation to improve your skills. Visit our mapping system at https://access.monmouthshire.gov.uk/ for more information about the rights of way network.
5. Do you know where you’re going to? – leaflets and other sources of information
There are lots of leaflets and websites where you can find routes to follow. There are walks for most abilities on this site. https://www.visitmonmouthshire.com/things-to-do/walking-in-monmouthshire.aspx There are other sites online where you can download leaflets and even apps where you can put the routes into your phone.
6. All together now – join in with other people
Normally there are walking groups you can join and guided walks offered by organisations such as the Gwent Wildlife Trust or Monmouthshire County Council. Look out for these as we hopefully come out of restrictions next year.
7. All right now – using the Countryside Code
Remember if you are going out to stick to the rules which are designed to keep you safe and ensure everyone takes care of the countryside. Respect other users and the people who own and look after the land. Also take appropriate clothing and footwear to keep you comfortable and safe. Countryside code information can be found at https://naturalresources.wales/days-out/the-countryside-codes/?lang=en
For further information on how to stay safe on your trips to the countryside click here for the MonLife website or visit Adventure Smart.
Ym Mawrth 2020 daeth chwaraeon ar lawrgwlad i stop pan wnaeth y pandemig gyrraedd Cymru. Ond yn ystod y cyfnod ansicr yma, bu ein clybiau cymuned, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr yn arwyr a rhoi balchder i chwaraeon yng Nghymru. Daeth clybiau lleol, grwpiau a sefydliadau at ei gilydd ar ddechrau’r cyfnod clo cenedlaethol er mwyn gofalu dros bobl yn y gymuned. Fe wnaethoch godi arian dros elusennau, dosbarthu prydiau bwyd i weithwyr y GIG, rhannu offer chwaraeon gyda cartrefi lleol a trefnu cwisiau arlein i helpu trigolion i gadw mewn cysylltiad gyda’i gilydd. Dyna pam, ar y 16fed o Rhagfyr byddwn yn cefnogi ymgyrch y Loteri Genedlaethol i rhannu eich straeon ysbrydoledig! Dwedwn diolch o galon am eich caredigrwydd a’ch ymrwymias i gadw’r genedl i fynd, yn feddylion ac yn gorfforol! Os rydych chi’n nabod rhywun yn eich clwb neu prosiect sydd yn haeddu cydnabyddiaeth ar 16 Rhagfyr – rhannwch y stori ar eich sianeli cymdeithasol, tagiwch ni yn y neges a defnyddiwch yr hashnodau #DiolchiChi a #LoteriGenedlaethol Byddwn yn cadw llygaid barcud am eich stori a rhannu ar ein sianeli ni hefyd fel bod eraill yn cael eu ysbrydoli hefyd. Edrychwn ymlaen at weld sut wnaethoch chi chwarae eich rhan.