Trosolwg ar gyfer Cynllun Strategol Trefynwy
Disgrifiad o’r cynllun (yn ddarostyngedig i gyllid)
Old Dixton Road
Y cynllun yma, a fydd yn cael ei adeiladu yn 2023/24, yw’r un a enillodd gyllid adeiladu yn 2021/22, ond ni chafodd ei adeiladu oherwydd fod y tendrau a dderbyniwyd wedi bod yn uchel. Nod y cynllun yw darparu llwybr cyd-ddefnyddio oddi ar y ffordd o’r Llyfrgell, heibio’r Ysgol Gyfun, i’r Ganolfan Hamdden yn Nhrefynwy. Cymeradwywyd y dyluniadau gan ein cynghorydd ar Deithio Llesol o Sustrans ac mae’r prosiect yn dal yn barod i roi rhaw yn y ddaear. Ni cheisiwyd cyllid yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf gan fod amserlenni cyflawni a bidio yn gorgyffwrdd.
Mae’r cynllun yn gobeithio:
- Darparu llwybr 3m a rennir (gyda’r llwybr yn culhau pan nad yw y ffordd gerbydau yn caniatáu cydymffurfio’n llawn).
- Croesfan bwrdd wedi’i chodi i gysylltu â Phont Teithio Llesol Gwy MCC-M04C yn y dyfodol
- Man croesi yn y Ganolfan Hamdden.
- Croesfan â blaenoriaeth dros fynedfeydd parcio.
- Arwyddion newydd ar gyfer llwybr cyd-ddefnyddio
- Cyflwyno parth 20mya.
- Hyd y llwybr 290m
Williamsfield Lane Links
Mae’r cynllun hwn a fydd yn cael ei adeiladu yn 2023/24 yn ceisio creu llwybr cyd-ddefnyddio teithio llesol ar hyd Wonastow Road a Drybridge Street o Williamsfield Lane i bont Mynwy. Mae’r cynllun hwn yn estyniad o’r llwybr a adeiladwyd cyn hyn ar hyd Williamsfield Lane. Fe’i adeiladwyd yn 2020/21 a 2021/22 gydag arian ATF gan gynnwys parc chwarae newydd yn King’s Fee. Bydd y llwybr yn gwasanaethu cysylltiadau â lleoliadau addysg, fel Ysgol Gynradd Overmonnow ac ysgol Gyfun Trefynwy a bydd yn gyswllt allweddol i ganol y dref a’r cyfleusterau yma. Symudwyd y groesfan o gam 2 i gam 3, yn dilyn sgyrsiau a chytundeb dylunio gyda’n cynghorydd o Sustrans. Ar ôl ei gwblhau, bydd 2 ran o’r llwybr ar ôl cyn y bydd wedi’i orffen, darn ar draws y ddôl i Kingswood Gate (mae trafodaethau tir a gwaith dylunio Systemau Draenio Cynaliadwy yn digwydd ar hyn o bryd), a chulhau’r llwybr mewn mannau wrth agosáu at y groesfan. Bydd datblygu’r cynllun ar gyfer y ddwy ran sy’n weddill o’r llwybr hwn yn cael ei gynnwys yn ein dyraniad cyllid craidd. Gweler y map am fanylion.
Mae’r cynllun yn gobeithio:
- Darparu llwybr 3m a rennir (gyda’r llwybr yn culhau pan nad yw y ffordd gerbydau yn caniatáu cydymffurfio’n llawn).
- Disodli cylchfan fechan gyda chyffordd T er mwyn helpu croesfan teithio llesol ac annog defnyddwyr HGV i beidio â defnyddio Wonastow Road ac yn hytrach, defnyddio’r llwybr cyswllt a ddarperir
- Dileu parcio ar y stryd er mwyn sicrhau’r lled sydd ei angen
- Darparu cyswllt ychwanegol i gyfleusterau hamdden, fel y parc sglefrio a’r gofod natur.
- Croesfan sy’n cael blaenoriaeth dros fynedfeydd ochr.
- Arwyddion newydd ar gyfer llwybr cyd-ddefnyddio
- Gosod croesfan twcan ar Ystâd Ddiwydiannol Wonastow Rd
- Hyd y llwybr 403m
Diweddariad Pont Gwy:
Mae cynigion am groesfan Teithio Llesol newydd dros Afon Gwy yn Nhrefynwy wedi cymryd cam mawr ymlaen. Mae’r cynllun arfaethedig ar gyfer pont i gerddwyr a beicwyr bellach wedi ei gyflwyno ar gyfer ei gynllunio. Nod y prosiect, sy’n cael ei gefnogi gan Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, yw creu llwybr diogel newydd, sy’n cysylltu Trefynwy a Wyesham ac yn osgoi’r traffig cerbydau ar Bont Gwy brysur. Am fwy o wybodaeth, CLICIWCHYMA.
This post is also available in: English