Llwybr Teithio Llesol Lôn Cae Williams i Bont Mynwy - Monlife

Llwybr Teithio Llesol Lôn Cae Williams i Bont Mynwy

Hoffem roi diweddariad i chi ar y cynnig ar gynnydd dolen Teithio Llesol Lôn Cae Williams i Bont Mynwy ers yr ymgynghoriad cyhoeddus ar-lein diwethaf ym mis Chwefror 2022.

Pam y cafodd newidiadau eu cynnig?

Cafodd yr angen am ddolen Teithio Llesol yn y lleoliad yma ei adnabod gyntaf pan gyflwynwyd Map Rhwydwaith Integredig Teithio Llesol Cyngor Sir Fynwy i Lywodraeth Cymru yn 2018. Mae’r ddolen rhwng y fynedfa i Lôn Cae Williams a Phont Mynwy yn gymharol fyr ond mae’n bwysig i’r rhwydwaith Teithio Llesol ehangach gan y bydd yn rhoi mynediad uniongyrchol i Bont Mynwy a’r gwasanaethau a’r cyfleusterau yng nghanol y dref. Bydd y llwybr yn cysylltu Lôn Cae Williams gyda chanol Trefynwy drwy Heol Wonastow a Stryd Drybridge, a hefyd yn rhoi cysylltiadau o barc sglefrio Heol Rockfield i ganol y dref. Ar ben Heol Wonastow, byddai’r llwybr arfaethedig yn cysylltu gyda llwybr teithio llesol arall yn rhedeg rhwng datblygiad Kingswood Gate a Lôn Cae Williams. Bu’r datblygiad tai newydd yn Kingswood Gate yn un o’r sbardunau allweddol am y newidiadau a gynigir. Mae’n anochel y bydd twf yn y boblogaeth leol yn arwain at fwy o deithiau a phwysau ar y rhwydwaith priffyrdd lleol. Gall hyn arwain at fwy o dagfeydd, llygredd a mwy o effeithiau negyddol ar yr economi. Mae gan gerdded a seiclo rôl sylweddol wrth wneud i drafnidiaeth redeg yn fwy effeithiol. Felly, i alluogi symudedd effeithiol a chynaliadwyedd, ni fu integreiddio cynllunio a thwf tai gyda chynllunio trafnidiaeth o’r cychwyn cyntaf erioed yn bwysicach. Cafodd dau gyfnod cyntaf llwybr Kingswood i Lôn Cae Williams eu hadeiladu eisoes a byddai’r cynllun a gynigir yn clymu mewn i’r llwybr newydd hwn yng nghyffordd Heol Wonastow/Lôn Cae Williams. Dangosir ardal yr astudiaeth yn Ffigur 1.

Ffigur 1: Ardal yr Astudiaeth

Amcanion y Cynllun

  • Darparu rhwydwaith cerdded a seiclo cydlynus, uniongyrchol, diogel, cysurus a deniadol o Overmonnow i’r cymunedau o amgylch cymunedau, gwasanaethau a chyfleusterau ar draws Trefynwy.
  • Cynyddu lefelau mynediad cynaliadwy i gyflogaeth, iechyd, addysg a gwasanaethau;
  • Cael effaith gadarnhaol ar ddiogelwch gwirioneddol a thybiedig cerddwyr, seiclwyr a defnyddwyr cadair olwyn ar hyd ac ar draws ardal yr astudiaeth;
  • Sicrhau newid dull teithio yn Nhrefynwy tuag at ddulliau mwy cynaliadwy ar gyfer pob taith; a
  • Gostwng effeithiau negyddol trafnidiaeth ar yr amgylchedd naturiol ac adeiledig.

Proses WelTAG

Bydd y cynllun arfaethedig yn gofyn am gymeradwyaeth a chyllid o Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru a chafodd felly ei ddatblygu yn unol ag Arweiniad Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG). Mae proses WelTAG yn cynnwys cylch oes cyflawn ymyriad arfaethedig yn y system drafnidiaeth o asesu’r broblem, ystyried datrysiadau a dyluniad cynllun posibl, hyd at weithredu ac arfarnu prosiect. Mae astudiaethau WelTAG yn rhan hanfodol o brif brosiectau trafnidiaeth Cymru i helpu penderfynu pa rai yw’r datrysiadau mwyaf addas i’w datblygu, ac yn bwysig wrth gefnogi cynigion i Lywodraeth Cymru ar gyfer grantiau cyllid i gwblhau’r gwaith. Fel arfer caiff cynlluniau hyn eu datblygu dros nifer o flynyddoedd o’r cysyniad hyd at y dyluniad manwl ac maent wedyn yn dibynnu ar gymeradwyaeth cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y cyfnod adeiladu. Cyhoeddwyd arweiniad arfarniad trafnidiaeth neilltuol ar gyfer Cymru yn 2008 a’i ddiweddaru yn 2017. Cyhoeddwyd drafft ganllawiau newydd yn 2022 i adlewyrchu Llwybr Newydd, strategaeth trafnidiaeth newydd Cymru 2021. Mae WelTAG yn cynnwys cyfres o gamau cynllunio prosiect sy’n dilyn bywyd prosiect, rhaglen neu bolisi o syniadau cynnar trwodd i’w gwblhau. Mae gan WelTAG bum cam, fel y dangosir yn Ffigur 2. Cafodd camau 1 a 2 y prosiect eu cwblhau ym mis Awst 2022, a rydym ar WelTAG Cam 3 ar hyn o bryd.

Cam Un Achos Strategol AmlinellolCam Dau Achos Busnes AmlinellolCam Tri Achos Busnes LlawnCam Pedwar GweithreduCam Pump Yn dilyn gweithredu
Materion/Problemau Amcanion Rhestr Hir o OpsiynauDichonolrwydd/ Dyluniad Amlinellol Opsiynau ar y Rhestr FerDyluniad Manwl o’r Opsiwn a Ffefrir TerfynolGweithreduMonitro yn Dilyn y Cynllun

Cliciwch yma i weld drafft newydd Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (heb ei fabwysiadu hyd yma

Arweiniad ar arfarnu trafnidiaeth Cymru (WelTAG) 2022 | LLYW.CYMRU

Cliciwch yma i weld Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru 2017

https://www.gov.wales/sites/default/files/publications/2017-12/welsh-transport-appraisal-guidance.pdf

Cynnydd ar y Cynllun hyd yma

Ar ddechrau’r prosiect hwn ac yn unol â phroses WelTAG datblygodd tîm y prosiect restr eang o ddatrysiadau posibl, digon i fedru penderfynu os oes unrhyw opsiynau cynllun sy’n werth eu dilyn a dewis rhestr fer o opsiynau ar gyfer ystyriaeth mwy manwl. Datblygwyd y rhestr hir o opsiynau ar ddeilliannau cyfnod cyntaf yr ymgynghoriad cyhoeddus (a gynhaliwyd rhwng 9 Mehefin a 2 Gorffennaf 2021), ymgysylltu gyda’r rhanddeiliaid allweddol (swyddogion Cyngor Sir Fynwy, Cynghorwyr, Trafnidiaeth Cymru, grwpiau’n cynrychioli pobl gydag anableddau, Sustrans, gweithredwyr bws ac yn y blaen), ymweliadau safle, sesiynau sesiynau taflu syniadau gyda’r tîm dylunio prosiect a’r angen i alinio gyda’r blaenoriaethau ar gyfer trafnidiaeth yng Nghymru a nodir yn Strategaeth Trafnidiaeth Cymru. Cytunwyd ar y rhestr hir o opsiynau gyda Chyngor Sir Fynwy ac maent yn cynnwys naw opsiwn. Cafodd y naw opsiwn eu hidlo yn dibynnu ar:

  • Y gallu i atal neu ddatrys y broblem nawr ac yn y dyfodol
  • Y gallu i gyflawni’r amcanion a osodwyd a gwella llesiant cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd Cymru
  • Effeithiau tymor byr a hirdymor i sicrhau buddion lluosog ar draws pedair agwedd llesiant ac uchafu cyfraniad i bob un o saith nod llesiant Cymru;
  • Ymarferoldeb; a
  • Cydnerthedd i ansicrwydd a’r potensial i yrru newid hirdymor.
Rhoddwyd tri opsiwn ar y rhestr fer i fynd ymlaen i Gam 2 nesaf y broses arfarnu ar gyfer asesiad mwy trwyadl. Allwedd i’r broses hidlo  oedd yr ail gyfnod o ymgynghori cyhoeddus, a gynhaliwyd rhwng 5 Ionawr a 16 Chwefror 2022. Fe wnaeth cyfanswm o 133 aelod o’r cyhoedd ymateb i’r holiadur ymgynghori ar-lein, gyda 41% ohonynt yn dewis y cynnig presennol fel yr opsiwn a ffafrir. Dewisodd 28% Opsiwn 9 (dim gwelliannau, dim ond cynnal a chadw arferol), dewisodd  20% Opsiwn 8&4 (lon feiciau ar y gerbytffordd ar hyd Heol Wonastow a gwelliannau cerdded a seiclo ar Heol Somerset a Lôn Goldwire) a 11% yn ffafrio Opsiwn 5 (gwelliannau i’r droetffordd gyda lôn seiclo ar y gerbytffordd ar hyd Heol Wonastow i Bont Mynwy ar hyd yr B4233). Fel canlyniad, cafodd Opsiwn 2 (a fanylir isod) ei argymell fel opsiwn a ffefrir ar ddiwedd astudiaeth WelTAG Cam 1 a 2. Yn ddilynol, comisiynodd Cyngor Sir Fynwy astudiaeth Cam 3 a buont yn gwneud tasgau i alluogi gweithredu y cynigion, tebyg i:
  • Arolwg traffig yng nghyffordd cylchfan fach Heol Wonastow/Heol Rockfield i alluogi gwaith modelu traffig;
  • Gosod synwyryddion deallusrwydd artiffisial i gasglu data di-enw 24/7 ar ddulliau traffig, llif traffig a phatrymau teithio o fewn ardal yr astudiaeth;
  • Cynnal arolwg parcio 12-awr ar 11 Hydref 2022 ar hyd Heol Wonastow;
  • Cynhaliwyd cyfarfodydd gyda’r cynghorwyr lleol am y cynnig i ddileu parcio er mwyn i’r llwybr gydymffurfio gyda Chanllawiau y Ddeddf Teithio Llesol;
  • Dosbarthu llythyrau i breswylwyr ar hyd Heol Wonastow i’w hysbysu am y cynnig i ddileu gofodau parcio ceir;
  • Ychwanegwyd rhan o Heol Rockfield at ardal yr astudiaeth er mwyn gwella cysylltiad gyda Pharc Sglefrio Trefynwy a maes parcio Heol Rockfield;
  • Paratoi am fwy o weithgareddau ymgysylltu â rhanddeiliaid (tebyg i weithdai rhanddeiliaid a chyfarfodydd technegol); a
Dylunio cynllun mwy manwl ynghyd ag Archwiliad Cam 4 Diogelwch Ffyrdd a datblygu amcangyfrif cost adeiladu’r cynllun.

Cynnig

The proposed scheme would provide the following:

  • Lledu’r droetffordd bresennol ar ochr ogleddol Heol Wonastow i roi troetffordd.lôn seiclo rhannu defnydd 3m-35m o led a gyflawnir drwy gulhau ychydig ar y gerbytffordd (cedwir dwy lon ar gyfer traffig);
  • Rhoi cyffordd blaenoriaeth yn lle’r gylchfan fach bresennol ar HeolWonastow/Heol Rockfield, gyda Heol Wonastow yn dod yn fân fraich. Bwriad y newid hwn yw gwrthannog traffig trwm rhag defnyddio’r ffyrdd a nodir uchod a’u hannog i ddefnyddio’r Ffordd Gyswllt yn lle. Cynhaliwyd gwaith modelu i sicrhau y bydd y gyffordd yn parhau i weithredu o fewn capasiti ar ôl iddi gael ei throsi;
  • Darparu croesfan syml heb ei rheoli i gerddwyr ar Heol Wonastow, yn union i’r gorllewin o’r gyffordd blaenoriaeth newydd. Byddai gan y croesiad gyrbiau isel a phalmant botymog melyn.
  • Darparu croesiad cyfochrog ar Heol Rockfield yn union i’r gogledd o’r gyffordd blaenoriaeth newydd. Mae croesiad cyfochrog ar gyfer cerddwyr a seiclwyr yn rhoi datrysiad sy’n ymyl ei gilydd o gymharu â chyfleusterau gyda signalau. Mae’r croesiad yn debyg i groesiad Sebra ond gyda chroesiad ar wahân i feiciau a ddangosir gan farciau ‘Ôl Troed Eliffant’ a symbolau beic rhwng streipiau Sebra a llinell ildio.
Enghraifft o Groesiad Cyfochrog – Nodyn: Daeth y llun uchod o Ganllawiau’r Ddeddf Teithio Llesol.
  • Lledu’r llwybr troed presennol ar ochr ddwyreiniol Heol Rockfield o’r gyffordd blaenoriaeth newydd i Barc Sglefrio Trefynwy. Cyflawnir hyn drwy gulhau ychydig ar y gerbytffordd. Byddai traffig yn dal i fedru defnyddio’r ddwy lon ac ni effeithid ar y safleoedd bws presennol (dim ond y llwyfan yn y safle bws ar ochr orllewinol y ffordd a gaiff ei symud ychydig i’r gogledd);
  • Ychwanegu palmant botymog i’r croesiad heb ei reoli ar Heol Rockfield, ger y fynedfa i Barc Sglefrio Trefynwy.
  • I hwyluso cerddwyr, byddid yn rhoi croesiad syml heb ei reoli i ogledd y safleoedd bws presennol, gyda chwrbin isel a phalmant botymog melyn;
  • Lledu adran fer o’r droetffordd bresennol ar hyd B4233 Stryd Drybridge ger cylchfan Pont Mynwy;
  • Dileu rhai o’r lleoedd o’r parcio ar y stryd ar hyd Heol Wonastow i gyflenwi’r llwybr yn unol â chanllawiau y Ddeddf Teithio Llesol. I ganiatáu hyn, mae’r cynllun yn cynnig parcio trwydded YN UNIG ar gyfer rhan fawr ar hyd Stryd Drybridge, tra’n dal i gynnal ardal fach ar gyfer arhosiad byr. Ni chafodd union ddyluniad y parcio ei gadarnhau hyd yma a chytunir arno ar y cam dylunio manwl. Caiff dileu y parcio ar y stryd yma ei gynnwys yng Ngorchymyn Diwygio Traffig Rhif 11 Cyngor Sir Fynwy, yr ymgynghorir arno ym mis Mai 2023.

Cliciwch yma i weld y Canllawiau Teithio Llesol.

https://www.gov.wales/sites/default/files/publications/2022-01/active-travel-act-guidance.pdf

Camau Nesaf

Mae camau nesaf datblygu’r cynllun yn cynnwys:

  • Cwblhau WelTAG Cam 3 (Mawrth 2023)
  • Cais a chymeradwyo cyllid (Ebrill 2023)
  • Cyllid gweithgaredd adeiladu dibynnol ar gyllid a Gorchymyn Rheoleiddio Traffig parcio dibynnol (Mehefin-Medi 2023)
  • Monitro ar ôl y cynllun (Hydref 2023, Hydref 2024)

Dweud eich Barn

Os hoffech roi unrhyw sylwadau ar gynnig y cynllun, cyflwynwch y ffurflen yma os gwelwch yn dda.

Drwy lenwi’r arolwg, rydych yn cytuno i’r data gael ei ddefnyddio ar gyfer y diben hwn gan Gyngor Sir Fynwy a gan WSP (RE&I). Caiff eich gwybodaeth bersonol ei phrosesu gan Gyngor Sir Fynwy ar ran WSP (RE&I).

Dim ond ar gyfer y diben hwn y byddwn yn casglu eich data a bydd unrhyw ddata a gaiff ei rannu yn ddienw. Nid yw’r ffurflen hon yn casglu eich enw na’ch manylion cyswllt. I gael mwy o wybodaeth am breifatrwydd ewch i:

https://www.monmouthshire.gov.uk/your-privacy/

Drwy gyflwyno’r ffurflen hon, rydych yn cydsynio i’ch gwybodaeth gael ei phrosesu ar gyfer y diben a amlinellir uchod.

This post is also available in: English