Treftadaeth Sir Fynwy i elwa o wobrau ariannol - Monlife

Treftadaeth Sir Fynwy i elwa o wobrau ariannol

Cadi te – gyda chapsiynau. Mae ein casgliadau'n cynnwys eitemau sy'n datgelu cynnyrch yr Ymerodraeth Brydeinig.  Bydd y gwaith hwn yn dehongli'r gwrthrychau hyn yn well.
Cadi te – gyda chapsiynau. Mae ein casgliadau’n cynnwys eitemau sy’n datgelu cynnyrch yr Ymerodraeth Brydeinig.  Bydd y gwaith hwn yn dehongli’r gwrthrychau hyn yn well.

Mae MonLife, sy’n rhedeg gwasanaeth Treftadaeth MonLife Cyngor Sir Fynwy, wedi sicrhau dau ddyfarniad cyllid gwerth dros £415,000 gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Mae’r dyfarniad yn galluogi Treftadaeth MonLife i weithio’n agos gyda chymunedau yn Sir Fynwy, dros y ddwy flynedd nesaf er mwyn sicrhau bod straeon pawb yn cael eu hadrodd yn amgueddfeydd y sir.

Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi dyfarnu £241,697 ar gyfer y prosiect ‘Casgliadau Deinamig – Agor y Blwch’ sy’n darganfod a rhannu casgliad hanes lleol Trefynwy. Bydd y gwaith hwn yn trawsnewid sut y cofnodir casgliadau hanes lleol Trefynwy, gan eu gwneud yn berthnasol i gymunedau heddiw.

Adolygiad Casgliadau - gyda chapsiynau.  Bydd ein prosiectau yn ein galluogi i wella gwybodaeth am ein casgliadau a mynediad atynt
Adolygiad Casgliadau – gyda chapsiynau.  Bydd ein prosiectau yn ein galluogi i wella gwybodaeth am ein casgliadau a mynediad atynt

Bydd y prosiect yn rhedeg rhwng Ebrill 2023 a Mawrth 2025 a bydd y tasgau’n cynnwys: Gwella cronfa ddata catalogau cyfrifiadurol a chomisiynu adroddiad ar arteffactau ymerodraethol, caethwasiaeth a gwladychiaeth o fewn y casgliad hanes lleol, i ategu adroddiadau a gynhyrchwyd yn ddiweddar am gasgliadau amgueddfeydd yn y Fenni a Chas-gwent.

Bydd tîm Treftadaeth MonLife yn gweithio gyda grwpiau cymunedol amrywiol i archwilio’n gritigol sut a beth sy’n cael ei gofnodi am gasgliadau, gan gynnwys nodi termau allweddol. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda Chyngor Hil Cymru i gefnogi sesiynau gyda grwpiau hil amrywiol; y rhai sydd ag anabledd a’r gymuned LHDTC+, ac yn gweithio gyda phobl sy’n deall ecoleg a newid yn yr hinsawdd.

Bydd y prosiect hwn yn arwain at arddangosfa deithiol gymunedol wedi’i chyd-guradu, sy’n archwilio’r cwestiwn “Beth sy’n gwneud Trefynwy?” Bydd hyn yn golygu bod modd clywed gwahanol safbwyntiau, archwilio cyd-destunau newydd ac adrodd amrywiaeth o straeon. Bydd yr arddangosfa yn mynd o amgylch lleoliadau cymunedol, gan rannu casgliadau gyda chynulleidfaoedd newydd na fyddai efallai wedi ymweld â’r amgueddfa o’r blaen. Bydd cyd-arddangosfa yn y Neuadd Sirol yn galluogi themâu a archwilir yn y prosiect i gael eu harddangos a threialu dulliau newydd cyn ailddatblygiad Amgueddfa’r Neuadd Sirol. Bydd rhaglen ymgysylltu cymunedol o sesiynau dysgu, gweithdai trafod, sesiwn y Dadeni a gweithgareddau crefft yn hwyluso trafodaeth am ein casgliadau.

Meddai Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru:  “Mae treftadaeth ar gyfer pawb, ac rydym am weld ystod ehangach o bobl yn ymwneud â threftadaeth, a dyna pam rydym yn cefnogi prosiect ‘Casgliadau Deinamig – Agor y Blwch’ Cyngor Sir Fynwy. Trwy ein cyllid rydym yn ceisio dod â chymunedau ynghyd drwy ymgysylltu’n ddyfnach â threftadaeth, yn enwedig drwy ddod o hyd i ffyrdd creadigol o ddod â threftadaeth i gynulleidfaoedd newydd.   Bydd hyn yn helpu i drafod ac archwilio ein treftadaeth fel y gall pobl a chymunedau ledled Cymru ymgysylltu â, dehongli, a chyd-ddeall ein gorffennol.”

I gefnogi casgliadau Treftadaeth MonLife yn Amgueddfeydd y Fenni a Chas-gwent, mae MonLife wedi derbyn £173,318 gan Lywodraeth Cymru. Mae’r cyllid ar gyfer y prosiect ‘Ymchwilio, ail-archwilio ac adennill: etifeddiaeth a diwylliant cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig Sir Fynwy’. Bydd y gwaith hwn yn cyfrannu at y nodau treftadaeth yng Nghynllun Gweithredu Atal Hiliol Cymru.   Mae’r wobr yn adeiladu ar waith a ddechreuwyd yn y ddwy amgueddfa, a bydd yn arwain at well dehongliad o’r casgliadau, gan gynrychioli’n well eu cysylltiadau â chaethwasiaeth, gwladychu ac ymerodraeth a chydnabod rôl cymunedau Sir Fynwy yn y gorffennol mewn caethwasiaeth, ymerodraeth a globaleiddio.

Gyda gyda Chyngor Hil Cymru, bydd Treftadaeth MonLife yn cynnal gweithdai cymunedol i archwilio ffyrdd o ddehongli’r casgliadau’n well. Bydd cydweithio â’r cymunedau’n galluogi’r tîm Dysgu a Churaduriaeth i greu rhaglen weithgareddau, sy’n debygol o gynnwys digwyddiadau diwylliannol ac arddangosfeydd mewn lleoliadau Sir Fynwy. Yn ogystal, bydd gweithgareddau cymunedol a dysgu mewn ysgolion lleol ac yn amgueddfeydd y sir. Bydd y cynnwys yn cael ei ysbrydoli gan y casgliadau a threftadaeth leol.

Ymwelodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden, ag Amgueddfa’r Fenni yn ddiweddar a dywedodd:  “Roedd yn ardderchog i ddysgu mwy am sut y bydd ein cyllid yn cael ei ddefnyddio gan MonLife.   Mae angen i’n hamgueddfeydd, orielau, llyfrgelloedd, theatrau, a lleoliadau chwaraeon cenedlaethol a lleol fod yn gynhwysol o bobl a lleoedd Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.  Rhaid i’n diwylliant, ein treftadaeth a’n gwasanaethau chwaraeon fod yn gymwys yn ddiwylliannol ac yn adlewyrchu’r hanes a’r cyfraniad a wnaed gan bobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig i’r gymdeithas yng Nghymru.

“Rydw i wedi ymrwymo i gyflawni’r nodau a’r camau gweithredu yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ac ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu o fewn fy mhortffolio.  Rwy’n edrych ymlaen at weld sut mae prosiect MonLife yn cyfrannu at ein cynnydd parhaus wrth i ni sicrhau newid ystyrlon gyda phobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ledled Cymru, ac ar eu cyfer.”

Mae’r gwaith hwn yn ategu penderfyniad diweddar Cyngor Sir Fynwy i ddod yn aelod o rwydwaith Dinas Noddfa ac i ddechrau’r broses o wneud cais ffurfiol i fod yn sir noddfa i’r rhai sy’n ffoi rhag erledigaeth.

Dywedodd y Cynghorydd Sara Burch, aelod cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gymunedau Cynhwysol a Gweithredol: “Rydym yn ddiolchgar iawn am yr arian yma gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.  Bydd yn arwain at welliannau arwyddocaol yn y ffordd mae ein casgliadau treftadaeth yn cael eu dehongli, eu harddangos a’u cyfathrebu.   Bydd y gweithgareddau, sydd wedi eu cynllunio yn y ddwy raglen hyn, yn ein helpu i nodi a rhannu â phobl y straeon sy’n gysylltiedig â’n casgliadau a’n bro, sy’n dathlu amrywiaeth ddiwylliannol lawn ein cymunedau yn Sir Fynwy a bydd yn galluogi cynrychiolaeth o’n holl gymunedau yn ein hamgueddfeydd. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Chyngor Hil Cymru i sicrhau bod ein casgliadau yn berthnasol, yn barchus ac yn gynhwysol.”

I gael mwy o wybodaeth am Dreftadaeth MonLife, ewch i https://www.monlife.co.uk/cy/heritage/

This post is also available in: English