Active Travel - Monlife

Teithio Llesol

Mae Teithio Llesol yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio cerdded a beicio yn lle teithio mewn car er mwyn cyrraedd cyrchfan (a elwir hefyd yn “deithiau pwrpasol”). Nid yw’n cynnwys cerdded a beicio er pleser yn unig er y gallai wella gweithgareddau hamdden yn sylweddol trwy helpu i gysylltu rhwydweithiau. Dyma lle bydd person, er enghraifft, yn cerdded neu’n beicio i gyrraedd eu swyddi, siopau, ysgol, mynd allan i le hamdden, neu fynd i’r orsaf i ddal trên.

Mae manteision enfawr i annog lefelau uwch o Deithio Llesol. Mae cynnwys cerdded a beicio yn eich trefn ddyddiol arferol yn ffordd wych o wella eich iechyd a’ch lles. O’i gymharu â gyrru gall hefyd arbed arian i chi ar danwydd a chostau parcio; gall beicio hyd yn oed leihau amser teithio i’r gwaith heb fod yn sownd ar ffyrdd prysur. Hefyd bydd Teithio Llesol yn helpu i leihau lefelau traffig, a thrwy hynny leihau llygredd aer, sŵn ac allyriadau newid yn yr hinsawdd.


Cil-y-coed
Cil-y-coed
Cas-gwent
Cas-gwent
Magwyr a Undy
Magwyr a Undy
Brynbuga
Brynbuga
Argyfwng Hinsawdd
Argyfwng Hinsawdd
Polisi a Chysylltiadau
Polisi a Chysylltiadau

This post is also available in: English