Gilwern – llwybr Cae Meldon
Cafodd llwybr poblogaidd yng Nghilwern ei uwchraddio i helpu preswylwyr i fynd i ac o’r ysgol gynradd leol o gartrefi i’r dwyrain o Gilwern. Mae’r llwybr, sy’n rhedeg yn gyfochrog â Heol Tŷ Mawr, yn rhoi gwell llwybr cerdded i ffwrdd o’r heol. Roedd y llwybr gwreiddiol wedi treulio, gan osod llwybr anwastad na fedrid ei ddefnyddio. Mae’r cynllun hwn wedi uwchraddio’r llwybr fel bod ganddo wyneb newydd ac yn gwella hygyrchedd drwy gydol y flwyddyn, yn arbennig ar gyfer y rhai sy’n defnyddio cadeiriau olwyn, sgwteri symudedd a chadeiriau gwthio.
Sicrhaodd tîm Teithio’n Llesol Cyngor Sir Fynwy gyllid o Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru i uwchraddio’r cynllun. I liniaru unrhyw effaith ar y ddaear, y planhigion a’r coed o amgylch a bywyd gwyllt, mae’r llwybr o ddull adeiladu ‘dim palu’ yn golygu y caiff y llwybr ei osod ar ben y ddaear bresennol yn hytrach na chloddio i’r ddaear. Roedd y gwaith yn cynnwys:
- Tynnu deunydd y llwybr presennol
- Lledu’r llwybr o 1m i 2m
- Gosod byrddio ymyl pren
- Codi a gosod pridd ac ail-hadu y ddwy ochr i’r llwybr
- Gosod rhwyd gwe cell
- Llenwi gyda charreg
- Gosod haen uchaf tarmac hydraidd
- Gosod padiau botymog ar fannau croesi ar ddau ben y llwybr


This post is also available in: