A ydych rhwng 19 a 25 a’n angerddol am wneud gwahaniaeth diriaethol i’ch cymuned? Yna ymunwch gyda Phanel Ieuenctid ar gyfer Diwylliant a Threftadaeth newydd MonLife!
Rydym yn chwilio am yr aelod olaf i ymuno gyda’r panel. Byddwch yn rhan o grŵp o 8 o bobl ifanc (rhwng 16 a 25) o’r sir a fydd yn dylanwadu’n uniongyrchol ar sut y mae gweithgareddau MonLife yn cael eu darparu i bobl ifanc. Dyma gyfle gwych i ddatblygu eich sgiliau a chwrdd gyda phobl ifanc eraill yn Sir Fynwy a bydd yn brofiad ardderchog i’w ychwanegu at eich CV.
Bydd y cyfarfod nesaf o’r Panel Ieuenctid yn cael ei gynnal yn y Neuadd Sirolyn Nhrefynwy arddydd Llun 10fed Hydref, 5:30 – 7:00 pmByddwch yn derbyn taleb gwerth £25 am fynychu.
Os ydych yn chwilio am bethau i’w gwneud dros wyliau y Pasg, yna nid oes angen i chi chwilio mwyach gan fod yr ateb gan MonLife – rhaglen lawn o weithgareddau a digwyddiadau i ddiddanu plant o bob oedran (a’u rhieni).
Mae Dysgu MonLife wedi paratoi cynlluniau i greu hwyl am ddim i deuluoedd rhwng 11am a 3pm yn Neuadd Sirol Sir Fynwy (dydd Llun 11eg Ebrill), Neuadd Drill Cas-gwent (dydd Iau 21ain Ebrill) ac Amgueddfa’r Fenni (dydd Gwener 22ain Ebrill)
Mae Gemau Sir Fynwy, sydd wedi dod yn fwy ac yn fwy poblogaidd, yn ôl eto o ddydd Llun 11eg – dydd Iau 14eg Ebrill, a dydd Mercher 20fed – dydd Gwener 22ain Ebrill. Mae’n gyfle i ddysgu sgiliau newydd, adeiladu hyder, cwrdd â phobl newydd ac yn fwy pwysig, cael hwyl drwy gyfrwng chwaraeon. Mae pob un diwrnod yn llawn gweithgareddau gwahanol ac mae’n hanfodol eich bod yn cofrestru er mwyn cadw lle gan fod yna 50 lle ar gael bob dydd. Bydd plant a phobl ifanc rhwng 5 a 11 mlwydd oed yn cael y cyfle, ar draws y sesiynau gwahanol, i fwynhau 30 o chwaraeon gwahanol. Bydd y sesiynau yn cael eu cynnal rhwng 8am a 5pm, a’r gost yw £21 y diwrnod. Mae modd cofrestru ar wefan MonLife:
Os ydych yn chwilio am rywbeth ychydig mwy naturus, yna beth am gymryd rhan yn Sesiwn Rhoi Cynnig ar Anturiaethau Gwasanaeth Ieuenctid MonLife. Bydd y gyfres o ddiwrnodau antur awyr agored yn cynnwys – os yw’r tywydd yn caniatáu – canŵio, ogofa, dringo creigiau a rhaffau uchel. Mae’r teithiau ar agor i bobl ifanc ym Mlynyddoedd 7-10, sef rhwng 11 a 15 mlwydd oed. Mae ffi benodol ar gyfer pob sesiwn o £15, sydd yn talu am y gweithgaredd a’r cludiant, a bydd y sesiwn yn cael ei harwain gan staff addysg awyr agored proffesiynol a staff o Wasanaeth Ieuenctid MonLife. Nifer gyfyngedig o lefydd sydd ar gael ac mae cofrestru yn hanfodol a’r dyddiad cau yw dydd Gwener, 8fed Ebrill, ac felly, bydd angen i chi fod yn gyflym. Mae manylion y sesiynau yma ar gael ar wefan MonLife neu drwy e-bostio youth@monmouthshire.gov.uk
Bydd y Caban a Pharc Sgrialu y Fenni yn cynnal Gweithdy Sgrialu am ddim rhwng 12pm a 2pm ar ddydd Mawrth 12fed Ebrill, pan fydd sgrialwr yn helpu pobl ifanc i ddysgu hanfodion sgrialu. Bydd Canolfan Chwarae Trefynwy hefyd yng nghanolfan hamdden y dref hefyd ar agor ac yn cynnig llawer o hwyl dros dri llawr. Mae yna fan penodol ar gyfer plant bach. Mae oedolion yn medru ymlacio gyda phaned o de, gydag wi-fi ar gael am ddim. Mae’r nifer o lefydd wedi eu cyfyngu. Peidiwch ag anghofio bod y pyllau nofio, campfeydd a’r dosbarthiadau ar agor yn ystod y gwyliau (ac eithrio ar ddydd Gwener, 15fed, dydd Llun 18fed a dydd Mawrth 19eg Ebrill).
Mae Amgueddfeydd Treftadaeth MonLife yn hapus i
gyhoeddi lansiad eu gwefan casgliadau newydd sbon yn www.monlifecollections.co.uk/?lang=cy Mae’r wefan newydd yn
darparu mynediad am ddim i chwilio cannoedd o gofnodion, gan alluogi
defnyddwyr i ddarllen deunydd a gweld delweddau ar gyfer eitemau o fewn y
casgliadau o bob rhan o Sir Fynwy. Bydd tîm yr Amgueddfeydd yn ychwanegu mwy at
y wefan yn barhaus, felly maent yn argymell bod ymwelwyr â’r safle yn dod yn ôl
yn aml i weld beth sy’n newydd.
Darganfyddwch wrthrychau hanesyddol, gweithiau celf, ffotograffau
a dogfennau oll yng ngofal Treftadaeth MonLife.
Chwiliwch am bobl arbennig, archwiliwch leoedd nodedig,
teithiwch drwy amser a darganfyddwch gasgliadau gwahanol.
Mae cannoedd o gofnodion Sir Fynwy eisoes ar ein chwiliad
casgliadau.
Oherwydd
pandemig parhaus y Coronafeirws, mae Treftadaeth MonLife wedi bod yn ymchwilio
i ffyrdd newydd o arallgyfeirio rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2021. Gyda diolch
i grant Cronfa Adfer Ddiwylliannol Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru, mae
aelodau o dîm yr Amgueddfeydd wedi gallu canolbwyntio’u rôl er mwyn creu gwefan
ar gyfer y casgliadau. Maent wedi gweithio ochr yn ochr ag Ymgynghorwyr
Treftadaeth Ddigidol, Orangeleaf Systems Ltd i adeiladu gwefan bwrpasol.
Dywedodd Lydia Wooles, o’r tîm prosiect
Amgueddfeydd Ar-lein: “Fe wnaethon ni weithio’n galed o’r cychwyn cyntaf
gyda’r prosiect, fel tîm rydyn ni wedi dysgu llawer mewn cyfnod byr. Dewiswyd
cofnodion yn ofalus i roi blas i ddefnyddwyr o’r amrywiaeth eang o arteffactau
a dogfennau sydd gennym. Mae wedi bod yn
brofiad mor werth chweil gweithio ar y prosiect hwn.”
Mae’r holl gofnodion ar y wefan yn ymwneud â stori Sir
Fynwy ac yn cynnwys casgliad Nelson sydd o bwys cenedlaethol. O
ddarganfyddiadau archeolegol, casgliadau gwisgoedd helaeth, i ffotograffau a chardiau
post – mae rhywbeth at ddant pawb.
Flwyddyn yn ddiweddarach,
yn ystod y cyfnod anodd hwn, rydym yn fwy agos nag erioed!
Ac yn wir, am flwyddyn
gyntaf…
“Ar fy rhan i a’m
cydweithwyr ym MonLife, hoffwn ddiolch i chi am fod yn rhan o’n blwyddyn gyntaf
ers ein lansio yn 2020. Cawsom ein syfrdanu a rhyfeddu at eich brwdfrydedd a’ch
cefnogaeth barhaus ac ar ôl cael adborth mor gadarnhaol
ar draws ein gwasanaethau eang, edrychwn ymlaen at eich gweld i gyd eto pan fydd
Llywodraeth Cymru yn cadarnhau ei bod yn ddiogel gwneud hynny. Hoffwn ddiolch
yn ddiffuant hefyd i dîm MonLife sydd wedi gweithio’n ddiflino yn ystod y 12
mis diwethaf i gefnogi ein cwsmeriaid a’n cymunedau, a gwn y byddant yn parhau
i wneud hynny yn y dyfodol.” Ian Saunders, Prif Swyddog Gweithredu.
Yn 2021, byddwn yn parhau i
gadw ein cwsmeriaid wrth wraidd popeth a wnawn a byddwn yn parhau i wella ein
cynnig er budd eich iechyd a’ch lles.
Rydym yn parhau i archwilio cyfleoedd newydd i sicrhau y gallwch barhau
â’ch taith lles gartref.
Mae gennym gynnyrch newydd
gwych a fydd yn caniatáu i aelodau MonLife barhau i hyfforddi gyda’u hoff
hyfforddwyr a chyfranogwyr y maent yn eu hadnabod o’u cartrefi gyda’r aelodaeth
MonLife YN FYW AC AR ALW NEWYDD. Bydd yr aelodaeth hon yn rhoi profiad grŵp
Rhithwir Byw cyffrous a ffitrwydd personol i chi. Cliciwch YMA am fwy o wybodaeth.
I gael y wybodaeth
ddiweddaraf, dilynwch ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, fel ein Tudalen
Facebook, dilynwch ein Cyfrif
Twitter a thanysgrifiwch i’n Sianel
Youtube. Mae gennym hefyd Ap
MonLife – cliciwch YMA i’w lawrlwytho.
Arhoswch
Adref i achub bywydau a diogelu ein GIG.
Gobeithiwn
y cawsoch Nadolig diogel ac iach a dymunwn Flwyddyn Newydd Dda iawn i chi!
Yn dilyn cyhoeddiad a wnaed ddydd Mercher gan y Prif Weinidog, byddwn yn cau’r holl Ganolfannau Hamdden Bywyd Mynwy (MonLife) o ddydd Iau, 24ain Rhagfyr am 3 wythnos wrth i ni fynd i Haen 4 o’r Cyfnod Clo.
Ein staff, ynghyd â’r gymuned, yw ein blaenoriaeth a hoffem ddiolch i
chi am y gefnogaeth yr ydych wedi dangos i MonLife dros y misoedd diwethaf.
Rydym wedi derbyn yr adborth mwyaf anhygoel gan ein cwsmeriaid ac rydym yn
disgwyl ymlaen at eich croesawu nôl yn dilyn adolygiad Llywodraeth Cymru ym mis
Ionawr.
Os ydych wedi trefnu neu archebu rhywbeth, yna peidiwch â
phoeni gan y byddwn yn cysylltu gyda chi. Fodd bynnag, os oes ymholiad brys
gennych, yna cysylltwch gyda’r Ganolfan Hamdden MonLife briodol.
Ma eich iechyd a’ch lles yn bwysig iawn i ni ac rydym yn parhau i chwilio am gyfleoedd er mwyn sicrhau eich bod
yn medru parhau gyda’ch taith lles tra’n aros gartref. Mae’r cynnig ffantastig NEWYDD gennym a fydd
yn caniatáu i aelodau MonLife i barhau i hyfforddi gyda’u hoff hyfforddwyr ac
unigolion eraill y maent yn adnabod a fydd hefyd yn eu cartrefi, a hynny drwy
gyfrwng aelodaeth MonLife NEWYDD, sef YN FYW AC AR ALW. Bydd yr aelodaeth hon yn rhoi profiad
ffitrwydd Byw Rhithwir i chi, boed fel unigolyn neu mewn grŵp. Cliciwch YMA am fwy o wybodaeth.
Er mwyn derbyn y
newyddion diweddaraf, dilynwch ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, fel ein Tudalennau Facebook , dilynwch ein cyfrif Twitter a
thanysgrifiwch i’n Sianel Youtube.
Mae Ap MonLife ar
gael hefyd – cliciwch YMA i’w lawrlwytho.
Aelodaethau (Memberships)
Hoffem gynnig sicrwydd i chi nad oes rhaid i chi wneud dim byd a byddwn yn
trefnu unrhyw newidiadau i’ch taliad debyd uniongyrchol ym mis Ionawr er mwyn
adlewyrchu unrhyw ddiwrnodau sydd yn cael eu colli.
Gwersi Nofio (Swimming
Lessons)
Fel sydd yn digwydd gydag aelodaethau, bydd eich debyd uniongyrchol ar
gyfer gwersi nofio yn cael ei newid er mwyn adlewyrchu’r amser sydd yn cael ei
golli yn sgil cyfnod clo Haen 4.
Mae ein timau
aelodaeth yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych, ac felly, e-bostiwch monmemberships@monmouthsire.gov.uk neu ffoniwch 01633 644499 os gwelwch yn
dda.
Fel cwsmer gwerthfawr, hoffem ddiolch i chi am eich cefnogaeth barhaus a
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi.
Er mwyn derbyn y newyddion diweddaraf, dilynwch ni ar y cyfryngau
cymdeithasol, lawrlwythwch ein Ap MonLife neu ewch i www.MonLife.co.uk
Yn dilyn cyhoeddiad a wnaed ddydd Mercher gan y Prif Weinidog, byddwn yn
cau’r holl Ganolfannau Hamdden Bywyd Mynwy (MonLife) o ddydd Iau, 24ain Rhagfyr
am 3 wythnos wrth i ni fynd i Haen 4 o’r Cyfnod Clo.
Mae pob un o wasanaethau eraill MonLife hefyd ar gau, ac eithrio meysydd
parcio ar gyfer safleoedd gwledig ac atyniadau, safleoedd awyr agored a meysydd
chwarae. Dylech wirio’r tudalennau ar gyfer pob un lleoliad a’r gwasanaethau unigol
ar ein gwefan am fwy o wybodaeth.
Ein staff, ynghyd â’r gymuned, yw ein blaenoriaeth a hoffem ddiolch i
chi am y gefnogaeth yr ydych wedi dangos i MonLife dros y misoedd diwethaf.
Rydym wedi derbyn yr adborth mwyaf anhygoel gan ein cwsmeriaid ac rydym yn
disgwyl ymlaen at eich croesawu nôl yn dilyn adolygiad Llywodraeth Cymru ym mis
Ionawr.
Er mwyn derbyn y newyddion diweddaraf, dilynwch ein cyfrifon cyfryngau
cymdeithasol, fel ein Tudalennau Facebook , dilynwch ein cyfrif Twitter a
thanysgrifiwch i’n Sianel Youtube.
Mae Ap MonLife ar
gael hefyd – cliciwch YMA i’w lawrlwytho.
Os oes unrhyw
ymholiadau gennych am eich aelodaeth MonLife, yna e-bostiwch monmemberships@monmouthsire.gov.uk os gwelwch yn dda neu ffoniwch 01633
644499.
Fel cwsmer gwerthfawr, hoffem ddiolch i chi am eich cefnogaeth barhaus a
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi.
Walking is one of the easiest ways of getting some fresh air and exercise, and both these things are a great help in improving your wellbeing. We are blessed in Monmouthshire with lots of fantastic places to walk, so here are some tips to help you make the most of it.
1. The green, green grass of home – exploring from your house
All of our towns have parks and green spaces which can be a destination in their own right or form a welcome green corridor on the way to shops, school or other destinations. Why not play “I spy”, count the number of houses with green doors or see how many different species of birds you can spot along the way?
2. Country roads – visiting countryside sites
These are great places to visit and go for a walk, and there is bound to be one near where you live for example Caldicot Castle Country Park, the Old Station at Tintern or Castle Meadows in Abergavenny. Check https://www.visitmonmouthshire.com/things-to-do/Countryside-Visitor-Sites.aspx for details. Don’t forget the wildlife sites such as Magor Marsh and Newport Wetlands.
3.Through a big country – the wider countryside
If you are more adventurous or become more confident, why not visit the wider countryside? Monmouthshire has special walks along the rivers such as the Wye, Usk and Monnow, the reservoir at Llandegfedd and the Monmouthshire and Brecon canal. You can visit woodlands owned by Natural Resources Wales or the Woodland Trust. What about a walk up a hill like the Sugar Loaf, Blorenge and Skirrid?
4. Can’t stand losing you – following public rights of way
Get out your map and try following the public rights of way and open access across commons. If you can’t read a map look out for courses on map reading and navigation to improve your skills. Visit our mapping system at https://access.monmouthshire.gov.uk/ for more information about the rights of way network.
5. Do you know where you’re going to? – leaflets and other sources of information
There are lots of leaflets and websites where you can find routes to follow. There are walks for most abilities on this site. https://www.visitmonmouthshire.com/things-to-do/walking-in-monmouthshire.aspx There are other sites online where you can download leaflets and even apps where you can put the routes into your phone.
6. All together now – join in with other people
Normally there are walking groups you can join and guided walks offered by organisations such as the Gwent Wildlife Trust or Monmouthshire County Council. Look out for these as we hopefully come out of restrictions next year.
7. All right now – using the Countryside Code
Remember if you are going out to stick to the rules which are designed to keep you safe and ensure everyone takes care of the countryside. Respect other users and the people who own and look after the land. Also take appropriate clothing and footwear to keep you comfortable and safe. Countryside code information can be found at https://naturalresources.wales/days-out/the-countryside-codes/?lang=en
For further information on how to stay safe on your trips to the countryside click here for the MonLife website or visit Adventure Smart.
Ym Mawrth 2020 daeth chwaraeon ar lawrgwlad i stop pan wnaeth y pandemig gyrraedd Cymru. Ond yn ystod y cyfnod ansicr yma, bu ein clybiau cymuned, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr yn arwyr a rhoi balchder i chwaraeon yng Nghymru. Daeth clybiau lleol, grwpiau a sefydliadau at ei gilydd ar ddechrau’r cyfnod clo cenedlaethol er mwyn gofalu dros bobl yn y gymuned. Fe wnaethoch godi arian dros elusennau, dosbarthu prydiau bwyd i weithwyr y GIG, rhannu offer chwaraeon gyda cartrefi lleol a trefnu cwisiau arlein i helpu trigolion i gadw mewn cysylltiad gyda’i gilydd. Dyna pam, ar y 16fed o Rhagfyr byddwn yn cefnogi ymgyrch y Loteri Genedlaethol i rhannu eich straeon ysbrydoledig! Dwedwn diolch o galon am eich caredigrwydd a’ch ymrwymias i gadw’r genedl i fynd, yn feddylion ac yn gorfforol! Os rydych chi’n nabod rhywun yn eich clwb neu prosiect sydd yn haeddu cydnabyddiaeth ar 16 Rhagfyr – rhannwch y stori ar eich sianeli cymdeithasol, tagiwch ni yn y neges a defnyddiwch yr hashnodau #DiolchiChi a #LoteriGenedlaethol Byddwn yn cadw llygaid barcud am eich stori a rhannu ar ein sianeli ni hefyd fel bod eraill yn cael eu ysbrydoli hefyd. Edrychwn ymlaen at weld sut wnaethoch chi chwarae eich rhan.