Uncategorized @cy - Monlife - Page 4

Cynlluniau Teithio Llesol yn y Fenni’n cymryd cam ymlaen

Sicrhawyd cyllid y flwyddyn ariannol hon i ddechrau adeiladu’r bont Teithio Llesol newydd ar draws yr afon Wysg, ac mae cynlluniau diwygiedig ar gyfer y gatiau mynediad i Ddolydd y Castell wedi cael eu cytuno rhwng Cyngor Sir Fynwy a Thrafnidiaeth Cymru. Bydd cais cynllunio i wella llwybrau drwy Ddolydd y Castell, y Fenni, yn cael ei ystyried yn y dyfodol agos gan Bwyllgor Cynllunio’r Cyngor. Cafodd trafodaethau cynllunio eu gohirio o gyfarfod cynllunio mis Gorffennaf wrth i ymholiad gan Gyfoeth Naturiol Cymru am ecoleg y safle gael ei archwilio.

Bydd grid gwartheg gyda giât a oedd yn cael eu treialu yn Nolydd y Castell yn cael eu symud a’u disodli gan giât yn unig, ac ni fydd gan y bont newydd ar draws y Gafenni gridiau na gatiau ac felly’n caniatáu mynediad heb rwystrau. Bydd pwyntiau mynediad eraill sy’n arwain at ffyrdd a meysydd parcio yn cael gatiau moch yn lle gatiau sengl hawdd eu hagor, gatiau sengl hunan-gau a grid gwartheg lled beic ar gyfer beiciau a sgwteri symudedd. Bydd y gridiau’n cael eu defnyddio dim ond pan fydd gwartheg yn pori, sydd fel arfer rhwng mis Gorffennaf a mis Ionawr, i roi mynediad hawdd i bob defnyddiwr wrth gadw’r gwartheg wedi’u hamgáu. Mae pori gan wartheg yn bwysig i fioamrywiaeth y dolydd dŵr traddodiadol.   

Dywedodd y Cynghorydd Sirol Sara Burch, yr Aelod Cabinet dros Gymunedau Cynhwysol a Gweithgar: 

“Rwy’n falch iawn bod cyllid wedi’i sicrhau’r flwyddyn ariannol hon i alluogi dechrau’r gwaith o adeiladu’r bont Teithio Llesol newydd ar draws yr afon Wysg yn Nolydd y Castell. Y gobaith yw y bydd yn cael ei gwblhau yn 2024 ac y bydd yn ei gwneud yn fwy diogel i bobl deithio rhwng Llan-ffwyst a’r Fenni.

“Rydym wedi gwrando ar farn y cyhoedd ynghylch pwyntiau mynediad i Ddolydd y Castell ac o ganlyniad byddwn yn cael gwared ar y grid gwartheg a oedd yn cael ei dreialu. Mae’r cynigion gwreiddiol yn arfer gorau cenedlaethol ar gyfer llwybrau teithio llesol sy’n croesi ardaloedd lle mae gwartheg yn pori, ond yn amlwg mae angen dull pwrpasol ar Ddolydd y Castell. Mae’r tîm wedi archwilio amryw o ddewisiadau eraill yn dilyn digwyddiad yn gynnar eleni, gan gynnwys yr hyn sydd wedi gweithio mewn mannau eraill ac awgrymiadau a wnaed gan y cyhoedd.  Mae hwn yn safle cymhleth ac nid oes atebion hawdd.  Dim ond lle byddem yn disgwyl i berchennog ci cyfrifol gael ei gi ar dennyn, megis mynedfeydd meysydd parcio a’r ffordd y byddwn yn gosod gridiau.  Bydd arwyddion clir lle bynnag y cânt eu gosod.  Rwy’n ddiolchgar i Drafnidiaeth Cymru am barhau i’n cefnogi gyda chyllid Teithio Llesol gan hefyd ganiatáu hyblygrwydd o ran sut rydym yn cyflawni’r cynllun.

“Mae’r cynllun hwn yn fuddsoddiad mawr yn nyfodol y Fenni ac mae’n rhaid i ni gael pob manylyn yn iawn.  Ein nod o hyd yw galluogi pawb i fwynhau Dolydd y Castell hardd gan gynnwys cerddwyr, teuluoedd â phlant bach, pobl â symudedd cyfyngedig, beicwyr a pherchnogion cŵn. Bydd pobl yn gallu dewis defnyddio’r arwynebau newydd, diogel, deniadol, wedi’u rhwymo a resin, neu grwydro trwy’r llwybrau anffurfiol. Bydd y llwybrau Teithio Llesol yn darparu llwybr diogel a dymunol i gerddwyr a beicwyr rhwng Llan-ffwyst a gwahanol ardaloedd y Fenni, gan gynnwys ysgol newydd y Brenin Harri VIII a’r orsaf. Byddwn yn parhau i ymgynghori ar fanylion y cynllun ar bob cam.”      

Bu rhywfaint o ddyfalu’n lleol y byddai’n rhaid cadw cŵn sy’n cael eu cerdded ar y dolydd ar dennyn o ganlyniad i’r cynllun hwn. Mae hyn yn anghywir – bydd cŵn yn parhau i gael eu caniatáu oddi ar dennyn pan fydd hi’n ddiogel gwneud hynny ar Ddolydd y Castell. Rhaid i gŵn ar dennyn neu oddi ar dennyn fod o dan reolaeth perchennog bob amser, yn enwedig o ran plant, beicwyr a gwartheg.  A dylai pob perchennog cŵn cyfrifol bob amser godi baw ar ôl eu ci.

Mae’r llwybr arfaethedig yn y Fenni yn un o lawer ar draws y wlad sydd wedi cael eu cynnig o ganlyniad i Ddeddf Teithio Llesol (Cymru). Nod y ddeddf yw lleihau faint o deithiau ceir trwy wella’r llwybrau teithio llesol mewn trefi.  Nod hyn yn ei dro yw lleihau llygredd, gwella iechyd a chydraddoldeb.

Mae’r cynllun wedi cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy’r Gronfa Teithio Llesol, a weinyddir gan Drafnidiaeth Cymru.  Mae’r arian hwn wedi’i neilltuo ar gyfer gwelliannau i lwybrau Teithio Llesol.  Mae pob cam o’r cynllun yn amodol ar gymeradwyaeth ariannol ar wahân, a dim ond ar adegau penodol o’r flwyddyn y gellir adeiladu ar Ddolydd y Castell, gan wneud hwn yn brosiect aml-flwyddyn. Am y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect Teithio Llesol yn y Fenni ac i weld y cwestiynau cyffredin am y cynllun, ewch i: https://www.monlife.co.uk/castle-meadows-faq/


Disgyblion Sir Fynwy yn disgleirio yn y Gynhadledd PlayMaker 

Yn ystod wythnos y 5ed o Fehefin, mynychodd ysgolion cynradd Sir Fynwy y Gynhadledd PlayMaker. Y nod oedd dod ag arweinwyr ifanc Sir Fynwy ynghyd ar gyfer hyfforddiant pellach ac i ddathlu eu taith yn dysgu sgiliau arweinyddiaeth. Roedd plant o 27 o’r 30 ysgol gynradd yn Sir Fynwy wedi cymryd rhan mewn carwsél o weithgareddau a ddarparwyd gan Wasanaethau BywydMynwy, Academi Arweinyddiaeth BywydMynwy a phartneriaid allanol, gan gynnwys grwpiau ‘parkrun’ Rogiet a Dixton, Hybiau Cymunedol Sir Fynwy (a llyfrgelloedd), Bowls Cymru a Chymuned Clwb Rygbi’r Dreigiau. Roedd y digwyddiadau’n cynnwys datblygu cyfleoedd chwarae, hyrwyddo Teithio Llesol, llais y disgybl, gweithdai Corff Llywodraethu Cenedlaethol, Adeiladu Tîm, ymwybyddiaeth o Les, hyfforddiant Cynhwysiant Anabledd a llawer mwy.

Derbyniodd y rhaglen, a oedd yn cynnwys wythnos o ddigwyddiadau,  gefnogaeth wych gan ysgolion uwchradd yng Nghil-y-coed, Cas-gwent a Threfynwy, a ddarparodd eu cyfleusterau ar gyfer y digwyddiadau yn ogystal â chlwb Rygbi’r Fenni a chlwb Bowlio’r Fenni ym Mharc Bailey.

Mae tîm Datblygu Chwaraeon BywydMynwy wedi bod yn cyflwyno gwobr PlayMaker Arweinwyr Chwaraeon drwy gydol y flwyddyn academaidd hon, gan ymgysylltu â phob un o’r 30 ysgol gynradd yn Sir Fynwy. Mae’r wobr wedi’i chyflwyno i gyfanswm o 938 o ddisgyblion Blwyddyn 5 y flwyddyn academaidd hon, gyda’r nod o addysgu sgiliau allweddol i ddisgyblion fel cyfathrebu, arweinyddiaeth, trefniadaeth a dygnwch. Ar ôl i’r disgyblion ennill y wobr, maent yn cynorthwyo i gael effaith gadarnhaol ar les yn eu hysgolion. Dyma gam cyntaf llwybr arweinyddiaeth Datblygu Chwaraeon, cyn trosglwyddo i gynllun Llysgenhadon Efydd Blwyddyn 6 ac academïau Arweinyddiaeth Ysgolion Uwchradd.

Mae Datblygu Chwaraeon wedi bod yn cyflwyno gwobr PlayMaker ers blwyddyn academaidd 2017/18, gan roi’r cymhwyster arweinyddiaeth i ddisgyblion ym Mlwyddyn 5 i Flwyddyn 10. Ers i’r prosiect ddechrau, mae mwy na 5,500 o blant wedi cymryd rhan yn y cynllun.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cyng. Mary Ann Brocklesby: “Mae’r ffordd y mae dysgwyr Sir Fynwy wedi cymryd rhan yn y wobr PlayMaker wedi gwneud cymaint o argraff arnaf. Mae wedi cael effaith gadarnhaol ar bron i fil o bobl ifanc y flwyddyn academaidd hon, sy’n anhygoel. Rwy’n falch o bob disgybl unigol sydd wedi bod yn rhan o hyn, a hoffwn ddiolch hefyd i’r holl sefydliadau sydd wedi ymuno â ni er mwyn medru cynnig y rhaglen wych hon.”

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Arweinwyr Chwaraeon SLQ, Richard Norman: “Rydym yn cael ein hysbrydoli am byth gan ein partneriaeth PlayMaker gyda BywydMynwy. Ers dros 10 mlynedd bellach, mae BywydMynwy wedi bod ar flaen y gad o ran datblygu sgiliau arwain mewn plant oed ysgol gynradd ac mae wir yn buddsoddi yn nyfodol plant Sir Fynwy. Gwyddom, trwy feithrin hyder a sgiliau plant, ein bod yn rhoi’r cyfle iddynt fod y fersiwn orau ohonynt hwy eu hunain yn y dyfodol. Rydym yn mawr obeithio y byddwn yn 2033 yn dathlu 20 mlynedd o lwybr arweinyddiaeth BywydMynwy a chyraeddiadau miloedd lawer o PlayMakers ar draws Sir Fynwy a fydd wedi elwa o’r rhaglen hon.”

Am fwy o wybodaeth am y rhaglen PlayMaker neu’r rhaglenni Datblygu Chwaraeon ehangach, ewch os gwelwch yn dda i – www.monlife.co.uk/cy/connect/sports-development/ neu e-bostiwch sport@monmouthshire.gov.uk


Y Cyngor yn sicrhau’r cyllid Teithio Llesol uchaf yng Nghymru

Fel rhan o Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru 2023/24, mae Cyngor Sir Fynwy wedi derbyn £6.99 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, sef y dyraniad uchaf yng Nghymru. Daw hyn ar ôl blynyddoedd o gynnydd mewn cyllid ar gyfer prosiectau strategol ar draws y sir, sy’n adleisio’r ymrwymiad y mae Sir Fynwy wedi’i wneud i alluogi pobl i gerdded, symud ar olwynion a beicio yn lle defnyddio eu ceir.

Mae Cyngor Sir Fynwy hefyd wedi derbyn £500k mewn cyllid craidd, sydd i’w ddefnyddio ar gyfer dylunio a datblygu prosiectau Pont Gwy a Chysylltiadau Wyesham, ac ar gyfer prosiectau llai ledled y sir, gan ganolbwyntio ar fân welliannau i lwybrau Teithio Llesol, gan sicrhau eu bod yn cwrdd â’r safonau gofynnol.

Teithio Llesol yw’r term a ddefnyddir ar gyfer mynd o gwmpas drwy gerdded, beicio a symud ar olwynion (sy’n cynnwys cadeiriau olwyn a sgwteri symudedd), yn hytrach nag mewn car ar gyfer teithiau byr bob dydd, fel mynd i’r ysgol, gwaith neu siopa. Mae gan Sir Fynwy gynllun deng mlynedd ar gyfer gwneud gwelliannau ar draws y sir, sydd wedi eu rhannu yn brosiectau penodol.

Yn y Fenni,  bydd y cyllid sydd newydd ei gyhoeddi yn golygu y bydd modd adeiladu Rhan 1 o’r bont newydd i gerddwyr a beicwyr yn cael ei hadeiladu ar draws Afon Wysg tua 50 metr i’r dwyrain o’r bont ffordd bresennol. Bydd y groesfan hon rhwng Dolydd y Castell a Chaeau’r Ysbyty yn ei gwneud yn iachach ac yn fwy diogel i gerddwyr a’r sawl sy’n symud ar olwynion i gyrraedd y dref ac i’r orsaf reilffordd. Bydd yn golygu y bydd trigolion yn gallu teithio o Lan-ffwyst i’r Fenni i weithio, i’r ysgol neu i apwyntiadau, heb orfod cerdded ochr yn ochr â cheir a lorïau. Ewch iwww.monlife.co.uk/outdoor/active-travel/abergavenny/ i ddarganfod mwy am y prosiect cyffrous hwn.

Yng Nghil-y-coed bydd y llwybr Teithio Llesol yn defnyddio’r hen reilffordd i’w throi’n llwybr newydd ar gyfer cerdded a symud ar olwynion. Bydd yn darparu cyswllt di-gar rhwng Castell Cil-y-coed a’r Parc Gwledig i Heol yr Eglwys a fydd yn mynd â phobl drwy gefn gwlad ac’u cadw i ffwrdd o’r ffyrdd. Bydd hefyd yn galluogi pobl leol sy’n gweithio yn Mitel, parc busnes Castlegate ac Ystâd Ddiwydiannol y Bont Hafren i deithio oddi ar y ffordd o’u cymdogaeth i’r gwaith. Am fwy o wybodaeth ewch i

www.monlife.co.uk/outdoor/active-travel/caldicot/

Yn Nhrefynwy bydd y cyllid yn arwain at ddatblygiad y bu disgwyl mawr amdano ar gyfer datblygu pont droed a beicio ar draws Afon Gwy. Mae’r bont, sydd wedi derbyn cefnogaeth gan lawer o drigolion, yn y cam cynllunio ar hyn o bryd. Bydd yn darparu llwybr diogel o Wyesham i Drefynwy i fyfyrwyr sy’n mynd i’r ysgol. Bydd hefyd o fudd i unrhyw un sydd am deithio’n ddigoel i’r gwaith neu i apwyntiadau, i ffwrdd o’r ceir a’r lorïau ar bont ffordd brysur Gwy.

Hefyd yn Nhrefynwy, mae cynllun Cysylltiadau Lôn Caeau Williams yn mynd yn ei flaen. Bydd yn gwneud gwelliannau mawr i’r llwybr cerdded a beicio o Lôn Caeau Williams i Bont Mynwy, gan ei gwneud hi’n haws ac yn fwy diogel i deithio i ganol y dref ar unrhyw adeg o’r dydd ac unrhyw adeg o’r flwyddyn. Bydd croesfan newydd hefyd ar draws Ystâd Ddiwydiannol Wonastow, fel rhan o’r cynllun ehangach sy’n cysylltu Kingswood Gate â chanol Trefynwy. I gael rhagor o wybodaeth am brosiectau Trefynwy ewch i

www.monlife.co.uk/outdoor/active-travel/monmouth/

Dywedodd y Cyng. Dywedodd Sara Burch, Aelod Cabinet dros Gymunedau Cynhwysol ac Byw: “Mae hwn yn newyddion gwych i’r sir ac yn amlygu’r camau y mae Sir Fynwy yn eu cymryd i annog mwy o bobl i gefnogi Teithio Llesol a gadael y car gartref. Cyn hir, byddwn yn dechrau gweld prosiectau mawr yn cael eu cyflawni ar lawr gwlad, a fydd yn helpu i ddatgarboneiddio ein trafnidiaeth, a hynny un daith ar y tro. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru i wireddu ein gweledigaeth ar y cyd – Cymru lle mae cerdded a beicio yn ddewis diogel ac arferol ar gyfer teithiau lleol.

“Mae’r cynlluniau Teithio Llesol hyn wedi’u datblygu a’u llywio gan anghenion ein cymunedau, ac rydym yn ymgysylltu ac yn gwrando arnynt yn barhaus. Rydym wedi bod yn clywed gan bobl ers blynyddoedd lawer am yr angen am lwybrau cynhwysol, hygyrch. Mae heddiw’n nodi cam mawr ymlaen at gyflawni hyn ar gyfer Sir Fynwy a’i chymunedau.

“Y cyfanswm cyllid hwn o £7.49miliwn yw’r dyfarniad Teithio Llesol mwyaf erioed i Gyngor Sir Fynwy ei sicrhau gan Lywodraeth Cymru, sy’n dangos ei ymrwymiad i wella llwybrau ar gyfer cerdded, beicio a symud ar olwynion yn y sir. Roedd dyfarniadau blaenorol yn cynnwys £3.9 miliwn yn 22/23, £3 miliwn yn 21/22 a £1.8miliwn yn 20/21.”

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am Deithio Llesol yn Sir Fynwy ewch i

– www.monlife.co.uk/outdoor/active-travel neu mae modd cysylltu gyda’r tîm drwy e-bostio  ActiveTravel@monmouthshire.gov.uk 


Mwy na £760k o gyllid wedi ei gyhoeddi ar gyfer amgueddfeydd Sir Fynwy

Shire Hall, Trefynwy
Shire Hall, Trefynwy

Mae amgueddfeydd Sir Fynwy sydd yn cael eu rheoli gan MonHeritage, sy’n rhan o Gyngor Sir Fynwy, wedi derbyn hwb ar ôl y rownd ddiwethaf o ddyfarniadau ariannol.

Mae’r cynllun i ail-leoli amgueddfa Trefynwy i’r Shire Hall (Neuadd y Sir) gam yn agosach yn sgil y Grant Datblygu o £349,928 a ddyfarnwyd gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Bydd y cyllid yn caniatáu’r Cyngor i ail-ddatblygu’r Neuadd Sir fel amgueddfa achrededig.

Roedd grant ychwanegol o £241,697 wedi ei ddyfarnu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol (Casgliadau Deinamig) er mwyn gwella’r gwaith catalogio o Gasgliad Trefynwy ac i ymgynghori gyda chymunedau lleol am y straeon y maent am weld yn cael eu olrhain yn arddangosfeydd yr amgueddfa. Bydd y gwaith hefyd yn cynnwys arddangosfeydd o fewn y gymuned ac yn y Neuadd Sir.

Mae gwaith cadwraeth a gwelliannau i gasgliad Nelson eisoes wedi eu gwneud. Lluniwyd adroddiad a ariannwyd gan Ffederasiwn Amgueddfeydd a Galerïau Cymru yn ystod 2022 a oedd yn amlinellu pwysigrwydd cenedlaethol casgliad Nelson. Mae hyn wedi ei gymeradwyo gan Amgueddfa Forol Genedlaethol, Greenwich. Mae’r amgueddfa hefyd wedi gweithio gyda Race Council Cymru er mwyn cynnal dau weithdy gyda’r testunau na sydd wedi eu trafod rhyw lawer cyn hyn ynglŷn â Nelson ond y mae pobl am weld.

Dywedodd y Cyngh. Sara Burch, Aelod Cabinet sydd yn gyfrifol am amgueddfeydd MonHeritage:
“Rwyf wrth fy modd fod Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi cefnogi’r cynlluniau ar gyfer adleoli amgueddfa Trefynwy i’r Neuadd Sirol. Bydd yn helpu ni ddatblygu’r cynlluniau i wneud yr amgueddfa, y casgliad, ac arddangosfeydd y dyfodol yn fwy cynrychioliadol o Drefynwy, y sir, ei hanes a’i phobl.”

Mae amgueddfeydd MonHeritage yn y Fenni a Chas-gwent hefyd wedi elwa o gyllid. Roeddynt wedi derbyn £173,318 gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y prosiect – Ymchwilio, ail-asesu ac adhawlio: treftadaeth a diwylliant cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig Sir Fynwy. Bydd y gwaith hwn yn cyfrannu at yr amcanion treftadaeth yng Nghynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cymru. Mae’r dyfarniad yn adeiladu ar y gwaith sydd wedi ei ddechrau yn y ddwy amgueddfa ac yn cyfrannu at ddehongliadau gwell o’r casgliadau, yn cynrychioli eu cysylltiad gyda chaethwasiaeth yn well ynghyd â choloneiddio a’r ymerodraeth, ac yn cydnabod y rôl sydd wedi ei chwarae gan gymunedau Sir Fynwy o ran caethwasiaeth, yr ymerodraeth a globaleidido.

Gyda Race Council Cymru, bydd MonHeritage yn cynnal gweithdai cymunedol er mwyn archwilio ffyrdd i ddehongli’r casgliadau yma yn well. Bydd gweithio gyda chymunedau yn caniatáu’r tîm Dysgu a’r Churadurol i greu rhaglen o weithgareddau sydd yn debygol o gynnwys digwyddiadau diwylliannol ac arddangosfeydd yn lleoliadau Sir Fynwy. At hyn, bydd gweithgareddau cymunedol a dysgu yn cael eu cynnal mewn ysgolion lleol ac yn amgueddfeydd y sir. Bydd y cynnwys yn cael ei ysbrydoli gan y casgliadau a’r dreftadaeth leol yng Nghas-gwent.

Yng Nghas-gwent, mae prosiect sydd wedi ei ariannu gan £10,000 o Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol newydd ei gwblhau er mwyn ymchwilio ac ail-ddehongli bywydau’r nyrsys a oedd wedi gweithio yn yr amgueddfa pan oedd yn ysbyty. Mae’r arddangosfa sydd wedi ei hysbrydoli gan y prosiect ar agor tan fis Rhagfyr 2023.

Bydd amgueddfa Cas-gwent yn agor arddangosfa barhaol yn ymwneud gyda Thaith y Gwy ym mis Gorffennaf. Bydd yn cynnwys llun gan JMW Turner a brynwyd yn diweddar yn dilyn cyfraniad o £76,000 gan Gyngor Celfyddydau Lloegr/Cronfa Grant Prynu V&A a chefnogaeth gan y Loteri Genedlaethol, Museums Association Beecroft Bequest, Ymddiriedolaeth Dyffryn Gwy.

Er mwyn dysgu mwy am amgueddfeydd Sir Fynwy, ewch i www.monlife.co.uk/heritage/


Byddwch yn barod i Fynd yn Wyllt yn y Fenni ym mis Mai!

Mae Grid Gwyrdd Gwent yn cynnal y digwyddiad ‘Gwent Fwyaf yn Mynd yn Wyllt’ ar gyfer y teulu cyfan ar ddydd Sadwrn, 20fed Mai, 2023.  Mae’r digwyddiad, sydd wedi ei ysbrydoli gan natur, yn rhad ac am ddim ac i’w gynnal ym  Mharc Bailey y Fenni rhwng 11am a 4pm. Bydd yn arddangos a’n dathlu y gwaith ffantastig sydd wedi ei wneud ar draws Gwent er mwyn hyrwyddo bioamrywiaeth.

Poster advertising the event

Parc Bailey yw’r lleoliad perffaith ar gyfer y digwyddiad. Mae’n gartref i ddarn o waith celf Nid yw Natur yn daclus, sydd ger y Clwb Rygbi. Mae’r  mosaic yn dathlu’r blodyn diymhongar llygad y dydd, a’i rôl bwysig ar gyfer pryfed peillio gyda chwilen  blodau â choesau trwchus yn hawlio’r sylw. Fel rhan o’r digwyddiad, bydd y gwaith celf yn cael ei ddadorchuddio’n ffurfiol.

Cyn y digwyddiad, bydd swyddogion PGGG yn gweithio gyda phlant iau o ysgolion/grwpiau cymunedol lleol er mwyn creu’r adenydd perffaith ar gyfer peillio. Bydd y plant yn cymryd rhan mewn “Parêd Peillio” gan ddathlu’r bywyd gwyllt lleol ar y diwrnod.

Bydd pobl ifanc o’r Fenni yn creu  murlun newydd ar gyfer y safle. Y gobaith yw y bydd y gymuned leol yn mwynhau’r gwaith celf am flynyddoedd i ddod a bydd y dyluniad yn dathlu’r natur sydd i’w weld yn yr ardal.

Bydd yna ystod o weithgareddau ar gael i deuluoedd a phobl o bob oedran yn ystod y diwrnod, gan gynnwys stondinau crefft a phobl yn olrhain straeon ynghyd â llawer o wybodaeth am brosiectau amgylcheddol a chymunedol ar draws Gwent.

Tra eich bod yn y digwyddiad, beth am fynd ati i helpu’r tîm Grid Gwyrdd Gwent i adeiladu plasty drychfilod o ddeunyddiau sydd wedi eu canfod yn lleol a’u hailgylchu. Bydd hyn yn aros ym Mharc  Bailey ar ôl y digwyddiad, gan ddarparu cartref i amryw o drychfilod.

Bydd bagiau nwyddau a pethau am ddim ar gael i chi fynd â hwy adref. Bydd hyn yn cynnwys peli hadau a chanllawiau ar gyfer caeau fel bod y teulu cyfan yn medru ‘mynd yn wyllt’ ar ôl y digwyddiad.

Dywedodd y Cyngh. Sara Burch, Aelod Cabinet ar gyfer Cymunedau Cynhwysol a Byw: “Mae’r digwyddiad hwn sydd yn rhad ac am ddim, yn ffordd wych o ddwyn cymuned ehangach y Fenni ynghyd, i ddathlu’r amgylchedd. Bydd y gweithgareddau yn rhannu gwybodaeth ac yn llawer o hwyl hefyd. Rwy’n disgwyl ymlaen at weld y gwaith gwych sydd wedi ei wneud gan bobl ifanc y Fenni a chwrdd â chynifer o bobl leol ag sydd yn bosib ar y diwrnod.”

Dywedodd y Cyngh. Catrin Maby, Aelod Cabinet ar gyfer Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Mae gwaith Grid Gwyrdd Gwent, sydd yn gwella a’n datblygu’r amgylchedd naturiol ar draws y rhanbarth, mor bwysig.  Mae nid yn unig yn mynd i’r afael gyda’r argyfwng hinsawdd ond hefyd yn chwarae rôl allweddol yn gwella bioamrywiaeth a’n gwella lles y bobl sydd yn byw yn yr ardal. Byddem yn annog cynifer o bobl ag sydd yn bosib i nodi’r dyddiad yn eu dyddiaduron gan ddod i ddigwyddiad y Fenni, sydd yn mynd i fod yn llawn gwybodaeth a hwyl.”

Mae tîm Grid Gwyrdd Gwent yn cynnwys swyddogion o Gyngor Sir Fynwy, CBS Blaenau Gwent, CBS Caerffili, Cyngor Casnewydd a CBS  Torfaen CBC, gyda phawb yn gweithio gyda’i gilydd a Chyfoeth Naturiol Cymru,  Forest Research ac Asiantaeth Ynni Hafren Gwy.

Er mwyn dysgu mwy am Grid Gwyrdd Gwent, ewch i www.monlife.co.uk/cy/outdoor/green-infrastructure/partneriaethau-seilwaith-gwyrdd/gwent-green-grid-partnership/


Dilynwch lwybr Natur Wyllt dros y gwanwyn

The mosaic sculpture in Bailey Park Abergavenny
Darnau o waith celf wedi eu creu gan y gymuned ar gyfer y prosiect Natur Wyllt
Darnau o waith celf wedi eu creu gan y gymuned ar gyfer y prosiect Natur Wyllt

Mae pum darn o waith celf mosäig, sydd wedi eu hysbrydoli gan natur, wedi ymddangos mewn gofodau gwyrdd ar hyd a lled Gwent, gan ysbrydoli pobl i feddwl am y natur yr ydym yn medru ei weld yn ein cymunedau.

Mae’r darnau yma o gelf yma wedi  eu datblygu gan y prosiect Natur Wyllt, sydd yn ceisio codi ymwybyddiaeth o’r dirywiad mewn pryfed peillio ac yn annog pobl i weithredu ar lefel leol, gan greu dolydd newydd mewn pentrefi a threfi ar draws  Gwent.

Mae pobl  yn cael eu hannog i fynd allan dros y gwanwyn er mwyn ceisio dod o hyd i’r pum  cerflun a chwblhau’r daith gerdded. Maent wedi eu lleoli ar draws Gwent, sef yn: Gilfach, Bargoed; Parc Bryn Bach, Tredegar; Meysydd Lles Rogerstone, Rogerstone; Fairhill, Cwmbrân a Pharc Bailey, y Fenni.

Wedi dod o hyd i bob un darn, sganiwch y cod  QR er mwyn darllen gwybodaeth gudd am y planhigion a’r pryfed peillio sydd wedi ysbrydoli pob cerflun.

Beth am fynd ati i gysylltu gyda @NatureisntNeat ar Twitter, Facebook ac Instagram a rhannu ag eraill y planhigion a’r pryfed peillio anhygoel yr ydych wedi eu darganfod?

Roedd y gwaith celf wedi eu creu yn ystod  haf 2022, pan oedd cymunedau Gwent yn brysur ac yn adeiladu dyluniadau mosäig  gyda’r arlunydd Stephanie Roberts. Y thema oedd ceisio cofnodi harddwch y byd natur sydd i’w weld mewn gofodau gwyrdd.

Mae’r darnau mosäig yn dathlu’r berthynas rhwng blodau gwyllt, pryfed peillio a  phobl Gwent. Mae pob cerflun wedi ei ysbrydoli gan blanhigion a phryfed peillio lleol, sydd i’w gweld ym mhob un mosäig.

Darnau o waith celf wedi eu creu gan y gymuned ar gyfer y prosiect Natur Wyllt

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy ar gyfer Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd, y Cyngh. Catrin Maby: “Mae’r gwaith celf newydd yn ffantastig ac yn dysteb barhaol i Natur Wyllt a’r effaith bositif y mae’r egwyddorion yn cael ar fywyd gwyllt a phryfed peillio ar draws  Gwent.”

“Mae’r dull o dethol a dewis pa bryd i ladd gwair yn caniatáu’r glaswellt a’r blodau gwyllt i ffynnu am gyfnod hwy ynghyd ag amrywiaethau o fywyd gwyllt. Mae gweld y gymuned yn dod ynghyd er mwyn dathlu hyn drwy waith celf, sydd wedi ei arwain gan y gymuned, yn wych.”

Mae’r prosiect celf cymunedol yma yn cael ei gefnogi gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygiad Gwledig: Ewrop yn Buddsoddi mewn Ardaloedd Gwledig ac wedi ei ariannu gan  Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles gan Lywodraeth Cymru.

Am fwy o wybodaeth am Natur Wyllt, ewch os gwelwch yn dda i www.monlife.co.uk/cy/outdoor/nature-isnt-neat/community-artworks/


Dathliadau yng Nghas-gwent wrth i Lwybr Arfordir Cymru ddathlu 10 mlynedd

Cyn Fardd Cenedlaethol Cymru Ifor ap Glyn, Maer Tref Cas-gwent Margaret Griffiths, Jont Bulbeck (Arweinydd Tîm Mynediad Awyr Agored a Hamdden Cyfoeth Naturiol Cymru), Simon Pickering (Pennaeth Tirweddau Dynodedig a Mynediad i Gefn Gwlad, Llywodraeth Cymru), Tricia Cottnam (Swyddog Llwybr Arfordir Cymru), y naturiaethwr Iolo Williams a Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, y Cyngh. Paul Griffiths
Cyn Fardd Cenedlaethol Cymru Ifor ap Glyn, Maer Tref Cas-gwent Margaret Griffiths, Jont Bulbeck (Arweinydd Tîm Mynediad Awyr Agored a Hamdden Cyfoeth Naturiol Cymru), Simon Pickering (Pennaeth Tirweddau Dynodedig a Mynediad i Gefn Gwlad, Llywodraeth Cymru), Tricia Cottnam (Swyddog Llwybr Arfordir Cymru), y naturiaethwr Iolo Williams a Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, y Cyngh. Paul Griffiths

Glan yr Afon yng Nghas-gwent oedd y man dathlu ar ddydd Llun, 27ain Mawrth, wrth i ni ddathlu pen-blwydd Llwybr Arfordir Cymru yn 10 mlwydd oed. Roedd y digwyddiad, a fynychwyd gan gynrychiolwyr o Gyngor Sir Fynwy, Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru, wedi amlygu’r manteision a ddaw o fynd allan i’r awyr agored a phrofi byd natur. Roedd y naturiaethwr, cadwraethwr a’r cyflwynwyd teledu, Iolo Williams yn un o’r gwesteion, ynghyd â chyn Fardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn.

Ar y safle ger Pont Cas-gwent, roedd Iolo wedi dadorchuddio bocs sŵn newydd sydd yn disgrifio’r amrywiaeth o fywyd gwyllt sydd i’w weld ar Lwybr Arfordir Cymru. Mae Iolo wedi recordio tair neges hefyd ac mae cyn Fardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn yn darllen ei gerdd Bendith Llwybr yr Arfordir. Mae cerddwyr ar y llwybr arfordirol yn medru defnyddio’r bocs sŵn er mwyn dod ag amrywiaeth cyfoethog bywyd gwyllt yr ardal yn fyw wrth iddynt fynd ar eu ffordd. Mae pedair neges gan y bocs sŵn, yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac mae’n cynnig ffordd fwy hygyrch o glywed gwybodaeth. Mae modd newid y negeuon er mwyn eu cadw’n ffres ac yn berthnasol.

Iolo Williams yn arddangos y bocs sŵn newydd ar Lwybr Arfordir Cymru ger glan yr afon yng Nghas-gwent
Iolo Williams yn arddangos y bocs sŵn newydd ar Lwybr Arfordir Cymru ger glan yr afon yng Nghas-gwent 

Roedd yr arlunydd Michael Johnson wedi dylunio a gwneud gwaith celf o gerrig crynion ar gyfer y safle yng Nghas-gwent sydd yn cynnwys rhan o gerdd Ifor ap Glyn. Mae gwaith celf tebyg i’w weld yn Sir Fflint.

Cyn Fardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, yn darllen ei gerdd am lwybr yr arfordir, ger glan yr afon yng Nghas-gwent.
Cyn Fardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, yn darllen ei gerdd am lwybr yr arfordir, ger glan yr afon yng Nghas-gwent.  

Wrth agor y digwyddiad, dywedodd Iolo Williams: “Rwyf wrth fy modd yn cael fy ngwahodd i helpu dathlu penblwydd Llwybr Arfordir Cymru yn 10 mlwydd oed. Dros y ddegawd ddiwethaf, rwyf wedi cerdded sawl rhan o’r llwybr ac mae amrywioldeb y dirwedd a’r bywyd gwyllt yn fy synnu bob un tro. Roedd y cyfnodau clo adeg Covid wedi ein dysgu ni pa mor bwysig yw’r byd naturiol ar gyfer ein lles corfforol a meddyliol ac rwyf yn gobeithio y bydd y digwyddiad hwn yn annog mwy o bobl i fynd allan a mwynhau’r byd naturiol anhygoel sydd gan Gymru.”

Dywedodd cyn Fardd Cenedlaethol Cymru Ifor ap Glyn: “Er bod y digwyddiad hwn yn dathlu dechrau (a diwedd!) y daith yng Nghas-gwent, mae cerddwyr yn medru creu eu mannau ‘dechrau’ a ‘gorffen’ eu hunain unrhyw le ar hyd y llwybr sydd yn 870 milltir. Y peth pwysig yw mynd allan a mwynhau’r llwybr.”

Iolo Williams yn siarad am fywyd gwyllt gyda disgyblion o Ysgol Gynradd y Dell
Iolo Williams yn siarad am fywyd gwyllt gyda disgyblion o Ysgol Gynradd y Dell 

Mae Cyngor Sir Fynwy, Cyngor Sir Fflint a Chyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn cydweithio dros y flwyddyn ddiwethaf er mwyn gwella’r ffyrdd y mae pobl yn medru cael mynediad at Lwybr Arfordir Cymru. Mae cyllid ar gyfer y prosiect wedi ei roi gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol eraill. Mae’r prosiect yn ceisio dwyn ynghyd y mannau yn y gogledd a’r de fel bod pobl yn cael ymdeimlad o gysylltiad, treftadaeth a dathu’r orchest hon.

Dywedodd y Cyngh. Sara Burch, Aelod Cabinet ar gyfer Cymunedau Cynhwysol a Byw: “Mae Llwybr Arfordir Cymru yn cynnig cyfle pwysig i brofi harddwch y sir a gwella ein lles, yn feddyliol a’n gorfforol. Hoffem ddiolch i Gyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Sir Fflint, Llywodraeth Cymru, Ifor Ap Glyn, Iolo Williams, Croeso i Gerddwyr Cas-gwent a Cherddwyr Gwy Isaf, am ddod ynghyd i ddathlu penblwydd Llwybr Arfordir Cymru yng Nghas-gwent.”

Dywedodd y Cyngh. Catrin Maby, Aelod Cabinet ar gyfer Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Mae ychwanegu’r bocs sŵn at y llwybr yng Nghas-gwent yn mynd i gyfoethogi profiad pobl o’r daith a chodi ymwybyddiaeth o’r bywyd gwyllt amrywiol ac anhygoel sydd i’w weld yma. Rwy’n gobeithio y bydd cynifer o bobl ag sydd yn bosib yn mwynhau’r bocs sŵn ac yn archwilio’r llwybr ar ôl cael eu hysbrydoli gan y wybodaeth y maent yn clywed.”

Rheolwr Mynediad i Gefn Gwlad MonLife Cyngor Sir Fynwy, Ruth Rourke, yn agor y digwyddiad gydag Iolo Williams
Rheolwr Mynediad i Gefn Gwlad MonLife Cyngor Sir Fynwy, Ruth Rourke, yn agor y digwyddiad gydag Iolo Williams

Yn ogystal â bod yn fan dechrau ar gyfer Llwybr Arfordir Cymru, mae Cas-gwent hefyd yn cynnig cyfle i ymuno gyda nifer o deithiau cerdded eraill fel taith Gerdded Dyffryn Gwy a Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa. Eleni, 2023, yw Blwyddyn y Llwybrau ac roedd y digwyddiad wedi dathlu hyn hefyd.

Roedd Croeso i Gerddwyr Cas-gwent wedi cynnal ‘taith gerdded iachus’ fer er mwyn dathlu’r digwyddiad a hyrwyddo’r Ŵyl Gerdded sydd i’w chynnal ar 12fed Ebrill. Roedd Cerddwyr Dyffryn Gwy Isaf yno hefyd ac wedi cynnal taith gerdded hirach. Roedd staff Mynediad i Gefn Gwlad a swyddogion rhanbarthol Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa a Llwybr Arfordir Cymru yno hefyd er mwyn trafod cyfleoedd gwirfoddoli a ble i gerdded. Rodd disgyblion o Ysgol Gynradd y Dell wedi mynychu’r digwyddiad gan gyflwyno llyfr i Iolo Williams yr oeddynt wedi ei greu.

Mae Llwybr Arfordir Cymru, sy’n 870 milltir, yn cynnig cyfleoedd i’r cyhoedd i ymgysylltu gyda bioamrywiaeth ar gyfer eu hiechyd a’u lles.

Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd mewn lle y mae morloi a hebogau Peregrine i’w gweld yn aml, hefyd yn cynnwys Nid yw Natur yn Daclus, a Grid Gwyrdd Gwent a Lefelau Byw, yn ymgymryd â gweithgareddau ar gyfer y cyhoedd a’r plant o Ysgol Gynradd y Dell yn y dref.

Cynulleidfaoedd wedi dod ynghyd i weld  Iolo Williams yn dadorchuddio bocs sŵn newydd, sydd yn cynnwys gwybodaeth am lwybr yr arfordir a cherdd sydd wedi ei hysbrydoli gan y llwybr
Cynulleidfaoedd wedi dod ynghyd i weld  Iolo Williams yn dadorchuddio bocs sŵn newydd, sydd yn cynnwys gwybodaeth am lwybr yr arfordir a cherdd sydd wedi ei hysbrydoli gan y llwybr  

Am fwy o wybodaeth am Lwybr Arfordir Cymru, ewch i www.walescoastpath.gov.uk/


Paentiad pwysig Turner o Gastell Cas-gwent yn dod gartref

Diolch i gyllid a sicrhawyd gan Gyngor Celfyddydau Lloegr/Cronfa Grant Prynu  V&A  a chymorth y Loteri Genedlaethol, Becwedd Beecroft y Gymdeithas Amgueddfeydd, Ymddiriedolaeth Dyffryn Wysg a chronfa pryniant amgueddfeydd MonLife, bydd ‘trysor lleol’ – paentiad gan JMW Turner yn dod gartref i Gas-gwent yn fuan. Mae dyfrlliw Turner o Gastell Cas-gwent yn un o ddim ond dau o weithiau gan yr artist y gwyddys eu bod yn dangos yr olygfa eiconig o’r castell ger Afon Gwy.

 

Mae Treftadaeth MonLife wedi sicrhau’r tirlun hardd a gaiff ei arddangos yn yr haf yn amgueddfa Cas-gwent a gobeithir y bydd cynifer o bobl leol ag sydd modd yn ymweld i edrych ar y paentiad a chael eu hysbrydoli ganddo.

 

Caiff Joseph Mallord William Turner (1775-1851) ei gydnabod fel efallai yr artist ‘Rhamantus’ Prydeinig gorau a chyfeirir ato yn aml fel “paentiwr goleuni” oherwydd ei allu i gyfleu tirluniau a morluniau egnïol ar bapur a chanfas.

 

Dim ond 19 oed oedd Turner pan baentiodd y dyfrlliw o Gastell Cas-gwent yn 1794 a chredir iddo gael ei greu fel canlyniad i daith gyntaf yr artist o Dde Cymru. Unwaith y caiff ei arddangos yn Amgueddfa Cas-gwent, bydd y paentiad yn helpu i gyfleu stori Sir Fynwy y 18fed ganrif a hefyd gariad Turner at y sir.

 

Dywedodd y Cyng. Sara Burch, Aelod Cabinet Cymunedau Cynhwysol a Gweithredol: “Mae’n newyddion gwych y bydd y paentiad yn dychwelyd i Gas-gwent lle gwnaeth Turner ei baentio yn 19 oed. Daw yn em yng nghasgliad paentiadau a darluniau Sir Fynwy a ysbrydolwyd gan Ddyffryn Gwy. Gobeithiaf y bydd artistiaid ifanc heddiw yn ei weld ac yn cael eu hysbrydoli. Roeddem wedi credu y byddai prynu gwaith celf pwysig fel hyn allan o’n cyrraedd, nes i gyllidwyr hael gamu mewn i arbed y paentiad ar gyfer y genedl a Sir Fynwy.”

 

Caiff paentiad Turner ei arddangos yng Nghas-gwent yn yr haf, yn y cyfamser i ganfod mwy am amgueddfeydd Sir Fynwy a’u harddangosiadau cyfredol ewch i  https://www.monlife.co.uk/heritage/

 


Cynigion ar gyfer Gofodau Natur Cymunedol yng Nghas-gwent yn dechrau siapio

Cadarnhawyd y llynedd mai Cas-gwent fyddai’r dref nesaf i elwa o’r Prosiect Gofodau Natur, a hynny ar ôl cwblhau’r cynlluniau yn Nhrefynwy. Gofynnwyd i drigolion a budd-ddeiliaid am eu barn yn Hydref  2022 ar y gwelliannau posib ar gyfer gofodau gwyrdd. Mae’r prosiect nawr yn dechrau siapio ac mae’n amser i rannu eich adborth ar y pedwar cynllun arfaethedig yn y dref.

Y pedwar safle yng Nghas-gwent sydd i’w datblygu y tro hwn yw: y Danes, Severn Crescent, Ffordd Woolpitch a Ffordd Strongbow. Mae’r safleoedd yma wedi eu dewis yn seiliedig ar yr ymatebion a dderbyniwyd yn ystod camau cyntaf yr ymgynghoriad  a lle mae’n bosib diwallu anghenion yr amgylchedd a’r gymuned.

Mae trigolion, busnesau a grwpiau cymunedol yn cael eu hannog i ymweld gyda thudalennau gwe Gofodau Natur Cymunedol er mwyn gweld y dyluniadau a rhannu eu hadborth erbyn 10fedMawrth 2023. Yn dilyn y cyfnod hwn i rannu adborth, mae’r Cyngor am barhau i reoli a gwella gofodau gwyrdd, ac felly, rydym yn croesawu awgrymiadau ar unrhyw adeg.

Dywedodd y Cynghorydd Sara Burch, Aelod Cabinet ar gyfer Cymunedau Cynhwysol ac Egnïol: “Rwyf yn falch iawn i weld y pedwar cynllun yma oll yn cael eu datblygu drwy gyfrwng y cynigion yma ar gyfer Cas-gwent. Roedd yr ymateb i’r ymgynghoriad y llynedd yn ffantastig ac wedi helpu i lywio’r cynlluniau yma. Rwyf yn disgwyl ymlaen at weld Cas-gwent yn cael gofodau newydd, gwyrdd a hyfryd ar gyfer mwynhau ac ymlacio ynddynt yn y dyfodol.”

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Maby, Aelod Cabinet ar gyfer Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Bydd y gofodau yn ymgyfoethogi’r amgylchedd yng Nghas-gwent ar gyfer pobl a bywyd gwyllt. Byddant hefyd yn cynnig buddion iechyd a lles i bawb. Byddem yn annog cynifer o bobl ag sydd yn bosib i rannu eu hadborth er mwyn gwneud y gofodau yma yn ofodau gwirioneddol ar gyfer y gymuned.”

Mae’r Prosiect Gofodau Natur Cymunedol, a gefnogwyd gan gyllid  Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru, yn anelu i wella ein gofodau gwyrdd ar gyfer natur a chefnogi cyfleoedd ar gyfer iechyd a lles. Mae modd gwneud hyn mewn amryw o ffyrdd, fel plannu  coed, neilltuo lleoedd ar gyfer tyfu bwyd yn y gymuned a phlannu blodau gwyllt ar gyfer pryfed peillio. Bydd modd mynd yn agos at fyd natur yno a bod yn egnïol.

Er mwyn dysgu mwy, ewch i: Ymgynghoriad: Gofodau Natur Cymunedol – Monlife

Y cynnig ar gyfer Gofod Natur Cymunedol ar gyfer Ffordd Woolpitch, Cas-gwent
Y cynnig ar gyfer Gofod Natur Cymunedol ar gyfer y Danes, Cas-gwent
Y cynnig ar gyfer Gofod Natur Cymunedol ar gyfer Ffordd Strongbow, Cas-gwent
Y cynnig ar gyfer Gofod Natur Cymunedol ar gyfer Severn Crescent, Cas-gwent


Proposals for Community Nature Spaces in Chepstow take shape

Last year it was confirmed that Chepstow would be the next town to benefit from the Community Nature Spaces Project following the completion of schemes in Monmouth. Residents and stakeholders were asked for their views on possible enhancements for green spaces in the Autumn of 2022. The project is now progressing and it’s time to share your feedback on the four proposed schemes around the town.

The four Chepstow sites that will be taken forward at this time are: The Danes, Severn Crescent, Woolpitch Road and Strongbow Road. These sites have been selected based on responses received during the first stages of the consultation and where it’s possible to meet the needs of the environment and the community. 

Residents, businesses and community groups are encouraged to visit the Community Nature Spaces webpage to see the designs and share their feedback by 10th March 2023. Following this feedback period, the council wants to continue management and enhancement of green spaces, so ideas are welcomed at any time.

Cllr. Sara Burch, Cabinet Member for Active & Inclusive Communities said: “I am pleased to see the four schemes taking shape in these proposals for Chepstow. The response to the consultation last year was fantastic and has helped to shape these schemes. I look forward to Chepstow having new, green and beautiful spaces to enjoy and relax in in the future.”

Cllr. Catrin Maby, Cabinet Member for Climate Change & the Environment said: “These spaces will enrich the environment in Chepstow for people and for wildlife. They will also bring health and wellbeing benefits for everyone. I would encourage as many local people to share their feedback as possible and help make these spaces truly for the community.”

The Community Nature Spaces Project, supported by Welsh Government’s Local Places for Nature funding, aims to improve our green spaces for nature and help support opportunities for health and wellbeing. This can be done in a variety of ways, such as by planting trees, adding raised beds for community food growing and increasing wildflower planting for pollinators. They will be places to get up close to nature and get active. To find out more visit: www.monlife.co.uk/outdoor/consultation-community-nature-spaces/

Woolpitch Wood
Severn Crescent
Strongbow Road
The Danes

Tags: climate emergencycommunity nature spacesMonmouthshire