Uncategorized @cy - Monlife - Page 5

Treftadaeth Sir Fynwy i elwa o wobrau ariannol

Cadi te – gyda chapsiynau. Mae ein casgliadau'n cynnwys eitemau sy'n datgelu cynnyrch yr Ymerodraeth Brydeinig.  Bydd y gwaith hwn yn dehongli'r gwrthrychau hyn yn well.
Cadi te – gyda chapsiynau. Mae ein casgliadau’n cynnwys eitemau sy’n datgelu cynnyrch yr Ymerodraeth Brydeinig.  Bydd y gwaith hwn yn dehongli’r gwrthrychau hyn yn well.

Mae MonLife, sy’n rhedeg gwasanaeth Treftadaeth MonLife Cyngor Sir Fynwy, wedi sicrhau dau ddyfarniad cyllid gwerth dros £415,000 gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Mae’r dyfarniad yn galluogi Treftadaeth MonLife i weithio’n agos gyda chymunedau yn Sir Fynwy, dros y ddwy flynedd nesaf er mwyn sicrhau bod straeon pawb yn cael eu hadrodd yn amgueddfeydd y sir.

Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi dyfarnu £241,697 ar gyfer y prosiect ‘Casgliadau Deinamig – Agor y Blwch’ sy’n darganfod a rhannu casgliad hanes lleol Trefynwy. Bydd y gwaith hwn yn trawsnewid sut y cofnodir casgliadau hanes lleol Trefynwy, gan eu gwneud yn berthnasol i gymunedau heddiw.

Adolygiad Casgliadau - gyda chapsiynau.  Bydd ein prosiectau yn ein galluogi i wella gwybodaeth am ein casgliadau a mynediad atynt
Adolygiad Casgliadau – gyda chapsiynau.  Bydd ein prosiectau yn ein galluogi i wella gwybodaeth am ein casgliadau a mynediad atynt

Bydd y prosiect yn rhedeg rhwng Ebrill 2023 a Mawrth 2025 a bydd y tasgau’n cynnwys: Gwella cronfa ddata catalogau cyfrifiadurol a chomisiynu adroddiad ar arteffactau ymerodraethol, caethwasiaeth a gwladychiaeth o fewn y casgliad hanes lleol, i ategu adroddiadau a gynhyrchwyd yn ddiweddar am gasgliadau amgueddfeydd yn y Fenni a Chas-gwent.

Bydd tîm Treftadaeth MonLife yn gweithio gyda grwpiau cymunedol amrywiol i archwilio’n gritigol sut a beth sy’n cael ei gofnodi am gasgliadau, gan gynnwys nodi termau allweddol. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda Chyngor Hil Cymru i gefnogi sesiynau gyda grwpiau hil amrywiol; y rhai sydd ag anabledd a’r gymuned LHDTC+, ac yn gweithio gyda phobl sy’n deall ecoleg a newid yn yr hinsawdd.

Bydd y prosiect hwn yn arwain at arddangosfa deithiol gymunedol wedi’i chyd-guradu, sy’n archwilio’r cwestiwn “Beth sy’n gwneud Trefynwy?” Bydd hyn yn golygu bod modd clywed gwahanol safbwyntiau, archwilio cyd-destunau newydd ac adrodd amrywiaeth o straeon. Bydd yr arddangosfa yn mynd o amgylch lleoliadau cymunedol, gan rannu casgliadau gyda chynulleidfaoedd newydd na fyddai efallai wedi ymweld â’r amgueddfa o’r blaen. Bydd cyd-arddangosfa yn y Neuadd Sirol yn galluogi themâu a archwilir yn y prosiect i gael eu harddangos a threialu dulliau newydd cyn ailddatblygiad Amgueddfa’r Neuadd Sirol. Bydd rhaglen ymgysylltu cymunedol o sesiynau dysgu, gweithdai trafod, sesiwn y Dadeni a gweithgareddau crefft yn hwyluso trafodaeth am ein casgliadau.

Meddai Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru:  “Mae treftadaeth ar gyfer pawb, ac rydym am weld ystod ehangach o bobl yn ymwneud â threftadaeth, a dyna pam rydym yn cefnogi prosiect ‘Casgliadau Deinamig – Agor y Blwch’ Cyngor Sir Fynwy. Trwy ein cyllid rydym yn ceisio dod â chymunedau ynghyd drwy ymgysylltu’n ddyfnach â threftadaeth, yn enwedig drwy ddod o hyd i ffyrdd creadigol o ddod â threftadaeth i gynulleidfaoedd newydd.   Bydd hyn yn helpu i drafod ac archwilio ein treftadaeth fel y gall pobl a chymunedau ledled Cymru ymgysylltu â, dehongli, a chyd-ddeall ein gorffennol.”

I gefnogi casgliadau Treftadaeth MonLife yn Amgueddfeydd y Fenni a Chas-gwent, mae MonLife wedi derbyn £173,318 gan Lywodraeth Cymru. Mae’r cyllid ar gyfer y prosiect ‘Ymchwilio, ail-archwilio ac adennill: etifeddiaeth a diwylliant cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig Sir Fynwy’. Bydd y gwaith hwn yn cyfrannu at y nodau treftadaeth yng Nghynllun Gweithredu Atal Hiliol Cymru.   Mae’r wobr yn adeiladu ar waith a ddechreuwyd yn y ddwy amgueddfa, a bydd yn arwain at well dehongliad o’r casgliadau, gan gynrychioli’n well eu cysylltiadau â chaethwasiaeth, gwladychu ac ymerodraeth a chydnabod rôl cymunedau Sir Fynwy yn y gorffennol mewn caethwasiaeth, ymerodraeth a globaleiddio.

Gyda gyda Chyngor Hil Cymru, bydd Treftadaeth MonLife yn cynnal gweithdai cymunedol i archwilio ffyrdd o ddehongli’r casgliadau’n well. Bydd cydweithio â’r cymunedau’n galluogi’r tîm Dysgu a Churaduriaeth i greu rhaglen weithgareddau, sy’n debygol o gynnwys digwyddiadau diwylliannol ac arddangosfeydd mewn lleoliadau Sir Fynwy. Yn ogystal, bydd gweithgareddau cymunedol a dysgu mewn ysgolion lleol ac yn amgueddfeydd y sir. Bydd y cynnwys yn cael ei ysbrydoli gan y casgliadau a threftadaeth leol.

Ymwelodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden, ag Amgueddfa’r Fenni yn ddiweddar a dywedodd:  “Roedd yn ardderchog i ddysgu mwy am sut y bydd ein cyllid yn cael ei ddefnyddio gan MonLife.   Mae angen i’n hamgueddfeydd, orielau, llyfrgelloedd, theatrau, a lleoliadau chwaraeon cenedlaethol a lleol fod yn gynhwysol o bobl a lleoedd Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.  Rhaid i’n diwylliant, ein treftadaeth a’n gwasanaethau chwaraeon fod yn gymwys yn ddiwylliannol ac yn adlewyrchu’r hanes a’r cyfraniad a wnaed gan bobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig i’r gymdeithas yng Nghymru.

“Rydw i wedi ymrwymo i gyflawni’r nodau a’r camau gweithredu yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ac ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu o fewn fy mhortffolio.  Rwy’n edrych ymlaen at weld sut mae prosiect MonLife yn cyfrannu at ein cynnydd parhaus wrth i ni sicrhau newid ystyrlon gyda phobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ledled Cymru, ac ar eu cyfer.”

Mae’r gwaith hwn yn ategu penderfyniad diweddar Cyngor Sir Fynwy i ddod yn aelod o rwydwaith Dinas Noddfa ac i ddechrau’r broses o wneud cais ffurfiol i fod yn sir noddfa i’r rhai sy’n ffoi rhag erledigaeth.

Dywedodd y Cynghorydd Sara Burch, aelod cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gymunedau Cynhwysol a Gweithredol: “Rydym yn ddiolchgar iawn am yr arian yma gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.  Bydd yn arwain at welliannau arwyddocaol yn y ffordd mae ein casgliadau treftadaeth yn cael eu dehongli, eu harddangos a’u cyfathrebu.   Bydd y gweithgareddau, sydd wedi eu cynllunio yn y ddwy raglen hyn, yn ein helpu i nodi a rhannu â phobl y straeon sy’n gysylltiedig â’n casgliadau a’n bro, sy’n dathlu amrywiaeth ddiwylliannol lawn ein cymunedau yn Sir Fynwy a bydd yn galluogi cynrychiolaeth o’n holl gymunedau yn ein hamgueddfeydd. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Chyngor Hil Cymru i sicrhau bod ein casgliadau yn berthnasol, yn barchus ac yn gynhwysol.”

I gael mwy o wybodaeth am Dreftadaeth MonLife, ewch i https://www.monlife.co.uk/cy/heritage/


Yn barod am hwyl hanner tymor gyda MonLife?

Mae MonLife wedi llunio rhaglen o weithgareddau cyffrous i blant, pobl ifanc a theuluoedd i’w mwynhau yn ystod hanner tymor ysgol mis Chwefror eleni.

Mae Gemau Sir Fynwy yn dychwelyd, gan ddarparu cyfle gwych i ddysgu sgiliau newydd, magu hyder, cwrdd â phobl newydd ac yn bwysicaf oll cael hwyl drwy chwaraeon.  Bydd y rhaglen wythnos o hyd yn rhedeg o ddydd Llun 20fed hyd at ddydd Gwener 24ain Chwefror a chaiff ei gynnal ar draws canolfannau hamdden y sir (Y Fenni, Cil-y-coed, Cas-gwent a Threfynwy). Dilynwch y ddolen am fwy o wybodaeth a’r ffurflen archebu – www.monlife.co.uk/cy/monactive/childrens-activities/the-monmouthshire-games/

Yng nghanolfan hamdden Trefynwy mae’r ganolfan chwarae dan do, sy’n cynnwys drysfa ddringo tri llawr cyffrous, sy’n cynnwys system amseru unigryw curwch y cloc. Mae yna hefyd ardal twdlod ddynodedig (sy’n gaeedig). Mae’r ganolfan chwarae ar agor saith diwrnod yr wythnos (heblaw gwyliau’r banc) rhwng 10am a 5.30pm ac mae’n addas ar gyfer yr oedrannau babanod a phlant bach (0-3), plant ifanc (4-8) a phlant hŷn (9-11).  Nodwch oherwydd archeb breifat mae’r ganolfan chwarae ar gau i’r cyhoedd Dydd Sadwrn 18fed ac 25ain Chwefror o 4pm-6pm.

Mae digon o hwyl hefyd i’r teulu cyfan ym mhyllau’r canolfannau hamdden gyda sesiynau anhygoel i’ch diddanu chi neu’ch plant.  Darganfyddwch fwy Nofio – Gweithgareddau Gwyliau MonLife

Mae llawer o hwyl am ddim i’w gael yn Amgueddfeydd MonLife.   Dilynwch y llwybrau chwarae yn amgueddfeydd y Fenni a Chas-gwent, chwarae gwisg yn Amgueddfa’r Neuadd Sirol yn Nhrefynwy a byddwch yn greadigol gyda’n byrddau sialc, stondin farchnad a gemau ‘datryswch y drosedd’. Gall plant hefyd goginio rhywbeth yng Nghegin Fwd Amgueddfa’r Fenni a chwarae yn y gerddi gyda gwarbaciau arbennig wedi’u llenwi â phethau hwyliog i’w gwneud yn yr awyr agored, teganau a gemau.

Gall pobl ifanc hefyd fynd yn gudd yn y Neuadd Sirol yn Nhrefynwy, ac amgueddfeydd Cas-gwent a’r Fenni, a phrofi eu sgiliau ditectif fel rhan o Lwybr Dirgelwch Montgomery Bonbon cenedlaethol yr Amgueddfa, a drefnwyd gan Kids in Museums a Walker Books. Mae’r llwybr yn dathlu rhyddhau llyfr plant newydd Montgomery Bonbon: Murder at the Museum a ysgrifennwyd gan y digrifwr Alasdair Beckett-King a darluniwyd gan Claire Powell. Felly beth am ymweld ag amgueddfeydd Sir Fynwy dros hanner tymor ac ymuno â’r hwyl am ddim.  I ddod o hyd i oriau agor yr amgueddfa ewch i: www.monlife.co.uk/cy/heritage/

Bydd MonLife hefyd yn cynnal sesiynau Aros a Chwarae am ddim lle bydd plant a theuluoedd yn cael y cyfle i ddewis o lawer o weithgareddau gan gynnwys chwarae corfforol, celf a chrefft, adeiladu ffau neu i ble bynnag y mae eu dychymyg yn eu cymryd.  Mae’r sesiynau yn cael eu cynnal yn Hen Ysgol Eglwys Rhaglan ar yr 21ain Chwefror rhwng: 10am-hanner dydd; y Neuadd Sirol, Trefynwy ar yr 21ain Chwefror rhwng 1:30pm-3:30pm; Cwt y Sgowtiaid a Geidiaid Magwyr ar y 23ain Chwefror rhwng 10am-hanner dydd; Ysgol Gynradd Deri View ar y 23ain Chwefror rhwng 1:30pm-3:30pm.  Nodwch fod angen goruchwyliaeth gan rieni ar gyfer plant dan 11 oed. Archebwch nawr trwy’r ffurflen ganlynol: https://forms.office.com/e/w38MZvNMGp

Bydd MonLife yn cynnal sesiynau Chwarae Gweithredol AM DDIM yn y Fenni, Cas-gwent, Cil-y-coed a Threfynwy yn ystod gwyliau hanner tymor mis Chwefror. Mae rhaglen Chwarae Gweithredol MonLife yn 1 awr a 55 munud lle gellir gadael plant 5-11 oed gyda’n gweithwyr chwarae hynod hyfforddedig a phrofiadol, a dewis o amrywiaeth o weithgareddau i’w chwarae gan gynnwys chwarae corfforol, celf a chrefft, adeiladu ffau neu ble bynnag mae eu dychymyg yn eu cymryd. Mae’r sesiynau hyn bellach wedi’u harchebu’n llawn

Bydd y canolfannau ieuenctid ar draws y sir hefyd ar agor ar ddiwrnodau penodol er mwyn i bobl ifanc ymweld â nhw. Maen nhw’n ofod diogel i bobl ifanc gael mynediad, lle gallant gymryd rhan mewn gweithgareddau, cwrdd â ffrindiau newydd, gyda chefnogaeth Gweithwyr Ieuenctid cymwys a chofrestredig. Bydd Yr Attik, Trefynwy, ar agor ddydd Mawrth 21ain rhwng 3pm a 5pm, dydd Mercher 22ain rhwng 3pm ac 8pm a Dydd Gwener 24ain rhwng 3pm a 6pm. Bydd Y Caban, Y Fenni ar agor dydd Mawrth 21ain a dydd Mercher 22ain Chwefror, 3pm-8pm a dydd Gwener 24ain, 3pm-6pm. Bydd Y Parth, Cil-y-coed ar agor ddydd Mawrth 21ain 2pm-8pm a bydd canolfan ieuenctid ‘The Pav’ yn Thornwell, Cas-gwent, ar agor ddydd Mawrth 21ain rhwng 2pm ac 8pm a Dydd Gwener 24ain Chwefror 2pm-7pm.

Mae manylion llawn am yr hyn sy’n digwydd dros hanner tymor i’w gweld yma: www.monlifeholidayactivities.co.uk/cy/activities-cymraeg/


Gwybodaeth Covid Rhwydwaith Mynediad Cefn Gwlad Sir Fynwy

“Arhoswch yn weithredol, arhoswch yn ddiogel.”

Dilynwch Ganllawiau Llywodraeth Cymru sy’n berthnasol i bawb sy’n byw neu’n teithio yng Nghymru.

  • Arhoswch gartref os oes gennych chi neu unrhyw un rydych chi’n byw gyda nhw Symptomau Coronafeirws, mae hyn yn cynnwys os yw Profi, Olrhain a Diogelu GIG Cymru wedi cysylltu â chi ac y dywedwyd wrthych am hunan-ynysu
  • Byddwch yn wyliadwrus o ran golchi dwylo a hylendid

Pa Safleoedd Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy Cyhoeddus sydd ar agor?

Mae pob un o’n safleoedd cefn gwlad ar agor i’w defnyddio ac nid oes meysydd parcio ar gau ar hyn o bryd.  

Mae pob llwybr sydd ar gau yn cael ei adolygu a bydd unrhyw ddiwygiadau’n ymddangos yma.  Gellir dod o hyd i fanylion am gau llwybrau oherwydd llifogydd, pontydd peryglus ac ati yma.

Cyn ymweld

  • Gwnewch eich addewid i Gymru i ofalu am ein cymunedau lleol a gwarchod ein tirweddau.
  • Cynlluniwch o flaen llaw – gwiriwch beth sydd ar agor ac ar gau cyn i chi gychwyn.  Paciwch hylif diheintio dwylo a mygydau wyneb.
  • Osgowch dorfeydd – Dewiswch le tawel ac os yw’n brysur ewch i gyrchfan wahanol.

Byddwch yn Gall o ran Antur

Tra byddwch chi yno

  • Os yw ein meysydd parcio yn llawn, neu’n brysur, dewch yn ôl dro arall a pheidiwch â pharcio ar ffyrdd mynediad neu ffyrdd cyfagos.
  • Peidiwch ag oedi mewn meysydd parcio, fel bod eraill yn gallu mynd a dod yn ddiogel.
  • Ewch â’ch sbwriel adref
  • Mae nifer o lwybrau troed a llwybrau ceffylau yn croesi gerddi preifat, ffermydd a thir fferm.   Cofiwch gadw at y llwybrau a dilynwch y Cod Cefn Gwlad newydd.
  • Byddwch yn berchennog ci cyfrifol drwy ddilyn y Cod Cerdded Cŵn
  • Mwynhewch eich ymweliad, cael hwyl, gwnewch atgof

Pethau i’w gwneud

Darganfyddwch beth y gallwch ei wneud wrth Ymweld â Sir Fynwy.

Hefyd, i gael gwybodaeth am ble i gerdded, neu i roi gwybod am broblemau, defnyddiwch ein Map Mynediad Cefn Gwlad Mae’r Gwasanaeth Mynediad Cefn Gwlad yn derbyn nifer fawr o adroddiadau o ran problemau ar hyn o bryd.  Nodwch os ydych yn adrodd am unrhyw beth, mae’n ddigon posib y bydd oedi cyn i chi dderbyn ymateb.   Mae ein swyddfeydd yn Rhaglan a Neuadd y Sir o hyd ar gau i’r cyhoedd a bydd yn cymryd peth amser cyn y bydd yr holl weithgareddau gwirfoddoli yn cael eu hail-ddechrau.


Cyrraedd carreg filltir o ran y bont Teithio Llesol dros Afon Gwy yn Nhrefynwy

Argraff arlunydd o ddyluniad posibl ar gyfer y bont arfaethedig dros Afon Gwy yn Nhrefynwy
 

Mae cynigion am groesfan Teithio Llesol newydd dros Afon Gwy yn Nhrefynwy wedi cymryd cam mawr ymlaen. Mae’r cynllun arfaethedig ar gyfer pont i gerddwyr a beicwyr bellach wedi ei gyflwyno ar gyfer ei gynllunio.  Nod y prosiect, sy’n cael ei gefnogi gan Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, yw creu llwybr diogel newydd, sy’n cysylltu Trefynwy a Wyesham ac yn osgoi’r traffig cerbydau ar Bont Gwy brysur. Dylid nodi y bydd palmant presennol Pont Gwy yn aros os caiff y bont newydd ei hadeiladu.

Mae ‘Teithio Llesol’ yn disgrifio teithiau gyda phwrpas, megis i’r ysgol neu fan gwaith, ac wedi’u gwneud ar droed neu ar feic. Nid yw’r bont ffordd Gwy bresennol (A466) yn addas i ddibenion Teithio Llesol ac mae croesfan ar wahân heb gerbydau wedi cael ei datblygu gan Gyngor Sir Fynwy mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru, Sustrans, WSP, Cyngor Tref Trefynwy, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Ysgolion Haberdashers.

Mae modd gweld y cynlluniau, a gwneud sylwadau, ar y wefan gynllunio yma https://planningonline.monmouthshire.gov.uk/online-applications/?lang=CY drwy nodi’r cyfeirnod cais DM/2022/01800.  Mae cyfrifiaduron mynediad i’r cyhoedd ar gael yn llyfrgell Trefynwy os oes angen.

Dywedodd y Cynghorydd Sirol Sara Burch, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Deithio Llesol: “Rwy’n hynod hapus ein bod yn symud tuag at wireddu’r prosiect hwn. Bydd y bont newydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i bobl Trefynwy a Wyesham ac ymwelwyr â’n sir ni.   Bydd yn ei gwneud hi’n haws i gerdded neu feicio i’r gwaith yn y dref, ac i blant a phobl ifanc fynd i’r ysgol. Mae cwblhau’r prosiect hwn yn flaenoriaeth fel rhan o’n cynlluniau Teithio Llesol ac edrychaf ymlaen at allu diweddaru trigolion ymhellach, maes o law.  Mae cymaint o bobl wedi dweud nad oedden nhw’n teimlo’n ddiogel yn cerdded na seiclo dros y bont bresennol, mae’n iawn felly i’w wneud yn flaenoriaeth.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Sirol Catrin Maby, Aelod Cabinet Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Mae cefnogi Teithio Llesol yn rhan hanfodol o’n gwaith i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.  Bydd y bont newydd hon yn galluogi mwy o bobl i adael y car gartref a theithio ar droed neu ar feic i ffwrdd o’r traffig, gan wneud cymudo yn haws, yn fwy pleserus ac yn fwy ecogyfeillgar.”

Mae’r bont yn rhan o gyfres gynhwysfawr o gynlluniau Teithio Llesol ar gyfer y dref, gyda’r gwelliannau a gynigir yn cysylltu Wyesham â’r bont newydd ac o’r bont newydd i ddatblygiad Porth Kingswood. Yn amodol ar sicrhau caniatâd cynllunio a chyllid, mae Cyngor Sir Fynwy yn disgwyl codi’r bont yn 2024/5.

Am fwy o wybodaeth am Deithio Llesol yn Sir Fynwy ewch i www.monlife.co.uk/outdoor/active-travel

DIWEDD

Nodiadau i’r Golygyddion:

Mae modd gweld dyluniad arfaethedig y bont hefyd mewn fideo ar-lein https://youtu.be/KUmMFQecu80


Ymwelydd â chanolfan hamdden Cil-y-coed yn dychwelyd i ddiolch i’r rhai a helpodd i achub ei fywyd!

Dychwelodd ymwelydd i ganolfan hamdden Cil-y-Coed yn ddiweddar i ddiolch i staff y ganolfan am eu hymateb cyflym, pan ddioddefodd argyfwng meddygol allai fod yn angheuol yn gynharach yn y flwyddyn. Cafodd Alan Owen o Gaerfyrddin trawiad ar y galon tra roedd mewn Twrnamaint Pêl-droed Cerdded yn y ganolfan hamdden ar ddydd Sul 3ydd Ebrill 2022.

Mae ymyrraeth uniongyrchol staff a chwaraewyr yn y digwyddiad yn cael ei gredydu am achub ei fywyd.  Cafodd Alan Adfywio Cardio-pwlmonaidd a defnyddiwyd diffibriliwr, cyn i Alan gael ei gludo mewn awyren i Ysbyty’r Mynydd Bychan, Caerdydd, lle cafodd lawdriniaeth i gael diffibriliwr cardioverter wedi’i fewnblannu ac i osod stentiau.

Alan Owen gyda chydweithiwr MonLife. Helpodd eu gweithredoedd cyflym a'u hyfforddiant Adfywio Cardio-pwlmonaidd i achub ei fywyd ym mis Ebrill 2022
Alan Owen gyda chydweithiwr MonLife. Helpodd eu gweithredoedd cyflym a’u hyfforddiant Adfywio Cardio-pwlmonaidd i achub ei fywyd ym mis Ebrill 2022

Yn ystod ymweliad ag Alan â chanolfan hamdden Cil-y-coed fis diwethaf, cyfarfu â Kirsty Burnett, Briden Whitbread a’r Swyddog Dyletswydd Justin Aylett, i ddiolch iddynt am eu gweithredoedd achub bywyd.  Roedd holl staff y ganolfan hamdden wrth eu bodd yn gweld Alan yn edrych mor dda. 

Mae gan holl ganolfannau hamdden MonLife ar draws Sir Fynwy hyfforddiant misol i bob Achubwr Bywyd o ran Adfywio Cardio-pwlmonaidd, a defnyddio’r peiriannau diffibriliwr, i sicrhau eu bod yn barod pe bai argyfwng meddygol yn digwydd

Y Cynghorydd Dywedodd Sara Burch, yr aelod cabinet sy’n gyfrifol am Gymunedau Cynhwysol a Gweithgar: “Rwyf mor falch o’n cydweithwyr yng nghanolfan hamdden Cil-y-coed am eu hymyrraeth gyflym, a hebddo gallai’r canlyniad fod wedi bod yn wahanol iawn. Mae wir yn dangos y pwysigrwydd o gael hyfforddiant o ran Adfywio Cardio-pwlmonaidd a’r defnydd o ddiffibrilwyr. Rwy’n falch iawn o weld Alan wedi gwella mor dda a diolch iddo am ei garedigrwydd wrth ddod yn ôl i ymweld â Kirsty, Briden a Justin, a gweddill y tîm yng Nghil-y-coed.”

Meddai Alan Owen:  “Heb ymyrraeth gynnar y chwaraewyr a’r staff a wnaeth berfformio Adfywio Cardio-pwlmonaidd a gweinyddu tair sioc trwy’r diffibriliwr ar y safle, fyddwn i ddim yn fyw heddiw. Roedd yr hyfforddiant y gwnaeth y staff ymgymryd ag ef a’i roi ar waith ar y diwrnod hwnnw wedi cyfrannu at achub fy mywyd.”

Mae hyfforddiant Adfywio Cardio-pwlmonaidd yn gallu gwneud y gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth, a gall unrhyw un ei ddysgu. Mae gwefan Sefydliad Prydeinig y Galon yn cynnwys cyflwyniad defnyddiol i’r pethau sylfaenol: www.bhf.org.uk/how-you-can-help/how-to-save-a-life


YN LLWYR WAHARDDEDIG TAN 5:00PM AR DDYDD GWENER 9FED RHAGFYR 2022

YN LLWYR WAHARDDEDIG TAN 5:00PM AR DDYDD GWENER 9FED RHAGFYR 2022

Mae un o enwau mwyaf adnabyddus diwydiant cerddoriaeth y DU newydd gadarnhau eu bod yn dod i Sir Fynwy yn haf 2023. Mae High Flying Birds Noel Gallagher wedi cadarnhau eu bod yn chwarae dyddiad arbennig yng Nghastell Cil-y-coed, ddydd Sadwrn 19eg Awst.

Yn aml yn cyflwyno perfformiadau o’r radd flaenaf mewn lleoliadau awyr agored o fri, bydd High Flying Birds Noel Gallagher yn perfformio sioe untro ar dir y castell, a fydd yn cynnwys detholiad o ganeuon mwyaf poblogaidd y band, o Oasis i ffefrynnau radio cyfoes. Mae High Flying Birds Noel Gallagher, ers 2011, wedi rhyddhau tri albwm stiwdio, casgliad o EPs ac wedi chwarae cannoedd o sioeau byw ledled y DU.  Yn haf 2022, cwblhaodd y band daith ledled y wlad o sioeau awyr agored gyda set ar Lwyfan y Pyramid yn Ynys Wydrin.

Mae’r cyhoeddiad am ddyddiad Castell Cil-y-coed yn dilyn rhyddhau sengl newydd sbon y band ‘Pretty Boy’, a ymddangosodd yn ddiweddar fel Record yr Wythnos ar BBC Radio 2. Mae’r trac yn nodi dechrau pennod greadigol newydd a cherddoriaeth newydd gyntaf o albwm stiwdio newydd Noel sydd i ddod, a fydd yn cael ei ryddhau’r flwyddyn nesaf.

Mae Castell Cil-y-coed wedi ennill enw da am gynnal bandiau enwog sydd ar frig y siartiau, gan gynnwys y band merched Little Mix, ym mis Awst 2017, a Status Quo yn haf 2015. Mor ddiweddar â mis Medi 2022, roedd y castell yn gartref i fand gwerin lleol sydd wedi ennill dilyniant enfawr, Rusty Shackle, gan nodi rhyddhau eu halbwm diweddaraf.

Pan fyddan nhw’n dod i Gil-y-coed, bydd High Flying Birds Noel Gallagher yn cael eu cefnogi gan y ffefrynnau lleol Feeder.  Ers ei ffurfio ym 1994, mae’r band wedi rhyddhau 11 albwm stiwdio ac wedi treulio cyfanswm cyfun o 184 wythnos ar y siart senglau ac albymau. Daeth eu halbwm uchel ei glod ‘Torpedo’ allan yn gynharach eleni gan barhau â fformiwla fuddugol y band gyda byrdynau mawr, emosiynau mwy, ac, wrth gwrs, alawon enfawr.

Bydd Goldie Lookin’ Chain o Gasnewydd yn ymuno â nhw, yn swyddogol grŵp rap mwyaf Prydain.  Yn adnabyddus am ‘Guns don’t kill people rappers do’, mae’r grŵp wedi rhyddhau 18 albwm dros eu gyrfa 22 mlynedd.

Meddai Pablo Janczur, hyrwyddwr Orchard Live: “Rydym yn gyffrous iawn am y sioe wirioneddol enfawr hon sy’n dod i Gastell Cil-y-coed. Rydym wedi bod eisiau dod â dewis roc gwych i’r lleoliad hwn ers peth amser a beth sy’n well na High Flying Birds Noel Gallagher yn cael eu cefnogi gan Feeder ar noson hyfryd o haf. Mae’n mynd i fod yn ddiwrnod anhygoel.”

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Sirol Mary Ann Brocklesby:  “Rwy’n hynod falch y byddwn yn llwyfannu cyngerdd arall o’r radd flaenaf yn lleoliad prydferth Castell Cil-y-coed yr haf hwn.  Rydym yn edrych ymlaen at groesawu High Flying Birds Noel Gallagher, Feeder a Goldie Lookin’ Chain, yn ogystal â miloedd o ymwelwyr a thrigolion i’r hyn sy’n addo bod yn noson arbennig iawn.”

Dywedodd y Cynghorydd Sara Burch, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am MonLife: “Mae’n gyffrous iawn gweld gweithredoedd o safon mor uchel yn dod i Sir Fynwy, a hefyd yn newyddion gwych bod y trefnwyr wedi rhoi cyfle i drigolion lleol sicrhau tocynnau cyn i’r gwerthiant cyffredinol ddigwydd.  Mae Castell Cil-y-coed yn lleoliad mor brydferth ac rydym yn falch iawn ohono – mae ganddo gymaint i’w gynnig fel lleoliad cyngerdd, yn ogystal â bod yn atyniad aruthrol i’r teulu gyfan drwy’r flwyddyn. Rydym yn edrych ymlaen at weld pawb yn y castell ar Awst 19eg y flwyddyn nesaf.”

Cost y tocynnau yw £61.88 yr un, yn cynnwys ffioedd, ac maent ar Werth Cyffredinol o 10am ddydd Gwener 16eg Rhagfyr, ond gall trigolion Sir Fynwy gael eu tocynnau’n gynt na hynny. Mae’r trefnwyr wedi trefnu Gwerthiant arbennig o flaen llaw ar gyfer cefnogwyr lleol o 10am ddydd Mercher 14eg Rhagfyr trwy http://orchardlive.gigantic.com/noel-gallagher-s-high-flying-birds-tickets/monmouth-caldicot-castle/2023-08-19-17-00

Cadarnhawyd hefyd y bydd trigolion lleol rhan o’r cynlluniau yn y cyfnod yn agosach at y digwyddiad, er mwyn sicrhau cyn lleied o effaith â phosib ar gymuned Cil-y-coed. Mae gwybodaeth lawn am ddigwyddiadau ar gael yn www.caldicotcastle.co.uk


Mae prosiectau Gwent gyfan yn dod yn ail yng Ngwobrau’r Sefydliad Tirwedd

Roedd Natur Wyllt Gwent a Thîm Partneriaeth Grid Gwyrdd Gwent wedi mynychu Gwobrau’r Sefydliad Tirwedd ar 24ain Tachwedd. 

Roedd y tîm yn ail yn y ddau gategori lle’r oeddynt ar y rhestr fer, a hynny ymhlith nifer o geisiadau cenedlaethol a rhanbarthol.  Y categori cyntaf oedd Ardderchowgrwydd mewn Cadwraeth a Gwella Bioamrywiaeth  ar gyfer un o brosiectau Natur Wyllt a’r ail gategori oedd Partneriaeth a Chydweithredu  a oedd yn cydnabod gwaith eithriadol a wnaed i’r tirwedd fel rhan o Bartneriaeth Grid Gwyrdd Gwent.  

Gwobrau’r Sefydliad Tirwedd yw un o’r digwyddiadau mwyaf yn y diwydiant, sy’n dathlu pobl, lle a natur, a’r nifer o ffyrdd y gall prosiectau tirwedd eu cydgysylltu. Mae’n dathlu gofodau y gall pobl fod yn wirioneddol falch ohonynt, a bu cyfanswm o dros 200 o geisiadau eleni, gan gynnwys 53 gan gystadleuwyr rhyngwladol.

Mae Partneriaeth Grid Gwyrdd Gwent yn gydweithrediad rhanbarthol arloesol newydd sy’n ceisio gwella a datblygu “Seilwaith Gwyrdd”; term a ddefnyddir i ddisgrifio’r rhwydwaith o nodweddion naturiol a lled-naturiol a mannau gwyrdd, afonydd a llynnoedd sy’n plethu a chysylltu ein pentrefi, trefi a dinasoedd yn ogystal â helpu i gefnogi cyfleoedd am swyddi o fewn yr ardal. Mae gan Seilwaith Gwyrdd rôl hanfodol i’w chwarae wrth fynd i’r afael â natur, newid yn yr hinsawdd, iechyd ac argyfyngau economaidd.

Mae’r prosiect Natur Wyllt yn sefydlu gwaith rheoli mannau gwyrdd cydgysylltiedig i greu cynefinoedd pryfed peillio llawn blodau gwyllt ar draws ardaloedd awdurdodau lleol Gwent – Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen – fel rhan o Bartneriaeth Grid Gwyrdd Gwent.  Mae Natur Wyllt yn ceisio codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd peillwyr, y camau y gallwn i gyd eu cymryd i’w cefnogi, a sut y gall y rhain gael effaith gadarnhaol ar faterion pwysig eraill megis lleihau’r dirywiad mewn bywyd gwyllt a lleihau effeithiau newid yn yr hinsawdd.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Maby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd,: “Rydym yn gyffrous iawn bod Partneriaeth Grid Gwyrdd Gwent a phrosiect Natur Wyllt wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau’r Sefydliad Tirwedd yn Llundain, gan gael y gydnabyddiaeth maen nhw’n ei haeddu ar raddfa genedlaethol. Mae’r ddau ddull yn hanfodol wrth ddiogelu a gwella ein tirweddau arbennig, datblygu seilwaith gwyrdd a helpu i fynd i’r afael â’r dirywiad mewn bioamrywiaeth a heriau newid yn yr hinsawdd. Rydym yn ffodus o allu gweithio gyda gweithwyr sydd mor broffesiynol ac mor ardderchog, yn ogystal â thirwedd mor syfrdanol.”

Cefnogir y prosiectau hyn gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig:  Ewrop yn Buddsoddi mewn Ardaloedd Gwledig, ac fe’i darperir gan Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles Llywodraeth Cymru.

Os hoffech chi gael gwybod mwy am beth mae’r prosiectau hyn yn ei wneud, yna dilynwch y dolenni hyn:

Partneriaeth Grid Gwyrdd GwentPartneriaeth Grid Gwyrdd Gwent – MonLife

Natur Wyllt Natur Wyllt – Sir Fynwy


YN FYW: Ymgynghoriad Cyhoeddus Wyesham

YMGYNGHORIAD CYHOEDDUS: Cysylltiadau Teithio Llesol Wyesham (Trefynwy) Astudiaeth WelTAG Cam Dau

Dweud eich dweud

Hoffem glywed eich barn ar y rhestr o opsiynau posibl sydd wedi’u cynllunio i wella cysylltiadau teithio llesol rhwng y Bont Deithio Llesol newydd arfaethedig ar draws Afon Gwy a Wyesham.

Rydym yn argymell eich bod yn gweld y cynlluniau  ac yn darllen y dudalen hon yn gyntaf i ddarganfod mwy am y cynllun.

Pam bod newidiadau wedi cael eu cynnig?

Mae’r llwybr o Wyesham i ganol tref Trefynwy yn cael ei ddefnyddio’n helaeth gan drigolion, plant (yn teithio i ac o ysgolion), twristiaid ac ymwelwyr. Mae’r cyfleusterau presennol i gerddwyr fodd bynnag yn gyfyngedig, tra nad oes cyfleusterau beicio o gwbl. Mae cysylltiadau yn ardal yr astudiaeth wedi methu’r archwiliadau teithio llesol a gynhaliwyd gan Gyngor Sir Fynwy ym mis Medi 2020. Wrth i gynigion ar gyfer Pont Deithio Llesol Gwy ddod i’r amlwg, mae pwysigrwydd cysylltu cysylltiadau teithio llesol o’r ardaloedd cyfagos i ac o’r bont newydd wedi ei amlygu.

Amcanion y cynllun

Tri amcan y cynllun hwn yw:

  • Darparu rhwydwaith cerdded a beicio uniongyrchol, cydlynol, cyfforddus a deniadol sy’n addas i’r holl ddefnyddwyr;
  • Cynyddu lefelau mynediad cynaliadwy i addysg, iechyd, cyflogaeth a gwasanaethau allweddol eraill;
  • Gwella diogelwch gwirioneddol a chanfyddedig defnyddwyr bregus;
  • Cynyddu nifer y bobl sy’n cerdded a seiclo rhwng Wyesham a chanol tref Trefynwy;
  • Lleihau dibyniaeth ar geir a defnyddio ceir ar gyfer teithiau byr rhwng canol tref Wyesham a Threfynwy drwy newid mewn dulliau teithio; a
  • Lleihau effeithiau negyddol trafnidiaeth ar yr amgylchedd naturiol ac adeiledig (h.y., gwella ansawdd aer, gwella amgylchfyd y cyhoedd, darparu seilwaith draenio cynaliadwy, ac ati).

Y cynigion

Mae prosiectau fel yr un yma fel arfer yn mynd yn eu blaen dros sawl blwyddyn o’r cysyniad hyd at ddylunio manwl ac yna maent yn ddibynnol ar gymeradwyaeth arian gan gyrff fel Llywodraeth Cymru ar gyfer y cyfnod adeiladu. Ar hyn o bryd rydym mewn cyfnod cynnar o’r broses ddylunio. Bydd

Bydd yr opsiwn a ffefrir yn cael ei ddewis yn seiliedig ar sawl agwedd, gan gynnwys canlyniadau ymgynghori cyhoeddus, opsiwn medru cyflawni (lle bydd perchnogaeth tir yn chwarae rhan allweddol), goblygiadau cost, a pherfformiad opsiwn yn erbyn amcanion cenedlaethol, rhanbarthol a lleol, uchelgeisiau a blaenoriaethau.

Oherwydd maint ardal yr astudiaeth, mae’r llwybr wedi ei rannu’n ddwy adran, fel y disgrifir isod.

Llwybr Adran Un  – o’r Bont Deithio Llesol Newydd arfaethedig i Heol Wyesham

Opsiwn 1: yn cynnig lledu’r droedffordd bresennol ar ochr ogleddol yr A466 a’r A4136 i ddarparu troedffordd/llwybr beicio a rennir oddi ar y ffordd o’r Bont Deithio Llesol i Heol Wyesham a gyflawnir drwy gulhau ychydig i lawr y ffordd gerbydau a chefnogaeth strwythurol arglawdd. Byddai’r ddwy groesfan ynys lloches i gerddwyr sydd eisoes heb reolaeth yn cael eu disodli gan gyfleusterau croesi rheoledig. Byddai holl gyffyrdd ffordd yr ochr yn cael eu hail-gynllunio i ddarparu ar gyfer llwybr teithio llesol.

Opsiwn 2: fel Opsiwn 1 ond yn rhannol is na lefel y ffordd bresennol (rhwng Parc Glanyrafon  a Heol Redbrook). Byddai llwybr yn cael ei rannu gan gerddwyr/beicwyr yn cychwyn o’r gyffordd â Pharc Glanyrafon ac yn rhedeg o dan lefel ffordd bresennol yr A466. Byddai ramp wedyn yn ei gysylltu â’r droedffordd bresennol (gan godi i fyny at lefel y droedffordd) gyferbyn â’r gyffordd â Heol Redbrook. Byddai’r droedffordd bresennol ar ochr deheuol yr A466 heb ei heffeithio.

Llwybr Adran Dau  – Heol Wyesham  a Rhodfa Wyesham

Opsiwn 1: system unffordd tua’r dwyrain o Heol Wyesham (Mewn) /Rhodfa  Wyesham (Allan), ar ôl cyffordd â Rhodfa Wyesham, byddai’r ffordd gerbydau yn dychwelyd i draffig dwy ffordd. Byddai troedffordd/llwybr beicio a rennir yn cael ei ddarparu ar ochr ddeheuol Heol Wyesham i Ysgol Gynradd Kymin View. Byddai lled y ffordd gerbydau ar Rodfa Wyesham yn cael ei leihau a’r llwybr troed yn cael ei ledu. Dim colli parcio ar Rodfa Wyesham. Potensial i gynnwys cysylltiadau o Rodfa Wyesham i Heol Wyesham y tu ôl i Eglwys Sant Iago a thrwy goetir cymunedol.

Opsiwn 2: yr un peth ag Opsiwn 1 ond Rhodfa Wyesham tua’r gorllewin (Mewn) / Heol Wyesham (Allan)

Opsiwn 3: cynnal traffig dwy ffordd gyda’r egwyddor strydoedd tawel yn berthnasol i Heol Wyesham a Wyesham Avenue. Mae ‘strydoedd tawel’ yn derm sydd yn cael ei roi i lwybrau seiclo trefol ar strydoedd cefn sydd â  chyflymder isel a lefel isel o draffig, sydd yn addas iawn ar gyfer seiclwyr newydd a llai hyderus. Mae  Heol Wyesham a Wyesham Avenue wedi eu clustnodi ar gyfer terfyn cyflymder o 20mya, a fydd yn addas ar gyfer yr egwyddor strydoedd tawel. Bydd llwybr seiclo  yn cael ei osod ar y ffordd, gyda symbolau seiclo yn cael eu defnyddio er mwyn dynodi’r llwybr a lle y dylid seiclo ar y cerbytffordd. Bydd llwybrau cerdded yn cael eu lledaenu os yn bosib  ac ar gyfer cerddwyr yn unig. Bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i gynnwys cysylltiadau o Wyesham Avenue i Heol Wyesham y tu nôl i Eglwys Sant Iago a thrwy’r coetir cymunedol. Mae yna botensial i gynnwys darn byr o Droedffordd a Rennir (Cerddwyr a Seiclwyr) o gyffordd Heol  Wyesham gydag Wyesham Avenue i Ysgol Kymin View.

Strydoedd tawel – DE205: CLICIWCH YMA

Sifftio opsiwn

Ar ddechrau’r prosiect hwn ac yn unol â Phroses Arfarnu Trafnidiaeth Cymru, datblygodd tîm y prosiect restr eang o ddatrysiadau posib, digon i allu penderfynu a oes unrhyw opsiynau cynllun gwerth eu dilyn ac i ddewis rhestr fer o opsiynau (fel y manylir uchod) i’w hystyried yn fanylach. Roedd yr opsiynau ar y rhestr fer yn seiliedig ar:

  • eu gallu  i atal, neu ddatrys y broblem nawr ac yn y dyfodol;
  • eu gallu i gyflawni’r amcanion a osodwyd a gwella llesiant cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd Cymru;
  • eu heffeithiau tymor byr a thymor hwy i sicrhau manteision lluosog ar draws y pedair agwedd ar les a sicrhau’r cyfraniad mwyaf posibl i’r saith nod llesiant;
  • eu gallu i gyflawni; a
  • eu cadernid i ansicrwydd a photensial i yrru newid hirhoedlog.

Llwybr Heol/Rhodfa Wyesham yw’r flaenoriaeth ar hyn o bryd i gysylltu Wyesham â thref Trefynwy ac mae’n ofynnol iddo gael ei gynllunio a’i adeiladu i gyd-fynd â’r Bont Deithio Llesol newydd. Yn anffodus, mae pob opsiwn i wella llwybr Heol Redbrook yn gofyn am brynu tir a strwythurau cadw sylweddol, a allai gymryd blynyddoedd i gytuno. Gallai hyn oedi’n sylweddol a hyd yn oed beryglu’r cynllun. Oherwydd hyn, mae adran Heol Redbrook wedi’i gwahardd o’r cynllun hwn a’n ffocws presennol ar lwybr Heol/Rhodfa Wyesham , a fydd yn cefnogi cyflwyno’r Bont Deithio Llesol newydd.

Eich barn

Rydym am glywed eich barn ar bob un o’r opsiynau. A fyddech gystal â nodi’r rhai sydd ar y rhestr fer. Gallwch fynegi eich meddyliau drwy glicio ar y ddolen arolwg isod.

A fyddech gystal ag annog aelodau eich cartref ac eraill i gynnal yr arolwg gan nad yw eich ymatebion o reidrwydd yn adlewyrchu barn pobl eraill.

Ar ôl cwblhau’r arolwg hwn, rydych yn cytuno i’r data hyn gael eu defnyddio at y diben hwn gan Gyngor Sir Fynwy a gan Gynllun Gofodol Cymru (RE&I).

Bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu gan Gyngor Sir Fynwy ar ran Cynllun Gofodol Cymru (RE&I). Byddwn yn casglu eich data at y diben hwn yn unig a bydd unrhyw rannu data’n cael ei wneud yn ddienw. Nid yw’r ffurflen hon yn dal eich enw na’ch manylion cyswllt. Am fwy o wybodaeth am breifatrwydd ymwelwch â https://www.monmouthshire.gov.uk/your-privacy/

Drwy gyflwyno’r ffurflen hon, rydych yn cydsynio i’ch gwybodaeth gael ei phrosesu at y diben fel yr amlinellir uchod.


Diweddariad Pwysig: System Rheoli Hamdden

Annwyl Aelod,

Ar ran pawb ym MonLife gobeithio eich bod yn iach ac yn ddiogel ar hyn o bryd.  

Roeddwn am roi gwybod i chi am ychydig o newidiadau cyffrous y byddwch yn eu gweld dros yr wythnosau nesaf, wrth i ni osod y System Rheoli Hamdden NEWYDD yn ein Canolfannau MonLife Egnïol.

Dros yr wythnosau diwethaf, rydym wedi bod yn gweithio yn y cefndir ar weithredu’r system newydd hon a fydd yn gwella’ch profiad ac yn gwneud rheoli eich aelodaeth gyda ni hyd yn oed yn haws.  Dyma’r newidiadau newydd:

  • Proses cofrestru cyflymach os ydych am ymuno fel aelod
  • Llwyfan cyfathrebu effeithiol trwy e-bost, hysbysiadau gwthio ac SMS
  • Gweld, ymuno a thalu am unrhyw un o’n dewisiadau Aelodaeth Egnïol drwy’r Ap ac ar-lein
  • Haws gweld, archebu a thalu am ddosbarthiadau neu weithgareddau pryd bynnag y bydd yn gyfleus i chi ac ar unrhyw ddyfais.
  • Gweld, rheoli a diweddaru eich manylion personol.
  • Mewngofnodi gan ddefnyddio e-bost a chyfrinair yn lle eich rhif aelodaeth
  • Opsiynau rhannu cymdeithasol integredig sy’n eich galluogi i rannu manylion eich archebion gyda ffrindiau a theulu.

Hoffem eich sicrhau, yn ystod yr ymfudo o’n hen System Rheoli Hamdden i’n un newydd rydym yn cydymffurfio’n llawn â’r RhDDC a bydd eich holl ddata yn parhau i fod yn hollol ddiogel.

Fel gyda phob system newydd rydym yn gobeithio y bydd y mudo hwn yn rhedeg yn llyfn ond byddwch yn amyneddgar os ydym yn profi unrhyw faterion technegol.

Ein blaenoriaeth fel bob amser yw sicrhau na fydd hyn yn effeithio ar eich profiad.   Bydd ein tîm yn diweddaru ein gwefan a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol yn rheolaidd gyda’r wybodaeth ddiweddaraf.

Byddwch yn sicr bod tîm MonLife yn gweithio’n ddiflino i gael y system newydd hon ar waith a gobeithiwn eich bod yn mwynhau’r rhyngwyneb cwsmeriaid newydd a gwell.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch monmemberships@monmouthshire.gov.uk

Hoffem gymryd y cyfle hwn i ddiolch i chi am eich cefnogaeth a’ch dealltwriaeth barhaus, ac edrychwn ymlaen at eich gweld yn fuan.


How can we better involve young people in Monmouthshire Museums?

Dyma’r cwestiwn rydym yn gobeithio dod o hyd i’r ateb iddo!  Rydym yn bedwar o bobl ifanc o’r ardal sy’n gweithio ar ffyrdd o wella’r gwasanaeth amgueddfeydd i bobl ifanc fel ni.  Gan weithio gyda Threftadaeth MonLife a Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru, mae’r pedwar ohonom yn ymgynghori ag amgueddfeydd a phobl ifanc yn yr ardal ar gyfer y prosiect hwn; ymweld â safleoedd treftadaeth i asesu’r gwasanaeth amgueddfeydd presennol; a siarad ag amrywiaeth o bobl ifanc wyneb yn wyneb ac ar-lein i weithio allan y ffordd orau o ddatblygu ein hamgueddfeydd. Mae gennym hefyd arolwg ar-lein i sicrhau y gall pawb fod yn rhan o’r gwaith o wella ein hamgueddfeydd.

Ein nod yw sicrhau gwasanaeth amgueddfeydd sy’n gwasanaethu pobl ifanc yn well, ac sy’n annog y genhedlaeth nesaf i ymgysylltu â’r sector treftadaeth a hanes eu cymuned.  Bydd y prosiect hwn hefyd yn darparu sylfaen i’r sector treftadaeth adeiladu arno, gan lywio’r ffyrdd rydym yn datblygu’r gwasanaeth amgueddfeydd i’r dyfodol.

Os hoffech gael dweud eich dweud yn nyfodol ein hamgueddfeydd, cwblhewch ein holiadur gan ddefnyddio’r ddolen isod. Rydym mor gyffrous i fod yn gweithio ar y prosiect hwn gyda chi!

Arolwg Pobl Ifanc Treftadaeth MonLife https://docs.google.com/forms/d/e/1FAIpQLSedkhtL4D9JSA4LRUsu0wY6DUegipGs0tXFpYtQRGBc_lFrkQ/viewform