Cynhaliodd Gwasanaeth Ieuenctid MonLife ei gynhadledd ieuenctid flynyddol yn Neuadd y Sir, Brynbuga, ar ddydd Mercher, 10fed Gorffennaf.
Daeth y gynhadledd â 40 o fyfyrwyr o ysgolion uwchradd ledled Sir Fynwy ynghyd, gan gynnwys Ysgol 3-19 y Brenin Harri VIII, Ysgol Gyfun Trefynwy ac Ysgol Gyfun Cas-gwent. Roedd y gweithgareddau a’r trafodaethau yn seiliedig ar ganlyniadau y bleidlais ‘Gwneud Eich Marc’ eleni.
Roedd pleidlais ‘Gwneud Eich Marc’ yn caniatáu i bobl ifanc ar draws Sir Fynwy roi adborth ar faterion y teimlent oedd wedi effeithio ar eu bywydau. Rhoddwyd deg pwnc i bobl ifanc a benderfynwyd gan adborth gan bobl ifanc ledled Sir Fynwy.
Eleni, cymerodd 2,112 o bobl ifanc 11-18 oed ran yn y bleidlais, gan roi cipolwg gwerthfawr ar eu prif flaenoriaethau. Dangosodd y canlyniadau mai’r tair blaenoriaeth uchaf yw costau byw (29%), iechyd meddwl (15%), a thrafnidiaeth (13%).
Yn ystod y gynhadledd, cafodd y cyfranogwyr y cyfle i drafod y blaenoriaethau hyn gyda gweithwyr proffesiynol o Mind Our Futures Gwent, gwasanaethau iechyd meddwl, tîm Teithio Llesol Cyngor Sir Fynwy, ac arweinydd Cyngor Sir Fynwy ar gyfer trechu tlodi. Drwy gydol y dydd, buont yn trafod ag arbenigwyr ym mhob maes ac yn rhannu adborth ar sut y gallai’r Gwasanaeth Ieuenctid a’r Cyngor gefnogi gwelliannau yn y meysydd hyn ar gyfer pobl ifanc yn Sir Fynwy.
Yn bresennol yn y gynhadledd, dywedodd Aelod Cabinet Addysg Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Martyn Groucutt: “Roedd gweld y bobl ifanc yn ymgysylltu â swyddogion o bob rhan o’r Cyngor a phartneriaid wedi rhoi dealltwriaeth wych i’n swyddogion ar y tri phrif bwnc o’r bleidlais ‘Gwneud Eich Marc’. Roedd cymryd parc yn fy ngalluogi i gael gwell dealltwriaeth o’r materion hyn. Diolch i’r cyfranogwyr am eu hymgysylltiad. Roedd yn ddiwrnod ffantastig.
Edrychaf ymlaen at weld y gwaith parhaus y bydd ein swyddogion Gwasanaeth Ieuenctid yn ei wneud gyda’r bobl ifanc sy’n mynychu’r gynhadledd ac ar draws y sir.”
Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu, Cyng. Angela Sandles, Aelod Cabinet Addysg, Cyng Martyn Groucutt, Cllr Martyn Groucutt and Cadeirdydd y Cyngor, Cyng Su McConnell yn y cynhadledd.
Mae arddangosfa ‘Beth Sy’n Gwneud Mynwy, Trefynwy’ bellach yng Nghanolfan Hamdden Trefynwy. Fel rhan o daith yr arddangosfeydd o amgylch Trefynwy, gall trigolion ac ymwelwyr nawr weld y casgliad yn y Ganolfan Hamdden dros wyliau haf yr ysgol.
Bydd yr arddangosfa yn teithio o amgylch lleoliadau cymunedol gwahanol yn Nhrefynwy tan fis Mawrth 2025.
Gellir gweld arddangosfa bartner hefyd yn Neuadd y Sir, Trefynwy tan 31 Mawrth, 2025.
Mae’r arddangosfa’n rhan o brosiect ‘Casgliadau Deinamig: Agor y Blwch’ Gwasanaethau Amgueddfa, a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Gwahoddwyd trigolion o gymunedau lleol gwahanol i ‘agor y blwch’ i gasgliad amgueddfa Neuadd y Sir. Roeddynt wedi dewis gwrthrychau yr oeddynt yn meddwl sy’n dweud stori Trefynwy iddyn nhw a rhoi eu straeon personol sy’n cael eu harddangos yn arddangosfa ‘Be’ sy’n gwneud Trefynwy fel y dref yw hi’. Mae’r arddangosfa’n cynnwys llawer o wrthrychau, ffotograffau a phaentiadau nad ydynt erioed wedi’u harddangos o’r blaen, gan ein cysylltu â’n hanes a’n diwylliant lleol cyfoethog.
Church Street embroidery, 2006 – will form part of the display
Ochr yn ochr â’r arddangosfeydd yn y Ganolfan Hamdden a Neuadd y Sir yr haf hwn, bydd swyddogion Amgueddfa MonLife hefyd yn cynnal gweithgareddau crefft teulu am ddim. Mae’r gweithgareddau ar gael i bob oed, ac felly gwnewch hwn yn haf o ddarganfod a galwch draw i gymryd rhan. Darganfyddwch fwy yma: https://www.monlife.co.uk/cy/events/
Dywedodd y Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu Cyngor Sir Fynwy: “Diolch i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, rhoddwyr i’r amgueddfeydd, a’n gwirfoddolwyr am wneud y prosiect a’r arddangosfa hon yn bosibl. Mae arddangos hanes helaeth ein trefi yn yn hanfodol bwysig. Mae gwaith ein tîm, ynghyd â gwirfoddolwyr, yn dyst gwirioneddol i’w hymrwymiad i gadw hanes lleol yn fyw.
Mae arddangosfa Neuadd y Sir ar agor bob dydd rhwng 11am a 4pm ac eithrio dydd Mercher a dydd Sul (mae ar agor ar ddydd Sul yn ystod gwyliau haf yr ysgol). Gellir gweld yr arddangosfa deithiol unrhyw bryd yn ystod oriau agored yn Llyfrgell Trefynwy a Hwb, ac ar ôl hynny yng Nghanolfan Hamdden Trefynwy. Mae mynediad am ddim.
Mae Cyngor Sir Fynwy yn falch iawn o gyhoeddi bod ein hatyniadau a mannau agored yn parhau i ennill cydnabyddiaeth, gyda Gwobr y Faner Werdd.
Parc Cefn Gwlad Rogiet yw’r ychwanegiad diweddaraf at ein rhestr nodedig o enillwyr.
Cynhaliwyd cyflwyniad Gwobr y Faner Werdd ar ddydd Mawrth 16eg Gorffennaf, gydag Owen Derbyshire, Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus, yn cyflwyno’r wobr.
Roedd y Cynghorydd Pete Strong yn falch o dderbyn y wobr fel Is-Gadeirydd Cyngor Sir Fynwy.
Mae’r wobr hon yn cydnabod lleoliadau sy’n cynnig cyfleusterau rhagorol ac ymrwymiad parhaus i wasanaeth o safon uchel.
Mewn mannau eraill yn Sir Fynwy, roedd Gwobrau’r Faner Werdd ar gyfer
· Hen Orsaf Tyndyrn – sydd wedi derbyn gwobr ers 2009
· Castell a Pharc Gwledig Cil-y-coed, a anrhydeddwyd ers 2013
· Dolydd y Castell yn y Fenni, ers 2014
Yn ogystal, mae gerddi a mannau gwyrdd ar draws y Sir hefyd wedi cael eu cydnabod gyda Chamlas Sir Fynwy ac Aberhonddu yn ennill Gwobr y Faner Werdd am y bedwaredd flwyddyn yn olynol a ‘Busy Bees Garden’ yn Nhrefynwy hefyd yn mwynhau llwyddiant am y tro cyntaf yn ennill y Faner Werdd.
Mewn mannau eraill yn Sir Fynwy, roedd Gwobrau Cymunedol y Faner Werdd ar gyfer:
· Parc Bailey, Y Fenni
· Dolydd Caerwent
· Gardd Gymunedol Cil-y-coed
· Coetir Crug
· Dôl Crug
· Rhandiroedd Crucornau
· Gardd Gymunedol Goetre
· Brynbuga Bwytadwy Rhyfeddol
· Perllan Gymunedol Laurie Jones
· Parc Mardy
· Pentref Cyfeillgar i Fywyd Gwyllt Rogiet
· Y Cornfield.
Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn gweinyddu rhaglen Gwobr y Faner Werdd yng Nghymru, gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Gwirfoddolodd arbenigwyr annibynnol mewn mannau gwyrdd eu harbenigedd i werthuso’r ymgeiswyr yn erbyn meini prawf trwyadl megis bioamrywiaeth, glendid, rheolaeth amgylcheddol, a chyfranogiad cymunedol.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu, Angela Sandles: “Mae hyn yn dyst i ymroddiad a gwaith caled cymunedau ar draws Sir Fynwy wrth greu a chynnal mannau sydd nid yn unig yn gwella ein hamgylchedd ond sydd hefyd yn darparu asedau cymunedol amhrisiadwy i bawb eu mwynhau.
“Mae Cyngor Sir Fynwy yn llongyfarch holl dderbynwyr y gwobrau ac yn annog pawb i archwilio a gwerthfawrogi’r mannau gwyrdd rhagorol hyn sy’n cyfrannu at harddwch a bywiogrwydd ein sir. “Rydym yn gwahodd pawb i ddod i brofi’r harddwch naturiol a’r rhyfeddodau hanesyddol sydd gan ein parciau hynod i’w cynnig.”
Gwirfoddolwyr MonLife oedd y gwesteion anrhydeddus mewn digwyddiad dathlu diweddar a gynhaliwyd ar ddydd Mercher 5ed Mehefin yn yr Hen Orsaf Tyndyrn fel rhan o Wythnos Gwirfoddolwyr ar draws y DU. Cynhaliwyd y digwyddiad i ddiolch i wirfoddolwyr, a hynny yn ystod y dathliad sy’n amlygu’r effaith anhygoel y mae gwirfoddolwyr yn ei chael yn ein cymunedau, a rhoi cyfle i wirfoddolwyr o wahanol feysydd gwasanaeth gyfarfod a rhannu eu profiadau gwerthfawr.
Mae pobl o bob oed yn gwirfoddoli ledled MonLife am wahanol resymau, gan gynnwys ennill profiad, magu hyder, mwynhau eu hunain, neu helpu eraill a’u cymuned.
Mae llawer o wirfoddolwyr wedi mynd ymlaen i swyddi amser llawn o fewn gwasanaethau Cyngor Sir Fynwy.
Cefnogwyd y digwyddiad Dathlu Gwirfoddolwyr gan gyflenwyr lleol ac archfarchnadoedd gan gynnwys: Cinder Hill Farms, Isabel’s Bakehouse, Wigmore’s Bakery, Waitrose, M&S a Tesco.
Ar hyn o bryd mae tua 344 o wirfoddolwyr yn ymwneud â MonLife yn ystod y flwyddyn, gan wirfoddoli ar draws 36 o gyfleoedd ar draws pob maes gwasanaeth. Mae hyn yn cyfateb i gyfanswm o fwy na 13,104.35 o oriau gwirfoddol gyda gwerth ariannol o fwy na £177,000.
Pan fyddwch yn gwirfoddoli, gallwch gael mynediad at raglen hyfforddi lawn, sesiwn anwytho gyflawn, ‘cyfaill’ penodedig a’n gwefan Volunteer Kenetic ar-lein. Byddwch hefyd yn cael mynediad rheolaidd at gymorth 1-2-1 neu grŵp a chyfle i gwrdd â phobl newydd o’ch ardal ac ar draws y Sir.
Yr wythnos diwethaf, lletyodd Tîm Datblygu Chwaraeon MonLife ddisgyblion ysgolion cynradd o bob rhan o Sir Fynwy yn eu Cynhadledd PlayMaker flynyddol.
Y nod oedd dod ag arweinwyr ifanc Sir Fynwy ynghyd ar gyfer hyfforddiant ac i ddathlu eu teithiau arweinyddiaeth. Cymerodd tua 750 o blant o 26 allan o 30 o ysgolion cynradd Sir Fynwy ran mewn carwsél o weithgareddau a ddarparwyd gan Wasanaethau MonLife, Academi Arweinyddiaeth MonLife, a phartneriaid allanol, gan gynnwys grwpiau Parkrun o bentrefi Rhosied a Llandydiwg, Hybiau Cymunedol Sir Fynwy (a llyfrgelloedd), Bowls Cymru a Sir Casnewydd yn y Gymuned.
Roedd y digwyddiadau’n cynnwys datblygu cyfleoedd chwarae, hyrwyddo Teithio Llesol, llais disgyblion, gweithdai’r Corff Llywodraethu Cenedlaethol, Adeiladu Tîm, ymwybyddiaeth Lles a llawer mwy.
Cafodd y rhaglen wythnos o ddigwyddiadau gefnogaeth wych gan Ysgolion Cyfun Cil-y-coed, Cas-gwent a Threfynwy, a oedd yn darparu cyfleusterau ar gyfer y digwyddiadau yn ogystal â Chlwb Rygbi’r Fenni a Chlwb Bowlio’r Fenni ym Mharc y Beili.
Mae Tîm Datblygu Chwaraeon MonLife wedi bod yn cyflwyno’r wobr Gwneuthurwr Chwarae Arweinwyr Chwaraeon drwy gydol y flwyddyn academaidd hon, gan ymgysylltu â phob un o 30 ysgol gynradd Sir Fynwy. Ar ôl i’r disgyblion ennill y wobr, maent yn cynorthwyo i gael effaith gadarnhaol ar les yn eu hysgolion. Dyma gam cyntaf llwybr arweinyddiaeth Datblygu Chwaraeon, cyn trosglwyddo i gynllun Llysgenhadon Efydd Blwyddyn 6 a’r academïau Arweinyddiaeth Ysgolion Uwchradd.
Drwy gydol yr wythnos, cefnogodd 34 o wirfoddolwyr yr Academi Arweinyddiaeth y digwyddiadau, gan recordio 156 awr rhyngddynt. Am fwy o wybodaeth am y rhaglen PlayMaker, neu fentrau Datblygu Chwaraeon ehangach, ewch i – https://www.monlife.co.uk/cy/connect/sports-development/ neu e-bostiwch sport@monmouthshire.gov.uk
Rydym yn canolbwyntio ar gysylltiadau teithio llesol rhwng Llan-ffwyst a’r Fenni, gyda’n llwybr wedi’i gynllunio o amgylch pont teithio llesol newydd sy’n croesi’r Afon Wysg rhwng Merthyr Road a Dolydd y Castell, a chysylltiadau cysylltiedig ar gyfer llwybrau cynaliadwy mwy diogel, mwy deniadol ac uniongyrchol i Lan-ffwyst a’r Fenni.
Mae Cyngor Sir Fynwy wedi sicrhau £10.4m o Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru i ddatblygu’r Cynllun Teithio Llesol o’r Fenni i Lan-ffwyst. Bydd ein partner adeiladu ar gyfer y cynllun hwn, Balfour Beatty, a benodwyd o dan fframwaith SCAPE, yn lansio gwefan y cynllun cyn bo hir – byddwn yn rhannu’r ddolen yma pan fydd ar gael.
Mae’r cynllun hwn yn flaenoriaeth ganolog ar gyfer datblygu rhwydwaith Teithio Llesol Cyngor Sir Fynwy, gan fynd i’r afael â phwynt terfyn teithio llesol pont Merthyr Road. Mae’r cyllid hwn yn cael ei gynnig mewn proses gynnig genedlaethol gystadleuol, ac wedi ei ddyrannu mae’n cael ei neilltuo ar gyfer y prosiect teithio llesol hwn ac ni ellir ei wario ar brosiectau, cynlluniau neu wasanaethau’r cyngor eraill.
Beth yw’r newid rydyn ni’n disgwyl ei weld?
Cynnydd mewn teithiau teithio llesol yn y Fenni
Gwell cysylltedd a hygyrchedd ar gyfer teithiau teithio llesol yn Llan-ffwyst a’r Fenni o fewn a rhwng Llan-ffwyst a’r Fenni
Gwella lefelau gwirioneddol a chanfyddedig o ddiogelwch personol wrth gerdded a beicio
Hyrwyddo teithio cynaliadwy fel un deniadol a diogel yn y Fenni a Llan-ffwyst.
Fideo: Fideo hedfan drwodd o weledigaeth cynllun Teithio Llesol y Fenni. Mae’r gwaith adeiladu presennol yn canolbwyntio ar gyflawni’r bont teithio llesol.
Pont Teithio Llesol
Amcanion y cynllun pont teithio llesol
Darparu pont gerdded, olwyna a beicio newydd sy’n croesi ar afon Wysg rhwng Llan-ffwyst a’r Fenni, i lawr yr afon o Bont Afon Wysg (Merthyr Road). Bydd y bont yn dod yn brif groesfan afon ar gyfer teithio llesol rhwng Llan-ffwyst a’r Fenni, fel dewis arall i ddefnyddio’r droedffordd gul dros y bont ffordd bresennol ac yn annog newid moddol o ganlyniad i hynny.
Problemau a nodwyd ar gyfer teithio llesol rhwng Llan-ffwyst a’r Fenni ar Merthyr Road
Mae Merthyr Road/Pont Wysg wedi cael ei nodi ers amser maith fel man terfyn ar gyfer teithio llesol, ac mae Cyngor Sir Fynwy wedi blaenoriaethu datblygu’r llwybr hwn. Mae’r bont bresennol dros Afon Wysg yn darparu troedffordd gul iawn ar un ochr ac nid yw’n darparu ar gyfer beicwyr. Mae’r bont ffordd yn strwythur rhestredig sy’n cario cyfaint trwm o draffig ffyrdd. Ar hyn o bryd nid oes llawer o sgôp yn gorfforol, neu gyda’i statws rhestredig, i’w wneud yn fwy croesawgar neu ddiogel ar gyfer teithio llesol. Y nod cyffredinol yw darparu croesfan afon amgen ar gyfer teithio llesol, a sicrhau cysylltiadau effeithiol o’r pontydd (newydd a phresennol) i ganol y dref, gan ganiatáu teithio iach rhwng cartrefi a chyrchfannau allweddol fel ysgolion, Nevill Hall a chanol y dref.
Ymyriadau Arfaethedig – Pont Teithio Llesol
Bydd y cynllun hwn yn adeiladu pont gerdded, olwyna a beicio newydd 3m o led ar draws Afon Wysg, sy’n cysylltu Llan-ffwyst â Dolydd y Castell, y Fenni. Bydd y bont wedi’i gwneud o adeiladwaith trawst dur gyda chladin pren i sicrhau ei bod yn cyd-fynd â’r ardal naturiol o’i amgylch. Bydd rampiau’n cael eu hadeiladu i gysylltu’r bont â’r llwybrau ar Ddolydd y Castell a’r droedffordd ar Merthyr Road, Llan-ffwyst.
Bwriedir i’r gwaith o adeiladu’r bont ddechrau yn gynnar yn 2026, gyda gwaith graddol yn parhau i mewn i 2027. Rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer y bont teithio llesol yn 2018 fel DM/2018/00408, gyda chaniatâd a roddwyd yn 2025 ar gyfer diwygio anfaterol i gynnwys adeiladu trawstiau dur – rhif cynllunio DM/2025/00507.
Llun – Pont teithio llesol ar draws yr Wsg, ar bier i lawr yr afon o bont y ffordd
Dolydd y Castell
Mae Dolydd y Castell a Chaeau Ysbyty yn ardaloedd hamdden pwysig i’r gymuned ac fe’u croesir gan Hawliau Tramwy Cyhoeddus (HTC) a llwybrau’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol 42 a 46. Gall gwelliannau i arwynebedd llwybrau ar Ddolydd y Castell gefnogi cerddwyr a beicwyr sy’n teithio rhwng Llan-ffwyst a’r Fenni, ar y cyd â’r bont teithio llesol newydd.
Wrth i’r cynllun fynd rhagddo, bydd gwaith pellach yn nodi uwchraddiadau posibl i lwybrau o fewn y dolydd gyda’r cyllid presennol sydd ar gael. Cafodd maint llawn y llwybrau sydd â photensial i’w huwchraddio ar Ddolydd y Castell ganiatâd cynllunio yn 2023, fel y cais cynllunio DM/2022/01831.
Amcanion cynllun Dolydd y Castell
Mae llwybr anhygyrch ac annymunol ar draws pont ffordd yn achosi gwahaniaeth rhwng Dolydd y Castell a Llan-ffwyst.
Llwybrau glaswellt: Mae’r llwybrau glaswellt presennol mewn cyflwr gwael ac nid ydynt yn cydymffurfio â chanllawiau teithio llesol ar gyfer arwynebau llwybrau. Maent yn anghyfforddus ac yn anodd i ddefnyddwyr cadair olwyn / cadair symudedd eu defnyddio.
Cyfyngiadau mewn mannau mynediad: Mae giât hunan-gau, heb glicied, wedi cael ei threialu ar y dolydd am y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae’r giât yn agor i’r dolydd, sy’n golygu na all gwartheg wthio’r giât ar agor a mentro allan. Mae’r gatiau moch arddull pren presennol yn gyfyngol i gadeiriau olwyn, sgwteri symudedd, cadeiriau gwthio, a beicwyr sy’n cael mynediad i’r dolydd.
Ymyriadau Arfaethedig – Dolydd y Castell
Edrychodd astudiaeth WelTAG (Canllawiau Arfarnu Trafnidiaeth Cymru) o’r ardal hon ar ffyrdd o wella’r ddarpariaeth ar gyfer teithio llesol ar Ddolydd y Castell. Yn dilyn yr astudiaeth hon, gofynnodd Cyngor Sir Fynwy am ganiatâd cynllunio i uwchraddio’r holl brif lwybrau ar Ddolydd y Castell, hyd nes y byddai cyllid ar gael ac i ganiatáu cynllunio hyblyg wrth i gynlluniau’r bont gael eu datblygu. Nid yw Cyngor Sir Fynwy yn bwriadu uwchraddio’r holl lwybrau o fewn y cytundeb cynllunio, ond mae’n gweithio i gynnwys rhai llwybrau o fewn y cynllun gwaith presennol.
Delwedd: Argraffiad yr artist o lwybrau Dolydd y Castell. D.S. Nid yw Cyngor Sir Fynwy yn bwriadu uwchraddio’r holl lwybrau o fewn y cytundeb cynllunio fel rhan o’r gwaith adeiladu pont.
Cysylltiadau Llan-ffwyst
Mae’r cam hwn yn edrych ar welliannau i’r llwybr sy’n canolbwyntio ar ochr Llan-ffwyst i Afon Wysg a chysylltiadau â’r bont teithio llesol a Dolydd y Castell. Bydd elfennau o’r cynllun eang hwn yn cael eu cynnwys yn y gwaith adeiladu, gydag adrannau eraill yn cael eu cyflwyno fel a phan fydd cyllid yn caniatáu.
Amcanion cynllun Cysylltiadau Llan-ffwyst
Gwella mynediad at wasanaethau lleol, cyflogaeth a chyfleusterau diwylliannol drwy ddulliau Teithio Llesol drwy wella cysylltedd rhwng y Fenni a Llan-ffwyst.
Hyrwyddo a hwyluso ffyrdd iachach o fyw drwy gynyddu nifer y cerddwyr a’r beicwyr sy’n defnyddio Merthyr Road a The Cutting at ddibenion cymudo.
Gwneud cyfraniad cadarnhaol i ansawdd aer drwy hyrwyddo teithio llesol ledled Sir Fynwy a chefnogi lleihau Carbon Deuocsid o amgylch ardal y Fenni / Llan-ffwyst.
Cyflwyno cysylltiadau teithio llesol diogel a hygyrch a chael gwared ar wrthdaro rhwng defnyddwyr o amgylch Cylchfan ‘Waitrose’.
Darparu llwybr beicio cydlynol, uniongyrchol a diogelu i’r dyfodol sy’n cysylltu â’r seilwaith teithio llesol presennol a chynlluniedig.
Problemau a nodwyd mewn teithio llesol rhwng Llan-ffwyst a Merthyr Road, Y Fenni
Mae’r rhwydwaith ffyrdd presennol yn yr ardal yn hynod o brysur, gan wneud yr amgylchedd yn annymunol i gerddwyr, beicwyr, a’r rhai sydd ag amhariad symudedd. Nododd ddadansoddiad o ddata Cyfrifiad 2011 fod 15% o yrwyr yn yr ardal yn teithio llai na 2 cilomedr ac 8% rhwng 2 cilomedr a 5 cilomedr. Gallai rhai o’r teithiau hyn gael eu darparu gan ddulliau Teithio Llesol pe byddai seilwaith Defnyddwyr Heb Fodur digonol yn cael ei ddarparu.
Ar hyn o bryd nid oes cyfleusterau beicio oddi ar y ffordd: fel y cyfryw mae’n rhaid i feicwyr ddefnyddio’r gerbytffordd bresennol i deithio.
Mae diffyg cyfleusterau croesi digonol yng nghylchfan ‘Waitrose’.
Mewn rhannau o’r cynllun, mae troedffyrdd yn gul ac is-safonol, gan orfodi cerddwyr i fod yn agos at y gerbytffordd a’r traffig.
Mae problemau diogelwch ffyrdd sylweddol, yn enwedig ar hyd Merthyr Road rhwng tafarn y Bridge Inn a chylchfan ‘Waitrose’.
Mae The Cutting yn cael ei gydnabod fel man traffig isel ac, fel y cyfryw, mae ganddo’r potensial i wasanaethu fel cyswllt o Merthyr Road i Lan-ffwyst, ond mae’r llwybr cyswllt presennol y tu ôl i Orsaf Petrol Waitrose yn gul ac wedi gordyfu mewn mannau.
Ymyriadau Arfaethedig – Cysylltiadau Llan-ffwyst
Edrychodd astudiaeth Canllawiau Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG) o’r ardal hon ar ffyrdd o wella’r ddarpariaeth ar gyfer cysylltiadau teithio llesol rhwng Llan-ffwyst a’r Fenni a chynigiodd yr ymyriadau isod. Bydd rhai ymyriadau sydd wedi’u cynnwys ar y rhestr hon yn cael eu cyflwyno wrth i gyllid datblygu ac adeiladu ddod ar gael, gydag eraill i gael eu hail-ymchwilio unwaith y bydd y bont wedi’i hadeiladu.
Lledu’r droedffordd bresennol ar hyd ochr ddwyreiniol Merthyr Road rhwng tafarn y Bridge Inn a Chylchfan ‘Waitrose’, i ddarparu ar gyfer llwybr a rennir (i gerddwyr a beiciau) 3.5m o led. Er mwyn darparu ar gyfer y cynnig hwn, bydd parcio ar y stryd yn y lleoliad hwn yn cael ei ddileu.
Darparu cyfleusterau croesi newydd ar draws tair rhan o Merthyr Road.
Lledu’r droedffordd bresennol ar hyd ochr ddwyreiniol Merthyr Road rhwng Cylchfan Waitrose a Ffordd Ymuno Blaenau’r Cymoedd / Cylchfan Merthyr Road i’r de i ddarparu ar gyfer llwybr a rennir (i gerddwyr a beiciau) 3.5m o led.
Lledu’r droedffordd bresennol ar hyd ochr ddwyreiniol Merthyr Road rhwng Ffordd Ymuno Blaenau’r Cymoedd / Cylchfan Merthyr Road a Gypsy Lane, i ddarparu ar gyfer llwybr a rennir (i gerddwyr a beiciau) 3.5m o led.
Darparu mannau croesi mwy uniongyrchol gwell ar draws Coopers Way a rhannau dwyreiniol a gorllewinol Ffordd Ymadael Blaenau’r Cymoedd / Cylchfan Merthyr Road.
Lledu’r droedffordd bresennol ar hyd ymyl gefn y maes parcio sydd wedi’i leoli i’r gogledd o Gylchfan ‘Waitrose’, i ddarparu ar gyfer llwybr a rennir (cerddwyr a beiciau) 3.5m o led.
Lledu’r droedffordd bresennol ar hyd cefn Gorsaf Petrol Waitrose rhwng ‘Cylchfan Waitrose’ a thanffordd The Cutting Ffordd Blaenau’r Cymoedd, i ddarparu ar gyfer llwybr a rennir (cerddwyr a beiciau) 3.5m o led.
Hyrwyddo The Cutting fel ‘Ffordd Dawel’ (drwy arwyddion ychwanegol a marciau ffordd) (heb effeithio ar y trefniadau mynediad a pharcio presennol) rhwng tanffordd The Cutting Ffordd Blaenau’r Cymoedd a Merthyr Road i’r de.
Gwella’r trefniant cyffordd flaenoriaeth bresennol The Cutting a Merthyr Road.
Derbyniodd rhaglen Dysgu Cymunedol Cyngor Sir Fynwy, sy’n rhan o Bartneriaeth Dysgu Oedolion Gwent Fwyaf, o dan arweiniad Coleg Gwent, ganmoliaeth ddisglair ar ôl arolygiad diweddar gan Estyn.
Mae rhaglen Dysgu Cymunedol y Cyngor yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i drigolion i ddysgu sgiliau newydd ac adeiladu ar y rhai presennol.
Yma yn Sir Fynwy, mae gennym bum canolfan Dysgu Cymunedol ar draws y sir, gyda chyrsiau amrywiol yn cael eu cynnig. Mae’r rhain yn cynnwys cyrsiau mewn Mathemateg, Saesneg, TG, Celf a Chrefft a Saesneg i ddysgwyr.
Ymwelodd Estyn, arolygiaeth addysg Cymru, â’r bartneriaeth yn ddiweddar. Amlygodd yr adroddiad terfynol yr effaith drawsnewidiol y mae gwaith y partneriaethau yn ei chael ar ddysgwyr a’r gymuned.
Amlygodd adroddiad Estyn effaith sylweddol ein rhaglen ar fywydau dysgwyr. Pan gafodd eu cyfweld gan arolygwyr, rhannodd llawer o ddysgwyr dystebau diffuant ynghylch sut mae’r rhaglen wedi bod yn achubiaeth, yn enwedig o dan amgylchiadau heriol. Mae hefyd wedi rhoi hwb i’w hyder wrth ddatblygu sgiliau digidol.
Agwedd hollbwysig o unrhyw Raglen Gymunedol yw’r tiwtoriaid. Roedd adroddiad Estyn wedi canmol ymroddiad y tiwtoriaid i greu amgylchedd dysgu cynhwysol. Mae tîm Dysgu Cymunedol Sir Fynwy yn ymroddedig i ddarparu’r gefnogaeth orau i bob dysgwr. Eu nod yw creu amgylchedd a fydd yn galluogi dysgwyr i wella eu hiechyd a’u lles tra ar yr un pryd yn darparu lle iddynt ddysgu ac uwchsgilio eu gwybodaeth.
Mae ein tîm ymroddedig hefyd wedi cael ei ganmol am ei waith cydweithredol mewn gwelliant parhaus. Canmolwyd y bartneriaeth am hunanarfarnu cadarn a’r gwaith cynllunio i wella ansawdd. Mae pob un o’r staff yn dadansoddi data asesu’r holl ddysgwyr yn ofalus, yn monitro cynnydd ac yn darparu cyfleoedd ar gyfer adborth trwy gydol taith y dysgwyr.
Dywedodd y Cynghorydd Martyn Groucutt, Aelod Cabinet dros Addysg Cyngor Sir Fynwy: “Mae adroddiad Estyn yn adlewyrchu’r gwaith caled a’r ymroddiad mae ein swyddogion rhaglen Dysgu Cymunedol yn ei wneud bob dydd. Rwyf am ddiolch iddynt i gyd am eu gwaith caled. Bob dydd, maent yn darparu cyfleoedd i ddysgwyr o Sir Fynwy i ddysgu sgiliau newydd neu uwchsgilio eu hunain mewn llawer o bynciau. Nid yw addysg yn dod i ben yn yr ystafell ddosbarth. Os ydych chi eisiau dysgu sgiliau newydd, edrychwch ar ein tudalennau Dysgu Cymunedol ar y wefan am y cyrsiau diweddaraf.”
Cynghorydd Martyn Groucutt, Aelod Cabinet dros Addysg
Wrth i ni ddathlu cyflawniadau rhaglen Dysgu Cymunedol y Cyngor fel rhan o Bartneriaeth Dysgu Oedolion Gwent Fwyaf, o dan arweiniad Coleg Gwent, rydym hefyd yn cydnabod gwaith caled ac ymroddiad y dysgwyr. Mae eu gwaith caled yn galluogi ein swyddogion i barhau i wella a darparu cyrsiau newydd drwy gydol y flwyddyn.
Rhwng 2020-2022 wnaeth Amgueddfeydd MonLife cymryd rhan yn Brosiect Adolygu Casgliadau i ddarganfod mwy am y gwrthrychau yn eu casgliad a’u cysylltiad, os o gwbl, â stori Sir Fynwy. Wedi’i ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, mae’r prosiect wedi galluogi swyddogion i ddatblygu ffordd fwy cynaliadwy o ofalu am gasgliadau. O fewn y prosiect, mae rhai eitemau wedi’u nodi fel rhai heb gysylltiad clir â Sir Fynwy.
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae nifer o’r eitemau hyn wedi’u trosglwyddo i amgueddfeydd ac adrannau dysgu eraill, gan gynnwys adran ddysgu MonLife. Yn 2022, defnyddiodd yr amgueddfa hefyd arwerthiant cyhoeddus i symud eitemau, a gynhaliwyd o dan God Moeseg Cymdeithas yr Amgueddfeydd. Yna defnyddiwyd yr holl arian a godwyd o’r arwerthiant i gyfoethogi casgliadau Amgueddfa MonLife a’r gwaith cadwraeth.
Yn dilyn llwyddiant arwerthiant 2022, bydd yr amgueddfa nawr yn defnyddio arwerthiant cyhoeddus pellach yn unol â Chod Moeseg Cymdeithas yr Amgueddfeydd ar y 3ydd a’r 4ydd o Fai yn yr Ystafell Werthu, Pontrilas, o dan oruchwyliaeth Nigel Ward & Company.
Mae tynnu eitemau a ddewiswyd yn ofalus o’r casgliad yn rhan hanfodol o’n hymrwymiad parhaus i warchod hanes pobl a lleoedd Sir Fynwy, gan wneud yn siŵr bod yr eitemau sydd gennym yn y casgliad yn berthnasol i hanes lleol.
Bydd yr arian a godir o’r arwerthiant yn cael ei ddefnyddio’n unig ac yn uniongyrchol er budd yr amgueddfa a’i chasgliadau yn y tymor hir.
Mae’r gwaith wella’r casgliadau yn parhau yn Sir Fynwy, a hynny diolch i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Mae rhestr lawn o gasgliad hanes lleol Amgueddfa Trefynwy yn cael ei llunio fel rhan o’r prosiect Casgliadau Deinamig. Dewch i edrych ar y casgliadau yma: https://www.monlifecollections.co.uk/?lang=cy
Dywedodd y Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu: “Drwy dynnu eitemau o’n casgliad yn ofalus, gallwn sicrhau bod y casgliad yn berthnasol i hanes lleol. Yn dilyn safonau’r diwydiant, mae swyddogion wedi nodi eitemau i’w tynnu, sy’n yn sicrhau bod gennym le i storio eitemau o bwys i Sir Fynwy.”
Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu
Mae Amgueddfa’r Fenni wedi datgelu arddangosfa newydd i ddathlu’r eog mwyaf sydd erioed wedi ei ddal yng Nghymru.
Ym 1782, bachwyd pysgodyn o’r Afon Wysg a dorrodd record, ychydig filltiroedd i lawr yr afon o Neuadd y Sir, Brynbuga. Roedd yr eog yn pwyso 68 ½ pwys, maint buwch fach, ac roedd tua 1.5 metr o hyd! Yn anhygoel, cafodd ei ddal gan ddau ddyn yn eu cwryglau eu hunain gyda rhwyd yn y canol.
I goffau’r achlysur, dechreuodd artist weithio ar baentiad ychydig oriau ar ôl dal y pysgodyn rhyfeddol. Am y tro cyntaf, mae’r paentiad bellach yn cael ei arddangos ochr yn ochr â darn arall o waith celf mwy yn Amgueddfa’r Fenni.
Ar ddydd Iau, 25ain Ebrill, croesawodd Amgueddfa’r Fenni y rhai sydd wedi bod yn rhan o’r arddangosfa ac sydd wedi cyfrannu at y prosiect.
Cadeirydd Cyngor Sir Fynwy Cyng. Meirion Howells, Arweinydd y Cyngor Cyng. Mary Ann Brocklesby, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd Cyng. Catrin Maby, Aelod Cabinet C dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu, Cyng. Angela Sandles
Mae’r arddangosfa newydd yn ffordd wych o ddarganfod mwy am hanes y pysgodyn hwn a hanes yr Afon Wysg. Dysgwch fwy am pam nad ydym yn gweld cymaint o bysgod mawr yn yr afon nawr a sut y gallwn weithio gyda’n gilydd i helpu’r afonydd i ffynnu.
Fel rhan o’r arddangosfa, byddwch yn clywed gan lawer o bobl angerddol am yr afonydd, yn clywed eu barn am yr hyn sy’n gwneud afonydd yn unigryw a’u gweledigaeth ar gyfer y dyfodol. Bydd ymwelwyr hefyd yn cael cyfle i rannu eu barn ar gwestiynau pwysig ynghylch dyfodol ein hafonydd.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu, y Cynghorydd Angela Sandles: “Mae cael y paentiad, y Pysgodyn Mawr, i’w weld yn Amgueddfa’r Fenni yn wych. Mae’n caniatáu i ni ddathlu’r rhan hon o hanes ein hafonydd ac agor ein meddyliau am ddyfodol ein hafonydd. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn afonydd lleol neu ddiddordeb ehangach mewn hanes lleol, dewch i’n harddangosfa wych yn Amgueddfa’r Fenni.”
Mae amrywiaeth o arddangosion hynod ddiddorol yn cael eu harddangos yn yr amgueddfa, ac mae rhywbeth i bob oed. Os ydych chi’n meddwl gwneud hon yn daith deuluol, byddwch chi’n gallu chwarae’r gemau nadroedd ac ysgolion eogiaid, meistroli jig-so pysgodlyd a chymryd rhan mewn cwis. Mae yna hefyd her i chi neidio mor uchel â’n Pysgodyn Mawr!
Bydd y prosiect Pysgodyn Mawr hefyd yn gweld swyddogion amgueddfa yn cynnal gweithdai ysgol ar hanes y Pysgodyn Mawr, yn gweithio gyda Dŵr Cymru i gynnal gweithdai ar ofalu am ein hafonydd ac ansawdd dŵr a’n gweithio gyda swyddogion Cefn Gwlad MonLife i gynnal digwyddiadau.
Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i adeiladu ar y gwaith o warchod yr afonydd sy’n llifo drwy’r Sir. Wrth i brosiect y Pysgodyn Mawr (Big Fish) amlygu digwyddiad hanesyddol, bydd y Cyngor yn parhau â’i ymrwymiad i ddiogelu afonydd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, gan amlygu’r newidiadau sydd eu hangen i leihau effaith newid hinsawdd ar yr afonydd.
Mae Amgueddfa’r Fenni ar agor ar ddydd Mawrth, dydd Iau, dydd Gwener, dydd Sadwrn a dydd Sul rhwng 11am a 4pm.
Cadeirydd Cyngor Sir Fynwy Cyng. Meirion HowellsGwesteion yn edrych ar un o glipiau sydd yn rhan o’r arddangosfaGwesteion yn arddangosfa’r Pysgodyn Mawr
Sicrhaodd Canolfan Hamdden y Fenni le ar y podiwm mewn her ffitrwydd genedlaethol yn gynharach eleni, gan ddod yn drydydd yn Ymgyrch Ffitrwydd Lets Move for a Better World 2024 Technogym.
Trechodd clybiau ffitrwydd y ganolfan hamdden gystadleuaeth gan bob un ond dau o’r 237 arall o glybiau oedd yn cystadlu.
Bu 760 o aelodau a staff y Fenni yn cydweithio i gasglu cyfanswm o 1,304,5798 MOVes, dull Technogym ar gyfer mesur gweithgaredd corfforol, a gofnodwyd gan offer campfa neu dracwyr gweithgaredd corfforol GPS tebyg i Garmin.
Rhagorodd y Fenni ar y trothwy o 1,000,000 MOVEs a derbyn Pecyn Llesiant Technogym a gaiff ei roi i’r Bwrdd Iechyd lleol i gefnogi cyflwyno sesiynau ymarfer ar gyfer pobl yn byw gyda Dementia a’u gofalwyr.
Cymerodd dros 107,808 o bobl ran yn yr ymgyrch gyda’r nod o hyrwyddo iechyd pobl a gweithgaredd corfforol.
Casglodd Denis Murphy, aelod o’r Clwb, yr uchafswm posibl o 320000 MOVEs a diolchodd i’r ganolfan am eu help yn ei adferiad o anaf difrifol i’w goes.
Dywedodd Angela Sandles, Aelod Cabinet Cydraddoldeb ac Ymgysylltu Cyngor Sir Fynwy: “Mae’n wych gweld ymdrechion y clybiau ffitrwydd yng Nghanolfan Hamdden y Fenni.
“Mae’n gamp enfawr ac yn rhoi esiampl cadarnhaol iawn.
“Mae manteision cadw’n heini yn hysbys iawn a dengys heriau fel hyn y gall fod yn hwyl hefyd.” Mae mwy o wybodaeth am yr ymgyrch ar gael yn technogym.com/en-GB/lets-move/