Beth yw ‘Natur Wyllt’?
Mae Natur Wyllt yn ddull sy’n ein hannog ni i gyd i newid y ffordd rydym ni’n rheoli glaswelltir ar ein lleiniau ymyl ffordd, ein mannau agored a’n parciau er budd natur.
Caniateir i laswelltiroedd mewn mannau gwyrdd dyfu yn y gwanwyn a’r haf i greu dolydd a gofod ar gyfer natur.
Mae’r prosiect Natur Wyllt yn sefydlu rheolaeth mannau gwyrdd cydgysylltiedig i greu cynefinoedd peillwyr llawn blodau gwyllt ar draws ardaloedd awdurdodau lleol Gwent – Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen – fel rhan o Bartneriaeth Grid Gwyrdd Gwent.
Dilynwch ni ar Twitter @Natureisntneat, Instagram @Natureisntneat a Facebook i gael yr wybodaeth ddiweddaraf a manylion digwyddiadau.
Rhowch wybod i ni beth yw eich barn am y newidiadau, gallwch ddangos cefnogaeth neu amlygu meysydd i ni eu gwella.
Cymerwch ran yn ein cynlluniau syml i’n helpu i ganfod pa beillwyr a blodau gwyllt sydd yn eich glaswelltir lleol
Bydd ein cod ymarfer a fideos yn dangos i chi sut i reoli eich mannau gwyrdd eich hun yn null Natur Wyllt
Dilynwch y llwybr cerfluniau ar draws Gwent i ddarganfod ein gweithiau celf cymunedol, yn rhoi sylw i beillwyr
WBuom yn gweithio gydag awdurdodau lleol yng Ngwent i ennill statws Caru Gwent
Edrychwch yma am ddyddiadau am ddigwyddiadau a gweithdai cyffrous
Beth yw’r manteision?
Trwy adael i ardaloedd o laswelltir dyfu rydym yn annog mwy o flodau gwyllt i flodeuo am gyfnod hirach, gan ddarparu bwyd a chynefin i fywyd gwyllt a phryfed peillio fel gwenyn ac ieir bach yr haf.
Nid yn unig ei fod o fudd i natur, trwy ganiatáu i blanhigion dyfu gwreiddiau mwy maent yn storio mwy o garbon yn y pridd ac yn helpu i liniaru newid yn yr hinsawdd. Mae gwreiddiau mwy hefyd yn creu mwy o aer yn y pridd ac yn helpu i leihau effaith llifogydd.
Mae amgylcheddau sy’n cynnal ystod ehangach o fywyd gwyllt o fudd i iechyd a lles meddwl pobl, tra maent yn eu hannog i arafu a mwynhau gwylio blodau, pryfed a bywyd gwyllt arall.
Sut y byddwn yn rheoli mannau gwyrdd
Nid ymarfer torri costau yw’r ffordd amgen o reoli, bydd mannau gwyrdd yn cael eu rheoli’n barhaus i ddiwallu anghenion preswylwyr.
Bydd ymylon llwybrau a lleiniau ymylon cyffyrdd yn cael eu torri’n aml i gynnal diogelwch.
Mewn mannau agored mawr, bydd ardaloedd hamdden a chaeau chwaraeon yn cael eu cynnal a bydd llwybrau’n cael eu torri trwy ddolydd i greu llwybrau cerdded.
Oes gennych chi fwy o gwestiynau? Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin
Torri a Chasglu
Ar ddiwedd yr haf, bydd mannau gwyrdd yn cael eu torri’n fyr unwaith y bydd y blodau gwyllt wedi hadu, gan ddynwared y ffordd draddodiadol o reoli dolydd.
Mae toriadau’n cael eu tynnu gan leihau lefel y maetholion yn y pridd ac atal gweiriau trwchus rhag mygu’r blodau gwyllt.
Dros ychydig o flynyddoedd, bydd y broses hon yn cynyddu’r helaethrwydd a’r amrywiaeth a’r blodau gwyllt ac yn gwneud ein mannau gwyrdd yn fwy prydferth.
Ein Prosiect
Bydd y newidiadau a wnawn yn helpu i frwydro yn erbyn yr argyfwng bioamrywiaeth a hinsawdd ac yn cyfrannu at y ddyletswydd sydd gan Awdurdodau Cyhoeddus i gynnal a gwella bioamrywiaeth.
Mae cynlluniau peilot llwyddiannus i leihau ardaloedd sydd fel arfer yn cael eu torri’n aml wedi gwella bioamrywiaeth ar draws Gwent. Eleni, mae’r dull Natur Wyllt o reoli yn cael ei gydlynu i gwmpasu ardaloedd ehangach ledled Gwent.
Bydd y prosiect, sydd i’w gyflwyno fel rhan o Bartneriaeth Grid Gwyrdd Gwent, yn ymgysylltu â chymunedau lleol ar draws De-ddwyrain Cymru, gan godi ymwybyddiaeth o ddirywiad pryfed peillio ac annog perchnogaeth a grymuso cymunedol i gyflawni camau gweithredu a fydd yn eu helpu i wella.
Mae gweithgareddau a digwyddiadau ar y gweill drwy gydol y flwyddyn i godi ymwybyddiaeth o ddirywiad mewn peillwyr a hyrwyddo rheolaeth sy’n gyfeillgar i beillwyr, felly cadwch lygad ar y dudalen digwyddiadau ar y gweill a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Mae’r prosiect i’w gyflwyno fel rhan o Bartneriaeth Grid Gwyrdd Gwent, Cefnogir y prosiect gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig: Ewrop yn Buddsoddi mewn Ardaloedd Gwledig ac fe’i hariennir gan Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant Llywodraeth Cymru.
This post is also available in: English