Training and Resources - Monlife

Hyfforddiant ac Adnoddau

Mae’r dull Natur Wyllt yn canolbwyntio ar ganiatáu mwy o natur yn ôl i’n mannau gwyrdd drwy fod yn llai ‘taclus’ a chaniatáu i flodau gwyllt a glaswellt dyfu.

Fodd bynnag, nid gadael i bopeth fynd yn wyllt yn unig ydyw. Mae dolydd traddodiadol yn gynefinoedd a reolir yn fanwl ac mewn mannau gwyrdd trefol mae llawer o ystyriaethau i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion preswylwyr.

Cod Ymarfer

Rydym wedi datblygu’r Cod Ymarfer hwn yn seiliedig ar egwyddorion rheoli glaswelltir craidd sy’n cael eu mabwysiadu gan dimau tiroedd ein 5 awdurdod lleol. Mae’r egwyddorion hyn yn sicrhau bod diogelwch a hamdden yn cael eu cynnal fel bod lle i natur a phobl.

Os ydych chi’n gyfrifol am reoli unrhyw laswelltir, boed yn gyhoeddus neu’n breifat, gallwch ddilyn yr egwyddorion hyn i wneud eich man gwyrdd yn fwy bioamrywiol. Gellir cymhwyso’r Cod Ymarfer ar unrhyw raddfa o safle, o ardaloedd bach i safleoedd mawr, mae’r cyfan yn helpu i fynd i’r afael â’r dirywiad peillwyr yr ydym yn ei wynebu.

Lawrlwytho: Nature Isn’t Neat Code of Practice

Torri a Chasglu

Yr agwedd bwysicaf o reoli glaswelltir ar gyfer bioamrywiaeth yw torri a chael gwared ar y llystyfiant – a elwir fel arall yn torri a chasglu. Gwneir hyn ar ôl i’r blodau gwyllt flodeuo a hadu.

Mae torri blynyddol yn atal gweiriau cryf rhag mygu’r blodau gwyllt mwy bregus ac yn gadael i olau gyrraedd y planhigion sy’n egino’r gwanwyn nesaf.

Mae cael gwared ar y toriadau yn eu hatal rhag dadelfennu ac ychwanegu maetholion yn ôl i’r pridd. Mae pridd llawn maetholion yn sicrhau amrywiaeth isel gan fod y gweiriau a’r blodau mwyaf egnïol yn tyfu’n rhy fawr i’r gweddill ac yn eu tyrru allan. Mae gan y glaswelltiroedd mwyaf bioamrywiol lefelau maeth isel, lle gall rhywogaethau bregus ffynnu.

Arweinlyfr Blodau Gwyllt

I ddechrau dysgu enwau’r blodau gwyllt a welwch yn ymddangos mewn glaswelltiroedd yn ystod y gwanwyn a’r haf, rydym wedi gwneud arweinlyfr syml i rai o’r blodau gwyllt pwysicaf ar gyfer peillwyr.

Lawrlwytho: Nature isn’t Neat Wildflower Guide

Taflen a Chwestiynau Cyffredin

Mae’r daflen ddefnyddiol hon yn esbonio’r dull Natur Wyllt ac yn ateb rhai o’r cwestiynau a ofynnir amlaf.

Lawrlwytho: Nature Isn’t Neat Leaflet

Mae Llywodraeth Cymru yn chwilio am fwy o sefydliadau i gymryd rhan er mwyn creu mwy o ddolydd ar gyfer bywyd gwyllt.  Maent hefyd wedi cynhyrchu tudalen o adnoddau a chwestiynau cyffredin i helpu i annog newidiadau tebyg i reoli glaswelltir ledled Cymru.

This post is also available in: English