Survey - Monlife

Arolwg Cyhoeddus Natur Wyllt

Gadewch i ni wybod beth yw eich barn!

Efallai eich bod wedi sylwi ar newid yn y ffordd y mae eich awdurdod lleol yn rheoli glaswelltir yn eich cymuned. Mae mannau gwyrdd yn cael eu rheoli yn y ffordd ‘Natur Wyllt’, gan adael i laswelltir mewn parciau ac ar hyd ymylon dyfu yn y gwanwyn a’r haf i greu dolydd.

Casglodd prosiect Natur Wyllt eich barn drwy gydol 2022 a chafodd 1600 o ymatebion ar draws y 5 sir yng Ngwent. Dangosodd y canlyniadau yr hoffai 81% o bobl a atebodd yr arolwg weld mwy o ardaloedd yn cael eu gwella ar gyfer natur, ac mae’r rhan fwyaf o bobl yn cytuno’n gryf fod systemau torri gwair newydd Natur Wyllt yn cael effaith gadarnhaol ar fywyd gwyllt a’u llesiant eu hunain.

Hoffem gadw’r sgwrs i fynd a rydym wedi ail-lansio’r arolwg ar gyfer eleni i barhau i gasglu adborth gan gymunedau lleol a pharhau i adolygu rheoli glaswelltir ledled y rhanbarth.

Cwblhewch yr Arolwg

Rydym yn credu bod Natur Wyllt yn gyfraniad allweddol y gallwn ei wneud i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth, rydym yn gwerthfawrogi y bydd angen i ni adolygu rheolaeth mewn rhai meysydd i sicrhau bod ein mannau gwyrdd yn gweithio i chi ac i natur.

Rydym wedi cael ein calonogi’n fawr gan gefnogaeth y cyhoedd i’r newidiadau rydym wedi’u gwneud i’n gwaith torri gwair yn y blynyddoedd blaenorol.

Rydym am sicrhau ein bod yn dod o hyd i’r cydbwysedd cywir rhwng natur a hamdden trwy glywed eich adborth ar sut rydych chi’n meddwl bod y newidiadau’n mynd rhagddynt yn eich mannau gwyrdd chi.

I ddweud eich barn, a chyfrannu at y sgwrs llenwch ein harolwg yma.

This post is also available in: English