Community Artworks - Monlife

Gweithiau Celf Cymunedol

Mae celfwaith newydd, a ysbrydolwyd gan natur, wedi ymddangos mewn mannau gwyrdd ar draws Gwent, gan ysbrydoli mwy o bobl i werthfawrogi’r natur sydd ar gael yn ein cymunedau.  Datblygwyd y darnau fel rhan o brosiect Natur Wyllt, sy’n anelu i godi ymwybyddiaeth o’r dirywiad mewn peillwyr ac i annog gweithredu lleol. 

Dros haf 2022, dyluniodd ac adeiladodd cymunedau celfweithiau mosaig sy’n adlewyrchu harddwch natur yn eu mannau gwyrdd lleol.  

Cawsant eu datblygu gan yr artist mosaig a gweledol, Stephanie Roberts i greu etifeddiaeth barhaol i ymgyrch Natur Wyllt. Mae pob cerflun wedi’i ysbrydoli gan rywogaeth o blanhigion a pheillwyr lleol, sydd i’w gweld yn y mosaigau.  Fe wnaethom gynnal dau weithdy lle gwnaeth cymunedau helpu i ddylunio ac adeiladu’r celfwaith terfynol sy’n adlewyrchu’r natur o’u cwmpas.  

Mae’r gweithiau celf wedi’u lleoli ar draws Gwent, yng Ngilfach, Bargod, Parc Bryn Bach, Tredegar, Caeau Lles Tŷ-du a Fairhill, Cwmbrân. 

Dywedodd y Cynghorydd Sirol Catrin Maby, Aelod Cabinet Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Mae’r darnau celfwaith newydd yn wych yn wych ac yn destament parhaol i Natur Wyllt a’r effaith gadarnhaol y mae ei egwyddorion wedi’i chael ar fywyd gwyllt a pheillwyr ledled Gwent.” 

“Mae’r dull torri gwair dethol sy’n caniatáu i laswellt a blodau gwyllt ffynnu am gyfnod hirach yn cefnogi peillwyr ac ystod amrywiol o fywyd gwyllt yn gyffredinol.  Mae cael y gymuned i ddod at ei gilydd i helpu i ddathlu hyn drwy gelfwaith dan arweiniad y gymuned yn wirioneddol wych.” 

Llwybr Cerfluniau

Pam na ewch a chanfod yr holl gerfluniau drosoch eich hun a dilyn ein llwybr cerfluniau i weld pob un o’r pump cerflun a gweld pa fywyd gwyllt y gallwch eu gweld ar hyd y ffordd hefyd!

Cafodd pob cerflun ei ysbrydoli gan rywogaeth lleol o blanhigion a pheillwyr, y gellir eu gweld ym mhob mosaig.

Sir Fynwy

Parc Bailey – Y Fenni

Parc Bailey, y Fenni yw cartref cerflun Sir Fynwy sydd wedi ei osod yn agos at y Clwb Rygbi. Mae’r mosaig yn dathlu llygad llo mawr a’i r֧ôl ar gyfer peillwyr gyda chwilen flodau symudliw coesau trwchus yn seren y sioe.

Mae’r llygad llo mawr (Leucantheum vulgare) yn blodeuo rhwng mis Mehefin a mis Medi. Mae’n rhwydd ei adnabod drwy ei ben blodyn mawr sy’n ymddangos ar goesyn tal sengl. Mae llygaid llo mawr yn ffynnu ar ymyl ffyrdd a thir gwastraff yn ogystal ag mewn dolydd.

Mae’r chwilen ddŵr coesau trwchus (Oedemara nobilis) yn cael ei enw o goesau cefn chwyddedig y chwilod gwryw a ddefnyddir i wneud argraff ar y benywod. Gellir eu gweld yn peillo blodau gwyllt ledled Cymru o fis Ebrill i fis Medi.

Torfaen

Fairhill – Cwmbran

Fairhill, Cwmbrân yw cartref cerflun Torfaen, sydd ar stad Cymdeithas Tai  Bron Afon ger Canolfan Gymunedol Costar. Bu Bron Afon yn arwain y ffordd yn rheoli eu tir ar gyfer natur, ac yn flaenllaw yng Nghymru am eu cyfraniad i adfer yr amgylchedd. Mae’r mosaig ynn dangos cacynen gynffon goch a chlafrllys y maes.

Mae clafrllys y maes (Knautia arvensis) yn flodyn gwyllt godidog ac yn aelod o deulu’r gribau’r pannwr.

Cafodd cacwn cynffon goch (Bombus lapidarius) ei henw oherwydd eu cynffon goch rhwydd ei hadnabod.  I’w gweld fel arfer rhwng mis Ebrill a mis Tachwedd, mae’r cacwn yn nythu dan ddaear yn y gaeaf, yn aml mewn hen nythod llygod y gwair neu dan gerrig

Casnewydd

Cae Llesiant y Tŷ Du –  y Tŷ Du

Cae Llesiant y Tŷ Du –  y Tŷ Du

Mae cerfllun Casnewydd ar Gae Llesiant Tŷ Du, yn agos at brosiectau cymunedol eraill ar y safle. Mae’r cerflun hwn yn dangos y bengaled a phili pala glesyn cyffredin. Mae gan y bengaled (Centaurea nigra) flodau porffor tebyg i esgyll. Maent i’w cael ar bob math o laswelltir ac yn denu llawer o fathau o bili pala.

Mae’r glesyn cyffredin (Polyommatus icarus) yn bili bala bach hyfryd y gellir ei weld rhwng mis Ebrill a mis Hydref mewn amrywiaeth o gynefinoedd. Cadwch lygad amdanynt yn eich gardd hefyd!

Caerffili

Gilfach – Bargoed

Mae cerflun Caerffili yng Ngilfach Bargoed, yn rhan o fainc garreg sy’n edrych dros olygfeydd ysblennydd o’r sir. Mae’r cerflun hwn yn dangos blodyn y llefrith tlws a’r pili pala blaen oren.

Mae’r blodyn llefrith (ardamine pratensis) yn ffefryn yn y gwanwyn ac yn tyfu ar hyd glannau afonydd a mannau llaith megis dolydd a ffosydd. Credir eu bod yn blodeuo adeg pan mae’r gwcw cyntaf yn cyrraedd ym mis Ebrill.

Mae’n rhwydd gweld pili pala blaen oren (Anthcharis cardamines) rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf diolch i flaenau oren amlwg adennydd y gwryw. Mae eu hoff blanhigion yn cynnwys blodau llefrith a mwstad gwrychoedd. Mae blaen adennydd y benywod yn llwyddu yn hytrach nag oren.  

Blaenau Gwent

Parc bryn Bach – Tredegar 

Parc Bryn Bach yw cartref cerflun Blaenau Gwent lle addas i ddathlu natur lleol. Mae’r celfwaith yn dangos pryfyn hofran oren ymysg blodau carpiog y gors a llygaid llo mawr.

Gall blodau carpiog y gors (Lychnis flos-cuculi) edrych yn frau a blêr, ond maent mewn gwirionedd yn betalau cain sy’n chwifo yn yr awel. Mae’r blodau i’w cael mewn ardaloedd gwlyb a chorsiog ac yn denu amrywiaeth o beillwyr drwy gydol yr haf. Mae carpiog y gors yn llawer llai cyffredin nag y buont yn y gorffennol.

Caiff y pryfyn hofran oren (Episyrphus balteatus) ei enw o’r streipiau oren llachar ar ei gorff. Y rhywogaeth hwn yw pryfyn hofran mwyaf cyffredin Prydain a gellir ei weld drwy’r flwyddyn. Cadwch lygad amdanynt yn hofran  mewn gerddi, parciau a choetiroedd.

Rhannwch eich lluniau gyda ni pan welwch gerflun neu’r bywyd gwyllt y maent yn ei ddathlu, byddem wrth ein bodd yn gweld yr hyn yr ydych yn ei ganfod ar draws Gwent, dewch o hyd i ni ar y cyfryngau ymdeithasol a’n tagio yn eich lluniau!

Twitter @Natureisntneat

Instagram @Natureisntneat

Facebook Nature isn’t Neat

This post is also available in: English