Beth yw Gwyddoniaeth Dinasyddion?
Mae gwyddoniaeth dinasyddion yn ymchwil wyddonol a gynhelir gyda’r cyhoedd yn cymryd rhan i gasglu data.
Er mwyn monitro llwyddiant ein prosiectau, mae angen i ni gasglu llawer o wybodaeth am ein glaswelltiroedd a’r planhigion a’r anifeiliaid sy’n eu defnyddio. Mae Natur Wyllt yn gweithredu mewn ardal enfawr yng Ngwent a byddem yn ei chael yn anodd gwneud hyn ar ben ein hunain, felly rydym angen eich help!
Mae prosiectau gwyddoniaeth dinasyddion yn ffordd wych i ddysgu mwy am fywyd gwyllt yn eich ardal leol ac ar yr un pryd ein helpu i ofalu amdano ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Mae gennym ddau brosiect y gallech gymryd rhan ynddynt.
Helpwch ni i gofnodi iechyd glaswelltiroedd o fewn Gwent
Mae glaswelltiroedd yn gynefinoedd pwysig tu hwnt ar gyfer peillwyr a llawer o rywogaethau eraill ac yn aml nid ydynt yn cael sylw digonol.
Nod dull Natur Wyllt o reoli glaswelltir yw adfer glaswelltiroedd ac annog twf rhywogaethau cynhenid o flodau gwyllt, sydd yn eu tro yn darparu bwyd ar gyfer pryfed peillio.
Byddem yn hoffi monitro glaswelltiroedd Gwent dros yr ychydig flynyddoedd nesaf a gweld sut mae’r newidiadau rheoli y buom yn eu gwneud yn effeithio ar y cymunedau planhigion.
Rydym yn edrych am wirfoddolwyr i helpu cyfri’r blodau sy’n sefydlu o fewn eu glaswelltir lleol. Hoffem wirfoddoli i fonitro llain (neu leiniau!) o laswelltir lleol gydag ychydig o ymweliadau y flwyddyn i weld faint o wahanol rywogaethau o blanhigion sy’n tyfu yno.
Mae’n rhwydd ei wneud a bydd gwirfoddolwyr yn dod i adnabod eu llain leol a sut mae’n newid dros flwyddyn.
Gan ddefnyddio ein canllawiau cyfleus ar flodau gwyllt, y cyfan fydd raid i chi wneud yw treulio 10 munud yn adnabod y gwahanol fathau o rywogaethau planhigion o fewn llain 1m x 1m o laswelltir a llenwi ein ffurflen ar-lein yma.
Mae manylion pellach am yr arolwg ar gael yng nghanllawiau’r arolwg.
Hoffem i’r arolwg gael ei gynnal ychydig o weithiau drwy gydol y flwyddyn, yn y gwanwyn, yr haf a’r hydref i gofnodi’r holl rywogaethau planhigion a all ymddangos ar wahanol adegau.
Ein helpu i gofnodi gwenyn a phili pala
Mae gan bryfed peillio rôl hanfodol yn ein hamgylchedd, gan sicrhau y gall llawer o’n cnydau a phlanhigion gwyllt hadu a dwyn ffrwyth
Rydym eisiau deall sut mae’n newidiadau rheolaeth yn fanteisiol i bryfed sy’n peillio.
Edrychwn am wirfoddolwyr brwd i helpu monitro pa wenyn, pryfed hofran a phryfed eraill sy’n ymweld â blodau sy’n defnyddio ein dolydd newydd ar ymylon ffyrdd, mewn parciau a glaswelltir amwynder.
Mae’n syml, gyflym ac nid oes angen unrhyw wybodaeth arbenigol – mae’n ffordd rwydd i ddechrau dysgu am natur yn eich cymuned.
FIT 10-munud (‘Flower-Insect Timed Count’)
Mae Natur Wyllt yn defnyddio Cynllun Monitro Peillwyr y Deyrnas unedig Cyfrif FIT, dull biolegol naturiol cenedlaethol o gofnodi, er mwyn cofnodi’r digonedd o beillwyr yn ein hardaloedd dolydd newydd.
Yn ogystal â rhoi llawer iawn o wybodaeth i ni am effaith ein dull amgen o reoli glaswelltir, bydd eich canlyniadau yn cyfrannu at astudiaeth wyddonol genedlaethol.
- Gellir ei wneud mewn unrhyw leoliad gyda blodau
- Ar unrhyw adeg pan fo’r tywydd yn dda, o 1 Ebrill i 30 Medi
- Dewiswch ddarn o flodau targed a chyfrif faint o bryfed sy’n glanio arnynt o fewn deng munud
- Anfonwch ganlyniadau eich cyfrif atom i helpu i adeiladu darlun cenedlaethol o ddigonedd o bryfed peillio
Mae’n syml cyflwyno eich canlyniadau, lawrlwythwch ap FIT Count neu gallwch ddefnyddio’r ffurflen gofnodi ar-lein neu ar bapur o Wefan POMS .
Mae pob FIT Count yn rhoi cyfoeth o wybodaeth i ni, ond os gallwch gynnal sawl cyfrif mewn un lleoliad dros y tymor byddai hynny yn ein helpu i fonitro faint o wahanol bryfed sy’n defnyddio ein mannau gwyrdd yn ystod y flwyddyn.
Ewch i dudalen gwefan FIT Count i gymryd rhan
Mae fideos a chyfarwyddiadau ar y wefan ar sut i wneud FIT Count a chanllawiau ar adnabod y blodau a phryfed targed i’w cofnodi.
This post is also available in: English