Bee Friendly Gwent - Monlife

Beth yw Caru Gwenyn?

Mae Caru Gwenyn yn gynllun i wneud Cymru yn gyfeillgar i beillwyr gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Phartneriaeth Bioamrywiaeth Cymru. Dyma’r cynllun cenedlaethol cyntaf o’r fath i gael ei gydlynu ac mae’n annog pob sefydliad o amgylch Cymru i gymryd rhan.  

Er mai Caru Gwenyn yw enw’r cynllun, mae’n annog gweithredu i helpu holl beillwyr Prydain, nid dim ond gwenyn. Mae peillwyr yn cynnwys gwenyn mêl, cacwn a gwenyn unigol, rhai gwenyn meirch, pili-palod, gwyfynod, pryfed hofran, rhai chwilod a phryfed.  

Am amrywiaeth o resymau, mae’r niferoedd wedi gostwng ac mae peillwyr yn awr mewn trafferthion. Bydd Caru Gwenyn yn rhoi’r hyn mae peillwyr ei angen i oroesi a ffynnu, a drwy weithio gydag eraill gallwn wneud Cymru yn wlad gyfeillgar i beillwyr.

Rhannwyd Caru Gwenyn yn bedair thema. Mae’r tair thema gyntaf yn adlewyrchu’r hyn mae peillwyr ei angen er mwyn ffynnu; amgylchedd sydd â ffynonellau bwyd amrywiol a maethlon, dŵr a safleoedd nythu, ac yn rhydd o blaleiddiaid niweidiol. Mae’r bedwaredd thema yn adlewyrchu pwysigrwydd ymgysylltu cymunedol a chynhwysiant.

Y pedair thema yw: 

  • Bwyd – darparu ffynonellau bwyd cyfeillgar i beillwyr yn eich ardal 
  • Llety pum seren – rhoi lleoedd i beillwyr fyw 
  • Rhyddid rhag plaladdwyr – (mae hyn yn cynnwys plaleiddiad a chwynladdwyr) – ymrwymo i osgoi cemegau sy’n niweidio peillwyr 
  • Hwyl – cynnwys yr holl deulu a dweud wrth bobl pam eich bod yn helpu peillwyr 

Caru Gwenyn Gwent

Mae Natur Wyllt wedi bod yn gweithio i gefnogi sefydliadau yng Ngwent i Garu Gwenyn. 

Gall Natur Wyllt helpu eich sefydliad cymunedol, ysgol, cyngor tref a chymuned neu ardd natur leol i ennill statws Caru Gwenyn, i gael cymorth ar hyn, e-bostiwch gwentpollinators@monmouthshire.gov.uk.

Mae enghreifftiau o gynlluniau peillwyr o fewn Gwent yn cynnwys: 

  • Defnyddio dulliau ‘Natur Wyllt’ at reoli glaswelltir i annog blodau gwyllt, i blannu hadau a rhoi llwybrau ar gyfer peillwyr  
  • Gweithio gyda grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr i reoli mannau agored ar gyfer bioamrywiaeth 
  • Datblygu cynlluniau gweithredu i gael eu defnyddio o fewn pob agwedd o weithgareddau rheoli tir y Cyngor 
  • Monitro safleoedd allweddol i gynghori ar newidiadau rheoli 
  • Creu nodweddion cynefin ar gyfer peillwyr, yn cynnwys banciau gwenyn a gwestai pryfed 
  • Gostwng y defnydd o chwynladdwyr 
  • Addysgu plant drwy ymweliadau ysgol 
  • Cynnal digwyddiadau a dyddiau gwyddoniaeth dinasyddion i gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o beillwyr 

Darganfyddwch fwy  

I ddarganfod mwy am y Cynllun Caru Gwenyn, ac i gael y ffurflenni cais a darganfod beth allwch chi ei wneud i helpu, ewch i: 

Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru – Caru Gwenyn (biodiversitywales.org.uk/Cartref) 

This post is also available in: English