Classes – Monlife
Now Open (Outdoor Gym)-02
TMG Creative_Website Slider
PTL Campaign (april)_Website Slider-05
Events Calendar Creative-02
Download Our App-02

Mae MonLife Active yn cynnig amrywiaeth eang o ddosbarthiadau ar gyfer pob gallu ar draws ein pedair canolfan hamdden.

Os ydych chi’n ymarferwr profiadol sy’n chwilio am heriau newydd, neu hyd yn oed yn newydd sbon i bopeth, gallwn sicrhau bod dosbarth ar eich cyfer. P’un a ydych am ddatblygu ffitrwydd cardiofasgwlaidd, cryfder, colli pwysau, adeiladu cyhyrau neu wella’ch symudedd, mae ein hyfforddwyr ffitrwydd profiadol a hyfforddedig a dosbarthiadau yma i’ch cefnogi.

Mae MonLife yn falch o fod yn bartner gyda Les Mills er mwyn cyflwyno ymarferion grŵp sy’n arwain y byd a helpu aelodau i syrthio mewn cariad â ffitrwydd. Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o ddosbarthiadau ar draws ein canolfannau hamdden, felly mae dosbarth i bawb.

Edrychwch ar y gwahanol ddosbarthiadau rydym yn eu cynnig isod…


BODYCOMBAT™ LES MILLS
Mae BODYCOMBAT yn ymarfer corff egni uchel sydd wedi'i ysbrydoli gan grefft ymladd, ac sy'n gwbl ddi-gyswllt. Dosbarth lle byddwch yn dyrnu a chicio'ch ffordd i ffitrwydd a llosgi hyd at 570 calori’r tro**. Does dim angen profiad. Dysgu symudiadau o Karate, Taekwondo, Bocsio, Muay Thai, Capoeira a Kung Fu.
RPM™ LES MILLS
Ymarfer seiclo yw RPM lle rydych chi'n rheoli'r dwyster. Mewn sesiwn ymarfer corff RPM, rydych yn cylchdroi'r pedalau dro ar ôl tro i gyrraedd eich uchafbwynt cardio ac yna’n tawelu, gan gadw i fyny gyda'r lleill i godi eich perfformiad personol a rhoi hwb i'ch ffitrwydd cardio.
BODYPUMP™ LES MILLS
Mae BODYPUMP Les Mills yn ymarfer barbwysau i unrhyw un sy'n awyddus i fod yn denau, wedi’i ffyrfhau ac yn heini - yn gyflym. Gan ddefnyddio pwysau rhydd ysgafn i gymedrol a barbwysau, gyda llawer ailadrodd ymarferion corff, mae BODYPUMP yn darparu ymarfer corff cyfan i chi. Teimlwch y llosg gyda symudiadau a thechnegau sydd wedi'u profi'n wyddonol, gyda hyfforddwyr hyfforddedig iawn a cherddoriaeth wych – gan eich helpu i gyflawni llawer mwy nag y gallwch ar eich pen eich hun!
SPRINT™ LES MILLS
Ymarfer seiclo yw RPM lle rydych chi'n rheoli'r dwyster. Mewn sesiwn ymarfer corff RPM, rydych yn cylchdroi'r pedalau dro ar ôl tro i gyrraedd eich uchafbwynt cardio ac yna’n tawelu, gan gadw i fyny gyda'r lleill i godi eich perfformiad personol a rhoi hwb i'ch ffitrwydd cardio.
GRIT™ LES MILLS
Mae GRIT Les Mills yn sesiwn Ymarfer Corff Cyfnodau Dwysedd Uchel 30 munud, a gynlluniwyd i wella cryfder, ffitrwydd cardiofasgwlaidd ac i adeiladu cyhyrau tenau. Mae'r ymarfer corff hwn yn defnyddio ymarfer corff barbwysau, plât pwysau a phwysau corff i weithio pob un o'r prif grwpiau cyhyrau’n galed.
LES MILLS BARRE™
Mae Les Mills BARRE yn fersiwn fodern o ymarfer corff bale clasurol; ymarfer 30 munud wedi'i gynllunio i ffurfio a thynhau’r cyhyrau osgo, adeiladu cryfder craidd, a'ch galluogi i ddianc o'r bywyd bob dydd. ... Heb y bar traddodiadol i'ch cefnogi, mae'r cyhyrau sy'n cefnogi sefydlogrwydd a chryfder eich corff yn dod yn ffocws.
LES MILLS BORN TO MOVE™
Yn ysbrydoli pobl ifanc i syrthio mewn cariad â gweithgarwch corfforol. Wedi'i ddylunio i feithrin cariad oes at weithgaredd corfforol, mae BORN TO MOVE yn helpu plant i brofi'r llawenydd a'r bywiogrwydd o symud i gerddoriaeth.
LES MILLS VIRTUAL™
Mae dosbarthiadau rhithwir LES MILLS yn dod â rhaglenni ffitrwydd a hyfforddwyr o'r radd flaenaf i mewn i'n canolfannau trwy ein sgriniau mawr. Mae dosbarthiadau rhithwir sy’n cael eu cynnal fel MonLife Active yn cynnwys: BODYPUMP, SPRINT, THE TRIP, RPM, SH’BAM, BODY ATTACK, CORE, BARRE, BODY BALANCE a GRIT.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i archebu un o'n dosbarthiadau LES MILLS niferus sydd ar gael!
BOOK NOW
Aerobeg Aqua
Ymarfer corff sy'n seiliedig ar ddŵr i gerddoriaeth, sy'n cynnig ffyrfhau cardiofasgwlaidd a chyhyrau gan ddefnyddio'r dŵr i gefnogi'r corff, gan roi llai o straen ar eich cymalau a'ch cyhyrau. Defnyddir offer i ddwysáu ymwrthedd. Mae'r dosbarth hwn yn addas ar gyfer pob gallu. Oedran ieuengaf: 16 oed.
Rhedeg Aqua
Gweithgaredd di-bwysau lle rydych yn symud fel petaech yn rhedeg yn y dŵr, gan wneud y gorau o gyflyru cardiofasgwlaidd a chyhyrol, gan hefyd leihau straen ar y cymalau, esgyrn, cyhyrau, tendonau a gewynnau. Mae'r dosbarth hwn yn addas ar gyfer pob gallu.
Cyflyru'r Corff
Mae'r dosbarth hwn ar gyfer y rhai sy'n awyddus i wella cryfder ac i ffyrfhau’r corff. Mae'n cynnwys ymarfer craidd, cylched a chyfnodol ac mae'n addas i'r rhai sy'n chwilio am ddosbarth lefel canolradd.
Bwtcamp
Dosbarth ffitrwydd grŵp sy'n hyrwyddo colli braster, cryfhau'r cyhyrau a ffitrwydd cyffredinol yw bwtcamp. Mae'n fuddiol i bawb, waeth beth yw eich oedran, eich gallu neu eich profiad. Gan ddefnyddio neidiau gwasg, ymwthiadau a chyrcydau, ynghyd â gemau rhedeg a chystadleuol, mae boot camp yn weithgaredd ardderchog i gynnal corff a meddwl iach.
Bocsymarfer
Mae hon yn rhaglen ymarfer corff egni uchel, di-gyswllt sy’n targedu braster gan ddefnyddio cyfuniad o symudiadau bocsio ac erobeg. Mae'n hwyl, yn ysgogol ac yn ffordd ddiogel o wneud ymarfer corff ar gyfer dynion a menywod o bob oed a gallu.
Ymarfer Ymladd Cardio
Dyma ymarfer corff cardio egni uchel i gerddoriaeth, sy'n cymysgu dyrnu a chicio gyda rhai ysbeidiau o ffyrfhau. Mae hwn yn ddosbarth delfrydol ar gyfer cynyddu gallu cardio a stamina, yn ogystal â gwella cydbwysedd, osgo ac ystwythder.
Cylchedau
Os ydych yn hoffi'r syniad o ychwanegu amrywiaeth i'ch ymarfer, dosbarthiadau cylched yw'r ateb perffaith. Gan weithio i’ch gallu eich hun, mae cylchedau yn ddosbarth sy'n seiliedig ar orsafoedd, ller ydych yn symud o ymarfer corff i ymarfer corff gan adeiladu eich cryfder a'ch dygnwch. Mae ein dosbarthiadau yn amrywio o ran lefelau gallu, felly dewch o hyd i'r dosbarth sy'n gweddu orau i'ch sefyllfa drwy ffonio'ch canolfan leol.
FIT 4 Life
Mae hwn yn ddosbarth ymarfer corff ysgafn effaith isel sy'n ddelfrydol ar gyfer y rhai sy'n newydd i ddosbarthiadau neu'n dychwelyd i ymarfer corff. Ffordd gymdeithasol o ymarfer corff ac mae'n addas i ddechreuwyr llwyr.
FIT Easyline
Naw peiriant ymarfer corff hydrolig mewn cylched sy'n cynnig cyfuniad o ymarfer corff cardio a chryfder gyda chyfradd uchel o losgi calorïau.
FIT Kettlebells
Naw peiriant ymarfer hydrolig ynghyd â phwysau tegell mewn cylched sy'n cynnig cyfuniad o hyfforddiant cardio a chryfder i chi gyda chyfradd uchel o losgi calorïau.
FIT Mix
Dyma'r dosbarth i'r rhai ohonoch sydd am ychydig o amrywiaeth o ran eich ymarfer corff. Mae'r dosbarth hwn yn newid rhwng ymarfer corff erobig a chamu, ynghyd â chymysgedd o ymarfer corff ffyrfhau. Mae'n addas ar gyfer pob oedran a lefel gallu.
Pwysau Tegell
Mae Pwysau Tegell yn bwysau haearn bwrw neu ddur (sy'n debyg i bêl canon gyda handlen) a ddefnyddir i wneud ymarfer corff sy'n cyfuno pŵer a chryfder i adeiladu stamina a chyfanswm cryfder y corff.
Legs, Bums and Tums
The class consists of a range of exercises that will focus on these three areas. It is suitable for all fitness levels and will help those of all abilities to tone up and build strength.
Pilates
Mae Pilates yn gwella hyblygrwydd, yn adeiladu cryfder, yn datblygu rheolaeth a dygnwch. Mae'r dosbarth hwn yn rhoi pwyslais ar alinio, anadlu a gwella cydsymud a chydbwysedd. Mae'n addas i bob gallu.
Pwmpio
Mae hwn yn ddosbarth ffyrfhau statig gan ddefnyddio bar a phwysau rhydd. Mae'n ardderchog ar gyfer ffyrfhau'r corff ac yn addas ar gyfer pob gallu. Os ydych yn newydd i Bwmpio FIT, archebwch le ar y dosbarthiadau dechreuwyr.
Sbinio
Mae sbinio’n cymryd beic arferol ac yn caniatáu i chi ymarfer corff dan do mewn lleoliad grŵp i drac sain gwych. Gall dechreuwyr ymarfer ochr yn ochr â beiciwyr mwy datblygedig, oherwydd y gellir amrywio dwyster yr ymarfer trwy addasiadau hawdd ar y beic.
Camu
Mae hwn yn ddosbarth ffitrwydd egni uchel, ffitrwydd y corff cyfan, lle’r ydych yn gwneud ystod o symudiadau erobig gan ddefnyddio llwyfannau camu i wella eich ymarfer corff. Mae’r dosbarth yn addas i bob oed a gallu ffitrwydd.
Tai Chi
Mae Tai Chi yn ddull cyfannol o ymarfer corff sy'n canolbwyntio ar osgo, anadlu a chydbwysedd. Mae'r dosbarth hwn yn addas i bob oed a gallu.
Sbin Rhithwir
Dilynwch y DVD tra ar y beic am ddewis amgen hwyliog i'r amgylchedd dan do traddodiadol. Gall cyfranogwyr ymarfer i'w gallu eu hunain gan amrywio dwyster yr ymarfer trwy addasiadau hawdd ar y beic.
Ioga
Dosbarth y meddwl a’r corff, sydd wedi'i gynllunio i wella eich cryfder a'ch hyblygrwydd. Dosbarth lefel canolradd yw hwn.
Zumba
Dyma ddosbarth coreograffedig sy'n cynnwys hip-hop, samba, salsa, merengue, mambo, cyrcydau a hergydiau. Does dim symudiad anghywir yn Zumba, i gyd sydd rhaid gwneud yw cadw eich corff yn symud a chael hwyl! Mae'r dosbarth hwn yn addas ar gyfer pob gallu.

This post is also available in: English