Canolfan Chwarae Premier Sir Fynwy
Addas ar gyfer oedrannau: Babanod a Phlant Ifanc Iawn (0-3), Plant Ifanc (4-8) a Phlant Hŷn (9-11).
Dringwch i uchelfannau newydd gyda Chanolfan Chwarae Premier Trefynwy, gyda drysfa ddringo gyffrous 3 llawr, yn cynnwys system unigryw amseru trechu’r cloc. Mae hefyd ardal benodol (amgaeedig) ar gyfer plant ifanc.
Gall oedolion ymlacio yn ein ardal eistedd sydd ag aer-dymheru gan fwynhau coffi Costa ffres o’n caffe sy’n gweini bwyd ffres bob dydd. Mae parcio a Wifi AM DDIM hefyd ar gael.
Mae’r Ganolfan Chwarae ar agor saith diwrnod yr wythnos (heblaw gwyliau banc) rhwng 10:00 am a 6:00pm o ddyddiau Llun i ddyddiau Sul.
Prisiau:
Plant 3-11 oed: £4.25
Plant Ifanc (12-35 mis oed): £3.00
Babanod (dan 1 oed): AM DDIM
Sesiynau Chwarae Meddal Awr Dawelach Cynhwysol
Cynhelir ein Sesiynau Chwarae Meddal Awr Dawelach Cynhwysol yn wythnosol ar ddydd Sadwrn a dydd Sul 9-10am.
Mae’r sesiynau hyn ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n profi cyflyrau niwroamrywiaeth a/neu sydd â nam neu anabledd ond sy’n gallu cerdded yn eu symudiadau gyda chymorth cyfyngedig.
Yn ystod y sesiwn awr o hyd ni fydd unrhyw gerddoriaeth a bydd y goleuadau’n cael eu pylu.
Mae sesiwn dydd Sadwrn ar gyfer plant dan 11 oed.
- Mae sesiwn dydd Sul 9-10am ar gyfer pobl ifanc 12–17 oed.
- Dan 3 oed – £3.50.
- Dros 3 oed – £4.65.
- Mae croeso i frodyr a chwiorydd sy’n briodol i’w hoedran.
- Nid oes angen archebu lle, dim ond dod draw.
- Mae bwyd a diod ar gael yn ein caffi.
I wneud ymholiadau uniongyrchol am barti pen-blwydd neu logi preifat, cliciwch yma. I gysylltu â Chanolfan Hamdden Trefynwy, e-bostiwch, neu ffonio 01600 775135.
Dilynwch Ganolfan Hamdden Trefynwy ar Twitter a Facebook i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau a chynigion.
This post is also available in: English