Nofio am ddim Gofal Maeth
YN DOD CYN BO HIR! – Dyddiad lansio i’w gadarnhau, dewch nôl i’r dudalen hon am ragor o ddiweddariadau…
Rydym wrth ein bodd o gyflwyno menter newydd anhygoel gan MonLife a Chyngor Sir Fynwy – sef Nofio am ddim Gofal Maeth! Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr y rôl eithriadol rydych chi’n ei chwarae yn ein cymunedau, gan ddarparu cariad a chefnogaeth i blant mewn angen. Rydym yn eich gwahodd chi, eich plant a’ch plentyn/plant sy’n derbyn gofal i fwynhau sesiynau nofio am ddim yn ein pyllau nofio MonLife yn ystod ein hamseroedd nofio cyhoeddus.
Gyda’r Nofio am ddim Gofal Maeth, mae gennych gyfle unigryw i blymio i fyd o fwynhad dyfrol heb unrhyw gost. Rydym yn deall pwysigrwydd bondio teuluol a’r effaith gadarnhaol y gall gweithgareddau llawn hwyl ei chael ar adeiladu perthnasoedd cryf. Dyna pam rydym am gynnig cyfle i chi a’ch anwyliaid greu atgofion parhaol a phrofi’r llawenydd o nofio gyda’ch gilydd.
Yn MonLife, rydym wedi ymrwymo i greu amgylcheddau cynhwysol a chefnogol i bawb yn ein cymuned. Rydym yn gwahodd gofalwyr maeth i fanteisio ar y cyfle gwych hwn i gysylltu â’u teuluoedd a chael ymdeimlad iach o les a chreu atgofion parhaol.
Ymunwch â ni am nofio am ddim a phrofwch y llawenydd o hwyl i’r teulu gyda MonLife!
This post is also available in: English