Joel Hamer - Monlife

Cynllun Cyswllt Teithio Llesol Cil-y-coed a Llwybr Amlddefnydd – Cwestiynau ac Atebion

Cynlluniwyd cynllun teithio llesol Cyswllt Cil-y-coed i greu rhwydwaith integredig o lwybrau rhannu defnydd, sy’n cysylltu ardaloedd preswyl presennol ac ar y gweill yn nwyrain Cil-y-coed a’r cylch gyda chyrchfannau lleol a thrafnidiaeth gyhoeddus. Y nod yw galluogi preswylwyr i ddefnyddio teithio llesol ar gyfer teithiau lleol a chysylltu gyda rhwydweithiau ehangach teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus  Glannau Hafren drwy adeiladu llwybrau ansawdd uchel a chyfleus ar gyfer cerdded, olwyno a seiclo.

Cynllun Cyswllt Teithio Llesol Cil-y-coed

Mae cynllun Cyswllt Cil-y-coed yn canolbwyntio ar ogledd a dwyrain Cil-y-coed. Rhannwyd y cynllun yn dair adran wahanol* (gweler y cynllun isod):

  • Rhan 1: Yn rhedeg ar hyd llwybr hen reilffordd y Weinyddiaeth Amddiffyn yn Dinham, o ychydig i’r de o’r Cae Gwenith ym Mhorthysgewin i gyrion Parc Gwledig Castell Cil-y-coed;
  • Rhannau 2 a 3: O gyrion y parc gwledig i’r gogledd i Crug, gan groesi gogledd ddwyrain safleoedd datblygu Cil-y-coed a ddangosir isod mewn brown. Mae’r safleoedd datblygu a ddynodir yn cynnwys ardaloedd a gedwir fel mannau gwyrdd ac ni fydd adeiladu arnynt.
  • Rhan 4, y Llwybr Amlddefnydd – Yn rhedeg drwy’r Parc Gwledig yn cysylltu Heol yr Eglwys i’r gorllewin gyda Rhannau 1, 2 a 3 a Heol Cil-y-coed i’r dwyrain.

*Caiff adrannau o’r cynllun eu cyflwyno fel y bydd cyllid a chyfyngiadau eraill yn caniatáu, h.y. nid o reidrwydd mewn trefn rifyddol.

Rhan  1: Rydym ar fin dechrau ar y cam adeiladu gyda phenodi contractwr adeiladu, Horan Construction Limited. Mae Horan wedi dechrau gwaith yn sefydlu’r safle gwaith dros dro ym Mharc Gwledig Castell Cil-y-coed, gyda’r gwaith o adeiladu’r adran 1km o hyd ar hyd yr hen reilffordd yn dechrau o ddifri yn y Flwyddyn Newydd o ddechrau Ionawr ac sydd i orffen ym mis Mai 2024.

Pan fydd y gwaith yn mynd rhagddo ar adeiladu’r adran hon, bydd angen cau’r hen reilffordd i’r cyhoedd am resymau iechyd a diogelwch a bydd yn cynnwys cau dros dro y llwybr troed cul yn y pen gogledd-orllewinol sy’n cysylltu gyda’r stad ddiwydiannol (Hawl Tramwy Cyhoeddus rhif 354/12/1 (rhan), 354/13/1, 376/10/7, 376/10/6 (rhan)).

I baratoi ar gyfer adeiladu, cafodd gwaith clirio tyfiant ei wneud eisoes yn ystod cyfnod ecolegol i glirio ardaloedd ar gyfer tair ramp mynediad a’r prif lwybr. Yn ychwanegol, cafodd llawer o goed ynn eu cwympo gan y dynodwyd eu bod yn risg i ddefnyddwyr y llwybr ac i’r pontydd priffordd presennol yn bennaf oherwydd haint gyda chlefyd coed ynn, oedd wedi gadael y coed mewn risg sylweddol o fethiant strwythurol. I wneud iawn am hyn, gweithredir cynllun ailblannu helaeth unwaith y cwblhawyd yr holl waith adeiladu er mwyn rhoi budd net i fioamrywiaeth  ac arwain at frigdwf mwy cydnerth ar hyd y llwybr ar gyfer y dyfodol.

Ddechrau mis Rhagfyr cynhaliwyd helfa sbwriel gymunedol ar hyd yr adran hon o’r Cyswllt, gyda 17 o wirfoddolwyr yn helpu i lenwi 50 sach sbwriel a chreu nifer o bentyrrau o sbwriel mwy gydag eitemau a daflwyd dros sawl degawd.

Rhan 2 a 3: Bydd Cyngor Sir Fynwy yn cynnal astudiaeth yn y dyfodol agos yn edrych ar yr opsiynau sydd ar gael ar gyfer datblygu’r llwybr i ogledd y parc gwledig, gan ystyried holl gyfleoedd a chyfyngiadau’r ardal hon.

Rhan 4:   Llwybr Amlddefnydd: Penododd Cyngor Sir Fynwy yr ymgynghorwyr Sustrans i gynnal Adolygiad Opsiynau Llwybr gyda rhanddeiliaid allweddol yn dilyn adborth dechreuol ar gynigion llwybr drwy’r parc gwledig. Unwaith y bydd hyn wedi ei gwblhau, bydd Cyngor Sir Fynwy yn barod i ddechrau’r broses dylunio a chaniatâd llawn dros y llwybr a ffefrir dros y flwyddyn i ddod.

Pam canolbwyntio ar ogledd a dwyrain Cil-y-coed?

Mae’r cynllun yn anelu i wella mynediad cynaliadwy i wasanaethau, siopau a safleoedd addysg a chyflogaeth o amgylch Cil-y-coed. Mae cynhyrchu teithiau yn gysylltiedig â’r datblygiad preswyl arfaethedig yn nwyrain a gogledd Cil-y-coed yn ogystal â’r angen i liniaru tagfeydd yn gysylltiedig gyda safleoedd cyflogaeth lleol a phontydd di-doll yr Hafren yn rhoi ysgogiad ychwanegol i’r cynllun, gan fod hwn yn gyfle i wneud teithio llesol y dull a ffefrir ar gyfer teithiau lleol ar gyfer preswylwyr hen a newydd fel ei gilydd.

Mae cynllun Cyswllt Cil-y-coed a gyflwynir mewn camau yn canolbwyntio ar ddwyrain Cil-y-coed, yn cynnwys cysylltu gyda datblygiadau tai oddi ar Heol yr Eglwys a Heol Crug i sicrhau fod gan breswylwyr cyfredol a phreswylwyr y dyfodol opsiynau trafnidiaeth cyfleus, iach a chynaliadwy, i leihau a rheoli effaith traffig ffordd poblogaeth gynyddol a chyfeirio preswylwyr ac ymwelwyr i ganol y dref fel cyrchfan leol.

Isod mae manylion ein Map Teithio Llesol ar gyfer Cil-y-coed, yn dangos faint o amser y byddai’n ei gymryd fel arfer i  deithio yn yr ardal leol. Bydd yr ardaloedd datblygu lleol, a ddangosir mewn brown, yn cynnwys parseli o fannau gwyrdd (h.y. mae’r safleoedd a ddangosir yn cynnwys ardaloedd na fydd adeiladu):

Beth yw teithio llesol?

Mae teithio llesol yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio cerdded, olwyno neu seiclo i gyrchfan y mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn eu disgrifio fel “teithiau pwrpasol”. Nid yw’n cynnwys teithiau a wneir yn llwyr ar gyfer hamdden er y gallai wella gweithgareddau hamdden yn sylweddol drwy helpu i gysylltu’r rhwydweithiau. Gellir defnyddio Teithio Llesol i fynd i’r ysgol, gwaith, gwasanaethau a siopau, neu fel un o nifer o ddulliau teithio ar daith hirach – er enghraifft, cerdded i’r orsaf i ddal bws neu drên. Ffocws strategaeth teithio llesol Cyngor Sir Fynwy yw teithiau o dair milltir neu lai, sy’n golygu gwella seilwaith cerdded a seiclo o fewn cymunedau a rhwng aneddiadau cyfagos tebyg i Gil-y-coed, Porthysgewin a Crug, fel y gall teithio llesol fod yn ddewis naturiol ar gyfer teithiau lleol. Mae Cyngor Sir Fynwy hefyd yn anelu i weithio cysylltiadau teithio llesol i drafnidiaeth gyhoeddus, i gefnogi teithio cynaliadwy ar draws y sir.

Sut y caiff cynllun Cyswllt Cil-y-coed ei ariannu?

Caiff Cyswllt Teithio Llesol Cil-y-coed a’r Llwybr Amlddefnydd eu hariannu drwy grantiau Llywodraeth Cymru sydd wedi eu hanelu at welliannau i ddulliau trafnidiaeth gynaliadwy.

Sut y caiff tynnu coed ar hyd y llwybr teithio llesol ei liniaru?

Wrth adeiladu Rhan 1, cafodd coed a thyfiant eu clirio i wneud lle ar gyfer y llwybr a’i rampiau mynediad. Dim ond faint oedd angen i sicrhau fod yr hen reilffordd yn ddiogel ar gyfer defnyddwyr presennol a galluogi adeiladu’r llwybr Teithio Llesol tra’n diogelu bywyd gwyllt ar y safle a gafodd ei glirio. Bydd plannu coed a pherthi brodorol i wneud iawn unwaith y cafodd y gwaith adeiladu ei gwblhau yn cyflwyno brigdwf cydnerth a mwy amrywiol gan ddod âӏ budd net i fioamrywiaeth leol ar ôl yr ymyriad.

Disgwylir y bydd y llwybrau teithio llesol gwell yn cynyddu cyfleoedd lleol ar gyfer cerdded, olwyno a seiclo a dylai hynny gael effaith gadarnhaol hirdymor ar yr amgylchedd a bioamrywiaeth lleol fel y’i disgrifir yn Nghanllawiau y Ddeddf Teithio Llesol.

Pam na all seiclwyr ddefnyddio’r ffordd?

Gallai llawer o deithiau byr mewn car gael eu gwneud drwy deithio llesol yn lle hynny. Mae syniad o berygl oherwydd traffig ffordd yn rhwystr allweddol sy’n atal mwy o bobl rhag teithio llesol, ac mae lefelau isel o seiclo er y rhwydwaith ffordd gynhwysfawr yn dangos nad yw seiclo ar y ffordd yn opsiwn ymarferol i lawer. Mae’r cynllun yn manteisio ar y cyfle i wella hygyrchedd llwybrau oddi ar y ffordd sy’n fwy tebygol o gynnig dewis deniadol a diogel yn lle gyrru ar gyfer ystod ehangach o bobl, gan gynyddu’r awydd am deithio llesol tra’n cwtogi nifer y teithiau byr a wneir mewn ceir.

Cysylltwch â ni

Os hoffech gysylltu â thîm y prosiect, e-bostiwch ActiveTravel@monmouthshire.gov.uk


Arddangosfa Newydd yn Amgueddfa Neuadd y Sir

Drwy gydol mis Ionawr, mae arddangosfa newydd wedi’i harddangos yn Neuadd y Sir i ddathlu ei hanes dros 300 mlynedd. Yr arddangosfa hon yw’r gyntaf o lawer o arddangosfeydd newydd a arddangosir yn Amgueddfa newydd Neuadd y Sir.

Ochr yn ochr â’r arddangosfa, bydd tîm Neuadd y Sir yn ymgysylltu â’n cymunedau lleol ac yn siarad ag ymwelwyr i ddeall pa bynciau a themâu y maent am eu gweld yn yr amgueddfa. Bydd yr holl adborth yn cael ei ddefnyddio i greu’r Cynllun Dehongli a fydd yn llywio dyluniad a phrofiad ymwelwyr â’r amgueddfa.

Yn ogystal â’r arddangosfa, gall ymwelwyr weld yr adolygiadau diweddar o’r casgliadau a gynhaliwyd ar draws amgueddfeydd MonLife.

Wedi’i ariannu gan Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, mae’r gwaith hwn yn cefnogi symud casgliadau Nelson a Threfynwy i’w cartref newydd yn Neuadd y Sir. Mae’r grant yn ychwanegiad cadarnhaol i’w groesawu, yn enwedig gyda’r pwysau cynyddol ar wasanaethau diwylliannol oherwydd cyllidebau sy’n cael eu cwtogi. Bydd y gwaith yn helpu i lunio dyfodol cynaliadwy i’r amgueddfa. Bydd ymwelwyr yn cael cyfle i bleidleisio ar y gwrthrychau a’r themâu allweddol sy’n ymwneud â’r Arglwydd Nelson, a fydd yn llywio’r arddangosfeydd yn yr amgueddfa newydd yn y dyfodol.

Mae’r holl waith hwn wedi bod yn rhan o’r prosiect ‘Casgliadau Deinamig – Agor y Bocs’ y mae’r amgueddfa wedi bod yn ei gyflawni drwy gydol 2023. Ar ôl adolygu casgliad Nelson, nododd y tîm gasgliad o arwyddocâd cenedlaethol. Dyma nawr yw eich cyfle i roi adborth ar yr hyn sy’n bwysig i chi o fewn y casgliad.

Dywedodd y Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu: “Mae’r arddangosfa newydd yn yr Amgueddfa yn gyfle gwych i gymunedau lleol ac ymwelwyr â Threfynwy ddysgu mwy am hanes adeilad mor eiconig yng nghanol y dref. Rydym am ddarparu gofod lle gall pawb ddysgu am eu hanes lleol tra’n  gweld arddangosfeydd y maent am eu gweld. Ewch i’r arddangosfa i ddysgu mwy am y gwaith gwych sy’n cael ei wneud yn Amgueddfeydd MonLife.”

Dysgwch fwy am yr hyn sy’n digwydd yn Neuadd y Sir yma: https://www.monlife.co.uk/cy/heritage/the-shire-hall/


Mae gwaith yn mynd rhagddo ar Lwybr Teithio Llesol Lôn Cae Williams i Bont Mynwy

Gan ddechrau ar y 22ain Ionawr, bydd Cyngor Sir Fynwy yn dechrau gweithio ar lwybr teithio llesol newydd, Llwybr Teithio Llesol Lôn Cae Williams i Bont Mynwy.

Ariennir y prosiect hwn gan Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru a Chronfa Dyrannu’r Gronfa Lles Craidd, a’i nod yw datblygu llwybr teithio llesol newydd sbon yn Nhrefynwy.

Mae’r llwybr hwn yn rhan hanfodol o’r rhwydwaith Teithio Llesol cynhwysfawr. Bydd yn darparu mynediad uniongyrchol i Bont Mynwy a’r gwasanaethau a’r cyfleusterau yng nghanol y dref. Bydd y llwybr yn cysylltu Lôn Cae Williams â chanol tref Trefynwy drwy Heol Wonastow a Stryd Drybridge. Bydd hefyd yn darparu cysylltiadau o barc sglefrio Heol Rockfield i ganol y dref.

Bydd y gwaith sy’n cael ei wneud yn gweld nifer o newidiadau ar hyd y llwybr. Maent yn cynnwys:

  • Lledu’r droedffordd bresennol ar ochr ogleddol Heol Wonastow i gynnwys llwybr troed/beic a rennir (bydd dwy lôn ar gyfer traffig yn cael eu cynnal).
  • Gosod cyffordd â blaenoriaeth (cyffordd T) yn lle’r gylchfan fach bresennol yn Heol Wonastow /Rockfield.
  • Darparu croesfan i gerddwyr ar Heol Wonastow a Heol Rockfield.
  • Lledu’r droedffordd bresennol ar Heol Rockfield o’r gyffordd flaenoriaeth newydd i barc sglefrio Trefynwy. Bydd traffig dwy ffordd yn cael ei gynnal, ac ni fydd yn effeithio ar safleoedd bysiau.
  • Lledu rhan fer o’r llwybr troed presennol ar hyd Stryd Drybridge ger cylchfan Pont Mynwy
  • Cael gwared ar rannau o barcio ar y stryd ar hyd Heol Wonastow i ddarparu’r llwybr yn unol â Chanllawiau’r Ddeddf Teithio Llesol.
  •  

Disgwylir i’r gwaith barhau am 12 wythnos, gyda’r nod o orffen erbyn canol mis Ebrill 2024. Bydd y llwybr hwn yn darparu cysylltiadau â lleoliadau addysg, megis Ysgol Gynradd Overmonnow ac Ysgol Gyfun Trefynwy, a bydd yn gyswllt canolog â chanol y dref a’i chyfleusterau. Bydd angen goleuadau traffig dros dro ar gyfer y gwaith ac maent wedi’u trefnu gan ystyried gwaith ffordd arall sydd wedi’i gynllunio yn yr ardal i leihau’r effaith.

Os hoffech fwy o fanylion am y rhaglen waith gyflawn yn Nhrefynwy, ewch i https://www.monlife.co.uk/williams-field-lane-to-monnow-bridge-active-travel-route/.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Maby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Mae hwn yn gam cyffrous yn natblygiad Llwybr Teithio Llesol yn Nhrefynwy. Bydd ehangu llwybrau troed yn darparu llwybr mwy diogel i feicwyr a cherddwyr wrth iddynt teithio o gwmpas Trefynwy.”


MonLife yn dod yn ‘Ganolfan Ragoriaeth’ ar gyfer y Sefydliad Sgiliau Arwain.

Mae tîm Datblygu Chwaraeon BywydMynwy wedi’i enwi’n Ganolfan Ragoriaeth gan y Sefydliad Sgiliau Arwain am gyflwyno Gwobr PlayMaker i ddisgyblion Blwyddyn 5 ar draws holl ysgolion cynradd Sir Fynwy.

Mae’r statws yn cydnabod bod Datblygiad Chwaraeon BywydMynwy wedi rhagori yn sgil yr arweinyddiaeth y mae’n cynnig a’n hyrwyddo’r neges o gredu, arwain a llwyddo drwy ei ddarpariaeth o ansawdd uchel. Dyfernir statws Canolfan Ragoriaeth i’r 2% uchaf o’r 2,500 o ganolfannau.

Children playing. Children placing a ball on a sports cone

Ar ôl cyflwyno Gwobr ‘PlayMaker’ ers 2017/18, mae’r tîm wedi darparu’r hyfforddiant i fwy na 5,500 o ddisgyblion, gyda 100% o ysgolion yn cymryd rhan yn y rhaglen.

Nod Gwobr PlayMaker yw cefnogi pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau arwain a darparu’r wybodaeth a’r sgiliau i gynllunio a threfnu darpariaeth chwaraeon yn eu hysgol. Mae hyn yn galluogi pobl ifanc i greu gweithgareddau y gallant eu cyflwyno yn ystod amser egwyl ac amser cinio yn ddiogel. Drwy gyfrwng y Wobr PlayMaker, bydd y disgyblion yn ennill sgiliau cyfathrebu beirniadol, arwain, trefnu a gwydnwch.

Gwobr PlayMaker yw man cychwyn disgyblion ar y llwybr arweinyddiaeth Datblygu Chwaraeon. Ar ôl cwblhau’r wobr hon, mae potensial i ddisgyblion symud ymlaen i gynllun Llysgenhadon Efydd Blwyddyn 6 ac yn ddiweddarach i Academïau Arwain Ysgolion Uwchradd. Mae’r llwybr yn cynnwys Blwyddyn 5 ac uwch ac yn darparu’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i fyfyrwyr ddilyn cyfleoedd cyflogaeth ôl-16.

Dywedodd y Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu Cyngor Sir Fynwy: “Mae hyn yn newyddion gwych i’r tîm gael eu cydnabod am eu hymroddiad. Mae’r tîm Datblygu Chwaraeon yn sicrhau bod disgyblion yn arwain ffordd o fyw egnïol ac yn ennill medrau allweddol mewn cyfathrebu, arweinyddiaeth a threfniadaeth. Bydd y sgiliau hyn yn caniatáu iddynt ddatblygu yn yr ysgol ac wrth ymuno â’r byd gwaith.”

Am fwy o wybodaeth am raglenni Datblygu Chwaraeon, neu i gysylltu â’r tîm, e-bostiwch sport@monmouthshire.gov.uk


Gall pawb helpu darlunio dyfodol gweledigaeth y celfyddydau yn Sir Fynwy

Ann Sumner a Beth McIntyre yn cyfarfod ag Emma Bevan-Henderson, Cadeirydd cyfarfod Gŵyl Gelf y Fenni yn Oriel Makers Crafts yn y Fenni

Mae gennym ddiweddariadau cyffrous sy’n gysylltiedig ag ymchwil Prosiect Mapio Celfyddydau Gweledol Sir Fynwy. Trefnwyd y gwaith hwn drwy bartneriaeth Caerdydd Creadigol gyda MonLife fel rhan o brosiect Hybiau Clwstwr y Diwydiannau Creadigol.

  1. Cyfle Comisiynu

      Mae Caerdydd Creadigol, sydd mewn partneriaeth ag Awdurdodau Lleol yn Sir Fynwy, Casnewydd a Rhondda Cynon Taf, wrthi’n ceisio comisiynu naw artist i gynhyrchu darn o waith ar thema creadigrwydd, cymuned ac arloesedd lleol. Mae’r cyfle hwn yn cael ei ddarparu fel rhan o brosiect Hybiau Clwstwr y Diwydiannau Creadigol. Nodwch y gall darnau sydd wedi’u comisiynu fod yn amlddisgyblaethol ar draws amrywiaeth o gyfryngau creadigol, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i: celfyddydau gweledol, cerflunwaith, fideo, geiriau llafar/ysgrifenedig, tecstilau, perfformiad, dawns, gosodiad ac ati.

      Rhaid i ymgeiswyr fod yn byw neu’n gweithio yn Sir Fynwy, Casnewydd neu Rhondda Cynon Taf.  Mae Caerdydd Creadigol yn gobeithio comisiynu tri artist o Sir Fynwy gyda hyd at £1000 ar gael i bob artist.  Y dyddiad cau yw’r 31ain Ionawr 2024 a gellir dod o hyd i’r wybodaeth ar wefan Caerdydd Creadigol: sef https://creativecardiff.org.uk/creative-cardiff-artist-commission

  • FREE Creative Cuppas, a letyir gan The Borough Theatre yn y Fenni ac a ddarperir gan Caerdydd Creadigol

       Dydd Iau 25ain Ionawr am 10.00am

       Gwneud mannau gwaith yn hygyrch i bobl greadigol niwrowahanol gyda’r cynhyrchydd, Tom Bevan. Mae Tom yn gynhyrchydd theatr a digwyddiadau byw llawrydd o Gaerdydd.  Mae ganddo Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd a Dyslecsia ac mae eisiau creu gofodau lle gall pobl greadigol niwrowahanol ddod at ei gilydd ac adeiladu undod, cefnogaeth a chydweithio. Ers mis Hydref 2023, mae wedi bod yn cynnal man agored er mwyn i bobl greadigol, cynhyrchwyr ac artistiaid niwrowahanol sy’n gweithio yn y sector diwylliannol yn Ne Cymru ddod at ei gilydd i weithio a chysylltu.

      Creative Cuppa: Ionawr (Sir Fynwy) | Caerdydd Creadigol

       Dydd Iau 22ain Chwefror 2024 am 10.00am

       Creu cynnwys digidol gydag Amy Pay, newyddiadurwr, ysgrifennwr copi ac ymgynghorydd creadigol hynod brofiadol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.  Gyda chefndir amrywiol ym maes cyfryngau print, darlledu a newyddiaduraeth ddigidol, mae’n defnyddio’i sgiliau i helpu pobl i gyfleu eu straeon trwy eiriau, strategaeth a syniadau creadigol. Mae hi wedi gweithio gyda chleientiaid bach a mawr, gan gynnwys Lonely Planet, Croeso Cymru, The Telegraph, yr Evening Standard a The Guardian, gydag arbenigeddau gan gynnwys teithio yn y DU, busnesau bach, coffi arbenigol a diwydiannau creadigol. Gweler y ddolen isod i ddarllen mwy o fanylion ac archebu eich lle:

https://creativecardiff.org.uk/creative-cuppa-february-monmouthshire

       Dydd Iau 21ain Mawrth 2024 am 10.00am

       Adeiladu Hyder wrth weithio yn y diwydiannau creadigol; cyflwyniad gan Richard Holman. Dechreuodd ei yrfa gyda’r BBC cyn mynd ymlaen i sefydlu un o asiantaethau hysbysebu a dylunio bwtîc uchaf ei barch y DU.  Heddiw mae’n gweithio fel awdur, siaradwr a hyfforddwr. Mae’n credu bod angen creadigrwydd ac arloesedd ar y byd nawr yn fwy nag erioed, a dyna pam ei fod wrth ei fodd yn gweithio gydag unigolion a thimau i fagu eu hyder a gwneud syniadau gwell a dewrach.  Gweler y ddolen isod am y digwyddiad hwn ac i archebu eich lle:

https://creativecardiff.org.uk/cy/paned-i-ysbrydoli-mawrth-sir-fynwy

I gael y newyddion diweddaraf a diweddariadau ar ddigwyddiadau neu ar sut i gyfrannu at y prosiect hwn, ewch i: https://www.monlife.co.uk/heritage/

Dywedodd y Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu: “This is such an exciting time for arts in Monmouthshire, I look forward to hearing everyone’s creative ideas and input. It will be great to see the development of a clear vision and collective goal for the future. I can’t wait to learn and see the opportunities that will come from this project and the success it will bring in developing a creative economy in Monmouthshire.”

Am y tîm: Mae Beth McIntyre, sy’n hanu o Drefynwy ac Ann Sumner wedi cydweithio ers blynyddoedd lawer, ar ôl cyfarfod am y tro cyntaf fel cydweithwyr yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Mae Ann yn gyn Bennaeth Celfyddyd Gain ac roedd Beth yn Uwch Guradur (Celfyddyd Gain – Printiau a Darluniau) yn yr amgueddfa. Gyda’i gilydd, mae ganddynt brofiad helaeth o ymchwilio a chwmpasu prosiectau, arwain ymgynghoriadau, trefnu digwyddiadau rhwydweithio a gweithio gydag artistiaid.


Tokyo Stories: 25/06/23

Tokyo Stories:

Mae ‘Tokyo Stories’ yn ffilm Arddangosfa ar Sgrin newydd sydd i’w dangos yn Drill Hall, Cas-gwent ar ddydd Iau 25ain Mai 7.30pm, ac mae’n dechrau gyda sioe fawr yn yr Ashmolean yn Rhydychen gan bontio 400 mlynedd o gelf o’r printiau blociau pren o Hokusai a Hiroshige, i bosteri ‘Pop Art’, lluniau cyfredol, Manga, ffilm a gwaith celf hollol newydd sydd wedi ei greu ar y strydoedd. Roedd yr arddangosfa yn hynod boblogaidd, gan dderbyn pum seren. Ond mae’r ffilm yn mynd ymhellach ac yn defnyddio’r arddangosfa fel cyfle i’n lansio ni i Tokyo gan fynd â’r gynulleidfa ar daith yn archwilio celf ac arlunwyr y ddinas, ac mae’n cynnwys rhai o’r gorffennol a’r rhai presennol.

Mae hyn yn cael ei ddangos yn hyfryd mewn ffilm hynod gyfoethog, sydd yn ystyried dinas sydd wedi ei difa a’i hadnewyddu’n barhaus dros 400 mlynedd, gan arwain at un o’r dinasoedd mwyaf hyfyw a diddorol ar y blaned. Mae’n olrhain storïau arlunwyr a’r bobl sydd gwneud Tokyo yn adnabyddus am y brwdfrydedd diderfyn ar gyfer pethau newydd ac arloesol.

Mae’r ffilmiau Arddangosfa ar Sgrin yn cael eu dangos yn y Drill Hall gan, ac er mwyn cefnogi Amgueddfeydd Treftadaeth MonLife.

Archebwch docynnau ar-lein www.drillhallchepstow.co.uk Neu mae modd eu prynu ar y drws o 6.45pm.

Dyddiad:

Dydd Iau Mai 25ain

Amser:

7:30pm

Lleoliad:

Yn y Drill Hall, Rhan Isaf Stryd yr Eglwys, Cas-gwent

Pris:

£10


GADEWCH I NI SYMUD ar gyfer byd gwell …

GADEWCH I NI SYMUD ar gyfer byd gwell

Cefnogwch y frwydr yn erbyn ffyrdd llonydd o fyw drwy ymuno â’r ymgyrch symudiad cymdeithasol mwyaf yn y diwydiant ffitrwydd. Paratowch i gyfrannu eich “moves” o 14 i 31 mawrth 2023. Drwy gymryd rhan yn yr Ymgyrch ‘Gadewch i ni Symud ar gyfer Byd Gwell’, rydych yn ymrwymo i frwydro yn erbyn anweithgarwch corfforol a’r holl ganlyniadau afiechyd dilynol er mwyn cyfrannu at adeiladu byd gwell ac iachach. Er mwyn rhoi’r un cyfle i bawb, beth bynnag fo’u hoedran, rhyw a lefel eu gallu corfforol, mae Technogym wedi creu MOVE, ffordd newydd o fesur gweithgaredd corfforol sy’n cysylltu’r gymuned gyfan. Gyda dim ond 30 munud o weithgaredd corfforol 5 diwrnod yr wythnos, rydych yn lleihau’r risgiau sy’n gysylltiedig â gordewdra a chlefydau cronig, ac ar yr un pryd yn cyrraedd nodau pwysig eraill.

Ymunwch â’n Her

Fis Mawrth eleni, mae MonLife yn cydweithio â Technogym i gael Sir Fynwy’n symud. Rydym wedi sefydlu’r her ‘MOVEs’ drwy’r App ‘MyWellness’ (sydd ar gael ar yr App Store a Play Store) er mwyn i bawb ymuno a chymryd rhan ynddo! Y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw cwblhau 2000 MOVEs. Gallwch chi gwblhau’r her yn y gampfa, yn yr awyr agored neu yn ein dosbarthiadau troelli. Bydd yr holl aelodau sy’n cymryd rhan yn mynd i mewn i raffl am y cyfle i ennill aelodaeth o 12 mis. Yn ogystal, bydd yr holl aelodau sy’n casglu 5000 ‘MOVEs’, yn mynd i mewn i raffl i ennill nwyddau ‘Let’s Move’.

Sut i gasglu ‘MOVEs’

Mae’r Technogym® MOVE yn seiliedig ar ddadleoli’r corff yn y gofod, felly mae’n cynnig y modd gorau i fesur a chymharu lefelau gweithgaredd cyfranogwyr yn ystod yr Ymgyrch. Y cyflymaf ac yn amlach rydych yn symud, y mwyaf o ‘MOVEs’ rydych chi’n eu casglu. Dyma sut y gallwch gasglu eich ‘MOVEs’:
  • Dan Do Awtomatig ar offer cardiofasgwlaidd yng Nghanolfannau Hamdden MonLife (h.y. Melin Redeg, Beiciau, Vario, Syncro, Dringo, Llinell Sgiliau, Beicio Grŵp)

  • Dan Do Awtomatig ar offer ymwrthedd cysylltiedig o fewn Canolfannau Hamdden MonLife (h.y. Peiriant Gwasg y Frest, Peiriant Gwasg y Goes, Peiriant Gwasg yr Ysgwydd).
  • Traciwr Gweithgaredd GPS Awyr Agored yr App MyWellness
  • Dyfeisiau 3ydd Parti gyda chysylltedd GPS (e.e. – Garmin). Nodwch nad yw Fitbit nac oriorau Apple yn cynnig hyn.

Enillwch ar ran eich cymuned

Bydd y cyfleusterau sy’n casglu’r nifer angenrheidiol o MOVEs yn gallu rhoi offer i’r Sefydliadau neu Ysgolion o’u dewis er mwyn helpu i ymladd gordewdra a ffyrdd llonydd o fyw.

Gadewch i ni ymgysylltu â’ch cymuned i greu byd iachach!


Cyrraedd carreg filltir o ran y bont Teithio Llesol dros Afon Gwy yn Nhrefynwy

Argraff arlunydd o ddyluniad posibl ar gyfer y bont arfaethedig dros Afon Gwy yn Nhrefynwy
 

Mae cynigion am groesfan Teithio Llesol newydd dros Afon Gwy yn Nhrefynwy wedi cymryd cam mawr ymlaen. Mae’r cynllun arfaethedig ar gyfer pont i gerddwyr a beicwyr bellach wedi ei gyflwyno ar gyfer ei gynllunio.  Nod y prosiect, sy’n cael ei gefnogi gan Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, yw creu llwybr diogel newydd, sy’n cysylltu Trefynwy a Wyesham ac yn osgoi’r traffig cerbydau ar Bont Gwy brysur. Dylid nodi y bydd palmant presennol Pont Gwy yn aros os caiff y bont newydd ei hadeiladu.

Mae ‘Teithio Llesol’ yn disgrifio teithiau gyda phwrpas, megis i’r ysgol neu fan gwaith, ac wedi’u gwneud ar droed neu ar feic. Nid yw’r bont ffordd Gwy bresennol (A466) yn addas i ddibenion Teithio Llesol ac mae croesfan ar wahân heb gerbydau wedi cael ei datblygu gan Gyngor Sir Fynwy mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru, Sustrans, WSP, Cyngor Tref Trefynwy, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Ysgolion Haberdashers.

Mae modd gweld y cynlluniau, a gwneud sylwadau, ar y wefan gynllunio yma https://planningonline.monmouthshire.gov.uk/online-applications/?lang=CY drwy nodi’r cyfeirnod cais DM/2022/01800.  Mae cyfrifiaduron mynediad i’r cyhoedd ar gael yn llyfrgell Trefynwy os oes angen.

Dywedodd y Cynghorydd Sirol Sara Burch, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Deithio Llesol: “Rwy’n hynod hapus ein bod yn symud tuag at wireddu’r prosiect hwn. Bydd y bont newydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i bobl Trefynwy a Wyesham ac ymwelwyr â’n sir ni.   Bydd yn ei gwneud hi’n haws i gerdded neu feicio i’r gwaith yn y dref, ac i blant a phobl ifanc fynd i’r ysgol. Mae cwblhau’r prosiect hwn yn flaenoriaeth fel rhan o’n cynlluniau Teithio Llesol ac edrychaf ymlaen at allu diweddaru trigolion ymhellach, maes o law.  Mae cymaint o bobl wedi dweud nad oedden nhw’n teimlo’n ddiogel yn cerdded na seiclo dros y bont bresennol, mae’n iawn felly i’w wneud yn flaenoriaeth.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Sirol Catrin Maby, Aelod Cabinet Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Mae cefnogi Teithio Llesol yn rhan hanfodol o’n gwaith i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.  Bydd y bont newydd hon yn galluogi mwy o bobl i adael y car gartref a theithio ar droed neu ar feic i ffwrdd o’r traffig, gan wneud cymudo yn haws, yn fwy pleserus ac yn fwy ecogyfeillgar.”

Mae’r bont yn rhan o gyfres gynhwysfawr o gynlluniau Teithio Llesol ar gyfer y dref, gyda’r gwelliannau a gynigir yn cysylltu Wyesham â’r bont newydd ac o’r bont newydd i ddatblygiad Porth Kingswood. Yn amodol ar sicrhau caniatâd cynllunio a chyllid, mae Cyngor Sir Fynwy yn disgwyl codi’r bont yn 2024/5.

Am fwy o wybodaeth am Deithio Llesol yn Sir Fynwy ewch i www.monlife.co.uk/outdoor/active-travel

DIWEDD

Nodiadau i’r Golygyddion:

Mae modd gweld dyluniad arfaethedig y bont hefyd mewn fideo ar-lein https://youtu.be/KUmMFQecu80


YN LLWYR WAHARDDEDIG TAN 5:00PM AR DDYDD GWENER 9FED RHAGFYR 2022

YN LLWYR WAHARDDEDIG TAN 5:00PM AR DDYDD GWENER 9FED RHAGFYR 2022

Mae un o enwau mwyaf adnabyddus diwydiant cerddoriaeth y DU newydd gadarnhau eu bod yn dod i Sir Fynwy yn haf 2023. Mae High Flying Birds Noel Gallagher wedi cadarnhau eu bod yn chwarae dyddiad arbennig yng Nghastell Cil-y-coed, ddydd Sadwrn 19eg Awst.

Yn aml yn cyflwyno perfformiadau o’r radd flaenaf mewn lleoliadau awyr agored o fri, bydd High Flying Birds Noel Gallagher yn perfformio sioe untro ar dir y castell, a fydd yn cynnwys detholiad o ganeuon mwyaf poblogaidd y band, o Oasis i ffefrynnau radio cyfoes. Mae High Flying Birds Noel Gallagher, ers 2011, wedi rhyddhau tri albwm stiwdio, casgliad o EPs ac wedi chwarae cannoedd o sioeau byw ledled y DU.  Yn haf 2022, cwblhaodd y band daith ledled y wlad o sioeau awyr agored gyda set ar Lwyfan y Pyramid yn Ynys Wydrin.

Mae’r cyhoeddiad am ddyddiad Castell Cil-y-coed yn dilyn rhyddhau sengl newydd sbon y band ‘Pretty Boy’, a ymddangosodd yn ddiweddar fel Record yr Wythnos ar BBC Radio 2. Mae’r trac yn nodi dechrau pennod greadigol newydd a cherddoriaeth newydd gyntaf o albwm stiwdio newydd Noel sydd i ddod, a fydd yn cael ei ryddhau’r flwyddyn nesaf.

Mae Castell Cil-y-coed wedi ennill enw da am gynnal bandiau enwog sydd ar frig y siartiau, gan gynnwys y band merched Little Mix, ym mis Awst 2017, a Status Quo yn haf 2015. Mor ddiweddar â mis Medi 2022, roedd y castell yn gartref i fand gwerin lleol sydd wedi ennill dilyniant enfawr, Rusty Shackle, gan nodi rhyddhau eu halbwm diweddaraf.

Pan fyddan nhw’n dod i Gil-y-coed, bydd High Flying Birds Noel Gallagher yn cael eu cefnogi gan y ffefrynnau lleol Feeder.  Ers ei ffurfio ym 1994, mae’r band wedi rhyddhau 11 albwm stiwdio ac wedi treulio cyfanswm cyfun o 184 wythnos ar y siart senglau ac albymau. Daeth eu halbwm uchel ei glod ‘Torpedo’ allan yn gynharach eleni gan barhau â fformiwla fuddugol y band gyda byrdynau mawr, emosiynau mwy, ac, wrth gwrs, alawon enfawr.

Bydd Goldie Lookin’ Chain o Gasnewydd yn ymuno â nhw, yn swyddogol grŵp rap mwyaf Prydain.  Yn adnabyddus am ‘Guns don’t kill people rappers do’, mae’r grŵp wedi rhyddhau 18 albwm dros eu gyrfa 22 mlynedd.

Meddai Pablo Janczur, hyrwyddwr Orchard Live: “Rydym yn gyffrous iawn am y sioe wirioneddol enfawr hon sy’n dod i Gastell Cil-y-coed. Rydym wedi bod eisiau dod â dewis roc gwych i’r lleoliad hwn ers peth amser a beth sy’n well na High Flying Birds Noel Gallagher yn cael eu cefnogi gan Feeder ar noson hyfryd o haf. Mae’n mynd i fod yn ddiwrnod anhygoel.”

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Sirol Mary Ann Brocklesby:  “Rwy’n hynod falch y byddwn yn llwyfannu cyngerdd arall o’r radd flaenaf yn lleoliad prydferth Castell Cil-y-coed yr haf hwn.  Rydym yn edrych ymlaen at groesawu High Flying Birds Noel Gallagher, Feeder a Goldie Lookin’ Chain, yn ogystal â miloedd o ymwelwyr a thrigolion i’r hyn sy’n addo bod yn noson arbennig iawn.”

Dywedodd y Cynghorydd Sara Burch, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am MonLife: “Mae’n gyffrous iawn gweld gweithredoedd o safon mor uchel yn dod i Sir Fynwy, a hefyd yn newyddion gwych bod y trefnwyr wedi rhoi cyfle i drigolion lleol sicrhau tocynnau cyn i’r gwerthiant cyffredinol ddigwydd.  Mae Castell Cil-y-coed yn lleoliad mor brydferth ac rydym yn falch iawn ohono – mae ganddo gymaint i’w gynnig fel lleoliad cyngerdd, yn ogystal â bod yn atyniad aruthrol i’r teulu gyfan drwy’r flwyddyn. Rydym yn edrych ymlaen at weld pawb yn y castell ar Awst 19eg y flwyddyn nesaf.”

Cost y tocynnau yw £61.88 yr un, yn cynnwys ffioedd, ac maent ar Werth Cyffredinol o 10am ddydd Gwener 16eg Rhagfyr, ond gall trigolion Sir Fynwy gael eu tocynnau’n gynt na hynny. Mae’r trefnwyr wedi trefnu Gwerthiant arbennig o flaen llaw ar gyfer cefnogwyr lleol o 10am ddydd Mercher 14eg Rhagfyr trwy http://orchardlive.gigantic.com/noel-gallagher-s-high-flying-birds-tickets/monmouth-caldicot-castle/2023-08-19-17-00

Cadarnhawyd hefyd y bydd trigolion lleol rhan o’r cynlluniau yn y cyfnod yn agosach at y digwyddiad, er mwyn sicrhau cyn lleied o effaith â phosib ar gymuned Cil-y-coed. Mae gwybodaeth lawn am ddigwyddiadau ar gael yn www.caldicotcastle.co.uk


YN FYW: Ymgynghoriad Cyhoeddus Wyesham

YMGYNGHORIAD CYHOEDDUS: Cysylltiadau Teithio Llesol Wyesham (Trefynwy) Astudiaeth WelTAG Cam Dau

Dweud eich dweud

Hoffem glywed eich barn ar y rhestr o opsiynau posibl sydd wedi’u cynllunio i wella cysylltiadau teithio llesol rhwng y Bont Deithio Llesol newydd arfaethedig ar draws Afon Gwy a Wyesham.

Rydym yn argymell eich bod yn gweld y cynlluniau  ac yn darllen y dudalen hon yn gyntaf i ddarganfod mwy am y cynllun.

Pam bod newidiadau wedi cael eu cynnig?

Mae’r llwybr o Wyesham i ganol tref Trefynwy yn cael ei ddefnyddio’n helaeth gan drigolion, plant (yn teithio i ac o ysgolion), twristiaid ac ymwelwyr. Mae’r cyfleusterau presennol i gerddwyr fodd bynnag yn gyfyngedig, tra nad oes cyfleusterau beicio o gwbl. Mae cysylltiadau yn ardal yr astudiaeth wedi methu’r archwiliadau teithio llesol a gynhaliwyd gan Gyngor Sir Fynwy ym mis Medi 2020. Wrth i gynigion ar gyfer Pont Deithio Llesol Gwy ddod i’r amlwg, mae pwysigrwydd cysylltu cysylltiadau teithio llesol o’r ardaloedd cyfagos i ac o’r bont newydd wedi ei amlygu.

Amcanion y cynllun

Tri amcan y cynllun hwn yw:

  • Darparu rhwydwaith cerdded a beicio uniongyrchol, cydlynol, cyfforddus a deniadol sy’n addas i’r holl ddefnyddwyr;
  • Cynyddu lefelau mynediad cynaliadwy i addysg, iechyd, cyflogaeth a gwasanaethau allweddol eraill;
  • Gwella diogelwch gwirioneddol a chanfyddedig defnyddwyr bregus;
  • Cynyddu nifer y bobl sy’n cerdded a seiclo rhwng Wyesham a chanol tref Trefynwy;
  • Lleihau dibyniaeth ar geir a defnyddio ceir ar gyfer teithiau byr rhwng canol tref Wyesham a Threfynwy drwy newid mewn dulliau teithio; a
  • Lleihau effeithiau negyddol trafnidiaeth ar yr amgylchedd naturiol ac adeiledig (h.y., gwella ansawdd aer, gwella amgylchfyd y cyhoedd, darparu seilwaith draenio cynaliadwy, ac ati).

Y cynigion

Mae prosiectau fel yr un yma fel arfer yn mynd yn eu blaen dros sawl blwyddyn o’r cysyniad hyd at ddylunio manwl ac yna maent yn ddibynnol ar gymeradwyaeth arian gan gyrff fel Llywodraeth Cymru ar gyfer y cyfnod adeiladu. Ar hyn o bryd rydym mewn cyfnod cynnar o’r broses ddylunio. Bydd

Bydd yr opsiwn a ffefrir yn cael ei ddewis yn seiliedig ar sawl agwedd, gan gynnwys canlyniadau ymgynghori cyhoeddus, opsiwn medru cyflawni (lle bydd perchnogaeth tir yn chwarae rhan allweddol), goblygiadau cost, a pherfformiad opsiwn yn erbyn amcanion cenedlaethol, rhanbarthol a lleol, uchelgeisiau a blaenoriaethau.

Oherwydd maint ardal yr astudiaeth, mae’r llwybr wedi ei rannu’n ddwy adran, fel y disgrifir isod.

Llwybr Adran Un  – o’r Bont Deithio Llesol Newydd arfaethedig i Heol Wyesham

Opsiwn 1: yn cynnig lledu’r droedffordd bresennol ar ochr ogleddol yr A466 a’r A4136 i ddarparu troedffordd/llwybr beicio a rennir oddi ar y ffordd o’r Bont Deithio Llesol i Heol Wyesham a gyflawnir drwy gulhau ychydig i lawr y ffordd gerbydau a chefnogaeth strwythurol arglawdd. Byddai’r ddwy groesfan ynys lloches i gerddwyr sydd eisoes heb reolaeth yn cael eu disodli gan gyfleusterau croesi rheoledig. Byddai holl gyffyrdd ffordd yr ochr yn cael eu hail-gynllunio i ddarparu ar gyfer llwybr teithio llesol.

Opsiwn 2: fel Opsiwn 1 ond yn rhannol is na lefel y ffordd bresennol (rhwng Parc Glanyrafon  a Heol Redbrook). Byddai llwybr yn cael ei rannu gan gerddwyr/beicwyr yn cychwyn o’r gyffordd â Pharc Glanyrafon ac yn rhedeg o dan lefel ffordd bresennol yr A466. Byddai ramp wedyn yn ei gysylltu â’r droedffordd bresennol (gan godi i fyny at lefel y droedffordd) gyferbyn â’r gyffordd â Heol Redbrook. Byddai’r droedffordd bresennol ar ochr deheuol yr A466 heb ei heffeithio.

Llwybr Adran Dau  – Heol Wyesham  a Rhodfa Wyesham

Opsiwn 1: system unffordd tua’r dwyrain o Heol Wyesham (Mewn) /Rhodfa  Wyesham (Allan), ar ôl cyffordd â Rhodfa Wyesham, byddai’r ffordd gerbydau yn dychwelyd i draffig dwy ffordd. Byddai troedffordd/llwybr beicio a rennir yn cael ei ddarparu ar ochr ddeheuol Heol Wyesham i Ysgol Gynradd Kymin View. Byddai lled y ffordd gerbydau ar Rodfa Wyesham yn cael ei leihau a’r llwybr troed yn cael ei ledu. Dim colli parcio ar Rodfa Wyesham. Potensial i gynnwys cysylltiadau o Rodfa Wyesham i Heol Wyesham y tu ôl i Eglwys Sant Iago a thrwy goetir cymunedol.

Opsiwn 2: yr un peth ag Opsiwn 1 ond Rhodfa Wyesham tua’r gorllewin (Mewn) / Heol Wyesham (Allan)

Opsiwn 3: cynnal traffig dwy ffordd gyda’r egwyddor strydoedd tawel yn berthnasol i Heol Wyesham a Wyesham Avenue. Mae ‘strydoedd tawel’ yn derm sydd yn cael ei roi i lwybrau seiclo trefol ar strydoedd cefn sydd â  chyflymder isel a lefel isel o draffig, sydd yn addas iawn ar gyfer seiclwyr newydd a llai hyderus. Mae  Heol Wyesham a Wyesham Avenue wedi eu clustnodi ar gyfer terfyn cyflymder o 20mya, a fydd yn addas ar gyfer yr egwyddor strydoedd tawel. Bydd llwybr seiclo  yn cael ei osod ar y ffordd, gyda symbolau seiclo yn cael eu defnyddio er mwyn dynodi’r llwybr a lle y dylid seiclo ar y cerbytffordd. Bydd llwybrau cerdded yn cael eu lledaenu os yn bosib  ac ar gyfer cerddwyr yn unig. Bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i gynnwys cysylltiadau o Wyesham Avenue i Heol Wyesham y tu nôl i Eglwys Sant Iago a thrwy’r coetir cymunedol. Mae yna botensial i gynnwys darn byr o Droedffordd a Rennir (Cerddwyr a Seiclwyr) o gyffordd Heol  Wyesham gydag Wyesham Avenue i Ysgol Kymin View.

Strydoedd tawel – DE205: CLICIWCH YMA

Sifftio opsiwn

Ar ddechrau’r prosiect hwn ac yn unol â Phroses Arfarnu Trafnidiaeth Cymru, datblygodd tîm y prosiect restr eang o ddatrysiadau posib, digon i allu penderfynu a oes unrhyw opsiynau cynllun gwerth eu dilyn ac i ddewis rhestr fer o opsiynau (fel y manylir uchod) i’w hystyried yn fanylach. Roedd yr opsiynau ar y rhestr fer yn seiliedig ar:

  • eu gallu  i atal, neu ddatrys y broblem nawr ac yn y dyfodol;
  • eu gallu i gyflawni’r amcanion a osodwyd a gwella llesiant cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd Cymru;
  • eu heffeithiau tymor byr a thymor hwy i sicrhau manteision lluosog ar draws y pedair agwedd ar les a sicrhau’r cyfraniad mwyaf posibl i’r saith nod llesiant;
  • eu gallu i gyflawni; a
  • eu cadernid i ansicrwydd a photensial i yrru newid hirhoedlog.

Llwybr Heol/Rhodfa Wyesham yw’r flaenoriaeth ar hyn o bryd i gysylltu Wyesham â thref Trefynwy ac mae’n ofynnol iddo gael ei gynllunio a’i adeiladu i gyd-fynd â’r Bont Deithio Llesol newydd. Yn anffodus, mae pob opsiwn i wella llwybr Heol Redbrook yn gofyn am brynu tir a strwythurau cadw sylweddol, a allai gymryd blynyddoedd i gytuno. Gallai hyn oedi’n sylweddol a hyd yn oed beryglu’r cynllun. Oherwydd hyn, mae adran Heol Redbrook wedi’i gwahardd o’r cynllun hwn a’n ffocws presennol ar lwybr Heol/Rhodfa Wyesham , a fydd yn cefnogi cyflwyno’r Bont Deithio Llesol newydd.

Eich barn

Rydym am glywed eich barn ar bob un o’r opsiynau. A fyddech gystal â nodi’r rhai sydd ar y rhestr fer. Gallwch fynegi eich meddyliau drwy glicio ar y ddolen arolwg isod.

A fyddech gystal ag annog aelodau eich cartref ac eraill i gynnal yr arolwg gan nad yw eich ymatebion o reidrwydd yn adlewyrchu barn pobl eraill.

Ar ôl cwblhau’r arolwg hwn, rydych yn cytuno i’r data hyn gael eu defnyddio at y diben hwn gan Gyngor Sir Fynwy a gan Gynllun Gofodol Cymru (RE&I).

Bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu gan Gyngor Sir Fynwy ar ran Cynllun Gofodol Cymru (RE&I). Byddwn yn casglu eich data at y diben hwn yn unig a bydd unrhyw rannu data’n cael ei wneud yn ddienw. Nid yw’r ffurflen hon yn dal eich enw na’ch manylion cyswllt. Am fwy o wybodaeth am breifatrwydd ymwelwch â https://www.monmouthshire.gov.uk/your-privacy/

Drwy gyflwyno’r ffurflen hon, rydych yn cydsynio i’ch gwybodaeth gael ei phrosesu at y diben fel yr amlinellir uchod.