Shire Hall Museum - Monlife
MOS Web Banner-02
MOS Web Banner-01
Events Calendar Creative-02
MyTicket-Event - 2023-11-20T113825.469
Heritage-Slider-01
Bike Rental (Caldicot Castle)
previous arrow
next arrow

Amgueddfa’r Neuadd Sirol

Adeiladwyd y Neuadd Sirol yn 1724, ac mae’n adeilad rhestredig gradd 1 ac roedd yr adeilad yn arfer bod yn gartref i’r Brawdlysoedd a’r Llysoedd Chwarter ar gyfer Sir Fynwy. Mae’n fwyaf enwog am mai dyma ble y cynhaliwyd achos arweinydd y Siartwyr  John Frost  ac arweinwyr eraill yn 1839/40 am deyrnfradwriaeth am eu rhan yng Ngwrthryfel Casnewydd.  

Mae casgliad Amgueddfa Trefynwy yn olrhain hanes y dref ac yn cynnwys gwrthrychau sydd yn ymwneud gyda hanes y dref farchnad hanesyddol hon yn Nyffryn Gwy. Rydym yn gofalu am gasgliad yr Arglwydd Lyngesydd  Nelson a oedd wedi ei gyfrannu i’r dref gan y Foneddiges Llangadog yn 1923.  Rydym hefyd yn gyfrifol am gasgliadau gan Charles Stuart Rolls, a oedd yn gyd-sylfaenydd of Rolls-Royce a’i orchestion gyda balŵns a moduron cynnar.

Tra oedd y Neuadd Sirol a’r amgueddfa ar gau yn ystod y pandemig COVID-19, manteisiwyd ar y cyfle i ystyried y dyfodol hirdymor, sut i wella’r hyn yr ydym yn cynnig i’n cynulleidfa a sicrhau bod yna sgyrsiau teilwng am ein casgliadau. O ganlyniad, penderfynwyd dod ag Amgueddfa  Trefynwy i mewn i’r Neuadd Sirol er mwyn creu un amgueddfa newydd a chynaliadwy.  


Mae Amgueddfa Neuadd y Sir, Trefynwy ar agor rhwng 11.00 am a 4:00 pm ar ddydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau, dydd Gwener a dydd Sadwrn (gall oriau agor gwyliau amrywio). Mae mynediad AM DDIM. I gysylltu â Neuadd y Sir, Trefynwy, e-bostiwch, enquiries@shirehallmonmouth.org.uk neu ffoniwch 01600 775257. Dilynwch Neuadd y Sir, Trefynwy ar Twitter a Facebook i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau, cynigion a gwybodaeth.


Beth wyf yn medru gweld a gwneud ar hyn o bryd?

Yn y Neuadd Sirol, rydych yn medru dysgu am y digwyddiadau a oedd yn rhan o wrthryfel Casnewydd, a hynny o’r llys i’r celloedd a mwynhau’r canllawiau clyweledol. Mae’r staff wedi bod yn gweithio i gynyddu’r nifer o arddangosfeydd a’r gweithgareddau sydd ar hyd a lled yr adeilad ac mae ymwelwyr nawr yn medru gweld y canlynol:

Llawr gwaelod

  • Fideo gan Eddie Butler am Hanes Trefynwy
  • Cloddio yn Nhrefynwy – arddangosfa am archaeoleg Trefynwy
  • Gweithgareddau i blant gan gynnwys lliwio, theatr pypedau a siop   

Llawr Cyntaf

  • Ffilm Fer – 15 munud am dreftadaeth Trefynwy   
  • Model o Trefynwy   
  • Llun o ddathliad ar y stryd, Wyebridge Lane, tua1904.

Ystafell Llys 1

  • Fideo am y Siartwyr
  • Gwisgo dillad y cyfnod
  • Ni fyddwch byth yn medru dianc!  Gweithgaredd yn yr ystafell llys

Ystafell Llys 2

  • Tapestri Harri’r V
  • Rockfield Rhyngweithiol
  • Newid yr Arddangosfa Dros Dro   

Ystafell y Barnwr

Y barnwr cyn iddo fynd i mewn i’r llys 

Y Galeri Cyhoeddus

Eistedd uwchben yr ystafell llys a  gwerthfawrogi’r awyrgylch  

Celloedd

Dewch i brofi’r amgylchedd y byddai’r carcharorion yn ei brofi.


Beth yw ein cynlluniau?

Mae Amgueddfa Nelson yn awr ar gau. Ymddiheurwn am yr anghyfleuster.

Rydym yn gweithio ar hyn o bryd i symud yr Amgueddfa a’i chasgliadau i’r Neuadd Sirol – y llys barn mawr, hanesyddol dros y ffordd. Mae hyn yn bosibl oherwydd grant mawr o Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Caiff cyfnod datblygu y prosiect ei gynnal rhwng Awst 2023 a Chwefror 2025. Yn y cyfnod hwn bydd tîm newydd yn ymgynghori ag aelodau o’r cyhoedd yn y Neuadd Sirol, mewn gweithdai a sesiynau ymgynghori i’n helpu i ddeall pa bynciau yr hoffai ein hymwelwyr eu gweld yn yr amgueddfa yn y dyfodol.

Byddwn yn gweithio gyda dylunwyr pensaernïol ac amgueddfaol, gan fwydo’r wybodaeth iddynt a gsglwyd gan ein cymunedau i’n helpu i greu orielau newydd diddorol, gofod dysgu sy’n ysbrydoli, storfa neilltuol ar gyfer gwrthrychau a mwy.

Bydd y gwaith hwn yn cyfrannu at i Drefynwy gael amgueddfa newydd ei datblygu yn y Neuadd Sirol erbyn 2027 (gyda diweddariadau rheolaidd ar hyd y ffordd) yn dangos hanes lleol anhygoel y dref ac arteffactau Nelson. Byddwn angen cefnogaeth ein cymunedau ac ymwelwyr ar gyfer hyn a gobeithiwn y byddwch yn ymuno â ni ar y daith gyffrous yma.

I gael mwy o wybodaeth cadwch  lygad ar wefan MonLife, ein tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol neu dewch i ymweld â’r Neuadd Sirol i weld ein harddangosfeydd ymgynghori o fis Rhagfyr 2023 ac i siarad gyda staff.

Dweud eich dweud! (office.com)


Beth sydd yn digwydd i gasgliad Nelson?

Mae Trefynwy yn amlwg yn falch iawn o’i gysylltiadau gyda Nelson ac mae pobl wedi gofyn i ni am yr hyn sy’n digwydd i’n casgliad pan nad yw’n cael ei arddangos. Rydym wedi bod yn gwneud gwaith ar y casgliad, a hynny yn dilyn cyllid gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Amgueddfeydd a Galerïau Cymru sydd yn cynnwys:

  • ail-letya’r casgliad o lawysgrifau a’u gosod mewn pecynnau sydd yn cael eu cadw’n ddiogel
  • gwneud gwaith cadwraeth ar y llyfrau
  • gweithio ag academydd o’r Amgueddfa Forol Genedlaethol er mwyn cynnal asesiad sylweddol o’n casgliad
  • dechrau rhaglen o waith yn siarad gyda grwpiau er mwyn dysgu pa straeon y maent am weld yn yr arddangosfeydd newydd
  • llunio stocrestrau o Gasgliad Nelson a’n mewnbynnu’r wybodaeth honno ar ein cronfa ddata cyfrifiadurol
  • ychwanegu straeon Nelson ar wefan ein casgliadau Hafan – MonLife Collections

Gweithio gyda Phobl Ifanc

Yn sgil cyllid gan y rhaglenni ‘Lles dros y Gaeaf’ a ‘Haf o Hwyl’, rydym wedi medru ymgynghori gyda phobl ifanc rhwng 16 a 25 mlwydd oed er mwyn dysgu am yr hyn y maent am weld yn ein safleoedd treftadaeth. Rydym yn gweithio’n benodol gyda hwy yn y Neuadd Sirol er mwyn sicrhau bod gofodau yno sydd yn berthnasol iddynt hwy. 


Lleoliad

This post is also available in: English