Cynllun Cyswllt Teithio Llesol Cil-y-coed a Llwybr Amlddefnydd – Cwestiynau ac Atebion - Monlife

Cynllun Cyswllt Teithio Llesol Cil-y-coed a Llwybr Amlddefnydd – Cwestiynau ac Atebion

Cynlluniwyd cynllun teithio llesol Cyswllt Cil-y-coed i greu rhwydwaith integredig o lwybrau rhannu defnydd, sy’n cysylltu ardaloedd preswyl presennol ac ar y gweill yn nwyrain Cil-y-coed a’r cylch gyda chyrchfannau lleol a thrafnidiaeth gyhoeddus. Y nod yw galluogi preswylwyr i ddefnyddio teithio llesol ar gyfer teithiau lleol a chysylltu gyda rhwydweithiau ehangach teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus  Glannau Hafren drwy adeiladu llwybrau ansawdd uchel a chyfleus ar gyfer cerdded, olwyno a seiclo.

Cynllun Cyswllt Teithio Llesol Cil-y-coed

Mae cynllun Cyswllt Cil-y-coed yn canolbwyntio ar ogledd a dwyrain Cil-y-coed. Rhannwyd y cynllun yn dair adran wahanol* (gweler y cynllun isod):

  • Rhan 1: Yn rhedeg ar hyd llwybr hen reilffordd y Weinyddiaeth Amddiffyn yn Dinham, o ychydig i’r de o’r Cae Gwenith ym Mhorthysgewin i gyrion Parc Gwledig Castell Cil-y-coed;
  • Rhannau 2 a 3: O gyrion y parc gwledig i’r gogledd i Crug, gan groesi gogledd ddwyrain safleoedd datblygu Cil-y-coed a ddangosir isod mewn brown. Mae’r safleoedd datblygu a ddynodir yn cynnwys ardaloedd a gedwir fel mannau gwyrdd ac ni fydd adeiladu arnynt.
  • Rhan 4, y Llwybr Amlddefnydd – Yn rhedeg drwy’r Parc Gwledig yn cysylltu Heol yr Eglwys i’r gorllewin gyda Rhannau 1, 2 a 3 a Heol Cil-y-coed i’r dwyrain.

*Caiff adrannau o’r cynllun eu cyflwyno fel y bydd cyllid a chyfyngiadau eraill yn caniatáu, h.y. nid o reidrwydd mewn trefn rifyddol.

Rhan  1: Mae’r adran 1 cilometr ar hyd yr hen reilffordd yn cael ei hadeiladu ar hyn o bryd gyda’r contractwyr Horan Construction Limited. Disgwylir cwblhau’r gwaith hwn ym mis Mehefin 2024, gan orffen gydag adfer y safle adeiladu dros dro ym Mharc Gwledig Castell Cil-y-coed.

Pan fydd y gwaith yn mynd rhagddo ar adeiladu’r adran hon, bydd angen cau’r hen reilffordd i’r cyhoedd am resymau iechyd a diogelwch a bydd yn cynnwys cau dros dro y llwybr troed cul yn y pen gogledd-orllewinol sy’n cysylltu gyda’r stad ddiwydiannol (Hawl Tramwy Cyhoeddus rhif 354/12/1 (rhan), 354/13/1, 376/10/7, 376/10/6 (rhan)).

I baratoi ar gyfer adeiladu, cafodd gwaith clirio tyfiant ei wneud eisoes yn ystod cyfnod ecolegol i glirio ardaloedd ar gyfer tair ramp mynediad a’r prif lwybr. Yn ychwanegol, cafodd llawer o goed ynn eu cwympo gan y dynodwyd eu bod yn risg i ddefnyddwyr y llwybr ac i’r pontydd priffordd presennol yn bennaf oherwydd haint gyda chlefyd coed ynn, oedd wedi gadael y coed mewn risg sylweddol o fethiant strwythurol. I wneud iawn am hyn, gweithredir cynllun ailblannu helaeth unwaith y cwblhawyd yr holl waith adeiladu er mwyn rhoi budd net i fioamrywiaeth  ac arwain at frigdwf mwy cydnerth ar hyd y llwybr ar gyfer y dyfodol.

Ddechrau mis Rhagfyr cynhaliwyd helfa sbwriel gymunedol ar hyd yr adran hon o’r Cyswllt, gyda 17 o wirfoddolwyr yn helpu i lenwi 50 sach sbwriel a chreu nifer o bentyrrau o sbwriel mwy gydag eitemau a daflwyd dros sawl degawd.

Rhan 2 a 3: Mae Atkins Réalis, y contractwyr a benodwyd gan Gyngor Sir Fynwy, yn cynnal astudiaeth o’r opsiynau sydd ar gael ar gyfer datblygu’r llwybr i’r gogledd a’r dwyrain o’r Parc Gwledig, gan ystyried holl gyfleoedd a chyfyngiadau’r ardal hon. 

Rhan 4:   Llwybr Amlddefnydd: Penododd Cyngor Sir Fynwy yr ymgynghorwyr Sustrans i gynnal Adolygiad Opsiynau Llwybr gyda rhanddeiliaid allweddol yn dilyn adborth dechreuol ar gynigion llwybr drwy’r parc gwledig. Unwaith y bydd hyn wedi ei gwblhau, bydd Cyngor Sir Fynwy yn barod i ddechrau’r broses dylunio a chaniatâd llawn dros y llwybr a ffefrir dros y flwyddyn i ddod.

Pam canolbwyntio ar ogledd a dwyrain Cil-y-coed?

Mae’r cynllun yn anelu i wella mynediad cynaliadwy i wasanaethau, siopau a safleoedd addysg a chyflogaeth o amgylch Cil-y-coed. Mae cynhyrchu teithiau yn gysylltiedig â’r datblygiad preswyl arfaethedig yn nwyrain a gogledd Cil-y-coed yn ogystal â’r angen i liniaru tagfeydd yn gysylltiedig gyda safleoedd cyflogaeth lleol a phontydd di-doll yr Hafren yn rhoi ysgogiad ychwanegol i’r cynllun, gan fod hwn yn gyfle i wneud teithio llesol y dull a ffefrir ar gyfer teithiau lleol ar gyfer preswylwyr hen a newydd fel ei gilydd.

Mae cynllun Cyswllt Cil-y-coed a gyflwynir mewn camau yn canolbwyntio ar ddwyrain Cil-y-coed, yn cynnwys cysylltu gyda datblygiadau tai oddi ar Heol yr Eglwys a Heol Crug i sicrhau fod gan breswylwyr cyfredol a phreswylwyr y dyfodol opsiynau trafnidiaeth cyfleus, iach a chynaliadwy, i leihau a rheoli effaith traffig ffordd poblogaeth gynyddol a chyfeirio preswylwyr ac ymwelwyr i ganol y dref fel cyrchfan leol.

Isod mae manylion ein Map Teithio Llesol ar gyfer Cil-y-coed, yn dangos faint o amser y byddai’n ei gymryd fel arfer i  deithio yn yr ardal leol. Bydd yr ardaloedd datblygu lleol, a ddangosir mewn brown, yn cynnwys parseli o fannau gwyrdd (h.y. mae’r safleoedd a ddangosir yn cynnwys ardaloedd na fydd adeiladu):

Beth yw teithio llesol?

Mae teithio llesol yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio cerdded, olwyno neu seiclo i gyrchfan y mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn eu disgrifio fel “teithiau pwrpasol”. Nid yw’n cynnwys teithiau a wneir yn llwyr ar gyfer hamdden er y gallai wella gweithgareddau hamdden yn sylweddol drwy helpu i gysylltu’r rhwydweithiau. Gellir defnyddio Teithio Llesol i fynd i’r ysgol, gwaith, gwasanaethau a siopau, neu fel un o nifer o ddulliau teithio ar daith hirach – er enghraifft, cerdded i’r orsaf i ddal bws neu drên. Ffocws strategaeth teithio llesol Cyngor Sir Fynwy yw teithiau o dair milltir neu lai, sy’n golygu gwella seilwaith cerdded a seiclo o fewn cymunedau a rhwng aneddiadau cyfagos tebyg i Gil-y-coed, Porthysgewin a Crug, fel y gall teithio llesol fod yn ddewis naturiol ar gyfer teithiau lleol. Mae Cyngor Sir Fynwy hefyd yn anelu i weithio cysylltiadau teithio llesol i drafnidiaeth gyhoeddus, i gefnogi teithio cynaliadwy ar draws y sir.

Sut y caiff cynllun Cyswllt Cil-y-coed ei ariannu?

Caiff Cyswllt Teithio Llesol Cil-y-coed a’r Llwybr Amlddefnydd eu hariannu drwy grantiau Llywodraeth Cymru sydd wedi eu hanelu at welliannau i ddulliau trafnidiaeth gynaliadwy.

Sut y caiff tynnu coed ar hyd y llwybr teithio llesol ei liniaru?

Wrth adeiladu Rhan 1, cafodd coed a thyfiant eu clirio i wneud lle ar gyfer y llwybr a’i rampiau mynediad. Dim ond faint oedd angen i sicrhau fod yr hen reilffordd yn ddiogel ar gyfer defnyddwyr presennol a galluogi adeiladu’r llwybr Teithio Llesol tra’n diogelu bywyd gwyllt ar y safle a gafodd ei glirio. Bydd plannu coed a pherthi brodorol i wneud iawn unwaith y cafodd y gwaith adeiladu ei gwblhau yn cyflwyno brigdwf cydnerth a mwy amrywiol gan ddod âӏ budd net i fioamrywiaeth leol ar ôl yr ymyriad.

Disgwylir y bydd y llwybrau teithio llesol gwell yn cynyddu cyfleoedd lleol ar gyfer cerdded, olwyno a seiclo a dylai hynny gael effaith gadarnhaol hirdymor ar yr amgylchedd a bioamrywiaeth lleol fel y’i disgrifir yn Nghanllawiau y Ddeddf Teithio Llesol.

Pam na all seiclwyr ddefnyddio’r ffordd?

Gallai llawer o deithiau byr mewn car gael eu gwneud drwy deithio llesol yn lle hynny. Mae syniad o berygl oherwydd traffig ffordd yn rhwystr allweddol sy’n atal mwy o bobl rhag teithio llesol, ac mae lefelau isel o seiclo er y rhwydwaith ffordd gynhwysfawr yn dangos nad yw seiclo ar y ffordd yn opsiwn ymarferol i lawer. Mae’r cynllun yn manteisio ar y cyfle i wella hygyrchedd llwybrau oddi ar y ffordd sy’n fwy tebygol o gynnig dewis deniadol a diogel yn lle gyrru ar gyfer ystod ehangach o bobl, gan gynyddu’r awydd am deithio llesol tra’n cwtogi nifer y teithiau byr a wneir mewn ceir.

Cysylltwch â ni

Os hoffech gysylltu â thîm y prosiect, e-bostiwch ActiveTravel@monmouthshire.gov.uk

This post is also available in: English