Cynllun Atgyfeirio Ymarfer Corff Cenedlaethol
Mae’r Cynllun Atgyfeirio Ymarfer Corff Cenedlaethol (NERS) yn rhaglen atal a rheoli cyflyrau cronig sy’n anelu at wella iechyd a lles oedolion eisteddog ac anactif sydd mewn perygl o ddatblygu cyflwr cronig neu sydd â chyflwr cronig eisoes. Mae’n darparu rhaglen 16 wythnos o weithgarwch corfforol i unigolion sy’n cael eu hatgyfeirio gan weithwyr iechyd proffesiynol y GIG, gan ddefnyddio technegau newid ymddygiad i ymgorffori arferion gweithgarwch corfforol cadarnhaol.
Ar ôl cael eu cyfeirio, gwahoddir cleifion sy’n bodloni’r meini prawf i’w canolfan hamdden leol ar gyfer asesiad cychwynnol gyda gweithiwr proffesiynol atgyfeirio ymarfer corff cymwys. Bydd ganddynt gynnig rhaglen ymarfer corff wedi’i theilwra, dan oruchwyliaeth am 16 wythnos a bydd eu cynnydd yn cael ei adolygu ar bwyntiau allweddol.
Sut y gallaf gyfeirio?
Gellir cael atgyfeiriad gan weithiwr iechyd proffesiynol cydnabyddedig y GIG (e.e. – meddyg teulu; Nyrs; Ffisiotherapydd neu Ddietegydd) trwy’r system newydd ar y we, o’r enw Porth Theseus. Gall Gweithwyr Iechyd Proffesiynol syn atgyfeirio ddarganfod mwy am Borth Theseus yma: System Rheoli Cleifion Newydd – Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Ar ôl cael eich atgyfeirio, byddwch yn cael eich cofrestru ar gyfer asesiad cyntaf gyda Gweithiwr Proffesiynol Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff hyfforddedig. Byddant yn cwblhau archwiliad iechyd, yn egluro beth mae’r cynllun yn ei gynnwys ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Beth yw manteision gweithgarwch corfforol?
Yn ddiweddar, roeddem yn gallu eistedd i lawr gyda rhai o’n Cyfranogwyr NERS presennol a’u holi am y rhaglen a sut mae wedi effeithio ac wedi gwella’u hiechyd a’u lles. Edrychwch ar y fideos isod i glywed mwy am eu teithiau.
Rosalind
James
Philip
Mae’r buddion corfforol yn cynnwys:
- Mae’r galon a’r ysgyfaint yn dod yn gryfach ac yn fwy effeithlon
- Eich cryfder cyhyrog yn cynyddu
- Eich cymalau’n dod yn gryfach
- Gall ohirio dechrau osteoporosis
- Gall leihau braster y corff a phwysau gormodol
- Gall wella ymlacio a chysgu
- Gallu cynnal gweithgareddau byw bob dydd yn well
- Teimlo’n fwy effro ac egnïol
- Cynnal osgo da
- Helpu i normaleiddio pwysau gwaed
- Lleihau’r risg o ddatblygu clefyd y siwgr
- Llai o risg o geulo gwaed
- Helpu i gynnal annibyniaeth, yn hytrach na dod yn ddibynnol
Mae’r buddion seicolegol yn cynnwys: Dyma ychydig o sylwadau mae pobl wedi’u gwneud
- “Rwy’n teimlo’n llai pryderus a llai dan straen”
- “Mae fy hyder a’m hunan-barch yn well”
- “Roedd bod yn fwy actif yn fy helpu i roi’r gorau i ysmygu”
- “Rhoddodd y sesiynau gweithgaredd amser i mi fy hun”
- “Mae fy ngwraig yn dweud fy mod i’n edrych lot hapusach”
- “Cymerais fwy o gyfrifoldeb am fy iechyd fy hun”
Mae’r manteision cymdeithasol yn cynnwys: Dyma ychydig o sylwadau mae pobl wedi’u gwneud
- “Roedd yn gyfle da i gwrdd â phobl eraill oedd â’r un pryderon ag oedd gen i”
- “Fe wnaeth y sesiynau wneud i mi fynd allan o’r tŷ a rhoi diddordeb newydd i mi”
- “Fe wnes i ffrindiau newydd a mwynhau’r sgyrsiau gawson ni”
- “Dwi’n teimlo’n llawer mwy ffit ac yn gallu chwarae gyda fy wyrion ac wyresau am hirach nawr”
This post is also available in: English