Monmouth Leisure Centre ATP Development – Monlife

Cyhoeddiad Cyffrous: Cae Pob Tywydd ar ei ffordd i Ganolfan Hamdden Trefynwy!

Rydym yn ymroddedig i barhau i wella eich profiad, ac yn falch iawn i rannu newyddion cyffrous gyda chi!

Rydym yn falch iawn i’ch hysbysu y caiff cae pob tywydd (ATP) NEWYDD ei osod yng Nghanolfan Hamdden Trefynwy, fydd yn cymryd lle ein ATP presennol sydd wedi cyrraedd diwedd ei oes. Bydd yr wyneb chwarae o’r math diweddaraf un hwn yn ychwanegu’n fawr at ansawdd ac amrywiaeth gweithgareddau sydd ar gael i’n cwsmeriaid gwerthfawr.

Cynlluniwyd yr ATP i roi profiad chwarae rhagorol, gan sicrhau y gallwch gael mwynhad llawn o’ch hoff chwaraeon a gweithgareddau yn cynnwys pêl-droed, hoci a mwy.

Bydd Cam 1, fydd yn dechrau ddydd Llun 23 Hydref, yn cynnwys paratoi’r gwaith daear a’r seilwaith. Yn ystod y cyfnod hwn, byddwch yn sylwi ar loc adeiladu ym mhen pellaf y maes parcio ond gallwn eich sicrhau na fydd yn cael bron ddim effaith ar ein cwsmeriaid.

Bydd ffocws Cam 2 ar osod y carped ATP ar y gwaith daear a baratowyd, a byddwn yn eich hysbysu wrth i ni agosáu at y cam hwn.

Mae ein tîm neilltuol o gontractwyr yn ymroddedig i leihau unrhyw darfu a chwblhau’r gwaith gosod yn effeithiol.

Ni fedrwn aros i chi brofi manteision niferus yr ATP newydd a rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn at eich gweld yn cael mwynhad llawn o’r ychwanegiad cyffrous hwn i Ganolfan Hamdden Trefynwy.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu angen gwybodaeth am archebu neu unrhyw ymholiadau erial, mae croeso i chi gysylltu â ni yn monmouthleisurecentre@monmouthshire.gov.uk.

Caiff eich cefnogaeth ac amynedd parhaus eu gwerthfawrogi yn fawr iawn.

This post is also available in: English