Gweithgareddau
Mae ein holl gyfleusterau hamdden yn cynnig ystod eang o offer mynediad i’r anabl, dosbarthiadau a thîm datblygu chwaraeon, sy’n gweithredu nifer o raglenni a gweithdai. I archebu gweithgaredd yn eich canolfan hamdden leol, cliciwch ar y ddolen ganlynol neu ffoniwch ni ar 01633 644800.
Maes Chwarae 3G (55 munud fesul archeb)
Mae ein Meysydd Chwarae 3G yn barod pan fyddwch chi, er mwyn i chi gael gêm o bêl-droed, rygbi neu dim ond cicio pêl gyda ffrindiau. Eisiau archebu ar gyfer eich tîm, rydym hefyd yn cynnig archebion bloc. Siaradwch â'n tîm cyfeillgar yn eich dewis ganolfan hamdden a fydd yn gallu rhoi cyngor ar argaeledd. Cae llawn – £75.30 / ½ Cae - £37.65.
Caeau Glaswellt Ffug (55 munud fesul archeb)
Mae ein Caeau Glaswellt Ffug yn barod pan fyddwch chi, er mwyn i chi gael gêm o bêl-droed, hoci neu dim ond ar gyfer ymarfer tîm. Argymhellir archebu o flaen llaw! Am archebu ar gyfer eich tîm, rydym hefyd yn cynnig archebion bloc. Siaradwch â'n tîm cyfeillgar yn eich canolfan hamdden ddewisol a fydd yn gallu rhoi cyngor ar argaeledd. Cae Llawn - £59.40 / ½ Cae - £27.45.
Badminton (55 munud fesul archeb - £10.75)
Mae badminton yn gamp raced gyflym a hwyliog y gall dau neu bedwar chwaraewr ei chwarae. Bachwch eich ffrindiau, teulu neu wrthwynebydd i gael ychydig o hwyl! Argymhellir archebu o flaen llaw.
Ardal Gemau Aml-ddefnydd, (55 munud fesul archeb)
Pêl-fasged, Pêl-droed, Pêl-rwyd, Ardal Ymarfer (cwrt dwbl) - £21.50
Neuadd Chwaraeon (55 munud fesul archeb)
Pêl-fasged, Pêl-droed, Pêl-rwyd, Ardal Ymarfer Neuadd Chwaraeon - £43.00 / 1/2 Neuadd Chwaraeon - £21.50.
Sboncen (55 munud fesul archeb) – £8.00)
Ewch amdani gyda gêm gyflym o Sboncen. Gallwch chwarae senglau neu ddyblau yn un o'n canolfannau a chael hwyl wrth chwysu! Argymhellir archebu o flaen llaw.
Tennis Bwrdd (55 munud fesul archeb - £8.00)
Mae tennis bwrdd neu ping pong yn gêm pen bwrdd wych ar gyfer campau hwyliog a chyfeillgar a all fod yn gêm ymlaciol neu’n gystadleuol. Ar gyfer 2 i 4 chwaraewr fesul cwrt, argymhellir archebu o flaen llaw.
Tennis (55 munud fesul archeb - £6.40)
Chwaraewch senglau neu ddyblau ar ein cyrtiau Gemau Aml-ddefnydd allanol a mwynhewch yr awyr iach wrth chwarae gêm tennis gyfeillgar (neu gystadleuol). Argymhellir archebu o flaen llaw!
This post is also available in: English