Summer TMG 2026
Paratowch am haf arall o hwyl llawn cyffro gyda Gemau Sir Fynwy! Wedi’i gynllunio ar gyfer plant a phobl ifanc oed 5-11 oed, mae Gemau Sir Fynwy yn cynnig cyfle gwych i adeiladu hyder, rhoi cynnig ar weithgareddau newydd, dysgu sgiliau newydd, a gwneud ffrindiau newydd. Does dim dau ddiwrnod yr un fath – mae pob dydd yn dod â rhywbeth newydd!
🗓 Dyddiadau: Dydd Llun 20 Gorffennaf – Dydd Gwener 28 Awst 2026
🕣 Amser: 8:30am – 4:30pm
💷 Pris: O £21 y plentyn y dydd
🎟 Disgownt: Archebwch 10 sesiwn o flaen llaw a derbyniwch ddisgownt o 25% – gan arbed £52.50!
Gallwch nawr archebu drwy ymweld ag unrhyw un o’n canolfannau hamdden neu ein ffonio ar 01633 644800.
Fel arall, gallwch archebu ar-lein o’r 29ain o Fehefin ar gyfer Gemau Sir Fynwy! Gallwch archebu lle i’ch plentyn ar TMG drwy gofrestru drwy’r ddolen ganlynol: Ffurflen Gofrestru TMG
Peidiwch â cholli allan ar yr holl hwyl!
Am fwy o wybodaeth, ewch i dudalen Cwestiynau Cyffredin Gemau Sir Fynwy.
This post is also available in: