Green Corridor Infrastructure Project - Monlife

Croeso i’r Prosiect Seilwaith Gwyrdd – Coridorau Gwyrdd

Bydd y Coridorau Gwyrdd sy’n cael eu gwella gan y prosiectau SG yn helpu i wella neu greu cynefinoedd cyfoethog, sy’n gweithredu fel “cerrig camu” i fywyd gwyllt (fel peillwyr ac adar) ddod o hyd i gysgod neu fwyd yn ein hardaloedd trefol. Mae’r coridorau hyn yn galluogi datblygiad ecosystemau gwydn sy’n medru: cefnogi lles cymunedol, helpu i ddelio â newid yn yr hinsawdd, darparu aer glân, storio carbon, darparu atebion llifogydd a chreu mynediad at natur ar garreg ein drws.

Mae mannau trefol yn dod yn fwyfwy pwysig o ran cynnal ein bywyd gwyllt. Gall Coridorau Gwyrdd gysylltu ein mannau trefol â’r gwarchodfeydd natur/tirweddau mwy sy’n amgylchynu ein trefi, gan fod o fudd i fioamrywiaeth a’r gymuned leol.

Cynigion ar gyfer Safleoedd 2023/2024

Hoffem roi’r wybodaeth ddiweddaraf i drigolion a rhanddeiliaid am y Prosiect Seilwaith Gwyrdd (SG) – Coridorau Gwyrdd, a rhoi cyfle i chi roi eich adborth pellach i ni ar y prosiect. Mae Cyngor Sir Fynwy wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru trwy Bartneriaeth Grid Gwyrdd Gwent, i ddylunio rhwng 15 a 20 o Brosiectau Seilwaith Gwyrdd bach a chanolig eu maint yn y Fenni, Trefynwy, Magwyr gyda Gwndy a Rogiet.

Bydd y prosiectau SG yn creu mwy o leoedd gwell i bobl a bywyd gwyllt a hyrwyddo ecosystemau gwydn. Bydd cynlluniau’n cael eu cyflwyno ym mlynyddoedd ariannol 2023/24 a 2024/2025 ac fe’u hariennir gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin a Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.

Rydym wedi dewis y safleoedd presennol i’w datblygu ar hyn o bryd, yn seiliedig ar adborth a dderbyniwyd o’n hymgynghoriad cymunedol helaeth â Chynghorau Cymuned a grwpiau buddiant lleol, wrth greu ein Strategaeth Seilwaith Gwyrdd (SG).

Eich Adborth

Byddem yn ddiolchgar iawn am fwy o adborth gan y gymuned a rhanddeiliaid. Mae’r holiadur bellach ar gau, ond os oes gennych unrhyw gwestiynau am Brosiectau Seilwaith Gwyrdd y Coridor Gwyrdd, e-bostiwch LocalNature@Monmouthshire.gov.uk.

Esiamplau o Wella Bioamrywiaeth

Perthi newydd

Mae’r rhain yn cynnig gorchudd i adar i guddio, ynghyd â mamaliaid bach a thrychfilod. Maent hefyd yn nodweddion llorweddol ac yn dda ar gyfer cuddio ffens neu wal salw.

Plannu Coed

Mae coed yn cynnig bwyd a rhywle i adar (yn benodol) i guddio, ac yn fwy pwysig, maent yn medru cynnig cyfres o ‘gerrig sarn’ o ran gorchudd ar draws ardal helaeth o balmentydd, tra hefyd yn cynnig cysgod a lliw i drigolion.

Blodau gwyllt

Mae llawer o’n glastiroedd yn gyfyngedig iawn o ran eu bioamrywiaeth. Mae glaswellt sydd yn cynnwys blodau gwyllt yn cynnig cynefinoedd cyfoethog ar gyfer trychfilod, ac yn enwedig, gwenyn.

Rheoli coetiroedd

Mae coetiroedd yn newid drwy’r amser ac angen eu cynnal a’u cadw fel mannau deinamig a chyfeillgar ar gyfer bywyd gwyllt. Mae hyn yn golygu bod angen bod angen torri ychydig o’r tyfiant er mwyn annog coed, llwyni a blodau gwyllt, gan gynnwys bylbiau, i dyfu.

Cartrefi bywyd gwyllt

Mae cynefinoedd yn medru cael eu gwella drwy ddarparu gofodau addas i fywyd gwyllt i fagu  anifeiliaid bach. Mae hyn yn medru cynnwys bocsys ar gyfer ystlumod ac adar ar gyfer rhywogaethau fel  Gwenoliaid Du a Thylluanod. Mae ymlusgiaid, trychfilod ac amffibiaid angen rhywle i guddio pan eu bod yn  ddisymud a’n gaeafgysgu, ac mae gwneud cartrefi o ddarnau pren neu gerrig yn medru darparu hyn. Dylid ceisio sicrhau bod y rhain i ffwrdd o bobl ac anifeiliaid anwes ond maent yn ffordd bwysig o wneud ardaloedd yn fwy deniadol ar gyfer bywyd gwyllt.

Am dreulio amser yn rhannu eich adborth ar y prosiectau!

Cysylltwch gyda ni  LocalNature@Monmouthshire.gov.uk  os oes unrhyw gwestiynau eraill gennych.  

This post is also available in: English