Case Study: Cycle for All Scheme and Its Impact on an 8-Year-Old Boy
Cefndir
Er mwyn sicrhau na chaiff y bobl eu hadnabod, mae enwau’r plentyn a’r rhiant wedi cael eu hamnewid.
- Enw: Ethan
- Oed: 8 oed
- Lleoliad: Gyrion Cil-y-coed Sir Fynwy
- Sefyllfa deuluol: Yn byw gyda’i fam sengl, Sarah.
- Sefyllfa economaidd: Adnoddau ariannol cyfyngedig
Beth yw’r Cynllun ‘Beicio i Bawb’?
Mae’r cynllun “Beicio i Bawb” yn fenter gymunedol gyda’r nod o ddarparu beiciau i blant, oedolion a’u teuluoedd.
Cyflwyniad
Mae Ethan yn fachgen 8 oed bywiog a gweithgar sydd wrth ei fodd yn beicio. Yn byw yn ardal Cil-y-coed, mae beicio yn rhan allweddol o’i weithgareddau cymdeithasol a chorfforol, gan gynnig ffordd o deithio a ffordd o chwarae gyda ffrindiau. Fodd bynnag, wrth i Ethan dyfu, mae ei feic wedi mynd yn rhy fach iddo. Mae ei fam, Sarah, yn gweithio’n rhan-amser ac yn ei chael hi’n anodd cael dau ben llinyn ynghyd oherwydd yr hinsawdd economaidd bresennol a chostau byw, gan ei gwneud hi’n anodd fforddio beic newydd. Dyma le mae’r cynllun “Beicio i Bawb” â rhan i chwarae.
Profiad Ethan gyda’r Cynllun
Darganfod a Chofrestru
Dysgodd Sarah am y cynllun “Beicio i Bawb” drwy ddarllen taflen wrth ymweld â’r castell ar gyfer un o’r digwyddiadau llwybr pryfed wedi’u trefnu yn hanner tymor yr ysgol.
Ar ôl gwneud cais, cofrestrwyd Ethan yn gyflym, diolch i’r broses archebu syml, a oedd ond angen prawf adnabod a datganiad byr ar sut i ddefnyddio’r beic a ble i feicio.
Llogi’r Beic:
Ar ôl cwblhau’r broses archebu, gwahoddwyd Ethan i’r ardal gasglu yn y Castell, lle cafodd ei gyfateb â beic a oedd yn gweddu i’w faint a’i ddewisiadau.
Roedd y cyffro ar wyneb Ethan yn amlwg wrth iddo ddewis beic “bachgen mawr” glas llachar, ynghyd â helmed a chlo.
Dysgu a Grymuso:
Fel rhan o’r cynllun llogi, cafodd Ethan drosolwg ar sut i ddefnyddio gerau ar “y beic mawr” a dysgodd sut i wneud gwaith atgyweirio sylfaenol, megis pwmpio teiar fflat ac addasu’r brêcs, sedd a gerau.
Roedd hyn nid yn unig wedi grymuso Ethan trwy ddysgu hunangynhaliaeth iddo ond roedd bellach yn rheoli beic gyda gerau heb yr angen i stopio a gofyn i’w Fam wthio ei feic i fyny bryn.
Effaith ar Fywyd Bob Dydd
Iechyd Corfforol: Mae seiclo wedi dod yn weithgaredd wythnosol i Ethan, gan gyfrannu’n gadarnhaol at ei iechyd corfforol a’i ddatblygiad.
Integreiddio Cymdeithasol: Gyda’r beic newydd hwn, gall Ethan ymuno’n hawdd â’i ffrindiau ar deithiau penwythnos o amgylch tir y castell ar archwilio anturiaethau i ymylon pellaf y parc gan gryfhau ei fondiau cymdeithasol.
Lles Emosiynol: Mae’r annibyniaeth a’r gallu newydd i gymryd rhan lawn mewn gweithgareddau gyda chyfoedion wedi rhoi hwb i hyder Ethan a hapusrwydd cyffredinol.
Rhyddhad Economaidd: I Sarah, fe wnaeth y cynllun leddfu’r baich ariannol o brynu beic newydd wrth i Ethan dyfu mor gyflym, gan ganiatáu iddi ddyrannu adnoddau i anghenion hanfodol eraill.
Casgliad ac Effaith
Mae’r cynllun “Beicio i Bawb” wedi cael effaith ehangach y tu hwnt i dderbynwyr unigol fel Ethan. Drwy hyrwyddo beicio, mae’r cynllun yn annog cludiant sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd ac yn meithrin ymdeimlad o gymuned.
Yn y dyfodol bydd gweithdai fel gweithdy cynnal a chadw beiciau gyda’i fam lle byddai’n dysgu sut i wneud atgyweiriadau sylfaenol, fel gosod teiar fflat ac addasu’r brêcs. Mae hyn nid yn unig yn grymuso plant trwy eu dysgu i fod yn hunangynhaliol ond hefyd yn lleddfu pryderon rhieni ynghylch costau cynnal a chadw parhaus. Ar ôl ymgysylltu â rhieni a gwirfoddolwyr hefyd, byddai hyn yn helpu i greu rhwydwaith o gefnogaeth a phrofiadau a rennir.
Mae stori Ethan yn dyst i’r effaith sylweddol y gall mentrau cymunedol fel y cynllun “Beicio i Bawb” ei chael ar unigolion a theuluoedd. Trwy ddarparu beic i Ethan, mae’r cynllun nid yn unig wedi gwella ei fywyd ar y penwythnos, ond hefyd wedi cyfrannu at ei ddatblygiad corfforol, cymdeithasol ac emosiynol. I Sarah, mae’r rhaglen wedi bod yn gefnogaeth hanfodol, gan ddarparu ymdeimlad o ryddhad a chysylltiad cymunedol. Trwy raglenni o’r fath, gall cymunedau fynd i’r afael ag anghenion eu haelodau yn effeithiol, gan feithrin cynwysoldeb ac yn grymuso pawb.