Amcan:
Datblygu a / neu wella cyfleusterau cymunedol a mannau agored amrywiol yn Sir Fynwy trwy gyllid Adran 106.
Gweithredu:
Gellir defnyddio cyllid a elwir yn Adran 106 (A106) i ddatblygu a / neu wella cyfleusterau cymunedol a mannau agored amrywiol. Sicrhawyd yr arian yma drwy gais rhwymedigaeth cynllunio, sef gweithred neu gytundeb sydd ynghlwm â’r tir sy’n destun caniatâd cynllunio. Defnyddir cyfraniadau a sicrhawyd drwy rwymedigaethau cynllunio i liniaru neu wneud yn iawn am effeithiau negyddol datblygiad. O ganlyniad, cynhaliodd tîm SG MonLife y prosiectau canlynol:
Prosiect Gwelliannau Coridor Cil-y-coed – Gyda’r nod o greu gwelliannau ar hyd ffordd Woodstock a Heol Casnewydd yng Nghil-y-coed.
Prosiect gwella SG Cil-y-coed – Gwelliannau Seilwaith Gwyrdd (SG) yn rhan ddwyreiniol tref Cil-y-coed fel rhan o brosiect Cysylltiadau Gwyrdd y Cyngor, a wnaed ar hyd detholiad o ffyrdd llwybr gwyrdd ac mewn parciau a mannau amwynder yng Nghil-y-coed sy’n ffurfio llwybrau Teithio Llesol pwysig drwy’r dref.
Prosiect Peillwyr Parc Gwledig Cil-y-coed – Gyda’r nod o gyflawni cynllun gwella glaswelltir a phlannu coed. Cyflawnodd y prosiect gynllun torri glaswellt i wneud y gorau o ddolydd blodau gwyllt ar y safle ac roedd yn cynnwys ‘gor-hadu’ rhai ardaloedd â hadau blodau gwyllt brodorol.
Prosiect Mannau Natur Cymunedol Trefynwy – Ategodd hyn cyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur LlC i ddarparu cyfanswm o 11 o fannau gwyrdd sydd wedi’u gwella’n sylweddol. Bydd y cynllun hefyd yn arwain at leihau defnydd plaladdwyr ar draws yr ardal. Mae grwpiau diddordeb lleol wedi bod yn rhan o ddatblygiad y safle ac yn awyddus i ymgymryd â thyfu coed a bwyd unwaith y bydd y safleoedd wedi’u cwblhau.
Prosiect Gwella Coridorau Ffordd Gyswllt (Trefynwy) – Prosiect A106 wedi’i ariannu’n llawn sy’n darparu rhywogaethau a rheoli cynefinoedd a gwella er mwyn gwneud yn iawn am golli cynefin i hwyluso datblygiad gerllaw.
Canlyniadau
Prosiect Gwelliannau Coridor Cil-y-coed:
11 safle wedi gwella ar gyfer peillwyr
9 safle ag arferion torri gwair gwell
11 ardal o blannu planhigion peillio
11 safle plannu coed
9 ardal o blannu perllan gymunedol
3 gwely tyfu bwyd cymunedol
1 meithrinfa goed
11 Lle i eistedd gwell
– 0.4 hectar o laswelltir/prysgwydd i gynnal a gwella rhywogaethau glaswelltir; Cefnogi cynefinoedd ar gyfer slorymod a phathewod.
– 1.3 hectar o goetir wedi’i reoli yn cefnogi amrywiaeth o rywogaethau o adar sy’n bridio
– Gosod a monitro 44 blwch pathew a 2 lloches ymlusgiaid. – Roedd y cynllun yn cynnwys y grŵp Building Bridges (pobl ifanc sydd ag anghenion ychwanegol) i wneud blychau pathew a chynnal chwiliadau cnau yn y coetir.
This post is also available in: English