Astudiaeth achos: Partneriaeth Grid Gwyrdd Gwent - Monlife

Amcan:

Mae Partneriaeth Grid Gwyrdd Gwent (PGGG) yn brosiect tair blynedd sy’n rhedeg o fis Mawrth 2020 i fis Mawrth 2023. Mae’r bartneriaeth yn cynnwys pum Awdurdod Lleol Gwent (Sir Fynwy, Blaenau Gwent, Caerffili, Casnewydd a Thorfaen), yn ogystal â Chyfoeth Naturiol Cymru, Forest Research ac Asiantaeth Ynni Hafren Gwy.

Nod y Bartneriaeth GGG yw gwella a datblygu seilwaith gwyrdd – term a ddefnyddir i ddisgrifio’r rhwydwaith o nodweddion naturiol a lled-naturiol, mannau gwyrdd, afonydd a llynnoedd sy’n cyd-fynd ac yn cysylltu pentrefi, trefi a dinasoedd – yn ogystal â darparu cyfleoedd gwaith gwyrdd yn yr ardal. Mae gan seilwaith gwyrdd rôl hanfodol i’w chwarae o ran mynd i’r afael â natur, newid yn yr hinsawdd ac argyfyngau iechyd.


Gweithredu:

Mae Partneriaeth GGG yn cyflawni ar draws pum ffrwd waith:

Ffrwd Waith 1: Strategaeth a Phartneriaeth Seilwaith Gwyrdd Rhanbarthol:

Mae’r PGGG yn dangos ffordd arloesol o gydweithio i gyflawni canlyniadau strategol a lleol i ddarparu dull rhanbarthol o ymdrin â Seilwaith Gwyrdd (SG) yng Ngwent.

Ffrwd Waith 2: Coridorau Gwyrdd Gwent

Bydd edrych ar faterion mynediad ar raddfa ranbarthol yn cefnogi arferion gorau ac yn cefnogi’r gwaith o gyflawni gweithiau’r tir yn lleol ac yn rhanbarthol.  Mae pedwar ceidwad cefn gwlad dan hyfforddiant yn cael eu cyflogi gan y bartneriaeth i gyflawni gwelliannau mynediad ac ennill sgiliau a chymwysterau mewn rheoli cefn gwlad.

Ffrwd Waith 3: Astudiaeth i-Tree Eco

Mae i-Tree yn becyn meddalwedd sy’n cael ei ddefnyddio i fesur strwythur ac effeithiau amgylcheddol coed trefol. Gellir defnyddio’r data o’r arolygon hyn i helpu’r rhai sy’n gofalu am goed i wneud penderfyniadau rheoli gwybodus.

Ffrwd Waith 4:  Prosiectau Gwyrdd Gwent

Yn y llif gwaith hwn mae gwelliannau seilwaith gwyrdd yn cael eu darparu ar draws y rhanbarth, gan gynnwys gwelliannau tirwedd, gweithredu rheolaeth sy’n gyfeillgar i beillwyr, plannu coed a gwelliannau mynediad.

Ffrwd Waith 5:  Gwent sy’n Gyfeillgar i Beillwyr

Mae mannau gwyrdd yn cael eu rheoli yn y ffordd ‘Natur Wyllt’, gan adael i laswelltir mewn parciau ac ar hyd ymylon dyfu yn y gwanwyn a’r haf er mwyn creu dolydd a darparu cynefinoedd gwell i bryfed peillio, fel gwenyn a phili-palod yn ogystal ag amrywiaeth o fywyd gwyllt arall.


Canlyniadau:

Gellir gweld y gwaith llawr gwlad ar draws Gwent. Mae rhai gwelliannau sy’n cael eu gwneud yn Sir Fynwy’n cynnwys:

Bydd y tîm PGGG yn llawn gweithgareddau a digwyddiadau yn 2022, felly dilynwch ni ar Twitter @Gwentgreengrid am yr holl newyddion diweddaraf ac ail-drydarwch a rhannwch yn eang.

Cliciwch YMA am fwy o wybodaeth.

This post is also available in: English