Astudiaeth achos: Rhaglen 60 MonLife yn Weithredol - Monlife

Astudiaeth achos: Rhaglen 60 MonLife yn Weithredol

Amcan:

Bu Rhaglen 60 MonLife yn Weithredol yn bosibl gydag arian gan Chwaraeon Cymru. Mae’r rhaglen yn ceisio annog gweithgarwch corfforol gydol oes i bobl 60 oed a mwy drwy gynnig cymorth iddynt ddod yn fwy egnïol yn gorfforol trwy ddosbarthiadau wyneb yn wyneb neu ar-lein.

Mae gan aelodau’r Rhaglen 60 MonLife yn Weithredol fynediad at:

• Ystafelloedd Ffitrwydd gyda rhaglenni 1 i 1 wedi’u teilwra / adolygiadau rhaglenni

• Dosbarthiadau Ffitrwydd Dynodedig (Fit4Life, Ymestyn a Ffyrfhau, Pilates, Ioga, Tai Chi, Dawns Fit4Life, Aml-chwaraeon Fit4Life; Pêl-rwyd cerdded Fit4Life; Ffitrwydd Dŵr; Rhedeg Dŵr; BARRE Rhithwir Les Mills, Balans Corff Rhithwir Les Mills, Sh’Bam Rhithwir Les Mills)

• Sesiynau nofio achlysurol

• Ystafelloedd Iechyd a Sawnas (Heblaw am Drefynwy).

Anogir yr aelodau i gysylltu eu gweithgarwch corfforol â’n App My Wellness trwy gyfrwng eu ffôn clyfar neu oriorau.  Mae hyn yn creu dangosfwrdd ar-lein lle gellir monitro gweithgaredd trwy fynychu campfa/dosbarth, defnydd o ddosbarth rhithwir a gweithgaredd awyr agored megis chwaraeon, cerdded a beicio.

Nod tîm Datblygu Chwaraeon MonLife hefyd yw cysylltu aelodau o’r rhaglen â chlybiau cymunedol lleol fel hoci cerdded; bowlio; rygbi cyffwrdd a digwyddiadau Parkrun. Trwy helpu i greu’r llwybrau hyn i’r gymuned, mae’n darparu amrywiaeth ehangach o weithgareddau i’r aelodau gymryd rhan ynddynt. Mae hyn yn ei dro yn helpu’r aelodau i barhau â’u hiechyd, eu lles a’u mwynhad o weithgareddau corfforol fel rhan o’u ffordd o fyw bob dydd.

Mae’r Rhaglen 60 MonLife yn Weithredol hefyd yn agored i aelodau sy’n cwblhau’r Cynllun Atgyfeirio Ymarfer Corff Cenedlaethol (NERs) i’w helpu i’w cefnogi i weithgarwch ac iechyd corfforol gydol oes.

Gweithredu:

Ystafelloedd Ffitrwydd gyda Thaith Cwsmer 1:1 gyda rhaglenni wedi’u teilwra / adolygiadau rhaglenni

Dosbarthiadau Ffitrwydd Dynodedig (Fit4Life, Ymestyn a Ffyrfhau, Pilates, Ioga, Tai Chi, Dawns Fit4Life, Aml-chwaraeon Fit4Life; Pêl-rwyd cerdded Fit4Life; Ffitrwydd Dŵr; Rhedeg Dŵr; BARRE Rhithwir Les Mills, Balans Corff Rhithwir Les Mills, Sh’Bam Rhithwir Les Mills) Sesiynau Nofio Achlysurol

Ystafelloedd Iechyd a Sawnas (Heblaw am Drefynwy).

Rydym yn edrych yn barhaus i wella’r rhaglen i annog cyfranogiad drwy gyflwyno gweithgareddau amgen fel:  Dawns, Pêl-rwyd Cerdded a Aml-chwaraeon.

Canlyniadau:

Bydd yr holl aelodau sy’n ymuno â’r Rhaglen 60 MonLife yn Weithredol yn cwblhau asesiad ffitrwydd ar wythnos 1 ac wythnos 8. Caiff hyn ei adrodd yn ôl i Chwaraeon Cymru i dynnu sylw at welliannau i’r grŵp iechyd a lles ar gyfer y grŵp oedran hwn.

Ers dechrau’r rhaglen ym mis Ebrill 2021:

  • Mae 157 o aelodau wedi cofrestru gyda ni.
  • Mae gan 140 o aelodau raglenni ar Ap MyWellness.
  • Mae 83% wedi aros am eu mis cyntaf yn y rhaglen.

“Ar ôl y saib hir oherwydd Covid Hir roedd yn dda cael mynd yn ôl i’r gampfa nid yn unig am resymau corfforol ond meddyliol hefyd. Mae gallu mynychu’r gampfa yn dda i’r meddwl gan ei fod yn rhoi ffocws i mi a rhywbeth i edrych ymlaen ato. Gellir torri ar draws y presenoldeb o hyd oherwydd dyddiau lle mae’r lefelau egni’n isel, ond mae’r gwelliant yn amlwg i mi, ac mae’r rhaglen bellach yn dechrau dychwelyd i’r arfer ac mae addasiadau wedi’u gwneud i gadw’r cynnydd.”

Active 60 Member

This post is also available in: English