Helpu Mwy o Gwsmeriaid i Gael Mynediad i Weithgareddau
Rydyn ni’n gwybod pa mor boblogaidd yw ein dosbarthiadau ffitrwydd a rydym eisiau sicrhau fod cynifer o aelodau ag sydd modd yn cael cyfle i archebu a mwynhau’r sesiynau y maent yn eu mwynhau.
I’n helpu i wneud lleoedd mewn dosbarth ar gael yn deg a gostwng nifer y lleoedd gwag, byddwn yn cyflwyno ein Proses Streic Archebion o 19 Hydref 2026.
Pan mae aelodau yn archebu dosbarth ond ddim yn mynychu, ond yn canslo’n rhy hwyr i rywun arall gymryd eu lle, gall lleoedd gwerthfawr fynd yn wag. Cynlluniwyd y broses streic archebion i annog aelodau i ganslo archebion na fedrant eu mynychu mwyach, gan roi cyfle i bobl eraill gymryd y lle hwnnw.
Sut mae’n gweithio
- Os na fedrwch fynychu dosbarth, gofynnir i chi ganslo eich archeb o leiaf 2 awr cyn y gweithgaredd drwy ap MonLife, ar-lein neu drwy gysylltu â’r ganolfan hamdden.
- Bydd cwsmeriaid nad ydynt yn mynychu gweithgaredd a archebwyd heb ganslo yn derbyn streic archebu
- Caiff breintiau archebu ar-lein cwsmeriaid sy’n cael tair streic o fewn cyfnod o 12 mis eu cyfyngu dros dro am 7 diwrnod.
Nod y polisi hwn yw hyrwyddo mynediad teg i ddosbarthiadau a gwella argaeledd ar gyfer pob aelod!
Pam ein bod yn cyflwyno’r newid yma
Mewn misoedd diweddar wedi rydym gweld pob lle wedi eu harchebu mewn nifer o ddosbarthiadau, gyda rhai aelodau yn methu cael lle tra bod lleoedd a archebwyd ddim yn cael eu defnyddio oherwydd nad yw’r sawl a’u harhebodd yn troi lan.
Drwy gyflwyno’r polisi hwn, gobeithiwn:
- Wella argaeledd mewn dosbarthiadau
- Gostwng amserau aros
- Sicrhau y caiff lleoedd eu defnyddio’n effeithiol
- Cynnig gwell profiad i bob aelod
Byddwn yn parhau i fonitro presenoldeb a chefnogi aelodau i reoli eu harchebion drwy ap MonLife a’r system archebu ar-lein.
Diolch am eich cefnogaeth wrth ein helpu i wneud ein dosbarthiadau ffitrwydd yn hygyrch a bod pawb yn eu mwynhau.
Daw’r broses streic archebu newydd i rym ar 19 Hydref 2026.
Cwestiynau cyffredin
Beth yw streic?
Cofnodir streic pan fo cwsmer yn archebu gweithgaredd a dim yn mynychu heb ganslo o leiaf 2 awr ymlaen llaw.
Pryd ddylwn i ganslo fy archeb?
Os na fedrwch fynychu mwyach, gofynnir i chi ganslo eich archeb o leiaf 2 awr cyn dechrau’r sesiwn i osgoi derbyn streic.
Pam fod y polisi hwn yn cael ei gyflwyno?
Cyflwynwyd y polisi yn dilyn adborth gan gwsmeriaid am ddosbarthiadau a gweithgareddau yn ymddangos yn llawn, ond bod lleoedd ddim yn cael eu defnyddio oherwydd nad yw cwsmeriaid oedd wedi archebu wedi troi lan.
Sawl streic fedraf i gael?
Gall cwsmeriaid gael hyd at dair streic mewn cyfnod treigl o 12 mis cyn y rhoddir cosb. Yn dilyn y gosb, mae’r broses streic yn ailosod ac yn dechrau eto.
Beth sy’n digwydd pan gaf dair streic?
Unwaith y cafwyd tair streic mewn cyfnod treigl 12 mis, gweithredir cosb yn unol â’r Polisi Archebu a Chanslo. Mae hyn yn golygu na fedrwch archebu gweithgareddau ar-lein am 7 diwrnod. Yn dilyn y gosb, mae’r broses streic yn ailosod ac yn dechrau eto.
Sut y gallaf wirio fy archebion?
Gallwch weld a rheoli eich archebion ar ap MonLife, y system archebu ar-lein neu drwy gysylltu â’ch canolfan hamdden leol.
Beth ddylwn i wneud os na fedraf fynd i sesiwn mwyach?
Gofynnir i chi ganslo eich archeb cyn gynted ag sydd modd ond ddim hwyrach na 2 awr cyn y gweithgaredd. Bydd hyn yn galluogi cwsmer arall i gymryd eich lle ac yn ein helpu i wneud y defnydd gorau o’r lleoedd sydd ar gael.
Beth os oes gen i argyfwng ac yn methu mynychu?
Deallwn y gall sefyllfaoedd annisgwyl ddigwydd. Os oes amgylchiadau eithriadol, cysylltwch â monmemberships@monmouthshire.gov.uk cyn gynted ag sydd modd fel y gellir adolygu’r sefyllfa.
A fydd fy streiciau byth yn dod i ben?
Byddant. Caiff streiciau eu holrhain ar sail treigl 12 mis. Ni fydd unrhyw streic dros 12 mis yn cyfrif tuag at eich cyfanswm.
A yw hyn yn weithredol ar gyfer pob dosbarth a gweithgaredd?
Mae’r broses streic archebu newydd yn weithredol ar gyfer pob sesiwn a archebir ymlaen llaw lle cofnodir presenoldeb.
Sut mae hyn o fudd i aelodau?
Mae’r polisi streic yn helpu:
- Gwella argaeledd dosbarthiadau a gweithgareddau poblogaidd
- Gostwng nifer yr archebion sydd ddim yn troi lan
- Rhoi cyfle teg i gwsmeriaid archebu eu hoff weithgareddau
- Creu profiad gwell i bob defnyddiwr
This post is also available in: