Wrth Eich Bodd â Natur Wyllt? – Monlife

Wrth Eich Bodd â Natur Wyllt?

Mae trigolion ar draws Sir Fynwy yn cael eu gwahodd i rannu eu barn am raglen Natur Wyllt y Cyngor, gan helpu i ddylanwadu ar y ffordd y bydd y fenter yn datblygu yn y blynyddoedd sydd i ddod. 

Mae’r arolwg Sgwrsio Am Natur Wyllt ar y gweill tan 31 Hydref 2026 ac mae ar gael ar blatfform ymgysylltu ac ymgynghori’r Cyngor, Sgwrsio Am Sir Fynwy. 

Sgwrsio am Natur Wyllt | Sgwrsio Am Sir Fynwy

Mewn mannau gwyrdd ar draws y sir, mae glaswellt a blodau gwyllt yn cael eu gadael i dyfu am gyfnodau hirach, gan greu cynefinoedd gwerthfawr ar gyfer pryfed sy’n peillio a bywyd gwyllt arall. Ar yr un pryd, mae llwybrau, llinellau golwg ffyrdd a mannau hamdden yn dal i gael eu cynnal er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn hygyrch. 

Treialwyd Natur Wyllt am y tro cyntaf yn Nhrefynwy yn 2019, ac ers hynny mae wedi ehangu ar draws y Sir. Mae’r dull hwn yn helpu i greu glaswelltiroedd iachach, mwy amrywiol sy’n cefnogi bywyd gwyllt, yn cadw lleithder yn ystod tywydd sych ac yn amsugno dŵr yn ystod cyfnodau o law trwm. Mae’r glaswelltiroedd cyfoethocach hyn hefyd yn cyfrannu at wydnwch yn erbyn yr hinsawdd trwy storio carbon, helpu i oeri ardaloedd adeiledig yn ystod tywydd poeth, cefnogi llesiant pobl trwy gyswllt â natur, a chreu tirweddau sy’n gallu gwrthsefyll tywydd sy’n mynd yn fwy a mwy eithafol, yn well. 

Eleni, mae’r cyfnodau hir o dywydd poeth, sych wedi cyflwyno heriau ar gyfer rheoli glaswelltir. Mewn ymateb, mae Cyngor Sir Fynwy wedi cynnal ei rhaglen torri a chasglu fwyaf fwy hyd yma, er mwyn helpu i gynnal glaswelltiroedd iach a gwella’u gwytnwch.  

Mae rheolaeth ofalus hefyd wedi helpu i leihau’r risg o danau glaswellt trwy ddefnyddio stribedi rheoli a thargedu’r gwaith cynnal a chadw at ardaloedd risg uwch. 

Mae’r Cyngor yn awyddus i glywed gan drigolion am eu profiadau o Natur Wyllt, beth sy’n gweithio’n dda a ble y gellid gwneud gwelliannau. 

Meddai’r Cynghorydd Catrin Maby, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Mae Natur Wyllt yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi bioamrywiaeth ar draws Sir Fynwy a chadw ein mannau cyhoeddus yn ddiogel ac yn hygyrch.

“Mae’n ffordd wahanol o ofalu am y mannau hyn, ac mae’n cymryd amser i bobl ddod i arfer â newid fel hyn. Rydyn ni eisiau clywed barn trigolion er mwyn parhau i wella’r rhaglen ar gyfer pobl a natur.” 

Gall trigolion lenwi’r holiadur ar: www.sgwrsioamsirfynwy.co.uk/natur-wyllt

Blodau gwyllt yn Rogiet yn gynharach eleni.

This post is also available in: English