Tudalen 2 – Monlife


Astudiaeth achos: Grymuso Cymunedau trwy Gymorth Costau Byw Cydgysylltiedig

Cefndir

Yn 2024–2025, arweiniodd Tîm Datblygu Cymunedol Cyngor Sir Fynwy gyfres o fentrau gyda’r nod o fynd i’r afael â thlodi a chefnogi trigolion trwy’r argyfwng costau byw.  Roedd yr ymdrechion hyn yn cynnwys cynnal digwyddiadau, dosbarthu adnoddau, a darparu cymorth wedi’i dargedu i unigolion a theuluoedd mewn angen.  Un enghraifft o’r fath yw achos mam ifanc, y cyfeirir ati yma’n ddienw, a gafodd gafael ar gymorth wnaeth newid bywyd, trwy ddigwyddiad Costau Byw.

Yr Heriau a Nodwyd

Cafodd y preswylydd, mam i blentyn sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, ei hun mewn perygl o fod yn ddigartref ar ôl i berthynas chwalu a gwneud ei sefyllfa tai yn anfforddiadwy. Roedd hi hefyd yn wynebu aflonyddu ac ymdrechion troi allan gan ei landlord.  Cafodd ei sefyllfa ei gwaethygu gan galedi ariannol a diffyg rhwydweithiau cymorth uniongyrchol.

Y Cymorth a Ddarparwyd

Mynychodd hi ddigwyddiad Costau Byw a drefnwyd gan y Tîm Datblygu Cymunedol, lle cysylltodd ag aelod o’r Tîm Porth. Arweiniodd y cyswllt cychwynnol hwn at ymateb cydgysylltiedig sy’n cynnwys pum tîm cyngor mewnol a phedair asiantaeth allanol.  Roedd cefnogaeth yn cynnwys atal digartrefedd a llety dros dro, eiriolaeth gyfreithiol a wnaeth arwain at erlyniad y landlord, gwneud y mwyaf o incwm a chymorth ychwanegu rhent, a sicrhau cartref newydd, diogel iddi hi a’i phlentyn.

Y tu hwnt i achosion unigol, roedd mentrau ehangach y Tîm Datblygu Cymunedol yn cynnwys cynnal 10 digwyddiad mawr (gan gynnwys 4 sesiwn Costau Byw a 6 sesiwn Credyd Pensiwn) gyda dros 30 o sefydliadau partner, cefnogi 30 o Fannau Cynnes a fynychwyd gan 700+ o drigolion, dosbarthu 100 o Becynnau Cynnes a dros 10,000 o daflenni cymorth, darparu 32 o sesiynau lles ariannol mewn ysgolion, lansio’r fenter Urddas Mislif, gan gyrraedd holl ysgolion Sir Fynwy ac 89 o sefydliadau cymunedol, darparu 360 o becynnau prydau bwyd a gweithredu 5 oergell gymunedol gyda hyd at 540 o ymweliadau wythnosol, a sefydlu Rhwydwaith Gweithredu Bwyd Sir Fynwy i gryfhau diogelwch bwyd lleol.

Deilliannau

Mae effaith yr ymdrechion hyn wedi bod yn drawsnewidiol.  Mae’r achos hwn yn dangos sut y gall un pwynt cyswllt mewn digwyddiad cymunedol sbarduno rhaeadr o gefnogaeth, gan arwain at ddiogelwch, sefydlogrwydd, a gobaith o’r newydd.  Yn fwy eang, mae’r mentrau wedi grymuso dros 1,000 o drigolion, gwell mynediad at fwyd, lleihau ynysu cymdeithasol, a gwell gwydnwch ariannol ledled y sir. Mae’r dull cydweithredol, traws-sector wedi profi’n hanfodol wrth fynd i’r afael ag anghenion uniongyrchol, a heriau hirdymor sy’n gysylltiedig â thlodi ac anghydraddoldeb.


Oriel newydd yn agor i ddathlu cymunedau amrywiol yng Nghas-gwent

Croesawodd Amgueddfa Cas-gwent weinidogion o Lywodraeth Cymru ac aelodau o gabinet Sir Fynwy yr wythnos ddiwethaf fel rhan o agor oriel newydd.

Mae Newid yn Wyneb Cas-gwent yn oriel newydd, a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’u rhaglen Cymru Wrth-hiliol ar gyfer Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon.

Mae’r oriel yn edrych ar bobl Cas-gwent o safbwynt newydd, gan sylweddoli y bu bob amser yn gartref i bobl sydd wedi hanu o leoedd eraill – bydded hynny’n oresgynwyr – Rhufeiniaid a Normaniaid, pobl yn edrych am waith – labrwyr o Iwerddon neu weithwyr gwifr o’r Almaen neu ein cymuned Wcráin yn edrych am le diogel i’w alw’n gartref.

Nod yr ymgyrch yw dangos sut mae grwpiau amrywiol wedi cyfrannu at yr hyn yw Cas-gwent heddiw.

Cyflwynodd aelodau gymuned Wcráin Cas-gwent ddwy ddol ffabrig wedi’u gwneud â llaw i’r amgueddfe fel arwydd o gyfeillgarwch Cymru ac Wcráin. Yn bresennol yn y digwyddiad blaenolwg oedd Jack Sergeant, Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol a Jane Hutt, Ysgrifennydd Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Trefnydd a Phrif Chwip.

Yno gyda’r gweinidogion roedd Arweinydd Cyngor Sir Fynwy y Cyng Mary Ann Brocklesby, yr Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu y Cyng Angela Sandles a’r Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Tai a Thwristiaeth y Cyng Sara Burch.

Cafodd y sawl oedd yn mynychu gyfle i weld yr oriel a chwrdd ag aelodau o’r gymuned oedd wedi helpu ar y prosiect.

Mae’r oriel yn rhan o brosiect llawer ehangach yn cynnwys Amgueddfeydd Cas-gwent a’r Fenni.

Dywedodd y Cyng Burch: “Rwy’n annog pawb a all wneud hynny i ymweld ag arddangosfa Newid yn Wyneb yng Nghas-gwent.

“Mae’n ychwanegiad gwych i’r amgueddfa a stori Sir Fynwy yn ei chyfanrwydd.

“Rwy’n ddiolchgar am y cyfle i edrych o gwmpas.”

Meddai’r Cyng Sandles: “Roedd yn wych ymweld ag Amgueddfa Cas-gwent i weld oriel newydd Newid yn Wyneb.

“Mae’n dangos sut y cafodd Sir Fynwy fel y mae heddiw ei siapio gan bobl o bob rhan o’r byd.

“Dylem ddathlu’r ffaith honno a’r ffaith fod ein cymuned amrywiol yn ein gwneud yn gryfach.”

Cynhaliwyd digwyddiad arall y noswaith ganlynol, pan agorwyd yr oriel yn swyddogol gan y Cyng Peter Strong, Cadeirydd Cyngor Sir Fynwy.

Mynychodd pobl sy’n ymwneud â phob maes o greu’r oriel y digwyddiad, gan roi cyfle i aelodau gwahanol grwpiau cymunedol ac arbenigwyr ddod ynghyd i ddathlu eu llwyddiant.


Cyngor Sir Fynwy yn cynnal Cynadleddau ‘PlayMaker’ blynyddol

Yr wythnos hon, mae Tîm Datblygu Chwaraeon MonLife wedi croesawu disgyblion ysgolion cynradd o bob cwr o Sir Fynwy i’w Cynadleddau ‘PlayMaker’ blynyddol.

Mae’r gynhadledd yn dod ag arweinwyr ifanc Sir Fynwy ynghyd ar gyfer hyfforddiant ac i ddathlu eu datblygiad fel arweinwyr.

Cymerodd tua 650 o blant o ysgolion cynradd Sir Fynwy yn y Fenni, Cas-gwent, a Chil-y-coed ran mewn amrywiaeth o weithgareddau a gyflwynwyd gan Wasanaethau cyngor Sir Fynwy, Academi Arweinyddiaeth MonLife, a phartneriaid allanol, gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a’r Sir yn y Gymuned.

Yn anffodus, oherwydd y tywydd, mae ein digwyddiad gydag Ysgolion Cynradd Clwstwr Trefynwy wedi’i ohirio am y flwyddyn academaidd hon.

Roedd y digwyddiadau’n cynnwys gweithdai amrywiol, fel datblygu cyfleoedd chwarae, hyrwyddo Teithio Llesol, llais y disgybl, bwyta’n iach, cynaliadwyedd, diogelwch yn y dŵr a llawer mwy.

Derbyniodd y rhaglen wythnos o ddigwyddiadau gefnogaeth wych gan ein Hysgolion Cynhwysfawr, a ddarparodd gyfleusterau ar gyfer y digwyddiadau, yn ogystal â Chlwb Rygbi’r Fenni ym Mharc Bailey.

Mae Tîm Datblygu Chwaraeon MonLife wedi bod yn cyflwyno Gwobr ‘PlayMaker’ Arweinwyr Chwaraeon drwy gydol y flwyddyn academaidd hon, gan ymgysylltu â bron pob ysgol gynradd yn Sir Fynwy. Ar ôl i’r disgyblion ennill y wobr, maent yn cynorthwyo i gael effaith gadarnhaol ar lesiant yn eu hysgolion.

Dywedodd y Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet dros Ymgysylltu a Chydraddoldeb: “Mae Cynhadledd ‘PlayMaker’ yn gyfle gwych i ymgysylltu â’n harweinwyr ifanc.

“Mae mor wych gweld y bobl ifanc hyn yn datblygu ac yn tyfu o fod yn ‘Playmakers’ ym mlwyddyn 5 i wirfoddoli mewn gwaith ieuenctid yn yr ysgol uwchradd ac yna’n aml yn dechrau eu gyrfaoedd mewn datblygu chwaraeon yn Sir Fynwy.

“Mae’n daith ysbrydoledig, ac yn bleser i’w gweld.”

Drwy gydol yr wythnos, cefnogodd 43 o wirfoddolwyr yr Academi Arweinyddiaeth y digwyddiadau, gan gofnodi 172 awr rhyngddynt. Am ragor o wybodaeth am y rhaglen ‘PlayMaker’, neu fentrau 

Datblygu Chwaraeon ehangach, ewch i –www.monlife.co.uk/connect/sports-development   neu e-bostiwch sport@monmouthshire.gov.uk


Pobl ifanc yn creu argraff yn y Gynhadledd Ieuenctid flynyddol

Cynhaliodd Cyngor Sir Fynwy ei Gynhadledd Ieuenctid flynyddol ar ddydd Gwener 23 Mai yn Neuadd y Sir ym Mrynbuga.

Mae’r Gynhadledd Ieuenctid yn caniatáu i bobl ifanc o ysgolion ledled y Sir i ystyried o ddifri’ y tri maes blaenoriaeth a nodwyd yn arolwg Gwneud Eich Marc 2025, y cymerodd 3,509 o bobl ifanc ran ynddo, sef y nifer uchaf erioed.

Y meysydd blaenoriaeth oedd:

1. Costau byw (gyda chyfran o 17.1% o gyfanswm y bleidlais gan yr holl ymatebwyr)

2. Materion iechyd meddwl (gyda chyfran o 17% o gyfanswm y bleidlais gan yr holl ymatebwyr)

3. Cyflogaeth a sgiliau (gyda chyfran o 14% o gyfanswm y bleidlais gan yr holl ymatebwyr)

Cynhaliwyd trafodaethau a gweithdai ynghylch y meysydd blaenoriaeth hynny gyda’r bwriad o lunio argymhellion i wneuthurwyr penderfyniadau, gwasanaethau cyhoeddus a phobl ifanc eu hunain fynd i’r afael â nhw dros y flwyddyn nesaf.

Agorodd Comisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes, Gynhadledd Ieuenctid eleni a rhoddodd rywfaint o bersbectif ar y tri phrif fater blaenoriaeth ar lefel genedlaethol.

Dywedodd y Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu: “Mae’n hanfodol ein bod yn gwrando ar leisiau pobl ifanc ledled Sir Fynwy ac yn clywed beth sy’n bwysig iddynt.”

“Bydd ymgysylltu â phobl o bob oed yn ein helpu i ffurfio darlun cytbwys o’r hyn sydd bwysicaf i bobl Sir Fynwy.”

“Rwy’n gobeithio bod pawb a fynychodd Gynhadledd Ieuenctid ddydd Gwener wedi gallu deall sut mae’n rhaid i ni i gyd gefnogi ein gilydd i ffynnu fel sir.

“Dyma fy hoff gynhadledd o flwyddyn y Cyngor bob amser – mae gwrando ar leisiau ein pobl ifanc yn fy ysbrydoli ac yn ein hatgoffa ni i gyd o’r mewnwelediad a’r arloesedd maen nhw’n eu cynnig.”

Dywedodd y Cynghorydd Laura Wright, Aelod Cabinet dros Addysg: “Gall dysgu sut y gall llywodraeth leol weithredu i gefnogi pobl o bob agwedd ar gymdeithas fod yn rhan hynod fuddiol o addysg.”

“Roedd yn wych gweld cymaint o bobl ifanc yn cymryd rhan yn y Gynhadledd Ieuenctid.”

“Mwynheais yn arbennig wrando arnyn nhw’n trafod iechyd meddwl a lles, gan fyfyrio ar eu profiadau a rhannu eu syniadau.

“Maent wedi rhoi llawer i mi feddwl amdano ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda phobl ifanc ledled Sir Fynwy i amddiffyn a gwella iechyd meddwl yn ein hysgolion.”

Am ragor o wybodaeth am y Gynhadledd Ieuenctid, yr arolwg Gwneud Eich Marc a mwy, ewch i dudalen we’r Gwasanaeth Ieuenctid yn monlife.co.uk/connect/youth-service/


Cau Canolfan Hamdden y Fenni dros dro ar gyfer gwaith gwella Cam 2 y safle

Bydd Canolfan Hamdden y Fenni ar gau o’r 21ain o Orffennaf tan ganol mis Awst ar gyfer gwaith gwella.

Mae’r gwaith hwn yn rhan o raglen gwaith gwella Ysgolion a Chanolfannau Hamdden Cam 2, a ddechreuodd ym Mhasg 2025; mae’r cam nesaf bellach yn cynnwys gosod cyfleustodau newydd a gwaith adeiladu sylweddol ar safle’r ysgol a’r ganolfan hamdden, y mae’n rhaid ei wneud yn ystod gwyliau’r ysgol oherwydd maint y prosiect.

Mae’r gwaith uwchraddio hyn yn sicrhau cynaliadwyedd hirdymor ac effeithlonrwydd gweithredol y cyfleuster.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu, y Cynghorydd Angela Sandles: “Rydym yn deall pwysigrwydd ein haelodau a’r aflonyddwch posibl i’w trefn arferol, ac rydym yn ymddiheuro’n ddiffuant am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi.

“Hoffem ddiolch i’n holl aelodau am eu dealltwriaeth drwy gydol y cyfnod.”

Er mwyn lleihau effaith cau’r safle, ni fyddwn yn prosesu taliadau Debyd Uniongyrchol Aelodaeth ym mis Gorffennaf. Bydd aelodaethau aelodau blynyddol yn cael eu hymestyn i gwmpasu’r cyfnod cau.

Yn sgil y gwaith, bydd y pwll nofio yn parhau ar gau y tu hwnt i ddyddiad ailagor y ganolfan, a byddwn yn darparu diweddariadau ynghylch dyddiadau ailagor penodol trwy ein gwefan, sianeli cyfryngau cymdeithasol, ac Ap MonLife.

I deuluoedd â phlant sydd wedi cofrestru mewn gwersi nofio, ni fydd unrhyw daliadau’n cael eu prosesu ym mis Gorffennaf nac Awst, a bydd neges bellach ynghylch gwersi sy’n dechrau eto ym mis Medi.

Bydd MonLife yn parhau i ddarparu rhaglenni gwyliau haf yn y Fenni. Bydd diweddariadau pellach ynghylch Gemau Sir Fynwy a Chwarae Egnïol yn cael eu cyhoeddi’n fuan. Bydd y Cynllun Bwyd a Hwyl yn y Fenni hefyd yn digwydd yr haf hwn, gyda’r lleoliad i’w gadarnhau’n fuan.

Ar hyn o bryd, mae MonLife yn edrych ar ddarpariaeth gyfyngedig o ddosbarthiadau ffitrwydd yn Y Fenni. Byddwn yn darparu rhagor o wybodaeth cyn gynted ag y bydd y manylion wedi’u cadarnhau.

Rydym yn gwerthfawrogi eich amynedd a’ch cefnogaeth barhaus drwy gydol y cyfnod hwn.

Am ddiweddariadau rheolaidd a rhestr o Gwestiynau Cyffredin (FAQs), ewch i https://www.monlife.co.uk/cy/temporary-closure-of-abergavenny-leisure-centre/, a dilynwch ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol neu lawrlwythwch Ap MonLife.

Am ymholiadau pellach, anfonwch e-bost at monmemberships@monmouthshire.gov.uk


Sir Fynwy yn dathlu effaith gadarnhaol Rhaglen NERS

Mae’r Cynllun Atgyfeirio Ymarfer Corff Cenedlaethol (neu NERS) wedi effeithio’n gadarnhaol ar fwy na 1,000 o unigolion yn Sir Fynwy dros y 12 mis diwethaf.

Mae’r rhaglen, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn helpu i wella bywydau oedolion sydd mewn perygl o ddatblygu cyflyrau cronig, neu sy’n eu rheoli ar hyn o bryd, trwy drefn gweithgaredd corfforol strwythuredig 16 wythnos.

Yng nghyfnod adrodd 2024/2025, derbyniodd NERS 1,010 o atgyfeiriadau, gan ddangos ymgysylltiad cymunedol cryf. Ymhlith yr atgyfeiriadau hyn, dechreuodd 75% o gleientiaid y rhaglen, gyda 66% yn ei chwblhau’n llwyddiannus.

Yn seiliedig ar adborth:

· Mynegodd 100% o gyfranogwyr eu gobaith y byddai’r rhaglen yn parhau yn y dyfodol

· Dywedodd 91% y byddent yn argymell y rhaglen i eraill

· Dywedodd yr holl gyfranogwyr eu bod yn teimlo’n ddiogel ac yn gyfforddus wrth ymarfer corff

· Roedd 100% yn gweld yr hyfforddwyr ffitrwydd yn hygyrch ac yn hawdd siarad â nhw

Mae un cyfranogwr, Donald, 90 oed, wedi bod yn rhan o Ganolfan Hamdden Cas-gwent ers 2018.

Er gwaethaf heriau, gan gynnwys cwymp a arweiniodd at dorri ffemwr, dywedodd merch Donald: “Mae’r llawfeddyg yn credu bod ei adferiad rhyfeddol yn dibynnu ar ei ffitrwydd o’i ddosbarthiadau ymarfer corff.

“Mae Dad bellach yn ôl i’w ddosbarth wythnosol, yn mwynhau’r direidi a’r ymarfer corff gyda gweddill y dosbarth, yr ydym bellach yn eu hystyried yn ffrindiau i ni.”

Mae Donald yn parhau i fynychu dosbarthiadau wythnosol, gan fwynhau’r cyfeillgarwch ac ymarfer corff gyda ffrindiau.

Eleni hefyd oedd ymddeoliad un o’n haelodau o dîm NERS, Clare.

Mae Clare wedi bod yn rhan annatod o NERS ers ei sefydlu yn Sir Fynwy yn 2008. Trwy gydol ei hamser gyda MonLife, mae Clare wedi bod yn allweddol wrth gefnogi unigolion sydd â chyflyrau iechyd cronig, gan eu helpu i adennill ffitrwydd a byw bywydau iachach.

Dywedodd y Cynghorydd Sirol Angela Sandles, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu: “Mae’n hynod galonogol gweld y canlyniadau cadarnhaol a’r adborth gan y rhai sydd wedi cymryd rhan.

“Mae rhaglenni fel NERS yn hanfodol wrth hyrwyddo ffyrdd iachach o fyw a chefnogi unigolion i reoli cyflyrau cronig.

“Mae’r straeon cyfranogwyr a’r cyfraddau ymgysylltu uchel yn dyst i effaith y rhaglen ac ymroddiad ein tîm.”

I ddysgu mwy am effaith y Cynllun Atgyfeirio Ymarfer Corff Cenedlaethol, ewch i https://www.monlife.co.uk/cy/effaith-gadarnhaol-rhaglen-ners-ar-drigolion-sir-fynwy/


Gwella Mynediad i Bawb, ymrwymiad Sir Fynwy i gynhwysiant

Mae Gwasanaeth Mynediad Cefn Gwlad MonLife wedi ymuno â Bethany Handley i godi ymwybyddiaeth am wella mynediad i bawb.

Wedi’i ariannu drwy Grant Gwella Mynediad Llywodraeth Cymru, mae dau fideo wedi’u ffilmio i godi ymwybyddiaeth ac i hyfforddi gwirfoddolwyr/tirfeddianwyr am yr angen i gael gwared ar rwystrau i bobl er mwyn iddynt gael mynediad i gefn gwlad y sir.

Mae Bethany Handley yn byw yn Sir Fynwy, yn aelod o Fforwm Mynediad Lleol Sir Fynwy ac yn llysgennad ar gyfer ymgyrch Mynediad i Bawb Byw Gwledig, Llwybr Arfordir Cymru, Llwybrau Cenedlaethol a Cherddwyr Cymru. Mae hi wedi cael ei chydnabod fel un o’r deg person anabl mwyaf dylanwadol sy’n gweithio yng ngwleidyddiaeth, y gyfraith a’r cyfryngau yn y DU.

Dywedodd Bethany Handley: “Mae gan bob un ohonom ofynion mynediad. Mae un o bob pump o bobl yn anabl. Ar ryw adeg yn ein bywydau, efallai y byddwn ni gyd yn profi anabledd.

“Pan fyddwch yn eithrio un unigolyn, rydych chi hefyd yn eithrio’u teulu a’u ffrindiau. Mae yna ffyrdd i bawb: gwirfoddolwyr, tirfeddianwyr, a’r rhai sy’n cerdded ac yn olwyna ar lwybrau, i wneud ein llwybrau’n fwy hygyrch i bawb”.

Nododd y Cynghorydd Sirol Mary Ann Brocklesby, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy: “Sir Fynwy oedd yr awdurdod cyntaf yng Nghymru i fabwysiadu (yn 2004) bolisi mynediad lleiaf cyfyngol. Oherwydd y polisi, rydym wedi ymrwymo i leihau rhwystrau mynediad ar y rhwydwaith hawliau tramwy a chael gwared ar stiles presennol.

“Mae’n un o’r ffyrdd rydyn ni’n mynd i’r afael ag anfantais o fewn cymunedau. Rwy’n falch iawn ein bod yn gweithio mewn partneriaeth â Bethany ac yn cyflwyno’r neges bod cefn gwlad i bawb.

“Mae gwella hygyrchedd ein rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus yn greiddiol i’r hyn rydyn ni’n ei wneud. Mae’n ei gwneud hi’n haws i bobl ymgorffori cerdded, marchogaeth neu feicio yn eu bywydau bob dydd ac yn cefnogi ffyrdd o fyw iach egnïol. Hoffem ddiolch i’r holl dirfeddianwyr, sefydliadau a gwirfoddolwyr sy’n gweithio gyda ni i gael gwared ar rwystrau a gwneud ein cefn gwlad yn fwy hygyrch i bawb.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Sirol Sarah Burch, Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Tai a Thwristiaeth, “Rydym yn falch iawn o fod wedi gallu cefnogi a galluogi grwpiau gwirfoddol cymunedol i ymgysylltu’n weithredol â phrosiectau cefn gwlad, gan greu cymunedau cynaliadwy a gwydn.

“Diolch i’r Grant Gwella Mynediad, mae gennym bellach 17 o grwpiau gwirfoddol gweithredol, sydd wedi cael eu cefnogi gyda hyfforddiant, offer a deunyddiau.

“Maen nhw wedi cynnal milltiroedd o arolygon ac yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf wedi helpu i wella mynediad trwy gael gwared ar steiliau a’u disodli gyda bylchau neu gatiau (68). Maent hefyd wedi clirio llystyfiant o wyth milltir o lwybrau a 466 o ddarnau o ddodrefn. Mae llawer mwy o lwybrau ar y gweill o ran gwelliannau yn 2025 ac rydym yn edrych ar ffyrdd y gallwn nawr eu hyrwyddo’n well.”

Os oes gennych ddiddordeb mewn cael gwared ar rwystrau neu ymuno â grŵp gwirfoddolwyr mynediad cefn gwlad, cysylltwch â’r Tîm Mynediad i Gefn Gwlad drwy e-bostio countryside@monmouthshire.gov.uk Am ragor o wybodaeth, gallwch hefyd ymweld â’r dudalen we https://www.monlife.co.uk/cy/outdoor/countryside-access/countryside-access-projects-delivery-plan/


Effaith Dysgu MonLife ar Bobl sy’n Byw gyda Dementia a’u Gofalwyr

Trosolwg o’r Prosiect

Mae Dysgu Treftadaeth MonLife yn rhedeg nifer o raglenni allgymorth wedi’u hwyluso, sy’n defnyddio hanes cymdeithasol a gwrthrychau hanesyddol o’u casgliadau trin i annog rhyngweithio cymdeithasol, gwella lles a chodi lefelau hyder. Mae’r gwasanaeth hefyd yn darparu hyfforddiant gwirfoddolwyr i ddefnyddio gwrthrychau ar gyfer atgofion ac adnoddau atgofion hunan-arweiniol, i’w defnyddio mewn lleoliadau gofal preswyl.

Amcanion Allweddol:

▪ Gwella lles.  

▪ Lleihau ynysu cymdeithasol. 

▪ Gwella hyder a hunan-barch. 

▪ Darparu gweithgareddau cymunedol.

Allbynnau / Deilliannau’r Prosiect

Mae’r prosiectau sy’n gysylltiedig â dementia wedi profi’n amhrisiadwy wrth gyrraedd unigolion sy’n byw â dementia a’u gofalwyr teuluol neu therapyddion galwedigaethol. Mae’r ddarpariaeth allgymorth wedi sicrhau bod y gwasanaeth yn hygyrch, gan ddefnyddio’u casgliadau i wella lles.

Dull Cyfannol

Er mwyn cynnig dull unedig o gefnogi pobl sy’n byw â dementia, cafodd staff yr amgueddfa gyllid gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (BIPAB) i bartneru â’r Cynllun Atgyfeirio Ymarfer Corff Cenedlaethol. Roedd hyn yn galluogi cyfranogwyr i gynyddu eu gweithgarwch corfforol am awr yr wythnos, dros gyfnod o ddeng wythnos.  Ar ôl hynny, darparodd y Gwasanaeth Dysgu Treftadaeth sesiynau atgofion thematig, trin gwrthrychau a gweithgaredd crefft. 

Sgyrsiau Creadigol

Mae ‘Sgyrsiau Creadigol’ yn rhaglen wythnosol wedi’i lleoli yn Nhref Rufeinig Caer-went Cadw. Mae’n darparu gweithgaredd i bobl sy’n byw â Dementia a’u gofalwyr. Bob yn ail wythnosau, mae cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn gweithgaredd atgofion a thrin gwrthrychau hanesyddol.  Mae hyn yn caniatáu cyfleoedd i sgyrsiau a dysgu newydd. Ar ôl pob sesiwn atgofion a thrin, cynigir crefft gysylltiedig, gan ddarparu cyfleoedd ffocws ac ymlacio.

Lluniwyd y rhaglen o amgylch diddordebau a phrofiadau cyfranogwyr sy’n cwblhau holiadur personol o’r enw ‘Hwn yw fi’ ar ddechrau’r rhaglen. Mae’r dull person-ganolog hwn yn galluogi cyfranogwyr i ‘fod yn arbenigwr’ ar bwnc penodol, sydd wedi profi’n amhrisiadwy ar gyfer hyder a hunan-barch.

Cynllun Atgofion Gwirfoddolwyr

Gall dewis eang o flychau atgofion gael eu llogi gan weithwyr gofal neu eu defnyddio gan wirfoddolwyr y gwasanaeth dysgu.  Mae rhaglen hyfforddiant ar gyfer gwirfoddolwyr cymunedol wedi’i datblygu i gynorthwyo capasiti 7, fel y gellir mynd ag adnoddau allan i gartrefi gofal a’u defnyddio mewn caffis cof mewn lleoliadau cymunedol. Cyflwynwyd y sesiwn hyfforddiant gyntaf ym mis Chwefror 2024 i 14 o wirfoddolwyr a chafodd ei chefnogi drwy ‘Byddwch Gymuned Sir Fynwy’, rhaglen arweinyddiaeth gymunedol Cyngor Sir Fynwy. Mae hyfforddiant gwirfoddolwyr yn cynnwys sut i ddefnyddio gwrthrychau amgueddfa fel awgrymiadau/sbardunau ar gyfer annog rhannu profiadau bywyd, pam mae gwrthrychau amgueddfa yn werthfawr mewn gwaith atgofion, manteision atgofion i’r cyfranogwr, diogelu a sut i hwyluso sesiwn atgofion yn ddiogel.

Iechyd a Lles

Trwy arsylwi, presenoldeb, cardiau effaith a holiaduron, cafwyd adborth yn ymwneud â lles.

“Rydw i bob amser yn mynd adref yn teimlo’n hamddenol a dan lai o straen”

“Fe helpodd fi i ennill hyder… fe wnaeth fy atal rhag teimlo’n unig gartref”.

“… Mae gen i rywbeth i godi o’r gwely amdano”.

[Rwyf wedi profi] “… lleihad o ran gorbryder, a mwy o hyder ac wedi dysgu bod yn fwy creadigol”

Cyfranogwyr y prosiect  

Myfyrdod

Mae helpu pobl i ‘fyw’n dda gyda Dementia’ yn golygu gwrando ac ymateb i’r hyn y mae cyfranogwyr eu heisiau ac addasu rhaglenni i sicrhau bod hyn wrth wraidd cynllunio. Rhan hanfodol o annog pobl i gymryd rhan yn y rhaglenni yw gweithio gyda sefydliadau cymunedol, clinigau cof, ymarferwyr byrddau iechyd, comisiynwyr a gweithwyr cymunedol. 

Mae’n bosibl bod angen gwneud mwy o waith ynghylch dangos gwerth defnyddio casgliadau amgueddfa gyda phobl sy’n byw â Dementia a’u gofalwyr, a rhannu hyn gyda gweithwyr proffesiynol meddygol. Byddai hyn yn annog rhagnodi cymdeithasol i ddod yn rhan o gefnogaeth gyfannol i’r gynulleidfa darged hon.

Mae cyllid a chapasiti i gyflawni yn erbyn galw yn her. Bydd cwrdd â’r angen gyda chyllidebau sy’n gostwng yn dod yn anoddach, gan arwain at leihau/rhoi’r gorau i wasanaethau.

Y Camau Nesaf

  • Bydd carfan arall o wirfoddolwyr yn dechrau hyfforddiant yn haf 2025.
  • Mae’r rhaglen amgueddfa yn bwriadu datblygu blwch atgofion ar thema’r 1980au, gan fod y duedd yn dangos bod mwy o bobl â dementia cynnar. 
  • Mae cyllid wedi’i gael ar gyfer o leiaf dwy raglen NERS arall ledled y sir, felly bydd y prosiect yn parhau. 
  • Mae rhagor o gyllid yn cael ei geisio i barhau a datblygu’r rhaglen Sgyrsiau Creadigol yng Nghaer-went.
  • Bydd ehangu’r gwasanaeth atgofion yn digwydd trwy’r gwirfoddolwyr.


Dadorchuddio tŵr gwenoliaid duon yn Neuadd y Sir, Brynbuga

Mae tŵr gwenoliaid duon chwe metr wedi’i osod yn Neuadd y Sir ym Mrynbuga fel rhan o Gyllid Ffyniant a Rennir Grid Gwyrdd Gwent ar gyfer gwella Mannau Gwyrdd.

Mae’r tŵr, sy’n cynnwys blychau adar ar gyfer hyd at 12 pâr o wenoliaid, wedi’i osod yng ngardd gymunedol Bwyd Bendigedig.

Nod y tŵr yw cefnogi’r boblogaeth leol, sydd ar y Rhestr Goch Pryder Cadwraeth Adar a chodi ymwybyddiaeth o sut mae Cyngor Sir Fynwy yn cefnogi adferiad natur ledled y sir.

Bydd y tŵr:

· Yn darparu mannau nythu ychwanegol ar gyfer gwenoliaid a natur drefol arall, i helpu i fynd i’r afael â cholled hirdymor safleoedd nythu traddodiadol mewn adeiladau.

· Yn darparu darn amlwg o gelf i hysbysu trigolion ac ymwelwyr â’r Ardd Gymunedol Bwyd Bendigedig am yr aderyn trefol eiconig hwn sy’n dirywio mewn niferoedd, ac i ysbrydoli unigolion i weithredu i helpu gwenoliaid a natur drefol arall.

Yn ddiweddar, mae gwenoliaid duon wedi cael eu rhoi ar y Rhestr Goch Pryder Cadwraeth Adar i gydnabod bod poblogaethau ledled y DU wedi gostwng 58% ers 1995, 75% yng Nghymru.

Mae gwenoliaid yn nythu bron yn gyfan gwbl mewn adeiladau, gan ddefnyddio tyllau bach i fagu eu bach. Mae gwenoliaid yn paru am oes, gan ddychwelyd i’r un safle nythu bob blwyddyn.

Fodd bynnag, gyda llawer o hen adeiladau yn cael eu hadnewyddu, tyllau bach yn cael eu llenwi, neu adeiladau’n cael eu dymchwel, ac mae ein gwenoliaid yn colli eu safleoedd nythu. Er mwyn helpu’r adar hyn, dylid cadw eu safleoedd nythu yn ystod gwaith adnewyddu, a ddarperir yn artiffisial ar ffurf blychau gwenoliaid duon neu ar ffurf Tŵr Gwenoliaid Duon.

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cynhyrchu Cynllun Gweithredu Adfer Natur Leol, sy’n nodi camau gweithredu i helpu i wrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth ac adeiladu gwytnwch ecosystemau, cefnogi adferiad natur a darparu cyfleoedd sy’n seiliedig ar natur i godi ymwybyddiaeth.

Dywedodd y Cynghorydd Sirol Catrin Maby, Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Mae gwenoliaid duon ar y rhestr goch oherwydd gostyngiad yn y niferoedd ac felly mae’n hanfodol ein bod yn gwneud yr hyn y gallwn i’w cefnogi.

“Mae’r tŵr gwenoliaid duon hwn yn ffordd wych o sicrhau ein bod yn parhau i weld parau bridio yn Neuadd y Sir am flynyddoedd lawer i ddod. Gobeithiwn y gall hyn fod yn gam bach tuag at adferiad poblogaethau gwenoliaid duon yn y dyfodol agos.”

Mae Cyngor Sir Fynwy yn gobeithio cefnogi gwaith prosiect gwenoliaid duon pellach drwy gyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru yn ystod 2025-2027. Os hoffech ddarganfod mwy neu gymryd rhan, anfonwch e-bost at LocalNature@Monmouthshire.gov.uk


Wythnos Iechyd Meddwl Plant 2025