Monmouthshire Local NRAP Action Plan - Monlife

Mae Cynllun Gweithredu Adfer Natur (CGAN) Sir Fynwy yn ganllaw syml i helpu i amddiffyn ac adfer natur yn Sir Fynwy.

Rydym am annog pobl a chymunedau i gymryd rhan a chymryd camau gweithredu—fel y gallwn, gyda’n gilydd, ofalu am natur a’i helpu i ffynnu.

Creodd Llywodraeth Cymru Gynllun Gweithredu Adfer Natur (CGAN) ar gyfer Cymru yn 2015. Mae’n nodi amcanion i helpu i atal colli natur a’i diogelu ar gyfer y dyfodol—oherwydd bod natur yn bwysig i bawb.

Mae CGAN Gwent Fwyaf yn rhoi cyngor ar sut i helpu natur yn ardal ehangach Gwent.

Mae ein CGAN Lleol ar gyfer Sir Fynwy yn cymryd y syniadau mawr o’r cynlluniau cenedlaethol a rhanbarthol ac yn eu troi’n gamau gweithredu lleol syml. Dyma bethau y gallwn eu gwneud yn ein cymunedau a safleoedd natur lleol i helpu natur i wella.

Bydd CGAN Lleol Sir Fynwy yn cynnwys pedair rhan a bydd yn canolbwyntio ar gynefinoedd a rhywogaethau sy’n flaenoriaethau cenedlaethol ar gyfer cadwraeth ac sy’n bwysig yn lleol.

Ein strategaeth ar gyfer adfer natur yn Sir Fynwy a Chynllun Gweithredu Cyffredinol sy’n nodi camau gweithredu a thargedau ar gyfer hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau, codi ymwybyddiaeth a chamau gweithredu eraill nad ydynt yn gysylltiedig ag unrhyw gynefin neu rywogaeth benodol.

Cliciwch YMA am y cynllun. Rydym hefyd wedi creu fersiwn hawdd ei darllen sy’n hygyrch i bawb.

Cynlluniau Gweithredu Cynefinoedd ar gyfer cynefinoedd a nodwyd fel blaenoriaeth ar gyfer cadwraeth yn Sir Fynwy.

Mae Cynlluniau Gweithredu Cynefinoedd wrthi yn cael eu llunio – dewch yn ôl am y wybodaeth ddiweddaraf.

Cynlluniau Gweithredu Rhywogaethau ar gyfer rhywogaethau a nodwyd fel blaenoriaeth ar gyfer cadwraeth yn Sir Fynwy.

Mae Cynlluniau Gweithredu Rhywogaethau wrthi yn cael eu llunio – dewch yn ôl am y wybodaeth ddiweddaraf.

Y Cynllun Gweithredu Cymunedol a chasgliad o astudiaethau achos o brosiectau a gynhaliwyd gan aelodau’r PNLl ac sy’n adrodd ar y gwaith a wnaed ar gamau gweithredu’r CGAN

Cliciwch YMA am y Cynllun Gweithredu Cymunedol

Mae astudiaethau achos wrthi yn cael eu llunio – dewch yn ôl am y wybodaeth ddiweddaraf

Mae Cynefinoedd a Rhywogaethau Blaenoriaethol yn Sir Fynwy yn rhywogaethau sydd o bwys mawr ar gyfer cadwraeth yng Nghymru, wedi’u rhestru yn Adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, ac wedi’u cofnodi yn y Sir. Darperir rhestrau o gynefinoedd and rhywogaetha yma. 

Mae NRAP Lleol Sir Fynwy wedi’i gynhyrchu gan Bartneriaeth Natur Leol Sir Fynwy (PNLl) gyda chefnogaeth Cyllid Mannau Lleol ar gyfer Natur gan Lywodraeth Cymru drwy WCVA.

Mae cydweithio â phartneriaid yn bwysig, felly ar gyfer rhai cynefinoedd a rhywogaethau, rydym yn eich cyfeirio at gynlluniau gweithredu a wnaed gan eraill sy’n gweithio’n lleol neu’n rhanbarthol sy’n dal i wneud synnwyr i’n hardal..

Mae Partneriaeth Natur Leol Sir Fynwy yn cwmpasu ardal awdurdod lleol Cyngor Sir Fynwy, ac eithrio’r ardal ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sy’n meddu ar ei Bartneriaeth Natur Leol a’i CGAN Lleol a gyhoeddwyd yn 2019.. 

Gosododd Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent eu nod ar gyfer 2030 i adfer deg rhywogaeth agored i niwed yng Ngwent. Dewiswyd y rhywogaethau gan eu bod dan fygythiad yng Ngwent a byddai gweithredu ar gyfer y rhywogaethau a ddewiswyd o fudd i rywogaethau eraill yn y siroedd amrywiol ledled Gwent.

Mae Cynllun Rheoli AHNE Tirwedd Genedlaethol Dyffryn Gwy yn nodi’r weledigaeth ar gyfer yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ddynodedig a’r blaenoriaethau ar gyfer ei rheoli. Mae’r Prosiect Rhywogaethau Blaenoriaeth wedi cynhyrchu pum Cynllun Gweithredu Rhywogaethau ar gyfer rhywogaethau neu gasgliad o rywogaethau sy’n gysylltiedig â chynefinoedd allweddol yn Nyffryn Gwy. 

This post is also available in: English