Effaith Dysgu MonLife ar Bobl sy’n Byw gyda Dementia a’u Gofalwyr

Trosolwg o’r Prosiect
Mae Dysgu Treftadaeth MonLife yn rhedeg nifer o raglenni allgymorth wedi’u hwyluso, sy’n defnyddio hanes cymdeithasol a gwrthrychau hanesyddol o’u casgliadau trin i annog rhyngweithio cymdeithasol, gwella lles a chodi lefelau hyder. Mae’r gwasanaeth hefyd yn darparu hyfforddiant gwirfoddolwyr i ddefnyddio gwrthrychau ar gyfer atgofion ac adnoddau atgofion hunan-arweiniol, i’w defnyddio mewn lleoliadau gofal preswyl.
Amcanion Allweddol:
▪ Gwella lles.
▪ Lleihau ynysu cymdeithasol.
▪ Gwella hyder a hunan-barch.
▪ Darparu gweithgareddau cymunedol.
Allbynnau / Deilliannau’r Prosiect
Mae’r prosiectau sy’n gysylltiedig â dementia wedi profi’n amhrisiadwy wrth gyrraedd unigolion sy’n byw â dementia a’u gofalwyr teuluol neu therapyddion galwedigaethol. Mae’r ddarpariaeth allgymorth wedi sicrhau bod y gwasanaeth yn hygyrch, gan ddefnyddio’u casgliadau i wella lles.
Dull Cyfannol
Er mwyn cynnig dull unedig o gefnogi pobl sy’n byw â dementia, cafodd staff yr amgueddfa gyllid gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (BIPAB) i bartneru â’r Cynllun Atgyfeirio Ymarfer Corff Cenedlaethol. Roedd hyn yn galluogi cyfranogwyr i gynyddu eu gweithgarwch corfforol am awr yr wythnos, dros gyfnod o ddeng wythnos. Ar ôl hynny, darparodd y Gwasanaeth Dysgu Treftadaeth sesiynau atgofion thematig, trin gwrthrychau a gweithgaredd crefft.
Sgyrsiau Creadigol
Mae ‘Sgyrsiau Creadigol’ yn rhaglen wythnosol wedi’i lleoli yn Nhref Rufeinig Caer-went Cadw. Mae’n darparu gweithgaredd i bobl sy’n byw â Dementia a’u gofalwyr. Bob yn ail wythnosau, mae cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn gweithgaredd atgofion a thrin gwrthrychau hanesyddol. Mae hyn yn caniatáu cyfleoedd i sgyrsiau a dysgu newydd. Ar ôl pob sesiwn atgofion a thrin, cynigir crefft gysylltiedig, gan ddarparu cyfleoedd ffocws ac ymlacio.
Lluniwyd y rhaglen o amgylch diddordebau a phrofiadau cyfranogwyr sy’n cwblhau holiadur personol o’r enw ‘Hwn yw fi’ ar ddechrau’r rhaglen. Mae’r dull person-ganolog hwn yn galluogi cyfranogwyr i ‘fod yn arbenigwr’ ar bwnc penodol, sydd wedi profi’n amhrisiadwy ar gyfer hyder a hunan-barch.
Cynllun Atgofion Gwirfoddolwyr
Gall dewis eang o flychau atgofion gael eu llogi gan weithwyr gofal neu eu defnyddio gan wirfoddolwyr y gwasanaeth dysgu. Mae rhaglen hyfforddiant ar gyfer gwirfoddolwyr cymunedol wedi’i datblygu i gynorthwyo capasiti 7, fel y gellir mynd ag adnoddau allan i gartrefi gofal a’u defnyddio mewn caffis cof mewn lleoliadau cymunedol. Cyflwynwyd y sesiwn hyfforddiant gyntaf ym mis Chwefror 2024 i 14 o wirfoddolwyr a chafodd ei chefnogi drwy ‘Byddwch Gymuned Sir Fynwy’, rhaglen arweinyddiaeth gymunedol Cyngor Sir Fynwy. Mae hyfforddiant gwirfoddolwyr yn cynnwys sut i ddefnyddio gwrthrychau amgueddfa fel awgrymiadau/sbardunau ar gyfer annog rhannu profiadau bywyd, pam mae gwrthrychau amgueddfa yn werthfawr mewn gwaith atgofion, manteision atgofion i’r cyfranogwr, diogelu a sut i hwyluso sesiwn atgofion yn ddiogel.
Iechyd a Lles
Trwy arsylwi, presenoldeb, cardiau effaith a holiaduron, cafwyd adborth yn ymwneud â lles.
“Rydw i bob amser yn mynd adref yn teimlo’n hamddenol a dan lai o straen”
“Fe helpodd fi i ennill hyder… fe wnaeth fy atal rhag teimlo’n unig gartref”.
“… Mae gen i rywbeth i godi o’r gwely amdano”.
[Rwyf wedi profi] “… lleihad o ran gorbryder, a mwy o hyder ac wedi dysgu bod yn fwy creadigol”
Cyfranogwyr y prosiect
Myfyrdod
Mae helpu pobl i ‘fyw’n dda gyda Dementia’ yn golygu gwrando ac ymateb i’r hyn y mae cyfranogwyr eu heisiau ac addasu rhaglenni i sicrhau bod hyn wrth wraidd cynllunio. Rhan hanfodol o annog pobl i gymryd rhan yn y rhaglenni yw gweithio gyda sefydliadau cymunedol, clinigau cof, ymarferwyr byrddau iechyd, comisiynwyr a gweithwyr cymunedol.
Mae’n bosibl bod angen gwneud mwy o waith ynghylch dangos gwerth defnyddio casgliadau amgueddfa gyda phobl sy’n byw â Dementia a’u gofalwyr, a rhannu hyn gyda gweithwyr proffesiynol meddygol. Byddai hyn yn annog rhagnodi cymdeithasol i ddod yn rhan o gefnogaeth gyfannol i’r gynulleidfa darged hon.
Mae cyllid a chapasiti i gyflawni yn erbyn galw yn her. Bydd cwrdd â’r angen gyda chyllidebau sy’n gostwng yn dod yn anoddach, gan arwain at leihau/rhoi’r gorau i wasanaethau.
Y Camau Nesaf
- Bydd carfan arall o wirfoddolwyr yn dechrau hyfforddiant yn haf 2025.
- Mae’r rhaglen amgueddfa yn bwriadu datblygu blwch atgofion ar thema’r 1980au, gan fod y duedd yn dangos bod mwy o bobl â dementia cynnar.
- Mae cyllid wedi’i gael ar gyfer o leiaf dwy raglen NERS arall ledled y sir, felly bydd y prosiect yn parhau.
- Mae rhagor o gyllid yn cael ei geisio i barhau a datblygu’r rhaglen Sgyrsiau Creadigol yng Nghaer-went.
- Bydd ehangu’r gwasanaeth atgofion yn digwydd trwy’r gwirfoddolwyr.
This post is also available in: English