Tudalen 11 – Monlife


Paentiad pwysig Turner o Gastell Cas-gwent yn dod gartref

Diolch i gyllid a sicrhawyd gan Gyngor Celfyddydau Lloegr/Cronfa Grant Prynu  V&A  a chymorth y Loteri Genedlaethol, Becwedd Beecroft y Gymdeithas Amgueddfeydd, Ymddiriedolaeth Dyffryn Wysg a chronfa pryniant amgueddfeydd MonLife, bydd ‘trysor lleol’ – paentiad gan JMW Turner yn dod gartref i Gas-gwent yn fuan. Mae dyfrlliw Turner o Gastell Cas-gwent yn un o ddim ond dau o weithiau gan yr artist y gwyddys eu bod yn dangos yr olygfa eiconig o’r castell ger Afon Gwy.

 

Mae Treftadaeth MonLife wedi sicrhau’r tirlun hardd a gaiff ei arddangos yn yr haf yn amgueddfa Cas-gwent a gobeithir y bydd cynifer o bobl leol ag sydd modd yn ymweld i edrych ar y paentiad a chael eu hysbrydoli ganddo.

 

Caiff Joseph Mallord William Turner (1775-1851) ei gydnabod fel efallai yr artist ‘Rhamantus’ Prydeinig gorau a chyfeirir ato yn aml fel “paentiwr goleuni” oherwydd ei allu i gyfleu tirluniau a morluniau egnïol ar bapur a chanfas.

 

Dim ond 19 oed oedd Turner pan baentiodd y dyfrlliw o Gastell Cas-gwent yn 1794 a chredir iddo gael ei greu fel canlyniad i daith gyntaf yr artist o Dde Cymru. Unwaith y caiff ei arddangos yn Amgueddfa Cas-gwent, bydd y paentiad yn helpu i gyfleu stori Sir Fynwy y 18fed ganrif a hefyd gariad Turner at y sir.

 

Dywedodd y Cyng. Sara Burch, Aelod Cabinet Cymunedau Cynhwysol a Gweithredol: “Mae’n newyddion gwych y bydd y paentiad yn dychwelyd i Gas-gwent lle gwnaeth Turner ei baentio yn 19 oed. Daw yn em yng nghasgliad paentiadau a darluniau Sir Fynwy a ysbrydolwyd gan Ddyffryn Gwy. Gobeithiaf y bydd artistiaid ifanc heddiw yn ei weld ac yn cael eu hysbrydoli. Roeddem wedi credu y byddai prynu gwaith celf pwysig fel hyn allan o’n cyrraedd, nes i gyllidwyr hael gamu mewn i arbed y paentiad ar gyfer y genedl a Sir Fynwy.”

 

Caiff paentiad Turner ei arddangos yng Nghas-gwent yn yr haf, yn y cyfamser i ganfod mwy am amgueddfeydd Sir Fynwy a’u harddangosiadau cyfredol ewch i  https://www.monlife.co.uk/heritage/

 


Cynigion ar gyfer Gofodau Natur Cymunedol yng Nghas-gwent yn dechrau siapio

Cadarnhawyd y llynedd mai Cas-gwent fyddai’r dref nesaf i elwa o’r Prosiect Gofodau Natur, a hynny ar ôl cwblhau’r cynlluniau yn Nhrefynwy. Gofynnwyd i drigolion a budd-ddeiliaid am eu barn yn Hydref  2022 ar y gwelliannau posib ar gyfer gofodau gwyrdd. Mae’r prosiect nawr yn dechrau siapio ac mae’n amser i rannu eich adborth ar y pedwar cynllun arfaethedig yn y dref.

Y pedwar safle yng Nghas-gwent sydd i’w datblygu y tro hwn yw: y Danes, Severn Crescent, Ffordd Woolpitch a Ffordd Strongbow. Mae’r safleoedd yma wedi eu dewis yn seiliedig ar yr ymatebion a dderbyniwyd yn ystod camau cyntaf yr ymgynghoriad  a lle mae’n bosib diwallu anghenion yr amgylchedd a’r gymuned.

Mae trigolion, busnesau a grwpiau cymunedol yn cael eu hannog i ymweld gyda thudalennau gwe Gofodau Natur Cymunedol er mwyn gweld y dyluniadau a rhannu eu hadborth erbyn 10fedMawrth 2023. Yn dilyn y cyfnod hwn i rannu adborth, mae’r Cyngor am barhau i reoli a gwella gofodau gwyrdd, ac felly, rydym yn croesawu awgrymiadau ar unrhyw adeg.

Dywedodd y Cynghorydd Sara Burch, Aelod Cabinet ar gyfer Cymunedau Cynhwysol ac Egnïol: “Rwyf yn falch iawn i weld y pedwar cynllun yma oll yn cael eu datblygu drwy gyfrwng y cynigion yma ar gyfer Cas-gwent. Roedd yr ymateb i’r ymgynghoriad y llynedd yn ffantastig ac wedi helpu i lywio’r cynlluniau yma. Rwyf yn disgwyl ymlaen at weld Cas-gwent yn cael gofodau newydd, gwyrdd a hyfryd ar gyfer mwynhau ac ymlacio ynddynt yn y dyfodol.”

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Maby, Aelod Cabinet ar gyfer Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Bydd y gofodau yn ymgyfoethogi’r amgylchedd yng Nghas-gwent ar gyfer pobl a bywyd gwyllt. Byddant hefyd yn cynnig buddion iechyd a lles i bawb. Byddem yn annog cynifer o bobl ag sydd yn bosib i rannu eu hadborth er mwyn gwneud y gofodau yma yn ofodau gwirioneddol ar gyfer y gymuned.”

Mae’r Prosiect Gofodau Natur Cymunedol, a gefnogwyd gan gyllid  Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru, yn anelu i wella ein gofodau gwyrdd ar gyfer natur a chefnogi cyfleoedd ar gyfer iechyd a lles. Mae modd gwneud hyn mewn amryw o ffyrdd, fel plannu  coed, neilltuo lleoedd ar gyfer tyfu bwyd yn y gymuned a phlannu blodau gwyllt ar gyfer pryfed peillio. Bydd modd mynd yn agos at fyd natur yno a bod yn egnïol.

Er mwyn dysgu mwy, ewch i: Ymgynghoriad: Gofodau Natur Cymunedol – Monlife

Y cynnig ar gyfer Gofod Natur Cymunedol ar gyfer Ffordd Woolpitch, Cas-gwent
Y cynnig ar gyfer Gofod Natur Cymunedol ar gyfer y Danes, Cas-gwent
Y cynnig ar gyfer Gofod Natur Cymunedol ar gyfer Ffordd Strongbow, Cas-gwent
Y cynnig ar gyfer Gofod Natur Cymunedol ar gyfer Severn Crescent, Cas-gwent


Proposals for Community Nature Spaces in Chepstow take shape

Last year it was confirmed that Chepstow would be the next town to benefit from the Community Nature Spaces Project following the completion of schemes in Monmouth. Residents and stakeholders were asked for their views on possible enhancements for green spaces in the Autumn of 2022. The project is now progressing and it’s time to share your feedback on the four proposed schemes around the town.

The four Chepstow sites that will be taken forward at this time are: The Danes, Severn Crescent, Woolpitch Road and Strongbow Road. These sites have been selected based on responses received during the first stages of the consultation and where it’s possible to meet the needs of the environment and the community. 

Residents, businesses and community groups are encouraged to visit the Community Nature Spaces webpage to see the designs and share their feedback by 10th March 2023. Following this feedback period, the council wants to continue management and enhancement of green spaces, so ideas are welcomed at any time.

Cllr. Sara Burch, Cabinet Member for Active & Inclusive Communities said: “I am pleased to see the four schemes taking shape in these proposals for Chepstow. The response to the consultation last year was fantastic and has helped to shape these schemes. I look forward to Chepstow having new, green and beautiful spaces to enjoy and relax in in the future.”

Cllr. Catrin Maby, Cabinet Member for Climate Change & the Environment said: “These spaces will enrich the environment in Chepstow for people and for wildlife. They will also bring health and wellbeing benefits for everyone. I would encourage as many local people to share their feedback as possible and help make these spaces truly for the community.”

The Community Nature Spaces Project, supported by Welsh Government’s Local Places for Nature funding, aims to improve our green spaces for nature and help support opportunities for health and wellbeing. This can be done in a variety of ways, such as by planting trees, adding raised beds for community food growing and increasing wildflower planting for pollinators. They will be places to get up close to nature and get active. To find out more visit: www.monlife.co.uk/outdoor/consultation-community-nature-spaces/

Woolpitch Wood
Severn Crescent
Strongbow Road
The Danes

Tags: climate emergencycommunity nature spacesMonmouthshire


Llwybr Teithio Llesol Williams Field Lane i Bont Mynwy

Llwybr teithio llesol cyflawn, hygyrch o ystâd dai Kingswood Gate, Trefynwy, i ganol tref Trefynwy drwy Ystâd Ddiwydiannol Llanwarw, Ysgol Gynradd Overmonnow a Hen Bont Mynwy, gyda chysylltiadau ymlaen â’r Bridges Community Centre, Ysbyty Cymunedol Dyffryn Mynwy, maes parcio rhad ac am ddim Rockfield Road a pharc sglefrio Trefynwy. 

Rhannau y cynllun: 

WFL AT scheme on map
  • Darparu rhwydwaith cerdded a beicio cydlynol, uniongyrchol, cyfforddus a deniadol o Overmonnow i gymunedau, gwasanaethau a chyfleusterau cyfagos ar draws Trefynwy;
  • Cynyddu lefelau mynediad cynaliadwy i gyflogaeth, iechyd, addysg a gwasanaethau; 
  • Cael effaith gadarnhaol, yn wirioneddol a chanfyddedig, ar ddiogelwch cerddwyr, beicwyr a defnyddwyr cadair olwyn ar hyd ac ar draws ardal yr astudiaeth; 
  • Cefnogi newid moddol yn Nhrefynwy tuag at ddulliau mwy cynaliadwy o drafnidiaeth;
  • Lleihau effeithiau negyddol trafnidiaeth ar yr amgylchedd naturiol ac adeiledig.

Cydnabuwyd yr angen am lwybr gwell i Ysgol Gynradd Overmonnow gyntaf yn ystod cyflwyniad Map Rhwydwaith Integredig Teithio Llesol Cyngor Sir Fynwy i Lywodraeth Cymru yn 2018. Mae Wonastow Road yn llwybr rhydwelïol i’r dref a’r ardal ddiwydiannol ar gyfer traffig cerbydau, ond roedd darparu llwybrau teithio llesol yn yr ardal yn heriol oherwydd hen gynllun y ffyrdd, diffyg troedffordd a lled mewn rhai adrannau, a ffos/ceuffos sy’n rhedeg ar hyd y ffordd i gwrdd â’r afon Mynwy. Roedd hawl tramwy cyhoeddus yn rhedeg rhwng Kings Fee, Overmonnow, a St Thomas Road, Drybridge, yn cynnig llwybr i ffwrdd o draffig cerbydau trwm, ond roedd yn llwybr baw a oedd yn dywyll ac yn anhygyrch ar adegau. 

Mae’r datblygiad tai yn Kingswood Gate wedi bod yn un o’r prif ysgogwyr ar gyfer newidiadau sy’n cael eu cynnig, gan ymateb i dwf poblogaeth leol trwy gefnogi newid moddol a lleihau’r pwysau ar rwydwaith priffyrdd lleol.  Mae gan ddarpariaeth cerdded, olwyna a beicio rôl sylweddol i’w chwarae wrth liniaru tagfeydd cerbydau, llygredd, a materion iechyd a lles sy’n gysylltiedig â ffyrdd o fyw sy’n dibynnu ar geir.

Mae cyllid ar gyfer gwahanol elfennau’r cynllun hwn wedi’i roi gan Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, cronfa Llwybrau Diogel mewn Cymunedau yn ogystal ag arian Adran 106 o ddatblygiadau lleol.

Llwybr teithio llesol Kingswood Gate

Adeiladwyd yn 2025

Mae ystâd dai Kingswood Gate i’r gorllewin o Ysgol Gynradd Overmonnow ac fe’i hadeiladwyd tua 2016 ac mae’n cynnwys dros 300 o dai.  Mae’r ystâd wedi’i chysylltu ar y ffordd â Threfynwy gan Wonastow Road.  Mae gan y ffordd hon seilwaith palmant gwael heb unrhyw sgôp i wella adrannau, lefelau uchel o symudiad HGV gyda’r ystâd ddiwydiannol leol a diffyg seilwaith teithio llesol.  Nid oes llawer o botensial i wella’r coridor hwn, oherwydd agosrwydd ceuffos ochr y ffordd ac eiddo cyfagos. Nid oedd y llwybr i gerddwyr a ddarparwyd gyda datblygiad yr ystâd yn ddigon hygyrch nac uniongyrchol, a phrofodd y cyllid Adran 106 o’r ystâd a neilltuwyd ar gyfer datblygu’r llwybr ‘llinell ddymuniad’ a ffefrir ar draws dôl Kingswood Gate yn annigonol i gwblhau’r llwybr. Felly, datblygodd Cyngor Sir Fynwy’r llwybr gan ddefnyddio rowndiau olynol o gyllid gan Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru (yn ogystal ag Adran 106) ac, yn 2025, sicrhawyd £338,000 o gyllid adeiladu gan Gyngor Sir Fynwy o Gronfa Llwybrau Diogel mewn Cymunedau Llywodraeth Cymru.

Mae’r cam hwn o’r cynllun wedi cymryd mwy o amser i’w gwblhau nag a gynlluniwyd yn wreiddiol.  Mae perchnogaeth tir, newid aliniad yr Hawl Tramwy Cyhoeddus, ecoleg sensitif, llifogydd a chylchoedd ariannu i gyd wedi bod yn ffactorau yn cynyddu’r amser a gymerodd y broses.  Agorwyd y llwybr i’w ddefnyddio ym mis Tachwedd 2025. 

Mae’r cynllun yn cynnwys:

  • Llwybr cerdded, olwyna a beicio 3 metr o led
  • Croesfan a cheuffos dros y ffos o’r ddôl i ystâd Kingswood Gate (pen gorllewinol y ddôl)
  • Nodweddion Draenio Trefol Cynaliadwy (SDCau) ar gyfer rheoli dŵr daear ar hyd y llwybr
  • Goleuadau lefel isel sy’n gyfeillgar i fioamrywiaeth
  • Cysylltiad â chroesfan Ystâd Ddiwydiannol Llanwarw a llwybr Williams Field Lane sydd eisoes wedi’i hadeiladu.

Bydd data cerdded a beicio yn cael ei gasglu dros yr ychydig flynyddoedd nesaf i helpu i adeiladu darlun a dangos tueddiadau o ddefnyddio’r llwybr.  Gwelwyd mwy o ddefnydd ar ran Williams Field Lane o’r llwybr ar ôl ei osod ac mae’n parhau i ddangos defnydd da a thueddiadau amlwg bod pobl yn defnyddio’r llwybr i fynd i’r ysgol neu le gwaith ac oddi yno.  Gydag ychwanegu adran newydd Kingswood Gate i’r llwybr hwn, bydd yn caniatáu i hyd yn oed mwy o bobl ddewis cerdded neu feicio i mewn i Drefynwy.  Mae’r llwybr gorffenedig yn cysylltu’n uniongyrchol â’r groesfan yn Ystâd Ddiwydiannol Llanwarw, ymlaen i Williams Field Lane ac yn olaf yn ymuno â llwybrau teithio llesol Wonastow Road/Drybridge Street, gan greu llwybr parhaus, uniongyrchol a chyfforddus ar gyfer cerdded, olwyna a beicio rhwng Kingswood Gate a chanol Trefynwy.

Wonastow Road i Bont Trefynwy gan gynnwys Rockfield Road a Drybridge Street

Adeiladwyd yn 2024

Roedd y cam hwn yn canolbwyntio ar Wonastow Road, Drybridge Street a Rockfield Road a chreu cysylltiad rhwng Cam 1 Williams Field Lane a Phont Mynwy.  Mae’n darparu gwell mynediad i Bridges Community Centre, Ysbyty Dyffryn Mynwy a’r cyfleusterau a’r gwasanaethau yng nghanol y dref a thu hwnt fel y ganolfan hamdden a’r Ysgol Gyfun. Mae hefyd yn darparu cysylltiad o faes parcio rhad ac am ddim Cyngor Sir Fynwy a pharc sglefrio Rockfield Road i ganol y dref.

Yn hanesyddol, mae gan y ffyrdd yn yr ardal hon lawer o draffig gan gynnwys lorïau mawr sy’n cyrchu Ystâd Ddiwydiannol Llanwarw. Roedd y cynllun ffordd a oedd yn cynnwys cylchfan fach wedi’i baentio yn caniatáu i gerbydau symud ar gyflymder hyd yn oed ar ôl i’r cyfyngiad 20mya gael ei gyflwyno.  Gyda’i gilydd, roedd y materion hyn ynghyd â phalmentydd cul a darpariaeth wael ar gyfer croesi’r ffordd yn gwneud i’r ardal deimlo’n anniogel ac yn ddi-groeso i’r rhai sy’n cerdded ac yn olwyna.

Roedd y cynllun yn cynnwys: 

  • Ehangu’r droedffordd bresennol ar ochr ogleddol Wonastow Road i ddarparu ar gyfer troedffordd/llwybr beicio a rennir.
  • Disodli cylchfan fach bresennol Wonastow Road/Drybridge Street/Rockfield Road gyda chyffordd flaenoriaeth (cyffordd T).
  • Darparu croesfan gyfochrog (fel croesfan sebra ond gyda lôn ar gyfer beicio) ar fraich gyffordd Rockfield Road
  • Darparu croesfan anffurfiol (palmant isel a chyffyrddol) ar lwybr ffordd ochr y gyffordd (Wonastow Road).
  • Lledu’r droedffordd bresennol ar Rockfield Road o’r gyffordd flaenoriaeth newydd i barc sglefrio Trefynwy.
  • Lledu rhan fer o’r droedffordd bresennol ar hyd Drybridge Street, ger cylchfan Pont Trefynwy
  • Cael gwared ar rannau o barcio ar y stryd ar hyd Wonastow Road i ddarparu’r llwybr yn unol â Chanllawiau’r Ddeddf Teithio Llesol.
  • Darparu croesfan gyfochrog ar draws heol Ystâd Ddiwydiannol Llanwarw
Delwedd:  Cynnig cynllun ar gyfer Williams Field Lane i Bont Mynwy

Hefyd fel rhan o’r cam hwn o waith, gosodwyd croesfan gyfochrog (fel croesfan sebra, ond gyda lôn ar gyfer beicio) ar draws Wonastow Road Ystâd Ddiwydiannol, gan fod y ffordd hon yn cario cerbydau mawr. Mae’r groesfan hon yn allweddol wrth gysylltu llwybr Kingswood Gate â Llwybr Williams Field ac yn rhoi lle i’r rhai sy’n cerdded, olwyna a beicio i’w groesi.

Williams Field Lane Cam 1

Adeiladwyd yn 2022

Cam cyntaf y cynllun oedd llwybr Williams Field Lane.  Mae’r llwybr yn cysylltu sawl ystad dai yn caniatáu mynediad uniongyrchol, diogel i Ysgol Gynradd Overmonnow, canol y dref a chyfleusterau eraill.  Wedi’i adeiladu yn 2022, darparodd y cynllun lwybr cerdded, olwyna a beicio 3m o led o Ystâd Ddiwydiannol Llanwarw hyd at ble mae Williams Field Lane yn cysylltu â Wonastow Road. Disodlodd y llwybr drac a ddefnyddiwyd yn dda ond a oedd yn fwdlyd ac yn bennaf yn caniatáu mynediad llawer mwy diogel i Ysgol Gynradd Overmonnow a hefyd yn fuddiol i’r cysylltiadau rhwydwaith ehangach â chanol y dref. Mae’r llwybr yn cynnwys goleuadau lefel isel, wedi’u cynllunio i leihau’r effaith ar ystlumod a bywyd gwyllt lleol arall.  Fel ymdrech ar y cyd rhwng adrannau Cyngor Sir Fynwy, adeiladwyd parc chwarae yn Kings Fee hefyd fel rhan o’r cam llwybr hwn.  Mae’r parc chwarae, a adeiladwyd bob ochr i’r llwybr, yn caniatáu “chwarae ar hyd y ffordd” yn ogystal â gofod addysg awyr agored ar gyfer Ysgol Gynradd Overmonnow.  Cydnabuwyd y rhan hon o’r llwybr ym mis Mai 2025 fel meincnod ar gyfer cynlluniau Teithio Llesol a “chwarae ar hyd y ffordd” eraill ledled Cymru – https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/2025/05/cyllid-cyngor-sir-fynwy-i-wella-mannau-chwarae/ 

Casglir data ar y defnydd o lwybrau i fonitro effaith a thueddiadau defnydd.  Yn y 3 blynedd y mae’r llwybr wedi bod ar waith, mae’r data wedi dangos cynnydd mewn traffig ar adegau brig, gan roi tystiolaeth bod y llwybr yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ‘teithiau pwrpasol’ fel cyrraedd yr ysgol neu le gwaith.

Mae rhan byr, cul sy’n rhedeg rhwng dau adeilad diwydiannol mawr oddi ar Heol Ystad Ddiwydiannol Llanwarw. Er bod y llwybr yn dal i ganiatáu mynediad, mae’n gul a dylai unrhyw un sy’n olwyna neu’n beicio ar hyd y rhan honno fod yn ofalus ac yn edrych allan am ddefnyddwyr eraill. Ar hyn o bryd mae cynlluniau i ehangu’r adran hon wedi’u gohirio oherwydd blaenoriaethu cynlluniau eraill. 

Data ac Effaith

Mae’r llwybr hwn wedi’i fonitro ar gyfer defnydd cerdded, olwyna a beicio trwy gydol ei ddatblygiad. Mae’r data yn dangos tuedd o fwy o ddefnydd ar amseroedd ysgol yn ystod yr wythnos, sy’n awgrymu bod y llwybr yn ddefnyddiol ar gyfer teithiau pwrpasol, fel teithiau i’r ysgol a’r gwaith, yn ogystal â theithiau hamdden.  Trwy gasglu data dienw, mae’r defnydd o lwybrau yn cael ei fonitro i fesur effaith gwelliannau llwybrau.

Delwedd:  Mae casglu data yn dangos tueddiadau yn y defnydd o lwybrau

I gael rhagor o wybodaeth am waith Cyngor Sir Fynwy ar deithio llesol yn Nhrfynwy, ewch i Monmouth – Monlife


Treftadaeth Sir Fynwy i elwa o wobrau ariannol

Cadi te – gyda chapsiynau. Mae ein casgliadau'n cynnwys eitemau sy'n datgelu cynnyrch yr Ymerodraeth Brydeinig.  Bydd y gwaith hwn yn dehongli'r gwrthrychau hyn yn well.
Cadi te – gyda chapsiynau. Mae ein casgliadau’n cynnwys eitemau sy’n datgelu cynnyrch yr Ymerodraeth Brydeinig.  Bydd y gwaith hwn yn dehongli’r gwrthrychau hyn yn well.

Mae MonLife, sy’n rhedeg gwasanaeth Treftadaeth MonLife Cyngor Sir Fynwy, wedi sicrhau dau ddyfarniad cyllid gwerth dros £415,000 gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Mae’r dyfarniad yn galluogi Treftadaeth MonLife i weithio’n agos gyda chymunedau yn Sir Fynwy, dros y ddwy flynedd nesaf er mwyn sicrhau bod straeon pawb yn cael eu hadrodd yn amgueddfeydd y sir.

Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi dyfarnu £241,697 ar gyfer y prosiect ‘Casgliadau Deinamig – Agor y Blwch’ sy’n darganfod a rhannu casgliad hanes lleol Trefynwy. Bydd y gwaith hwn yn trawsnewid sut y cofnodir casgliadau hanes lleol Trefynwy, gan eu gwneud yn berthnasol i gymunedau heddiw.

Adolygiad Casgliadau - gyda chapsiynau.  Bydd ein prosiectau yn ein galluogi i wella gwybodaeth am ein casgliadau a mynediad atynt
Adolygiad Casgliadau – gyda chapsiynau.  Bydd ein prosiectau yn ein galluogi i wella gwybodaeth am ein casgliadau a mynediad atynt

Bydd y prosiect yn rhedeg rhwng Ebrill 2023 a Mawrth 2025 a bydd y tasgau’n cynnwys: Gwella cronfa ddata catalogau cyfrifiadurol a chomisiynu adroddiad ar arteffactau ymerodraethol, caethwasiaeth a gwladychiaeth o fewn y casgliad hanes lleol, i ategu adroddiadau a gynhyrchwyd yn ddiweddar am gasgliadau amgueddfeydd yn y Fenni a Chas-gwent.

Bydd tîm Treftadaeth MonLife yn gweithio gyda grwpiau cymunedol amrywiol i archwilio’n gritigol sut a beth sy’n cael ei gofnodi am gasgliadau, gan gynnwys nodi termau allweddol. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda Chyngor Hil Cymru i gefnogi sesiynau gyda grwpiau hil amrywiol; y rhai sydd ag anabledd a’r gymuned LHDTC+, ac yn gweithio gyda phobl sy’n deall ecoleg a newid yn yr hinsawdd.

Bydd y prosiect hwn yn arwain at arddangosfa deithiol gymunedol wedi’i chyd-guradu, sy’n archwilio’r cwestiwn “Beth sy’n gwneud Trefynwy?” Bydd hyn yn golygu bod modd clywed gwahanol safbwyntiau, archwilio cyd-destunau newydd ac adrodd amrywiaeth o straeon. Bydd yr arddangosfa yn mynd o amgylch lleoliadau cymunedol, gan rannu casgliadau gyda chynulleidfaoedd newydd na fyddai efallai wedi ymweld â’r amgueddfa o’r blaen. Bydd cyd-arddangosfa yn y Neuadd Sirol yn galluogi themâu a archwilir yn y prosiect i gael eu harddangos a threialu dulliau newydd cyn ailddatblygiad Amgueddfa’r Neuadd Sirol. Bydd rhaglen ymgysylltu cymunedol o sesiynau dysgu, gweithdai trafod, sesiwn y Dadeni a gweithgareddau crefft yn hwyluso trafodaeth am ein casgliadau.

Meddai Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru:  “Mae treftadaeth ar gyfer pawb, ac rydym am weld ystod ehangach o bobl yn ymwneud â threftadaeth, a dyna pam rydym yn cefnogi prosiect ‘Casgliadau Deinamig – Agor y Blwch’ Cyngor Sir Fynwy. Trwy ein cyllid rydym yn ceisio dod â chymunedau ynghyd drwy ymgysylltu’n ddyfnach â threftadaeth, yn enwedig drwy ddod o hyd i ffyrdd creadigol o ddod â threftadaeth i gynulleidfaoedd newydd.   Bydd hyn yn helpu i drafod ac archwilio ein treftadaeth fel y gall pobl a chymunedau ledled Cymru ymgysylltu â, dehongli, a chyd-ddeall ein gorffennol.”

I gefnogi casgliadau Treftadaeth MonLife yn Amgueddfeydd y Fenni a Chas-gwent, mae MonLife wedi derbyn £173,318 gan Lywodraeth Cymru. Mae’r cyllid ar gyfer y prosiect ‘Ymchwilio, ail-archwilio ac adennill: etifeddiaeth a diwylliant cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig Sir Fynwy’. Bydd y gwaith hwn yn cyfrannu at y nodau treftadaeth yng Nghynllun Gweithredu Atal Hiliol Cymru.   Mae’r wobr yn adeiladu ar waith a ddechreuwyd yn y ddwy amgueddfa, a bydd yn arwain at well dehongliad o’r casgliadau, gan gynrychioli’n well eu cysylltiadau â chaethwasiaeth, gwladychu ac ymerodraeth a chydnabod rôl cymunedau Sir Fynwy yn y gorffennol mewn caethwasiaeth, ymerodraeth a globaleiddio.

Gyda gyda Chyngor Hil Cymru, bydd Treftadaeth MonLife yn cynnal gweithdai cymunedol i archwilio ffyrdd o ddehongli’r casgliadau’n well. Bydd cydweithio â’r cymunedau’n galluogi’r tîm Dysgu a Churaduriaeth i greu rhaglen weithgareddau, sy’n debygol o gynnwys digwyddiadau diwylliannol ac arddangosfeydd mewn lleoliadau Sir Fynwy. Yn ogystal, bydd gweithgareddau cymunedol a dysgu mewn ysgolion lleol ac yn amgueddfeydd y sir. Bydd y cynnwys yn cael ei ysbrydoli gan y casgliadau a threftadaeth leol.

Ymwelodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden, ag Amgueddfa’r Fenni yn ddiweddar a dywedodd:  “Roedd yn ardderchog i ddysgu mwy am sut y bydd ein cyllid yn cael ei ddefnyddio gan MonLife.   Mae angen i’n hamgueddfeydd, orielau, llyfrgelloedd, theatrau, a lleoliadau chwaraeon cenedlaethol a lleol fod yn gynhwysol o bobl a lleoedd Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.  Rhaid i’n diwylliant, ein treftadaeth a’n gwasanaethau chwaraeon fod yn gymwys yn ddiwylliannol ac yn adlewyrchu’r hanes a’r cyfraniad a wnaed gan bobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig i’r gymdeithas yng Nghymru.

“Rydw i wedi ymrwymo i gyflawni’r nodau a’r camau gweithredu yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ac ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu o fewn fy mhortffolio.  Rwy’n edrych ymlaen at weld sut mae prosiect MonLife yn cyfrannu at ein cynnydd parhaus wrth i ni sicrhau newid ystyrlon gyda phobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ledled Cymru, ac ar eu cyfer.”

Mae’r gwaith hwn yn ategu penderfyniad diweddar Cyngor Sir Fynwy i ddod yn aelod o rwydwaith Dinas Noddfa ac i ddechrau’r broses o wneud cais ffurfiol i fod yn sir noddfa i’r rhai sy’n ffoi rhag erledigaeth.

Dywedodd y Cynghorydd Sara Burch, aelod cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gymunedau Cynhwysol a Gweithredol: “Rydym yn ddiolchgar iawn am yr arian yma gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.  Bydd yn arwain at welliannau arwyddocaol yn y ffordd mae ein casgliadau treftadaeth yn cael eu dehongli, eu harddangos a’u cyfathrebu.   Bydd y gweithgareddau, sydd wedi eu cynllunio yn y ddwy raglen hyn, yn ein helpu i nodi a rhannu â phobl y straeon sy’n gysylltiedig â’n casgliadau a’n bro, sy’n dathlu amrywiaeth ddiwylliannol lawn ein cymunedau yn Sir Fynwy a bydd yn galluogi cynrychiolaeth o’n holl gymunedau yn ein hamgueddfeydd. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Chyngor Hil Cymru i sicrhau bod ein casgliadau yn berthnasol, yn barchus ac yn gynhwysol.”

I gael mwy o wybodaeth am Dreftadaeth MonLife, ewch i https://www.monlife.co.uk/cy/heritage/


GADEWCH I NI SYMUD ar gyfer byd gwell …

GADEWCH I NI SYMUD ar gyfer byd gwell

Cefnogwch y frwydr yn erbyn ffyrdd llonydd o fyw drwy ymuno â’r ymgyrch symudiad cymdeithasol mwyaf yn y diwydiant ffitrwydd. Paratowch i gyfrannu eich “moves” o 14 i 31 mawrth 2023. Drwy gymryd rhan yn yr Ymgyrch ‘Gadewch i ni Symud ar gyfer Byd Gwell’, rydych yn ymrwymo i frwydro yn erbyn anweithgarwch corfforol a’r holl ganlyniadau afiechyd dilynol er mwyn cyfrannu at adeiladu byd gwell ac iachach. Er mwyn rhoi’r un cyfle i bawb, beth bynnag fo’u hoedran, rhyw a lefel eu gallu corfforol, mae Technogym wedi creu MOVE, ffordd newydd o fesur gweithgaredd corfforol sy’n cysylltu’r gymuned gyfan. Gyda dim ond 30 munud o weithgaredd corfforol 5 diwrnod yr wythnos, rydych yn lleihau’r risgiau sy’n gysylltiedig â gordewdra a chlefydau cronig, ac ar yr un pryd yn cyrraedd nodau pwysig eraill.

Ymunwch â’n Her

Fis Mawrth eleni, mae MonLife yn cydweithio â Technogym i gael Sir Fynwy’n symud. Rydym wedi sefydlu’r her ‘MOVEs’ drwy’r App ‘MyWellness’ (sydd ar gael ar yr App Store a Play Store) er mwyn i bawb ymuno a chymryd rhan ynddo! Y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw cwblhau 2000 MOVEs. Gallwch chi gwblhau’r her yn y gampfa, yn yr awyr agored neu yn ein dosbarthiadau troelli. Bydd yr holl aelodau sy’n cymryd rhan yn mynd i mewn i raffl am y cyfle i ennill aelodaeth o 12 mis. Yn ogystal, bydd yr holl aelodau sy’n casglu 5000 ‘MOVEs’, yn mynd i mewn i raffl i ennill nwyddau ‘Let’s Move’.

Sut i gasglu ‘MOVEs’

Mae’r Technogym® MOVE yn seiliedig ar ddadleoli’r corff yn y gofod, felly mae’n cynnig y modd gorau i fesur a chymharu lefelau gweithgaredd cyfranogwyr yn ystod yr Ymgyrch. Y cyflymaf ac yn amlach rydych yn symud, y mwyaf o ‘MOVEs’ rydych chi’n eu casglu. Dyma sut y gallwch gasglu eich ‘MOVEs’:
  • Dan Do Awtomatig ar offer cardiofasgwlaidd yng Nghanolfannau Hamdden MonLife (h.y. Melin Redeg, Beiciau, Vario, Syncro, Dringo, Llinell Sgiliau, Beicio Grŵp)

  • Dan Do Awtomatig ar offer ymwrthedd cysylltiedig o fewn Canolfannau Hamdden MonLife (h.y. Peiriant Gwasg y Frest, Peiriant Gwasg y Goes, Peiriant Gwasg yr Ysgwydd).
  • Traciwr Gweithgaredd GPS Awyr Agored yr App MyWellness
  • Dyfeisiau 3ydd Parti gyda chysylltedd GPS (e.e. – Garmin). Nodwch nad yw Fitbit nac oriorau Apple yn cynnig hyn.

Enillwch ar ran eich cymuned

Bydd y cyfleusterau sy’n casglu’r nifer angenrheidiol o MOVEs yn gallu rhoi offer i’r Sefydliadau neu Ysgolion o’u dewis er mwyn helpu i ymladd gordewdra a ffyrdd llonydd o fyw.

Gadewch i ni ymgysylltu â’ch cymuned i greu byd iachach!


Yn barod am hwyl hanner tymor gyda MonLife?

Mae MonLife wedi llunio rhaglen o weithgareddau cyffrous i blant, pobl ifanc a theuluoedd i’w mwynhau yn ystod hanner tymor ysgol mis Chwefror eleni.

Mae Gemau Sir Fynwy yn dychwelyd, gan ddarparu cyfle gwych i ddysgu sgiliau newydd, magu hyder, cwrdd â phobl newydd ac yn bwysicaf oll cael hwyl drwy chwaraeon.  Bydd y rhaglen wythnos o hyd yn rhedeg o ddydd Llun 20fed hyd at ddydd Gwener 24ain Chwefror a chaiff ei gynnal ar draws canolfannau hamdden y sir (Y Fenni, Cil-y-coed, Cas-gwent a Threfynwy). Dilynwch y ddolen am fwy o wybodaeth a’r ffurflen archebu – www.monlife.co.uk/cy/monactive/childrens-activities/the-monmouthshire-games/

Yng nghanolfan hamdden Trefynwy mae’r ganolfan chwarae dan do, sy’n cynnwys drysfa ddringo tri llawr cyffrous, sy’n cynnwys system amseru unigryw curwch y cloc. Mae yna hefyd ardal twdlod ddynodedig (sy’n gaeedig). Mae’r ganolfan chwarae ar agor saith diwrnod yr wythnos (heblaw gwyliau’r banc) rhwng 10am a 5.30pm ac mae’n addas ar gyfer yr oedrannau babanod a phlant bach (0-3), plant ifanc (4-8) a phlant hŷn (9-11).  Nodwch oherwydd archeb breifat mae’r ganolfan chwarae ar gau i’r cyhoedd Dydd Sadwrn 18fed ac 25ain Chwefror o 4pm-6pm.

Mae digon o hwyl hefyd i’r teulu cyfan ym mhyllau’r canolfannau hamdden gyda sesiynau anhygoel i’ch diddanu chi neu’ch plant.  Darganfyddwch fwy Nofio – Gweithgareddau Gwyliau MonLife

Mae llawer o hwyl am ddim i’w gael yn Amgueddfeydd MonLife.   Dilynwch y llwybrau chwarae yn amgueddfeydd y Fenni a Chas-gwent, chwarae gwisg yn Amgueddfa’r Neuadd Sirol yn Nhrefynwy a byddwch yn greadigol gyda’n byrddau sialc, stondin farchnad a gemau ‘datryswch y drosedd’. Gall plant hefyd goginio rhywbeth yng Nghegin Fwd Amgueddfa’r Fenni a chwarae yn y gerddi gyda gwarbaciau arbennig wedi’u llenwi â phethau hwyliog i’w gwneud yn yr awyr agored, teganau a gemau.

Gall pobl ifanc hefyd fynd yn gudd yn y Neuadd Sirol yn Nhrefynwy, ac amgueddfeydd Cas-gwent a’r Fenni, a phrofi eu sgiliau ditectif fel rhan o Lwybr Dirgelwch Montgomery Bonbon cenedlaethol yr Amgueddfa, a drefnwyd gan Kids in Museums a Walker Books. Mae’r llwybr yn dathlu rhyddhau llyfr plant newydd Montgomery Bonbon: Murder at the Museum a ysgrifennwyd gan y digrifwr Alasdair Beckett-King a darluniwyd gan Claire Powell. Felly beth am ymweld ag amgueddfeydd Sir Fynwy dros hanner tymor ac ymuno â’r hwyl am ddim.  I ddod o hyd i oriau agor yr amgueddfa ewch i: www.monlife.co.uk/cy/heritage/

Bydd MonLife hefyd yn cynnal sesiynau Aros a Chwarae am ddim lle bydd plant a theuluoedd yn cael y cyfle i ddewis o lawer o weithgareddau gan gynnwys chwarae corfforol, celf a chrefft, adeiladu ffau neu i ble bynnag y mae eu dychymyg yn eu cymryd.  Mae’r sesiynau yn cael eu cynnal yn Hen Ysgol Eglwys Rhaglan ar yr 21ain Chwefror rhwng: 10am-hanner dydd; y Neuadd Sirol, Trefynwy ar yr 21ain Chwefror rhwng 1:30pm-3:30pm; Cwt y Sgowtiaid a Geidiaid Magwyr ar y 23ain Chwefror rhwng 10am-hanner dydd; Ysgol Gynradd Deri View ar y 23ain Chwefror rhwng 1:30pm-3:30pm.  Nodwch fod angen goruchwyliaeth gan rieni ar gyfer plant dan 11 oed. Archebwch nawr trwy’r ffurflen ganlynol: https://forms.office.com/e/w38MZvNMGp

Bydd MonLife yn cynnal sesiynau Chwarae Gweithredol AM DDIM yn y Fenni, Cas-gwent, Cil-y-coed a Threfynwy yn ystod gwyliau hanner tymor mis Chwefror. Mae rhaglen Chwarae Gweithredol MonLife yn 1 awr a 55 munud lle gellir gadael plant 5-11 oed gyda’n gweithwyr chwarae hynod hyfforddedig a phrofiadol, a dewis o amrywiaeth o weithgareddau i’w chwarae gan gynnwys chwarae corfforol, celf a chrefft, adeiladu ffau neu ble bynnag mae eu dychymyg yn eu cymryd. Mae’r sesiynau hyn bellach wedi’u harchebu’n llawn

Bydd y canolfannau ieuenctid ar draws y sir hefyd ar agor ar ddiwrnodau penodol er mwyn i bobl ifanc ymweld â nhw. Maen nhw’n ofod diogel i bobl ifanc gael mynediad, lle gallant gymryd rhan mewn gweithgareddau, cwrdd â ffrindiau newydd, gyda chefnogaeth Gweithwyr Ieuenctid cymwys a chofrestredig. Bydd Yr Attik, Trefynwy, ar agor ddydd Mawrth 21ain rhwng 3pm a 5pm, dydd Mercher 22ain rhwng 3pm ac 8pm a Dydd Gwener 24ain rhwng 3pm a 6pm. Bydd Y Caban, Y Fenni ar agor dydd Mawrth 21ain a dydd Mercher 22ain Chwefror, 3pm-8pm a dydd Gwener 24ain, 3pm-6pm. Bydd Y Parth, Cil-y-coed ar agor ddydd Mawrth 21ain 2pm-8pm a bydd canolfan ieuenctid ‘The Pav’ yn Thornwell, Cas-gwent, ar agor ddydd Mawrth 21ain rhwng 2pm ac 8pm a Dydd Gwener 24ain Chwefror 2pm-7pm.

Mae manylion llawn am yr hyn sy’n digwydd dros hanner tymor i’w gweld yma: www.monlifeholidayactivities.co.uk/cy/activities-cymraeg/


Gwybodaeth Covid Rhwydwaith Mynediad Cefn Gwlad Sir Fynwy

“Arhoswch yn weithredol, arhoswch yn ddiogel.”

Dilynwch Ganllawiau Llywodraeth Cymru sy’n berthnasol i bawb sy’n byw neu’n teithio yng Nghymru.

  • Arhoswch gartref os oes gennych chi neu unrhyw un rydych chi’n byw gyda nhw Symptomau Coronafeirws, mae hyn yn cynnwys os yw Profi, Olrhain a Diogelu GIG Cymru wedi cysylltu â chi ac y dywedwyd wrthych am hunan-ynysu
  • Byddwch yn wyliadwrus o ran golchi dwylo a hylendid

Pa Safleoedd Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy Cyhoeddus sydd ar agor?

Mae pob un o’n safleoedd cefn gwlad ar agor i’w defnyddio ac nid oes meysydd parcio ar gau ar hyn o bryd.  

Mae pob llwybr sydd ar gau yn cael ei adolygu a bydd unrhyw ddiwygiadau’n ymddangos yma.  Gellir dod o hyd i fanylion am gau llwybrau oherwydd llifogydd, pontydd peryglus ac ati yma.

Cyn ymweld

  • Gwnewch eich addewid i Gymru i ofalu am ein cymunedau lleol a gwarchod ein tirweddau.
  • Cynlluniwch o flaen llaw – gwiriwch beth sydd ar agor ac ar gau cyn i chi gychwyn.  Paciwch hylif diheintio dwylo a mygydau wyneb.
  • Osgowch dorfeydd – Dewiswch le tawel ac os yw’n brysur ewch i gyrchfan wahanol.

Byddwch yn Gall o ran Antur

Tra byddwch chi yno

  • Os yw ein meysydd parcio yn llawn, neu’n brysur, dewch yn ôl dro arall a pheidiwch â pharcio ar ffyrdd mynediad neu ffyrdd cyfagos.
  • Peidiwch ag oedi mewn meysydd parcio, fel bod eraill yn gallu mynd a dod yn ddiogel.
  • Ewch â’ch sbwriel adref
  • Mae nifer o lwybrau troed a llwybrau ceffylau yn croesi gerddi preifat, ffermydd a thir fferm.   Cofiwch gadw at y llwybrau a dilynwch y Cod Cefn Gwlad newydd.
  • Byddwch yn berchennog ci cyfrifol drwy ddilyn y Cod Cerdded Cŵn
  • Mwynhewch eich ymweliad, cael hwyl, gwnewch atgof

Pethau i’w gwneud

Darganfyddwch beth y gallwch ei wneud wrth Ymweld â Sir Fynwy.

Hefyd, i gael gwybodaeth am ble i gerdded, neu i roi gwybod am broblemau, defnyddiwch ein Map Mynediad Cefn Gwlad Mae’r Gwasanaeth Mynediad Cefn Gwlad yn derbyn nifer fawr o adroddiadau o ran problemau ar hyn o bryd.  Nodwch os ydych yn adrodd am unrhyw beth, mae’n ddigon posib y bydd oedi cyn i chi dderbyn ymateb.   Mae ein swyddfeydd yn Rhaglan a Neuadd y Sir o hyd ar gau i’r cyhoedd a bydd yn cymryd peth amser cyn y bydd yr holl weithgareddau gwirfoddoli yn cael eu hail-ddechrau.


Ymwelydd â chanolfan hamdden Cil-y-coed yn dychwelyd i ddiolch i’r rhai a helpodd i achub ei fywyd!

Dychwelodd ymwelydd i ganolfan hamdden Cil-y-Coed yn ddiweddar i ddiolch i staff y ganolfan am eu hymateb cyflym, pan ddioddefodd argyfwng meddygol allai fod yn angheuol yn gynharach yn y flwyddyn. Cafodd Alan Owen o Gaerfyrddin trawiad ar y galon tra roedd mewn Twrnamaint Pêl-droed Cerdded yn y ganolfan hamdden ar ddydd Sul 3ydd Ebrill 2022.

Mae ymyrraeth uniongyrchol staff a chwaraewyr yn y digwyddiad yn cael ei gredydu am achub ei fywyd.  Cafodd Alan Adfywio Cardio-pwlmonaidd a defnyddiwyd diffibriliwr, cyn i Alan gael ei gludo mewn awyren i Ysbyty’r Mynydd Bychan, Caerdydd, lle cafodd lawdriniaeth i gael diffibriliwr cardioverter wedi’i fewnblannu ac i osod stentiau.

Alan Owen gyda chydweithiwr MonLife. Helpodd eu gweithredoedd cyflym a'u hyfforddiant Adfywio Cardio-pwlmonaidd i achub ei fywyd ym mis Ebrill 2022
Alan Owen gyda chydweithiwr MonLife. Helpodd eu gweithredoedd cyflym a’u hyfforddiant Adfywio Cardio-pwlmonaidd i achub ei fywyd ym mis Ebrill 2022

Yn ystod ymweliad ag Alan â chanolfan hamdden Cil-y-coed fis diwethaf, cyfarfu â Kirsty Burnett, Briden Whitbread a’r Swyddog Dyletswydd Justin Aylett, i ddiolch iddynt am eu gweithredoedd achub bywyd.  Roedd holl staff y ganolfan hamdden wrth eu bodd yn gweld Alan yn edrych mor dda. 

Mae gan holl ganolfannau hamdden MonLife ar draws Sir Fynwy hyfforddiant misol i bob Achubwr Bywyd o ran Adfywio Cardio-pwlmonaidd, a defnyddio’r peiriannau diffibriliwr, i sicrhau eu bod yn barod pe bai argyfwng meddygol yn digwydd

Y Cynghorydd Dywedodd Sara Burch, yr aelod cabinet sy’n gyfrifol am Gymunedau Cynhwysol a Gweithgar: “Rwyf mor falch o’n cydweithwyr yng nghanolfan hamdden Cil-y-coed am eu hymyrraeth gyflym, a hebddo gallai’r canlyniad fod wedi bod yn wahanol iawn. Mae wir yn dangos y pwysigrwydd o gael hyfforddiant o ran Adfywio Cardio-pwlmonaidd a’r defnydd o ddiffibrilwyr. Rwy’n falch iawn o weld Alan wedi gwella mor dda a diolch iddo am ei garedigrwydd wrth ddod yn ôl i ymweld â Kirsty, Briden a Justin, a gweddill y tîm yng Nghil-y-coed.”

Meddai Alan Owen:  “Heb ymyrraeth gynnar y chwaraewyr a’r staff a wnaeth berfformio Adfywio Cardio-pwlmonaidd a gweinyddu tair sioc trwy’r diffibriliwr ar y safle, fyddwn i ddim yn fyw heddiw. Roedd yr hyfforddiant y gwnaeth y staff ymgymryd ag ef a’i roi ar waith ar y diwrnod hwnnw wedi cyfrannu at achub fy mywyd.”

Mae hyfforddiant Adfywio Cardio-pwlmonaidd yn gallu gwneud y gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth, a gall unrhyw un ei ddysgu. Mae gwefan Sefydliad Prydeinig y Galon yn cynnwys cyflwyniad defnyddiol i’r pethau sylfaenol: www.bhf.org.uk/how-you-can-help/how-to-save-a-life


YN LLWYR WAHARDDEDIG TAN 5:00PM AR DDYDD GWENER 9FED RHAGFYR 2022

YN LLWYR WAHARDDEDIG TAN 5:00PM AR DDYDD GWENER 9FED RHAGFYR 2022

Mae un o enwau mwyaf adnabyddus diwydiant cerddoriaeth y DU newydd gadarnhau eu bod yn dod i Sir Fynwy yn haf 2023. Mae High Flying Birds Noel Gallagher wedi cadarnhau eu bod yn chwarae dyddiad arbennig yng Nghastell Cil-y-coed, ddydd Sadwrn 19eg Awst.

Yn aml yn cyflwyno perfformiadau o’r radd flaenaf mewn lleoliadau awyr agored o fri, bydd High Flying Birds Noel Gallagher yn perfformio sioe untro ar dir y castell, a fydd yn cynnwys detholiad o ganeuon mwyaf poblogaidd y band, o Oasis i ffefrynnau radio cyfoes. Mae High Flying Birds Noel Gallagher, ers 2011, wedi rhyddhau tri albwm stiwdio, casgliad o EPs ac wedi chwarae cannoedd o sioeau byw ledled y DU.  Yn haf 2022, cwblhaodd y band daith ledled y wlad o sioeau awyr agored gyda set ar Lwyfan y Pyramid yn Ynys Wydrin.

Mae’r cyhoeddiad am ddyddiad Castell Cil-y-coed yn dilyn rhyddhau sengl newydd sbon y band ‘Pretty Boy’, a ymddangosodd yn ddiweddar fel Record yr Wythnos ar BBC Radio 2. Mae’r trac yn nodi dechrau pennod greadigol newydd a cherddoriaeth newydd gyntaf o albwm stiwdio newydd Noel sydd i ddod, a fydd yn cael ei ryddhau’r flwyddyn nesaf.

Mae Castell Cil-y-coed wedi ennill enw da am gynnal bandiau enwog sydd ar frig y siartiau, gan gynnwys y band merched Little Mix, ym mis Awst 2017, a Status Quo yn haf 2015. Mor ddiweddar â mis Medi 2022, roedd y castell yn gartref i fand gwerin lleol sydd wedi ennill dilyniant enfawr, Rusty Shackle, gan nodi rhyddhau eu halbwm diweddaraf.

Pan fyddan nhw’n dod i Gil-y-coed, bydd High Flying Birds Noel Gallagher yn cael eu cefnogi gan y ffefrynnau lleol Feeder.  Ers ei ffurfio ym 1994, mae’r band wedi rhyddhau 11 albwm stiwdio ac wedi treulio cyfanswm cyfun o 184 wythnos ar y siart senglau ac albymau. Daeth eu halbwm uchel ei glod ‘Torpedo’ allan yn gynharach eleni gan barhau â fformiwla fuddugol y band gyda byrdynau mawr, emosiynau mwy, ac, wrth gwrs, alawon enfawr.

Bydd Goldie Lookin’ Chain o Gasnewydd yn ymuno â nhw, yn swyddogol grŵp rap mwyaf Prydain.  Yn adnabyddus am ‘Guns don’t kill people rappers do’, mae’r grŵp wedi rhyddhau 18 albwm dros eu gyrfa 22 mlynedd.

Meddai Pablo Janczur, hyrwyddwr Orchard Live: “Rydym yn gyffrous iawn am y sioe wirioneddol enfawr hon sy’n dod i Gastell Cil-y-coed. Rydym wedi bod eisiau dod â dewis roc gwych i’r lleoliad hwn ers peth amser a beth sy’n well na High Flying Birds Noel Gallagher yn cael eu cefnogi gan Feeder ar noson hyfryd o haf. Mae’n mynd i fod yn ddiwrnod anhygoel.”

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Sirol Mary Ann Brocklesby:  “Rwy’n hynod falch y byddwn yn llwyfannu cyngerdd arall o’r radd flaenaf yn lleoliad prydferth Castell Cil-y-coed yr haf hwn.  Rydym yn edrych ymlaen at groesawu High Flying Birds Noel Gallagher, Feeder a Goldie Lookin’ Chain, yn ogystal â miloedd o ymwelwyr a thrigolion i’r hyn sy’n addo bod yn noson arbennig iawn.”

Dywedodd y Cynghorydd Sara Burch, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am MonLife: “Mae’n gyffrous iawn gweld gweithredoedd o safon mor uchel yn dod i Sir Fynwy, a hefyd yn newyddion gwych bod y trefnwyr wedi rhoi cyfle i drigolion lleol sicrhau tocynnau cyn i’r gwerthiant cyffredinol ddigwydd.  Mae Castell Cil-y-coed yn lleoliad mor brydferth ac rydym yn falch iawn ohono – mae ganddo gymaint i’w gynnig fel lleoliad cyngerdd, yn ogystal â bod yn atyniad aruthrol i’r teulu gyfan drwy’r flwyddyn. Rydym yn edrych ymlaen at weld pawb yn y castell ar Awst 19eg y flwyddyn nesaf.”

Cost y tocynnau yw £61.88 yr un, yn cynnwys ffioedd, ac maent ar Werth Cyffredinol o 10am ddydd Gwener 16eg Rhagfyr, ond gall trigolion Sir Fynwy gael eu tocynnau’n gynt na hynny. Mae’r trefnwyr wedi trefnu Gwerthiant arbennig o flaen llaw ar gyfer cefnogwyr lleol o 10am ddydd Mercher 14eg Rhagfyr trwy http://orchardlive.gigantic.com/noel-gallagher-s-high-flying-birds-tickets/monmouth-caldicot-castle/2023-08-19-17-00

Cadarnhawyd hefyd y bydd trigolion lleol rhan o’r cynlluniau yn y cyfnod yn agosach at y digwyddiad, er mwyn sicrhau cyn lleied o effaith â phosib ar gymuned Cil-y-coed. Mae gwybodaeth lawn am ddigwyddiadau ar gael yn www.caldicotcastle.co.uk