Canolfan Antur Awyr Agored Gilwern
Mae Antur Awyr Agored MonLife yn cynnig ystod eang o weithgareddau antur gyffrous gan gynnwys canŵio, ogofa, cyfeiriannu, dringo a cherdded ceunentydd. Mae Antur MonLife yn gweithredu o ddau leoliad, gyda’r ddau ohonynt wedi eu lleoli mewn mannau delfrydol ar gyrion Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Mae ein tîm o staff hynod brofiadol a chymwys yn cynnig teithiau antur preswyl a gweithgareddau dydd, sydd wedi eu dylunio i apelio at ysgolion cynradd ac uwchradd, grwpiau ieuenctid a chleientiaid corfforaethol fel ei gilydd. Mae gweithgareddau antur awyr agored yn llawer o hwyl ac yn helpu adeiladu hunan-werth a hunan-hyder. Mae ein gweithgareddau yn herio unigolion i roi cynnig ar bethau newydd sydd yn arwain at ymdeimlad o gyrhaeddiad ac antur.
Antur Awyr Agored Gilwern – 01873 735485
E-bostiwch ni: outdooradventures@monmouthshire.gov.uk
Dilynwch Ganolfan Hamdden Trefynwy ar Twitter a Facebook i gael newyddion am y digwyddiadau, cynigion a gwybodaeth ddiweddaraf
This post is also available in: English