Booking Information - Monlife

Gwybodaeth Archebu

Wrth archebu ar gyfer ymweliad preswyl, rydym yn eich cynghori i ddilyn y llinell amser a’r camau canlynol fel rheol gyffredinol er mwyn sicrhau bod popeth wedi’i gynnwys cyn yr ymweliad.

Cam 1:

  • Cadarnhewch a thalwch flaendal i sicrhau eich dyddiad dewisol trwy’r ffurflen archebu preswyl.
  • Trafodwch eich dewisiadau rhaglen.
  • Trefnwch ymweliad staff i ateb unrhyw gwestiynau gan ddisgybl/rhiant.

Cam 2: 6 Wythnos Cyn Ymweliad

Cam 3: 4 Wythnos Cyn Ymweliad

  • Bydd anfoneb yn cael ei chynhyrchu yn seiliedig ar nifer y mynychwyr y cytunwyd arnynt.
  • Cwblhewch a dychwelwch y ffurflen cleient gyfrinachol i dynnu sylw at unrhyw ofynion meddygol y cyfranogwyr a’r staff sy’n ymweld.
  • Cwblhewch a dychwelwch yr archeb ginio ar gyfer cyfranogwyr a staff sy’n ymweld, gan dynnu sylw at unrhyw ofynion deietegol neu feddygol. Bydd hyn yn ein helpu i ddarparu ar gyfer pawb ar eich ymweliad.
  • Ar ôl derbyn y ffurflen gyfrinachol ac archeb ginio, caiff y rhaglen ei gadarnhau.

Cam 4: 2 Wythnos Cyn Ymweliad

Anfonwch e-bost atom i wirio bod popeth yn ei le ac i ateb unrhyw gwestiynau cyn eich diwrnod cyrraedd outdooradventures@monmouthshire.gov.uk

Lawrlwythwch gopi PDF o’n llinell amser YMA.


This post is also available in: English