MonLife Impact Page/cy - Monlife

Tudalen Effaith MonLife

Pwrpas MonLife yw darparu profiadau cwsmeriaid o ansawdd uchel ac annog rhagor o ymwelwyr i ardal Sir Fynwy, gan gefnogi amgylcheddau gwydn a gweithredol i wella ac arddangos y cyfleoedd cyfoethog ac amrywiol sydd ar gael i bobl eu mwynhau. Cafodd MonLife ei lansio ym mis Ionawr 2020 ac er bod hynny’n gyfnod o lawer o ansicrwydd, rydym yn falch ein bod wedi gallu parhau i ddarparu gwasanaethau yn ystod y cyfyngiadau. Rydym wedi addasu’n barhaus i sicrhau bod ein gwasanaethau’n ddiogel, yn addas i’r diben a gall ein preswylwyr gael mynediad at wasanaethau i helpu gyda’u hiechyd a’u lles.

Dyma ychydig o’n llwyddiannau allweddol hyd yma:

  • Buddsoddiad o £2.5m yn ein cyfleusterau hamdden
  • 863,000 o ymweliadau â’n 4 Canolfan Hamdden Egnïol MonLife
  • Cyfrannu £1.3m at yr economi leol oherwydd Amgueddfeydd Sir Fynwy
  • Roedd 86% o’r bobl ifanc sy’n rhan o’r prosiect Shift yn gweld gwelliant yn eu hiechyd meddwl/lles emosiynol.
  • Mae 700 o oedolion hŷn, pobl sy’n byw â dementia a’u gofalwyr wedi bod yn cymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol.
  • Byddai 99% o’r ymwelwyr yn argymell Sir Fynwy fel lle i ymweld

Cenhadaeth

Yn hyrwyddo bywydau mwy iachus a phrofiadau ysbrydoledig a’n hyrwyddo hyfywedd Sir Fynwy fel lle gwych.

Gweledigaeth

Ymgyfoethogi bywydau pobl a’n creu lleoedd hyfyw.

Amcanion

•  Ymgyfoethogi bywydau pobl drwy gyfranogiad a gweithgarwch  

• Adeiladu cymunedau cryf yn Sir Fynwy

• Datblygu sgiliau arwain ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol

Gwerthoedd

Tryloywd-er   –  Tegwch   –  Hyblygrwydd   –  Gweithio fel tîm   –  Caredigrw-ydd


This post is also available in: English